Prosiect Ystafelloedd Newid
Mae cyllid wedi cefnogi'r gwaith o foderneiddio cyfleusterau newid Clwb Rygbi Tŷ-croes yn llawn gan gynnwys gosod goleuadau ynni-effeithlon newydd, system wresogi a chawodydd, ynghyd â chreu lloriau mynediad gwastad hygyrch drwyddi draw.
Mae'r cyfleuster bellach yn darparu profiad gwell i bob sefydliad cymunedol lleol, gan gynnwys disgyblion yn Ysgol Gynradd Tŷ-croes, sy'n defnyddio'r cyfleusterau'n rheolaidd i hyfforddi. Mae'r cyfleuster bellach yn gwbl addas i'r diben ac mae pawb sy'n ei ddefnyddio wedi croesawu'r newidiadau'n fawr iawn.
Yn ystod y prosiect bu cynnydd o 232 o ddefnyddwyr newydd, cafodd 16 o wirfoddolwyr newydd eu recriwtio a'u hyfforddi a chafodd 50 o gyfleoedd gwirfoddoli newydd eu creu.
Dilynwch y grŵp ar Facebook: https://www.facebook.com/TycroesRFC



