Beth sy'n gwneud Canolfan Pentre Awel yn unigryw i chi
Croeso i Canolfan Pentre Awel, prif hwb busnes o'r radd flaenaf mewn datblygiad newydd, defnydd cymysg ar arfordir trawiadol yng nghanol Parc Arfordirol y Mileniwm, ger traethau helaeth Llanelli. Mae'r safle 83 erw wedi'i gynllunio i ddarparu ystod eang o wasanaethau cymunedol a masnachol, gan ganolbwyntio ar hamdden, iechyd a llesiant.
Disgwylir i Bentre Awel agor yng Ngwanwyn 2025, a'r brif elfen yw Canolfan. Mae'r hwb cyfleusterau presennol a newydd yn cynnwys pum adeilad cysylltiedig gyda chaffi canolog a man cwrdd.
Bydd Canolfan Pentre Awel yn gartref i gyfleuster hamdden, caffi, pyllau nofio a gwasanaethau cymunedol amrywiol. Bydd yn gwasanaethu fel man canolog ar gyfer sefydliadau y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgol Abertawe a phartneriaid addysg bellach ac uwch eraill.
Mwynhewch weithfannau hyblyg, WiFi cyflymder uchel, ystafelloedd cyfarfod a mynediad 24 awr, i gyd wedi'u hintegreiddio o gwmpas parcdir gwyrdd.
Amwynderau ar y safle gan gynnwys campfa, parcio diogel, tîm rheoli cyfleuster ymroddedig sy'n sicrhau cyfleustra a chynhyrchiant. Mae'r caffi llawr gwaelod a'r llecynnau digwyddiadau yn gwahodd defnyddwyr i galon fywiog yr adeilad.
Ymunwch â chymuned ffyniannus a thyfwch eich busnes yn Canolfan Pentre Awel.
Popeth rydych chi ei eisiau
Mae yna ymdeimlad gwirioneddol o gymuned yn Canolfan Pentre Awel.
O rwydweithio anffurfiol yn y caffi i ffrindiau'n cwrdd am goffi neu hyd yn oed i wneud ymarfer corff, mae Canolfan Pentre Awel yn cysylltu pobl.
Cartref i fusnesau, ymchwilwyr, y byd academaidd, y trydydd sector, cleifion, myfyrwyr ac ymwelwyr.
Cymerwch olwg 360 o'r safle