Cyfle Datblygu Cyffrous ym Mhorth Tywyn
Porth Tywyn Llanelli Sir Gaerfyrddin

Submissions by Tender

Manylion Allweddol

Mae'r safle yn agos i Ganol Tref Porth Tywyn ac yn elwa ar drafnidiaeth gyhoeddus a chysylltiadau ffyrdd ardderchog. Mae'r rheilffordd a'r orsaf wedi'u lleoli i'r gogledd o'r safle ac mae Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol y B4311 yn ffinio â'r safle datblygu i'r de. 

Mae Harbwr Porth Tywyn wedi'i leoli ymhellach i'r de o'r safle ac mae'n rhan o Barc Arfordirol y Mileniwm, sydd wedi ennill gwobrau lu.

Mae'r safle wedi'i leoli o fewn terfynau datblygu Porth Tywyn fel y'i diffinnir gan Bolisi CDLl GP2 (Terfynau Datblygu) gyda dyraniad defnydd cymysg. Mae'r safle wedi elwa o'r blaen o gael caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer darparu storfa fwyd Dosbarth A1 ac felly ystyrir bod egwyddor datblygiad o'r fath yn dderbyniol ac yn cyd-fynd â dyheadau'r Awdurdod ar gyfer adfywio Porth Tywyn. Mae arfarniad cynllunio wedi'i baratoi gan Asbri Planning sy'n nodi ffactorau allweddol ac adroddiadau sy'n ofynnol i sicrhau caniatâd cynllunio a gellir gweld copi o'r adroddiad hwn drwy'r ddolen isod.

Arfarniad cynllunio

Ffôn: 01267 246254 / 07971 234992

E-bost: pedwards@carmarthenshire.gov.uk / gamathias@carmathenshire.gov.uk