Cynllun Trwyddedu Triniaethau Arbennig

Diweddarwyd y dudalen ar: 23/01/2025

Mae’r cynllun yn ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr sy’n gyflawni unrhyw driniaeth arbennig (rhestr isod) ar rywun arall yng Nghymru gael eu trwyddedu (cyfeirir at y drwydded hon fel ‘trwydded triniaethau arbennig’). Mae’r cynllun hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i safleoedd/cerbydau y mae ymarferwyr triniaethau arbennig yn gweithredu ohonynt gael eu cymeradwyo (a elwir yn ‘dystysgrif safle cymeradwy’). Mae gan y cynllun hefyd ofynion/amodau gorfodol o fewn y rheoliadau ar gyfer ymarferwyr a safleoedd/cerbydau.

Ar hyn o bryd, dim ond i rai triniaethau arbennig y mae’r cynllun newydd yn berthnasol. Diffinnir y rhain yn adran 57 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, ac maent yn cynnwys y canlynol:

  • aciwbigo (yn cynnwys nodwyddo sych)
  • tyllu'r corff (gan gynnwys y glust)
  • electrolysis
  • tatŵio (gan gynnwys colur lled-barhaol a microlafnu)

Pwrpas y cynllun trwyddedu yw:

  • gwella safonau hylendid a diogelwch
  • sicrhau bod safonau o'r fath yn gyson ar draws Cymru
  • helpu i amddiffyn iechyd cleientiaid
  • eu cefnogi i ddewis unigolion trwyddedig sy'n gweithredu o fangreoedd a cherbydau cymeradwy

Y gofynion sy’n gysylltiedig â gwneud cais

Bydd angen i unigolion fodloni meini prawf penodol cyn gwneud cais am drwydded neu dystysgrif gymeradwyo os ydynt:

  • yn ymarferydd unigol
  • yn gyfrifol am fangre neu gerbydau

 

Mae’r cynllun trwyddedu newydd yn ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr sy’n cyflawni unrhyw un o’r triniaethau arbennig rhagnodedig a restrir uchod ar rywun arall yng Nghymru gael trwydded. Bydd y drwydded yn nodi pa driniaeth neu driniaethau arbennig y mae’r ymarferydd wedi’i drwyddedu i’w cyflawni, yn ogystal â rhestru’r safle y mae’r ymarferydd yn gweithredu ohono. Rhaid i bob ymarferydd gael ei drwydded ei hun. Dim ond ar safleoedd / mewn cerbydau sydd wedi’u cymeradwyo y gall ymarferwyr trwyddedig weithredu.

Bydd yn drosedd i ymarferydd gyflawni triniaeth arbennig heb drwydded neu gyflawni unrhyw driniaethau o safleoedd neu gerbydau nad ydynt wedi’u cymeradwyo. Bydd hefyd yn drosedd i beidio â chydymffurfio â’r gofynion penodol a nodir yn y rheoliadau ar gyfer ymarferwyr a safleoedd/cerbydau.

Mae’n ofynnol i ymarferwyr a gofrestrwyd o dan ofynion presennol Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 wneud cais am eu trwydded triniaethau arbennig eu hunain ac, os oes angen, tystysgrif cymeradwyo safle/cerbyd.

Bydd gan y rhai sydd â chofrestriadau presennol 3 mis o’r dyddiad dod i rym (29 Tachwedd 2024) i wneud cais am drwydded (a, lle bo’n berthnasol, tystysgrif gymeradwyo) a byddant yn elwa ar drwydded drosiannol. Bydd y drwydded drosiannol hon yn caniatáu i ymarferwyr presennol barhau i roi triniaethau arbennig (yn unol â’u dogfen gofrestru gyfredol) tra bod y cais am drwydded newydd yn cael ei gyflwyno a’i brosesu.

Mae trwydded drosiannol wedi’i rhoi’n awtomatig i bob safle ac ymarferydd cofrestredig presennol, ac ni fydd yn ofynnol i chi wneud cais am hon.

Rhaid gwneud cais am drwydded o dan y cynllun newydd o fewn y cyfnod hwn o 3 mis (erbyn 28 Chwefror 2025).

Os ydych yn ymarferydd newydd, bydd gofyn i chi wneud cais am drwydded ymarferydd a’i chael cyn ymgymryd ag unrhyw driniaethau arbennig yng Nghymru.

