Mae Sanclêr yn dref sydd ar ei thyfiant gyda thwf mewn poblogaeth a thai yn y blynyddoedd diwethaf. Mae'r dref yn agos iawn at Gaerfyrddin, ac mae hyn wedi helpu i yrru'r datblygiad preswyl. Mae'r twf hwn wedi helpu i gynnal nifer y bobl o oedran gweithio, sy'n weithgar yn economaidd ac mewn cyflogaeth amser llawn.
Mae mynediad uniongyrchol y dref i'r A40 wedi annog twf cyflogaeth draddodiadol gref gan gynnwys sawl ardal gyflogaeth ddiwydiannol a masnachol ledled y dref.
Mae yna hefyd ganol tref fechan draddodiadol. Y tu allan i'r dref, mae'r economi yn cefnogi ystod eang o fentrau gwledig gan gynnwys amaethyddiaeth, diwydiannau'r tir, bwyd a diod a thwristiaeth. Mae yna hefyd lawer o ficrofusnesau, gan gynnwys diwydiannau 'ffordd o fyw', diwydiannau'n ymwneud ag ymwelwyr a diwydiannau creadigol mwy newydd sy'n cyfuno byw a gweithio mewn ardaloedd gwledig.
Mae ochr sylfaenol bwysig i’r economi hefyd gyda llawer o bobl yn cael eu cyflogi i ddarparu gwasanaethau lleol hanfodol o ddydd i ddydd, crefftau medrus, a phroffesiynau fel hyfforddwyr gyrru, trwsio cyfrifiaduron a hyfforddwyr personol ac ati.
Mae rôl ehangach Sanclêr yn cynnwys cefnogi'r rôl gymdeithasol, cyflogaeth, addysg a manwerthu lleol ar gyfer Talacharn a phentrefi llai anghysbell fel Bancyfelin a chymunedau yn Wardiau Llansteffan a Thre-lech. Mae canolfan hamdden Sanclêr hefyd yn diwallu anghenion trefi cyfagos.