Telerau ac Amodau
2. Darparu Gwasanaeth
*Dim ond drwy delerau ac amodau contractiol a nodir mewn cytundeb ysgrifenedig ar wahân y caiff y telerau hyn eu disodli pan gânt eu llofnodi gan lofnodwyr awdurdodedig y Cyngor a'r Cyflenwr.
Ystyrir bod derbyn y Gorchymyn a/neu Gyflenwi'r Nwyddau/Gwasanaethau neu unrhyw ran ohonynt gan y Cyflenwr i'r Cyngor yn dystiolaeth bendant o'r ffaith bod y Cyflenwr wedi derbyn y Gorchymyn.
Ni fydd unrhyw amrywiadau i'r Gorchymyn yn ddilys oni chytunwyd yn ysgrifenedig o'r blaen rhwng y Cyngor a'r Cyflenwr.