Gwnewch gais am drwydded ymarferydd

Bydd y cynllun trwyddedu newydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob safle neu gerbyd lle mae unrhyw un o’r triniaethau arbennig penodedig (aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis a/neu datwio) yn cael eu cyflawni gan ymarferwyr trwyddedig gael ei gymeradwyo. Bydd y dystysgrif gymeradwyo yn cael ei rhoi i’r sawl sy’n gyfrifol am y busnes ar safle (efallai mai’r perchennog, y rheolwr neu’r ymarferydd fydd hwn – nid oes angen iddo fod y sawl sy’n cyflawni’r triniaethau ei hun ac efallai nad ydyw’n cyflogi ymarferwyr yn uniongyrchol). Os oes gan ymarferydd drwydded triniaeth arbennig ond ei fod yn gyflogai, neu’n rhentu cadair/ystafell ym musnes rhywun arall, yna nid oes angen iddo feddu ar ei dystysgrif cymeradwyo safle/cerbyd ei hun ond rhaid iddo barhau i wneud yn siŵr mai dim ond o safle neu gerbyd cymeradwy y mae’n gweithredu.

Bydd yn ofynnol i safleoedd a gofrestrwyd o dan ofynion blaenorol Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 wneud cais am eu tystysgrif cymeradwyo safle eu hunain ac, os oes angen, trwydded triniaethau arbennig.

Bydd gan y rhai sy’n gyfrifol am fusnes lle mae gan y safle gofrestriad presennol 3 mis o 29 Tachwedd 2024 i wneud cais am gymeradwyaeth a byddant yn elwa o drwydded drosiannol yn y cyfamser. Bydd y gymeradwyaeth drosiannol hon yn caniatáu i safleoedd presennol barhau i weithredu yn unol â’u dogfen gofrestru flaenorol tra bod y cais am drwydded newydd yn cael ei gyflwyno a’i brosesu (rhaid i ymarferwyr hefyd fod wedi’u trwyddedu neu fod wedi’u cynnwys o dan y trefniant trosiannol i gyflawni unrhyw driniaeth arbennig ar y safleoedd hyn).

Mae tystysgrif gymeradwyo drosiannol wedi’i rhoi’n awtomatig i bob safle ac ymarferydd cofrestredig presennol, ac ni fydd yn ofynnol i chi wneud cais am hon.

Os ydych yn sefydlu safle/cerbyd newydd lle rydych yn bwriadu darparu unrhyw driniaethau arbennig, bydd yn ofynnol i chi wneud cais am dystysgrif safle/cerbyd cymeradwy a’i chael cyn ymgymryd ag unrhyw driniaethau arbennig yng Nghymru ar y safle / yn y cerbyd.

Gwnewch gais am dystysgrif cymeradwyo safle/cerbyd

 

Bydd yn drosedd i ymarferydd gyflawni triniaeth arbennig heb drwydded neu gyflawni unrhyw driniaethau o safleoedd neu gerbydau nad ydynt wedi’u cymeradwyo. Bydd hefyd yn drosedd i beidio â chydymffurfio â’r gofynion penodol a nodir yn y rheoliadau ar gyfer ymarferwyr a safleoedd/cerbydau.

Arddangos trwyddedau a thystysgrifau cymeradwyo

Rhaid i ddeiliaid trwydded arddangos eu trwydded yn eu prif le gwaith neu wisgo eu trwydded lanyard. Rhaid i safleoedd a cherbydau cymeradwy hefyd arddangos eu tystysgrif gymeradwyaeth.

Ffioedd

Mae gwybodaeth am y strwythur ffioedd presennol ar gyfer y drefn newydd yma.

Ffioedd Trwydded

Cofrestr genedlaethol

Mae’n ofynnol o dan y cynllun newydd i gofrestr genedlaethol o’r holl ymarferwyr trwyddedig a safleoedd/cerbydau cymeradwy fod ar gael i’r cyhoedd.

Mae’r gofrestr wrthi’n cael ei datblygu a chaiff ei chyhoeddi’n fuan. Bydd dolen wedyn yn cael ei darparu ar y dudalen hon. Ni fydd hon yn cynnwys manylion y rhai sydd wedi cael trwyddedau trosiannol / tystysgrifau cymeradwyo.  

Os ydych am gadarnhau a yw ymarferydd a/neu eiddo/cerbyd yn gweithredu o dan y trefniadau trosiannol, yna bydd angen i chi gysylltu â’r cyngor yn yr ardal y mae’n gweithredu ynddi i gael rhagor o wybodaeth.