Neuadd Llangain

Enw(au): Wyn Gruffydd

Swyddogaeth(au):Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr

Lleoliad: Llangain

Gwefan

A allwch chi ddweud ychydig wrthym am eich sefydliad, yr hyn a’ch ysbrydolodd chi i’w ddechrau, a’i rôl o fewn y gymuned leol?

Roedd Neuadd Goffa Llangain wedi goroesi ei defnyddioldeb gyda chymaint o angen gwario arni i sicrhau fod y cyfleusterau yn ateb gofynion trigolion pentref sydd wedi cynyddu mewn poblogaeth yn ystod yr ugain mlynedd ddiwethaf, ac sy’n dal i gynyddu. Heb arian wrth gefn doedd dymchwel ac ailadeiladu ddim yn opsiwn. Gan wybod nad oedd grantiau nac arian cyhoeddus i’w gael ar gyfer gwneud gwelliannau, roedd pwyllgor y neuadd yn wynebu tasg enfawr i addasu adeilad a godwyd yn y 1960au i ateb anghenion y pentrefwyr presennol, ac i’r dyfodol.
Rhaid felly oedd edrych ar ail-ddatblygu ac ail-bwrpasu’r adeilad er mwyn sicrhau hyblygrwydd i ystod eang o oedrannau mewn pentref sydd wedi colli Swyddfa Bost, eglwys a thafarn yn y blynyddoedd diweddar. Yr unig ased cyhoeddus ar gael i’r pentrefwyr yw’r neuadd goffa, ond roedd y pwyllgor yn ymwybodol bod rhaid i’r adnodd ar ei Newydd wedd dalu am ei hunan.

Sut mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi cynorthwyo’ch sefydliad chi, a pha welliannau neu newidiadau penodol yr ydych chi wedi gallu eu gwneud gyda’r cyllid?

Gyda chymorth Biwro’r Cyngor Sir llwyddwyd i sicrhau digon o gronfa ffyniant Gyffredin y DU, er mwyn cychwyn ar y gwaith o ailddatblygu’r neuadd. Er na dderbyniwyd yr hyn a obeithiwyd amdano yn llawn, mae wyneb allanol y neuadd wedi ei drawsnewid yn llwyr ac yn llawer mwy croesawus, gydag estyniad hardd a fydd yn gartref i gaffi pan fydd y gwaith ail-ddatblygu wedi ei gwblhau. Eisoes mae yna ddefnydd helaeth yn cael ei wneud o’r estyniad sy’n gartref i foreau coffi wythnosol, a mwy o bobl yn mynychu o ganlyniad i’r gwaith.

Pa effaith y mae’r prosiect hwn wedi’i chael ar y gymuned leol hyd yma, a sut y mae hi wedi ymateb i’r gwasanaethau/ gwelliannau yr ydych chi wedi’u cyflawni?

Mae’r prosiect wedi denu cryn sylw a diddordeb, ac mae gweld yr hyn sy’n bosib i’w gwblhau wedi denu mwy o ddiddordeb gan glybiau a chymdeithasau o fewn a thu fas y pentref. Mae’r pwyllgor gwaith gweithgar wedi trefnu i werthwyr ‘bwydydd stryd’ yn eu tro i osod eu stondinau y tu fas i’r neuadd ac mae hynny wedi denu i ardal y neuadd, bentrefwyr na fuasai fel rheol yn dod i weithgareddau y tu mewn i’r adeilad.
Mae hynny wedi, ac yn, rhoi cyfleoedd i aelodau’r pwyllgor i ymgysylltu mewn modd anffurfiol gyda’r gymuned - teuluoedd a chenhedlaeth iau o bentrefwyr yn bennaf. Mae disgwyl i’r cymal nesaf o ddatblygiad y neuadd, eto gyda chynghorion Biwro’r Cyngor Sir, a grant sylweddol gan Lywodraeth Cymru gychwyn ym mis Medi.
Hwb