Hysbysiad Trethi Annomestig 2025/26

Rydym wedi clustnodi £793.257m yn ein cyllideb i wario ar ddarparu gwasanaethau i'n trethdalwyr yn 2025/26 (o’i gymharu â ffigur o £752.939m yn 2024/25).

Telir swm pellach o £15.5m i gyrff cyhoeddus eraill ar ffurf taliadau treth a chyfraniadau. Y gwariant net yw £510.515m.

£1,745.43 fydd y dreth Band D a godir gan y Cyngor Sir ar Drethdalwyr y Cyngor ar gyfer 2025/26, sy’n cynrychioli codiad o 8.90% o ran Treth y Cyngor.

  2024/25 2025/26 2025/26

Gwasanaethau:

Gwariant Gros
            (£m)
Gwariant Gros
            (£m)
Gwariant Net
           (£m)
Gwasanaethau Canolog 48.759 53.195 38.837
Gwasanaethau Diwylliannol, Amgylcheddol a Chynllunio 102.609 101.528 64.576
Addysg a Gwasanaethau Plant 288.998 309.016 250.507
Gwasanaethau Priffyrdd, Ffyrdd a Thrafnidiaeth 35.355 35.609 25.035
Gwasanaethau Tai 101.392 109.103 3.310
Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion 175.826 184.806 129.588
Gwariant ar Wasanaethau 752.939 793.257 511.853

Trethi a godir ar gyfer:

     
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 0.158 0.162 0.162
Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru 14.367 15.185 15.185
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru 0.175 0.151 0.151
Gweddillion (-) / Diffygion y Cyfrif Masnachu 1.766 5.909 5.909
Llog Net a Newidiadau Cyfrifyddu Cyfalaf -24.070 -22.745 -22.745
Cyfraniadau i'r/o'r(-) Cronfeydd -3.000 0.000 0.000
Gwariant y Cyngor Sir 742.335 791.919 510.515

I'w ariannu drwy

     
Grant Cynnal Refeniw y Llywodraeth -281.597 -307.213  
Treth Annomestig Cenedlaethol -69.050 -68.479  
Grantiau Pensiwn -4.052 0.000  
Grantiau/Ad-daliadau Penodol -126.995 -98.607  
Ffioedd, Taliadau ac Incwm Arall -138.091 -182.797  
Talwyr Treth y Cyngor -122.551 -134.823  
  -742.335 -791.919  

Rydym yn bwriadu gwario £94.7m yn 2025/26 ar brosiectau cyfalaf (£86.9m yn 2024/25), a ariennir o’r ffynonellau canlynol:

Ffynonellau   £m
Benthyciadau 25.8
Symiau a Neilltuwyd o Refeniw 8.2
Derbyniadau Cyfalaf o Werthu Asedau 1.5
Cymorth Grant 59.2
Cyfanswm    94.7

Mae angen cronfeydd cyffredinol (neu falansau) i ganiatáu ar gyfer lefelu’r codi a’r gostwng sy’n digwydd mewn gweithgareddau ariannol unrhyw flwyddyn.

Amcangyfrifir y bydd gweddillion o’r fath tua £10.4m ar y 31ain Mawrth 2026 (£10.4m ar y 31ain Mawrth 2025).

Rydym hefyd wedi rhoi cronfeydd eraill o’r neilltu i gwrdd â gwariant penodol ac amcangyfrifir y bydd eu cyfanswm hwy yn £81.1m ar yr 31ain Mawrth 2026 (£104.3m ar yr 31ain Mawrth 2025).

Cyngor Tref / Cymuned

Praesept 2024/25
(£)

Praesept 2025/26
(£)

Treth Cyngor Band D 2025/26
(£)

