Neuadd Y Farchnad Llandeilo
Adfywio Marchnad Nwyddau Hanesyddol Llandeilo
Mae adeilad rhestredig Gradd II yr Hen Farchnad yn Llandeilo yn cael ei ddefnyddio unwaith eto i ddarparu lle newydd i gyflogaeth a digwyddiadau yng nghanol y dref. Mae'r cyfleuster yn cynnwys lleoliad digwyddiadau/neuadd farchnad newydd a chyffrous a bwyty/caffi.
Wedi'i hadeiladu yn y 1830au, roedd y farchnad yn rhan allweddol o hanes Llandeilo hyd at 2002 pan nad oedd yn cael ei defnyddio mwyach. Roedd y farchnad wedi dirywio'n sylweddol a chafodd ei rhoi ar y 'gofrestr adeiladau mewn perygl' yn 2007.
Ariannwyd cyfanswm costau'r cynllun gan £1.7m o raglen 'Trawsnewid Trefi' Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, a oedd yn ailffocysu ymdrechion Llywodraeth Cymru ar adfywio canol trefi a'u trawsnewid i fod yn addas ar gyfer yr 21ain Ganrif. Cafodd gweddill y cyllid ei ddarparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin.
Beth mae'r cyfleuster yn ei ddarparu?
Mae neuadd y farchnad yn cynnwys:
Tri llawr o le defnydd cymysg; y prif ddefnydd yw swyddfeydd a lle ar gyfer busnesau, a'r defnyddiau eraill yw adwerthu a chaffi.
Marchnad/neuadd digwyddiadau
Ardal ar gyfer digwyddiadau allanol
Wedi creu neu wedi darparu ar gyfer 45 o swyddi
Potensial i ddarparu ar gyfer 17 o fentrau bach a chanolig
Pump o hyfforddiaethau yn ystod y cyfnod adeiladu
1,249m2 o arwynebedd llawr wedi cael ei greu/adnewyddu
Ymgysylltu â'r gymuned drwy gyfrwng prosiect treftadaeth
Cadw treftadaeth yr adeilad
Bydd y cyfleuster hefyd yn lleoliad ar gyfer y canlynol:
Gwyliau a digwyddiadau a gynhelir drwy gydol y flwyddyn
Grwpiau cymunedol lleol yn ei ddefnyddio ar gyfer cyngherddau, seremonïau ac ati
Lleoliad parhaol ar gyfer marchnadoedd lleol
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y busnesau sydd bellach wedi’u lleoli yn Hen Neuadd y Farchnad YMA