Tendrau a Chontractau

Rydym yn gwario tua £376 miliwn y flwyddyn ar swyddi, gwasanaethau a nwyddau, gan ddarparu busnesau o bob sector, bach a mawr, gydag ystod eang o gyfleoedd masnachol. Rydym yn edrych i brynu cymaint o hyn, ag y bo modd, o fewn y Sir.

Mae’r contractau sydd y tu hwnt i Drothwy Caffael y DU yn cael eu hysbysebu drwy gyfrwng y Gwasanaeth Dod o hyd i Dendr. Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio ac yn disodli 'Tenders Electronic Daily' sef Cyfnodolyn Swyddogol yr UE (OJEU/TED) ar gyfer caffaeliadau yn y DU. Mae'r Gwasanaeth dod o hyd i Dendr yn gweithio ochr yn ochr â'r pyrth caffael presennol gan gynnwys GwerthwchiGymru.

Ar hyn o bryd, mae rhywfaint o’r gweithgaredd caffael o dan £25000 yn cael ei roi ar wefan Gwerthwch i Gymru, ond rydym yn aros am gyfarwyddyd ynghylch sut orau i fynd i’r afael â’r lefel hon o wariant. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y gwerth is hwn a pha mor ddeniadol yw I fusnesau bach, yn enwedig busnesau newydd. Mae man cyswllt cyntaf a dolen gyswllt I fusnesau ynghylch caffael wedi ar gael a gall roi mwy o wybodaeth ynghlyn a masnachu gyda’r Cyngor. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cyngor ac arweiniad proffesiynol ynghylch materion yn ymwneud a chaffael
  • Nodi amrywiol dulliau o hysbysebu cyfleoedd am gontractau sydd ar ddod yn y Cyngor
  • Nodi cysylltiadau yn yr Awdurdod a chysylltu a nhw ar ran y cyflenwyr gan ddod a phrynwyr a gwerthwyr posibl ynghyd 

Wrth gwrs, mae llawer o gyflenwyr yn cystadlu am yr hawl I gyflawni gwaith a chontractau i ddarparu nwyddau a gwasanaethau ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin. Ni allwn addo llwyddiant I gwmnioedd unigol. 

Fodd bynnag, ein nod yw rhoi digon o wybodaeth fel bod modd I fusnesau gystadlu am unrhyw gyfleoedd sy’n codi a hyrwyddo system de gar gyfer yr holl gyflenwyr posibl.

I gael rhagor o wybodaeth neu I drefnu apwyntiaid, cysylltwch a Jake Williams, Swyddog Budd I'r Gymuned ar e-bostiwch: JTWilliams@sirgar.gov.uk