Abergwili 31,830.00 33,000.00 43.82
Abernant 4,500.00 4,500.00 31.81
Betws 57,000.00 62,000.00 67.71
Bronwydd 13,567.00 15,060.00 53.07
Caerfyrddin 874,221.00 927,929.00 157.96
Castell Newydd Emlyn 33,261.80 34,454.32 70.19
Cenarth 9,000.00 9,000.00 15.57
Cilycwm 5,000.00 8,000.00 32.82
Cilymaenllwyd 8,500.00 13,000.00 36.45
Cwarter Bach 120,594.00 141,095.00 141.19
Cwmaman 359,925.01 395,794.00 237.99
Cydweli 325,500.00 337,020.00 232.39
Cynwyl Elfed 18,398.58 22,077.60 46.89
Cynwyl Gaeo 7,000.00 8,000.00 17.62
Dyffryn Cennen 22,000.00 30,000.00 55.20
Eglwys Gymyn 6,500.00 6,500.00 32.41
Gorslas 132,000.00 135,894.00 63.84
Hendy-gwyn 64,490.00 65,148.00 79.23
Henllanfallteg 11,500.00 12,650.00 53.96
Llanarthne 25,863.69 25,930.90 59.48
Llanboidy 36,722.00 41,421.00 88.31
Llanddarog 20,334.55 20,630.81 36.35
Llanddeusant 5,000.00 5,500.00 39.90
Llanddowror a Llanmiloe 19,800.00 19,800.00 53.98
Llandeilo 81,994.00 93,755.00 112.07
Llandybie 180,000.00 193,860.00 42.63
Llandyfaelog 27,320.00 31,000.00 47.44
Llanedi 498,032.00 587,493.00 244.26
Llanegwad 15,000.00 18,000.00 23.98
Tref Llanelli 1,500,000.00 1,537,500.00 168.94
Llanelli Wledig 1,174,180.00 1,568,545.00 181.69
Llanfair-ar-y-Bryn 3,500.00 4,000.00 13.43
Llanfihangel Aberbythych 20,405.00 25,000.00 41.12
Llanfihangel Rhos-y-corn 7,000.00 7,500.00 33.20
Llanfihangel-ar-Arth 53,000.00 53,000.00 54.42
Llanfynydd 8,500.00 9,000.00 37.69
Llangadog 23,000.00 25,000.00 37.62
Llangain 12,540.00 19,639.00 65.26
Llangathen 9,000.00 9,500.00 33.86
Llangeler 32,245.47 32,245.47 20.72
Llangennech 292,357.00 313,738.00 156.14
Llangyndeyrn 90,942.52 98,217.92 60.58
Llangynin 9,100.00 10,600.00 75.17
Llangynnwr 41,000.00 56,122.00 47.63
Llangynog 7,000.00 8,000.00 32.72
Llanismel 38,239.00 39,831.00 48.50
Llanllawddog 8,147.00 8,481.00 22.61
Llanllwni 15,080.00 15,683.00 46.80
Llannewydd a Merthyr 6,500.00 6,500.00 20.31
Llannon 468,386.69 561,515.08 274.11
Llanpumsaint 10,271.10 11,776.92 34.50
Llansadwrn 7,000.00 12,500.00 51.10
Llansawel 8,000.00 9,500.00 44.83
Llansteffan a Llanybri 21,500.00 23,500.00 37.69
Llanwinio 6,000.00 6,000.00 27.10
Llanwrda 8,000.00 15,000.00 60.81
Llanybydder 60,000.00 70,000.00 111.95
Llanycrwys 1,650.00 3,000.00 28.08
Llanymddyfri 73,994.59 79,000.00 96.16
Manordeilo a Salem 17,000.00 15,000.00 18.33
Meidrim 12,500.00 12,500.00 46.37
Myddfai 3,586.00 3,765.30 18.82
Pen-bre a Phorth Tywyn 799,621.00 877,000.00 255.84
Pencarreg 13,500.00 13,500.00 23.48
Pentywyn 7,838.55 7,884.00 45.00
Pontyberem 125,410.32 131,669.75 124.24
Rhydaman 397,646.86 471,064.27 237.01
Sanclêr 113,958.83 119,656.77 84.54
Talacharn 33,511.87 33,511.87 54.33
Talyllychau 11,000.00 13,000.00 50.66
Trelech a'r Betws 0.00 0.00 0.00
Trimsaran 88,579.00 91,646.00 101.02

 

Mae Llywodraeth Cymru yn pennu Asesiad Gwariant Safonol ar ein cyfer. Dyma’r swm y mae Llywodraeth Cymru yn asesu sydd ei angen, mewn termau cymharol, i ddarparu lefel safonol o wasanaeth yn yr ardal. Nodir isod yr asesiad ar gyfer 2025/26 ynghyd â chymhariaeth â'n gofynion cyllidebol: 

Asesiad/Gofynion Cyllidebol        (£m)

Treth Cyngor Band D

(£)

Asesiad Gwariant Safonol  508.820 1,723
Gofynion Cyllidebol (gan gynnwys Praeseptau Cymuned) 510.248 1,871

Mae'r Cyngor yn pennu'r tâl ar eiddo sy'n lefel Band D ond bydd y symiau a delir ar eiddo mewn bandiau eraill yn fwy neu'n llai yn ôl y cymarebau canlynol.

