Caerfyrddin

Saif tref farchnad Caerfyrddin, tref hynaf Cymru yn ôl pob sôn, ar Afon Tywi, un o afonydd hiraf Cymru. Gyda phoblogaeth o 9,100, mae mwyafrif y boblogaeth yn perthyn i'r grŵp oedran 30-45. Mae lefelau amddifadedd a diweithdra yn debyg i gyfartaleddau Cymru a Sir Gaerfyrddin. Tref farchnad sy’n ymfalchïo yn ei gallu i gyfuno'r hanesyddol â'r modern, sy’n golygu y gall gystadlu fel atyniad siopa mawr, wrth barhau i roi sylw i'r gorffennol sy’n llawn cynnwrf a myth. Yn ôl y chwedl Gymreig, credir mai Caerfyrddin yw man geni’r dewin enwog Myrddin, sy’n chwarae rhan arwyddocaol mewn mytholeg Arthuraidd a chyda chastell a gipiwyd gan Llywelyn Fawr ac Owain Glyndŵr, mae Caerfyrddin yn amlwg ar unrhyw fap hanesyddol. Mae gan Gaerfyrddin farchnad brysur sydd wedi bod yn gweithredu ers canrifoedd, gan gynnig amrywiaeth o nwyddau, gan gynnwys cynnyrch lleol, crefftau, a hen bethau. Gyda chymysgedd o siopau bach, siopau cadwyn, sinema, theatr, gwestai a bwytai mae Caerfyrddin yn lle gwych i siopa, bwyta ac aros.

 

Darganfod Caerfyrddin

Prif Gynllun Adfer Caerfyrddin

Mae’r prif gynllun adfer hwn wedi’i gomisiynu ar gyfer canol tref Caerfyrddin gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn ymateb i effeithiau pandemig COVID-19. Mae'r prif gynllun yn adolygu gweithgarwch adfywio presennol ac yn rhoi ffocws newydd ar y blaenoriaethau a'r strategaeth ar gyfer adferiad a thwf yn y dyfodol.

  • Diogelu, amddiffyn a chryfhau rôl ranbarthol canol tref Caerfyrddin fel cyrchfan ar gyfer manwerthu, hamdden, lletygarwch, diwylliant, cyflogaeth, addysg a phreswyl.
  • Sicrhau bod gweithgarwch yn cael ei gynnal yng nghanol y dref a gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer mwy o gymysgedd o ddefnyddiau trwy ailddefnyddio adeiladau gwag a rhai nad ydynt yn cael eu defnyddio’n ddigonol mewn ardal sy’n cael ei newid yn sylweddol.
  • Cefnogi ac annog busnesau annibynnol a bach i ddatblygu, tyfu ac ehangu yng nghanol y dref.
  • Ehangu presenoldeb y sector cyhoeddus yng nghanol y dref, gan gynnwys cyfleoedd i ddarparu gwasanaethau newydd (iechyd a llesiant, hamdden, gwasanaethau/cyngor lleol, preswyl) a chydweithio â sefydliadau trydydd sector, i ddenu rhagor o ymwelwyr a defnyddio safleoedd gwag.
  • Annog twf y farchnad awyr agored i gynnwys mwy o stondinau a photensial ar gyfer thema/steil newydd o farchnadoedd.
  • Sicrhau gwelliannau i ansawdd mannau awyr agored, yn enwedig Lôn Jackson, i ddarparu amgylchedd canol tref diogel, deniadol ac ysgogol sy'n cefnogi'r sector lletygarwch a'r economi gyda'r nos.
  • Gwella cysylltiadau i gerddwyr a beicwyr drwy ganol y dref, gan fod llawer ohonynt o ansawdd gwael.
  • Sefydlu tref SMART gyda busnesau yn gwneud y defnydd gorau o gyfathrebu digidol i ehangu eu cyrhaeddiad yn y farchnad, eu trosiant a'r nifer sy'n ymweld â hwy.
  • Mentrau sy'n sicrhau bod ystod o randdeiliaid yn cymryd rhan mewn cyflawni gwelliannau i ganol y dref.
  • Darparu cymorth i ddefnyddio a hyrwyddo'r Gymraeg a'i diwylliant

 

Prif Gynllun Adfer Caerfyrddin

Cronfa Adnewyddu Canol Trefi

Mae'r Gronfa yn cynnig hyd at £2 fesul eiddo, tuag at 80% o'r costau cymwys, i wella tu blaen siopau a gwneud canol trefi yn fwy deniadol. Gall rhydd-ddeiliaid a lesddeiliaid eiddo yng nghanol trefi wneud cais am gyllid i gefnogi amrywiaeth o welliannau gan gynnwys addurno allanol, paentio, gosod goleuadau, glanhau cwteri a mwy. Drwy wella golwg eiddo masnachol, nod y gronfa hon yw creu strydoedd mwy deniadol a chroesawgar sydd o fudd i fusnesau, preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Dyma ddetholiad o fusnesau y mae eu hadeiladau wedi elwa o'r cyllid a gynigir gan y Gronfa Adnewyddu Canol Trefi.

