Hysbysiad Trethi Annomestig 2026/27

Rydym wedi clustnodi £809.371m yn ein cyllideb i wario ar ddarparu gwasanaethau i'n trethdalwyr yn 2026/27 (o’i gymharu â ffigur o £793.257m yn 2025/26).

Telir swm pellach o £15.9m i gyrff cyhoeddus eraill ar ffurf taliadau treth a chyfraniadau. Y gwariant net yw £541.527m.

£1,830.97 fydd y dreth Band D a godir gan y Cyngor Sir ar Drethdalwyr y Cyngor ar gyfer 2026/27, sy’n cynrychioli codiad o 4.90% o ran Treth y Cyngor.

  2025/26 2026/27 2026/27

Gwasanaethau:

Gwariant Gros
            (£m)
Gwariant Gros
            (£m)
Gwariant Net
           (£m)
Gwasanaethau Canolog 53.195 57.932 50.345
Gwasanaethau Diwylliannol, Amgylcheddol a Chynllunio 101.528 86.615 63.626
Addysg a Gwasanaethau Plant 309.016 321.264 261.302
Gwasanaethau Priffyrdd, Ffyrdd a Thrafnidiaeth 35.609 36.665 25.116
Gwasanaethau Tai 109.103 111.379 3.514
Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion 184.806 195.516 136.551
Gwariant ar Wasanaethau 793.257 809.371 540.454

Trethi a godir ar gyfer:

     
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 0.162 0.167 0.167
Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru 15.185 15.598 15.598
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru 0.151 0.156 0.156
Gweddillion (-) / Diffygion y Cyfrif Masnachu 5.909 6.217 6.217
Llog Net a Newidiadau Cyfrifyddu Cyfalaf -22.745 -21.065 -21.065
Cyfraniadau i'r/o'r(-) Cronfeydd 0.000 0.000 0.000
Gwariant y Cyngor Sir 791.919 810.444 541.527

I'w ariannu drwy

     
Grant Cynnal Refeniw y Llywodraeth -307.213 -333.928  
Treth Annomestig Cenedlaethol -68.479 -66.178  
Grantiau/Ad-daliadau Penodol -98.607 -83.081  
Ffioedd, Taliadau ac Incwm Arall -182.797 -185.836  
Talwyr Treth y Cyngor -134.823 -141.421  
  -791.919 -810.444  

Rydym yn bwriadu gwario £68m yn 2026/27 ar brosiectau cyfalaf (£94.7m yn 2025/26), a ariennir o’r ffynonellau canlynol:

Ffynonellau   £m
Benthyciadau 29.2
Symiau a Neilltuwyd o Refeniw 4.5
Derbyniadau Cyfalaf o Werthu Asedau 2.2
Cymorth Grant 32.1
Cyfanswm    68.0

Mae angen cronfeydd cyffredinol (neu falansau) i ganiatáu ar gyfer lefelu’r codi a’r gostwng sy’n digwydd mewn gweithgareddau ariannol unrhyw flwyddyn.

Amcangyfrifir y bydd gweddillion o’r fath tua £15.2m ar y 31 Mawrth 2027 (£15.2m ar y 31 Mawrth 2026).

Rydym hefyd wedi rhoi cronfeydd eraill o’r neilltu i gwrdd â gwariant penodol ac amcangyfrifir y bydd eu cyfanswm hwy yn £58.5m ar yr 31 Mawrth 2027 (£94.9m ar yr 31 Mawrth 2026).

Cyngor Tref / Cymuned

Praesept 2025/26
(£)

Praesept 2026/27
(£)

Treth Cyngor Band D 2026/27
(£)