Band Prisio A B C D E F G H I
Cyfran o'r Dreth 6/9 7/9 8/9 9/9 11/9 13/9 15/9 18/9 21/9
Y Cyngor Sir (£) 1,163.62 1,357.56 1,551.49 1,745.43 2,133.30 2,521.18 2,909.05 3,490.86 4,072.67
Heddlu Dyfed Powys (£) 240.45 280.53 320.60 360.68 440.83 520.98 601.13 721.36 841.59
Cynghorau Cymuned (cyfartaledd) (£) 83.97 97.96 111.96 125.95 153.94 181.93 209.92 251.90 293.88

Mae’r wybodaeth a roddir isod yn esbonio rhai o’r termau y gellir eu defnyddio ar yr hysbysiad galw am dalu ardreth annomestig ac yn yr wybodaeth ategol. Gellir cael mwy o wybodaeth ynghylch rhwymedigaeth i dalu ardrethi annomestig gan awdurdodau bilio.

Mae ardrethi annomestig a gesglir gan awdurdodau bilio yn cael eu talu i mewn i gronfa ganolog a’u hailddosbarthu i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac i awdurdodau heddlu. Bydd eich cyngor a’ch awdurdod heddlu yn defnyddio eu cyfrannau o’r incwm ardrethi a ailddosbarthwyd, ynghyd ag incwm oddi wrth y rhai sy’n talu’r dreth gyngor iddynt, y grant cynnal refeniw a ddarperir gan Weinidogion Cymru a symiau penodol eraill, i dalu am y gwasanaethau a ddarperir ganddynt.

Gosodir gwerth ardrethol eiddo annomestig yn y rhan fwyaf o achosion gan swyddog prisio annibynnol o Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Caiff pob eiddo annomestig ei ail brisio bob 5 mlynedd. O 1 Ebrill 2023 mae gwerth ardrethol eiddo yn cynrychioli ei werth rhentol blynyddol ar y farchnad agored fel yr oedd ar 1 Ebrill 2021. Yn achos eiddo cyfansawdd sy’n rhannol ddomestig ac yn rhannol annomestig, ymwneud â’r rhan annomestig yn unig y mae’r gwerth ardrethol.

Dangosir gwerth mwyafrif yr eiddo y mae ardreth yn daladwy i’ch awdurdod arno yn y rhestr ardrethi leol, y gellir archwilio copi ar wefan y Swyddfa Brisio neu drwy ffonio 03000 505505.

Os hoffech herio'r Gwerth Ardrethol a neilltuwyd i'ch eiddo, gellir gwneud hyn drwy'r broses Gwirio, Herio Apeliadau:

mwy o wybodaeth

Gall y gwerth ardrethol newid os cred y swyddog prisio fod amgylchiadau'r eiddo wedi newid. Gall y trethdalwr (a rhai eraill sydd â diddordeb yn yr eiddo) hefyd mewn rhai amgylchiadau penodol gynnig newid mewn gwerth. Os nad yw'r trethdalwr a'r swyddog prisio yn cytuno ar y prisiad, bydd y mater yn cael ei gyfeirio fel apêl i Dribiwnlys Prisio. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gynnig newid mewn gwerth ardrethol ar gael gan y Swyddfa Brisio.

Mae gwybodaeth am yr amgylchiadau y gellir cynnig newid yn y gwerth ardrethol ac am sut y gellir gwneud cynnig o’r fath ar gael gan y swyddfa brisio leol a ddangosir uchod. Mae mwy o wybodaeth am y trefniadau apelio ar gael gan Cyngor Sir Gâr neu gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar gwefan Swyddfa Brisio.

Dyma’r gyfradd yn y bunt y lluosir y gwerth ardrethol â hi i roi swm y bil ardrethol blynyddol ar gyfer eiddo. Mae’r lluosydd a bennir bob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru yr un fath ar gyfer Cymru gyfan ac, ag eithrio mewn blwyddyn ailbrisio, ni all godi o fwy na chyfradd y cynnydd yn y mynegai prisiau manwerthu.

Ar 1 Ebrill 2011 mae’r trothwy eithrio o ran Gwerth Trethiannol wedi gostwng i £2,600.