1 -  Zen Club

Mae Steadman Jones and Bell wedi cael cymorth gan y Gronfa Adnewyddu Canol Trefi i wella eu hadeilad. Gyda chyfanswm costau'r prosiect o £1,802.87, dyfarnwyd dyraniad grant o £1,442.30 i'r busnes (cyfradd ymyrraeth o 80%). Helpodd y cyllid hwn i gyflawni gwelliannau sy'n cyfrannu at amgylchedd mwy deniadol a chroesawgar, gan gefnogi bywiogrwydd canol y dref.

2 - CWRW

Mae'r bar cwrw crefft a chelfyddydau creadigol lleol, CWRW, sydd wedi'i leoli yn 32 Heol y Brenin wedi cael cymorth gan y Gronfa Adnewyddu Canol Trefi i wneud gwelliannau allweddol i'r adeilad. Gyda chyfanswm costau'r prosiect o £2,700.00, dyfarnwyd dyraniad grant o £2,000.00 i'r prosiect (cyfradd ymyrraeth o 74.07%). Mae'r uwchraddiadau hyn yn helpu i wella ymddangosiad yr adeilad ac yn cyfrannu at adfywio canol y dref yn ogystal â helpu'r bar i fod yn amlwg.

3 - James Music

Wedi'i lleoli yn 4 Maes Nott, mae'r siop gerddoriaeth leol hon wedi elwa o'r Gronfa Adnewyddu Canol Trefi i wneud gwaith adnewyddu i'w ffasâd. Gyda chyfanswm cost y prosiect o £1,484.00, cafodd y prosiect ddyraniad grant o £1,187.20 (cyfradd ymyrraeth o 80%). Mae'r gwelliannau hyn wedi gwella ymddangosiad yr eiddo ac wedi cyfrannu'n gadarnhaol at fywiogrwydd canol y dref.

4 - Furrifingers

Mae gwneuthurwyr pypedau lleol, FurriFingers, wedi cyflawni gwelliannau i'w huned yn 3 Maes Nott, gyda chymorth drwy'r Gronfa Adnewyddu Canol Trefi. Gyda chyfanswm costau'r prosiect o £1,350.00, dyfarnwyd dyraniad grant o £812.80, sy'n cynrychioli gweddill yr uchafswm dyfarniad grant. Mae gwelliannau i'r tu allan wedi atgyfnerthu presenoldeb brand y busnes ac wedi creu ffryntiad caboledig, sy'n croesawu cwsmeriaid.

5 - The Rose and Crown Inn

Cafodd y Rose and Crown Inn, sydd wedi'i leoli yn 117 Heol Awst, gymorth gan y Gronfa Adnewyddu Canol Trefi i wneud gwelliannau i'r eiddo. Gyda chyfanswm costau'r prosiect o £5,333.42, dyfarnwyd dyraniad grant o £1,826.51 i'r prosiect (cyfradd ymyrraeth o 34.25%). Mae'r gwelliannau wedi gwneud yr adeilad yn fwy croesawgar, gan gefnogi argraff gyntaf gadarnhaol i gwsmeriaid.

 

 

 

 

Cronfa Bywiogrwydd Canol Trefi

 

Wedi'i lansio yn 2024, mae cynllun grant wedi'i dargedu o £130,000 yn cefnogi'r gwaith o adfywio eiddo masnachol gwag ar y llawr gwaelod yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli, gan helpu i drawsnewid unedau gwag yn fannau busnes ffyniannus.

 

Ers ei lansio ym mis Rhagfyr 2024, mae wedi dod â 15 eiddo gwag yn ôl i ddefnydd trwy brydlesi tymor byr, gan roi cyfle i entrepreneuriaid a busnesau bach dreialu eu mentrau yn adeiladau canol y dref.

 

 

 

 

Eiddo Gwag

Ar hyn o bryd nid oes gan Gyngor Sir Caerfyrddin unrhyw eiddo yng nghanol tref Caerfyrddin ar gael i’w brydlesu, cysylltwch â ni yn y dyfodol i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Gwelwch y rhestr lawn o eiddo'r Cyngor ar brydles ar draws y sir yma.

Manylion Cyswllt Cyngor Sir Caerfyrddin

Os hoffech gysylltu â'r awdurdod ynglŷn â Chanol Tref Caerfyrddin, mae croeso i chi gysylltu â’n swyddogion sy’n gyfrifol am y ganolfan a byddant yn fwy na pharod i helpu:

trefi@sirgar.gov.uk

Hwb