Rydyn ni'n datblygu cynlluniau creu lleoedd newydd i helpu i lunio dyfodol canol ein trefi ac rydyn ni am i'ch syniadau fod yn ganolog iddynt.Er mwyn ei gwneud hi'n hawdd i bawb rannu eu barn, rydyn ni wedi creu ymgynghoriad ar-lein. Os byddai'n well gennych siarad ag aelod o'n tîm yn uniongyrchol, byddwn hefyd yn cynnal cyfres o ddiwrnodau ymgynghori cyhoeddus personol yng nghanol y trefi ar draws Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli. Mae'r rhain yn ddigwyddiadau galw heibio anffurfiol lle gallwch siarad yn uniongyrchol â'n swyddogion, rhannu eich meddyliau, a dysgu mwy am y cynlluniau creu lleoedd.
Mae'n gyfle gwych i ofyn cwestiynau, cyflwyno syniadau, a dweud eich dweud wrth lunio dyfodol eich ardal leol. Mae croeso i bawb. Galwch heibio i gael sgwrs!
Gallwch ddod o hyd i ni yn y lleoliadau canlynol:
Caerfyrddin: Neuadd Sant Pedr, 27 Hydref - 12:00yp i 7:00yp
Rhydaman: Neuadd y Pensiynwyr, 28 Hydref - 12:00yp i 7:00yp
Llanelli: 1 Rhodfa Stepney, 29 Hydref - 12:00yp i 7:00yp