Gall perchenogion eiddo annomestig sydd heb ei feddiannu fod yn agored i dalu ardrethi eiddo gwag a godir yn ôl 100 y cant o’r rhwymedigaeth arferol. Mae’r rhwymedigaeth yn dechrau pan fydd yr eiddo wedi bod yn wag am 3 mis, neu, yn achos ffatrioedd a warysau, pan fydd yr eiddo wedi bod yn wag am 6 mis. Mae mathau penodol o eiddo wedi’u heithrio rhag ardrethi eiddo gwag.

Mae hawl gan elusennau a chlybiau chwaraeon cymunedol amatur i gael rhyddhad o 80% o ardrethi ar unrhyw eiddo annomestig—

  • yn achos elusen, os defnyddir yr eiddo yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion elusennol, neu
  • yn achos clwb, os yw’r clwb wedi’i gofrestru gyda Chyllid a Thollau EM.

Mae gan awdurdodau bilio ddisgresiwn i beidio â chodi rhan neu’r cyfan o’r 20 y cant sy’n weddill o’r bil ar eiddo o’r fath a chaiff hefyd roi rhyddhad ar eiddo a feddiennir gan gyrff penodol nad ydynt wedi’u sefydlu nac yn cael eu rhedeg i wneud elw.

Am fwy o wybodaeth ynghylch clybiau dylech gysylltu â:

  • Inland Revenue Charities, Sport Clubs Unit, St. Johns House, Bootle L69 9BB (0845 3020203)
  • A’i wefan yw:- www.hmrc.gov.uk

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau i'r cynllun a fydd yn dod i rym ar 1af Ebrill 2018. Disgrifir y cynllun diwygiedig isod:

  • Bydd hawl o hyd gan safleoedd busnes sydd â Gwerth Ardrethol nad yw'n fwy na £6,000 i gael rhyddhad o 100%.
  • Hefyd nid oes newid ar gyfer safleoedd busnes sydd â Gwerth Ardrethol dros £6,000, hyd at y terfyn Gwerth Ardrethol uwch o £12,000, lle bydd rhyddhad yn gostwng yn raddol ar raddfa o oddeutu 1% am bob £60 o Werth Ardrethol e.e. bydd eiddo â Gwerth Ardrethol o £6,120 yn cael rhyddhad o 98%; bydd eiddo â Gwerth Ardrethol o £6,600 yn cael rhyddhad o 90%.

(Bydd y rhyddhad a amlinellir uchod yn berthnasol i bob math o fusnes, ac nid i rai adwerthu yn unig. Er bod rhai categoriau o dalwyr treth yn cael eu eithrio , gan gynnwys awdurdodau lleol a sefydliadau elusennol.)

  • Bydd hawl o hyd gan safleoedd gofal plant sydd â Gwerth Ardrethol nad yw'n fwy na £6,000 i gael rhyddhad o 100%.
  • Ar gyfer safleoedd gofal plant sydd â gwerth ardrethol dros £6,000, a hyd at derfyn Gwerth Ardrethol uwch cynyddol o £20,500, bydd rhyddhad yn gostwng yn raddol o 100% i sero.
  • Bydd hawl gan Swyddfeydd Post sydd â Gwerth Ardrethol nad yw'n fwy na £9,000 i gael rhyddhad o 100%; bydd hawl gan y rheiny sydd â Gwerth Ardrethol uwch na £9,000 hyd at £12,000 i gael rhyddhad o 50%.

Fodd bynnag, o dan y rheolau newydd, bydd trethdalwr ond yn gallu cael rhyddhad ar gyfer hyd at ddau eiddo mewn un awdurdod lleol (mae eiddo gofal plant a swyddfeydd post wedi'u heithrio o'r cyfyngiad hwn). Mewn achosion o'r fath rhaid i'r trethdalwr roi gwybod i'r Cyngor am yr hereditamentau hynny.

Cofiwch na fydd safleoedd talwyr ardrethi sy'n elusennau neu'n sefydliadau dielw ac sydd â hawl i wneud cais am ryddhad "elusennol" gorfodol neu yn ôl disgresiwn, yn gymwys i gael Rhyddhad Busnesau Bach. Mae'n rhaid bod adeilad y busnes yn cael ei ddefnyddio yn ei gyfanrwydd er mwyn bod yn gymwys i gael rhyddhad.

Llwythwch mwy