Fframwaith Gwaith Eiddo

Diweddarwyd y dudalen ar: 10/04/2024

Mae'r dyddiad cyflwyno bellach wedi cau ac mae tendrau'n cael eu gwerthuso gyda'r bwriad o'r Fframwaith newydd sy'n dechrau ar 1 Awst, 2024.

 

Y Newyddion Diweddaraf

 

Mae busnesau s sy'n arbenigo mewn gwaith eiddo, yn cael eu gwahodd i dendro am Fframwaith Gwaith Eiddo newydd Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae’r Cyngor yn dymuno penodi contractwyr addas eu cymhwyster i ddarparu gwaith ar eiddo, cynnal a chadw, addasiadau, gwelliannau i adeiladau a gwaith cysylltiedig arall sy’n ofynnol ar gyfer ei bortffolio eiddo tai ac eiddo nad yw’n ymwneud â thai. 

Bydd y Fframwaith yn cynnwys amrywiaeth o lawer o lotiau fesul gwerth a rhai daearyddol ar gyfer gwaith eiddo ar dai ac eiddo masnachol, yn amrywio o waith ymatebol a gwaith adeiladu bach, gwaith a gynllunnir hyd at £150k, gwaith a gynllunnir dros £150k, eiddo gwag, addasiadau, gwaith trydanol, gwaith toi, gosod lloriau, ffensio a chrefftau penodol.

Un ychwanegiad pwysig at y Fframwaith yw cynnwys lotiau ‘crefftau penodol’ ar gyfer contractwyr bychain sy’n arbenigo mewn crefftau megis gwaith coed, gosod brics, rendro, paentio ac addurno, gosod drysau a ffenestri, glanhau a chlirio eiddo a gosod siediau.

Mae'r dyddiad cau ar gyfer y Fframwaith Gwaith Eiddo wedi'i ymestyn tan 2yp ar ddydd Mercher 3ydd Ebrill 2024. Bydd ymholiadau tendr yn cael eu derbyn tan 25ain Mawrth 2024.

Mae cymorth wrth law i fusnesau bach a chanolig wneud cais am le ar y Fframwaith. Ewch i wefan Busnes Cymru i gael rhagor o wybodaeth - Cefnogi busnesau yng Nghymru | Busnes Cymru

Bydd Busnes Cymru hefyd yn trefnu dau ‘Gweminar Tendro Byw’ yn union yr un peth ac yn rhad ac am ddim, yn benodol ar gyfer y rhai sy’n tendro ar gyfer y Fframwaith hwn, i’w gynnal am 11yb a 2yp ar y 27ain o Chwefror 2024. Bydd Busnes Cymru yn cynnig cyngor a chanllawiau ar gyrchu’r e-dendr a chyflwyno cais. Mae cofrestru yn hanfodol er mwyn cadw lle ar y gweminar, felly, i gofrestru, cysylltwch â Busnes Cymru ar 01656 868500 neu drwy e-bostio: trading@businesswales.org.uk

I gael rhagor o fanylion am y Fframwaith a sut i gyrchu’r tendr a’r dogfennau cysylltiedig, yn ogystal â chyflwyno cais, gweler Hysbysiad y Contract ar wefan GwerthwchiGymru