Llwybyr Dyffryn Tywi hyd yn hyn: 

Mae rhan orllewinol y llwybr rhwng Abergwili a Nantgaredig ar agor i gerddwyr, defnyddwyr cadeiriau olwyn, a beicwyr, ynghyd â dwy ran arall nawr ar agor rhwng Llanarthne a Chilsan.

Mae mannau parcio ar gael ger tiroedd yr amgueddfa yn Abergwili, Tafarn y Railway, Nantgaredig(lle gellir prynu diodydd) ac yng Nghastell Dryslwyn. Roedd gosod dwy bont newydd dros Afon Tywi ac Afon Cothi hefyd yn gam sylweddol ymlaen wrth greu'r llwybr blaenllaw hwn.

Disgwylir cynnydd pellach yn ddiweddarach eleni, gyda'r nod o gwblhau'r llwybr o Ffair-fach Llandeilo i Lanarthne yn barod i'w ddefnyddio. Bydd y llwybr yn cael ei gwblhau'n llawn yn y Flwyddyn Newydd, gan roi cyfle i gymunedau lleol ac ymwelwyr grwydro ar hyd un o rannau mwyaf prydferth y dyffryn.

Mae'n bwysig nodi nad oes mynediad cyhoeddus i'r afonydd ar unrhyw bwynt ar hyd y llwybr.

Mae nodweddion ategol fel arwyddion ychwanegol, mannau gorffwys, a byrddau dehongli yn dal i gael eu hadolygu a byddant yn cael eu darparu fel rhan o'r cynllun ehangach wrth iddo fynd rhagddo. 

Bydd Llwybr Dyffryn Tywi yn denu ymwelwyr o bob rhan o'r DU a thu hwnt gyda'r potensial i gynhyrchu tua £4.4 miliwn y flwyddyn i'r economi leol, gan greu swyddi mewn busnesau lleol drwy nifer uwch o ymwelwyr a gwariant.

Mae'r datblygiad mawr hwn wedi'i gefnogi gan £16.7 miliwn gan Lywodraeth y DU, ac mae'r cyngor bellach yn bwriadu gweithio gyda darparwyr hamdden a lletygarwch, trefnwyr digwyddiadau a darparwyr llety presennol a newydd i wneud y mwyaf o botensial y cyfleuster hwn ochr yn ochr â'r llwybrau di-draffig eraill y mae'r Sir yn eu cynnig.