Cynllun Gwella Chwarae Cymunedol

Nid oedd y lle chwarae yn Pontiets gwreiddiol a adeiladwyd yn y 1970au yn bodloni dyheadau modern plant a phobl ifanc ac nid oedd yn cael ei ddefnyddio’n aml.

Yn dilyn ymgynghoriad cadarn â’r gymuned, dewisodd y plant a'r bobl ifanc o ysgolion cynradd lleol yr offer sydd bellach wedi'i osod yn y parc. Mae hyn yn cynnwys chwyrligwgan cynhwysol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.

Mae'r parc wedi cael croeso mawr ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio'n ddyddiol. 

I ddarganfod mwy, ewch i'r tudalen we Cyngor Cymunedol Llangyndeyrn