Abergwili 33,000.00 34,000.00 45.21
Abernant 4,500.00 4,500.00 33.17
Betws 62,000.00 67,000.00 73.76
Bronwydd 15,060.00 14,978.00 53.00
Caerfyrddin 927,929.00 953,111.00 161.90
Castell Newydd Emlyn 34,454.32 35,315.66 73.32
Cenarth 9,000.00 9,000.00 15.64
Cilycwm 8,000.00 8,000.00 32.17
Cilymaenllwyd 13,000.00 15,000.00 41.58
Cwarter Bach 141,095.00 162,109.00 164.66
Cwmaman 395,794.00 443,159.18 269.29
Cydweli 337,020.00 343,780.00 236.23
Cynwyl Elfed 22,077.60 24,882.00 53.43
Cynwyl Gaeo 8,000.00 9,500.00 21.01
Dyffryn Cennen 30,000.00 40,000.00 71.43
Eglwys Gymyn 6,500.00 6,500.00 32.65
Gorslas 135,894.00 140,748.00 65.44
Hendy-gwyn 65,148.00 65,148.00 78.50
Henllanfallteg 12,650.00 9,500.00 40.31
Llanarthne 25,930.90 23,100.86 50.56
Llanboidy 41,421.00 41,663.63 92.28
Llanddarog 20,630.81 17,757.61 30.90
Llanddeusant 5,500.00 5,775.00 44.04
Llanddowror a Llanmiloe 19,800.00 19,987.00 52.95
Llandeilo 93,755.00 98,898.00 118.63
Llandybie 193,860.00 200,645.00 44.07
Llandyfaelog 31,000.00 34,000.00 52.51
Llanedi 587,493.00 616,506.00 256.03
Llanegwad 18,000.00 18,000.00 23.97
Tref Llanelli 1,537,500.00 1,537,500.00 169.20
Llanelli Wledig 1,568,545.00 1,689,500.00 196.26
Llanfair-ar-y-Bryn 4,000.00 4,500.00 15.46
Llanfihangel Aberbythych 25,000.00 21,100.00 34.54
Llanfihangel Rhos-y-corn 7,500.00 8,000.00 35.67
Llanfihangel-ar-Arth 53,000.00 53,000.00 54.80
Llanfynydd 9,000.00 9,500.00 40.25
Llangadog 25,000.00 23,000.00 34.83
Llangain 19,639.00 25,261.00 83.05
Llangathen 9,500.00 10,250.00 36.88
Llangeler 32,245.47 33,051.60 21.67
Llangennech 313,738.00 328,290.00 163.95
Llangyndeyrn 98,217.92 103,128.82 61.85
Llangynin 10,600.00 10,722.00 77.55
Llangynnwr 56,122.00 56,122.00 47.98
Llangynog 8,000.00 8,500.00 34.32
Llanismel 39,831.00 42,848.00 50.00
Llanllawddog 8,481.00 8,803.00 23.75
Llanllwni 15,683.00 15,683.00 47.63
Llannewydd a Merthyr 6,500.00 7,000.00 21.55
Llannon 561,515.08 624,280.89 303.67
Llanpumsaint 11,776.92 11,851.79 34.50
Llansadwrn 12,500.00 12,500.00 50.65
Llansawel 9,500.00 9,500.00 44.87
Llansteffan a Llanybri 23,500.00 27,000.00 43.05
Llanwinio 6,000.00 6,000.00 27.40
Llanwrda 15,000.00 20,000.00 82.66
Llanybydder 70,000.00 62,000.00 97.75
Llanycrwys 3,000.00 3,750.00 35.28
Llanymddyfri 79,000.00 92,000.00 110.06
Manordeilo a Salem 15,000.00 15,000.00 18.40
Meidrim 12,500.00 12,625.00 47.63
Myddfai 3,765.30 4,100.00 21.02
Pen-bre a Phorth Tywyn 877,000.00 939,885.00 273.69
Pencarreg 13,500.00 13,500.00 23.78
Pentywyn 7,884.00 8,217.90 45.00
Pontyberem 131,669.75 135,908.75 129.18
Rhydaman 471,064.27 511,447.25 255.82
Sanclêr 119,656.77 127,434.46 91.43
Talacharn 33,511.87 37,000.00 59.61
Talyllychau 13,000.00 12,000.00 46.36
Trelech a'r Betws 0.00 0.00 0.00
Trimsaran 91,646.00 96,379.43 107.80
       

 

Mae Llywodraeth Cymru yn pennu Asesiad Gwariant Safonol ar ein cyfer. Dyma’r swm y mae Llywodraeth Cymru yn asesu sydd ei angen, mewn termau cymharol, i ddarparu lefel safonol o wasanaeth yn yr ardal. Nodir isod yr asesiad ar gyfer 2026/27 ynghyd â chymhariaeth â'n gofynion cyllidebol: 

Asesiad/Gofynion Cyllidebol        (£m)

Treth Cyngor Band D

(£)

Asesiad Gwariant Safonol  545.375 1,881
Gofynion Cyllidebol (gan gynnwys Praeseptau Cymuned) 551.493 1,964

Mae'r Cyngor yn pennu'r tâl ar eiddo sy'n lefel Band D ond bydd y symiau a delir ar eiddo mewn bandiau eraill yn fwy neu'n llai yn ôl y cymarebau canlynol.

Band Prisio A B C D E F G H I
Cyfran o'r Dreth 6/9 7/9 8/9 9/9 11/9 13/9 15/9 18/9 21/9
Y Cyngor Sir (£) 1,220.65 1,424.09 1,627.53 1,830.97 2,237.85 2,644.73 3,051.62 3,661.94 4,272.26
Heddlu Dyfed Powys (£) 258.42 301.49 344.56 387.63 473.77 559.91 646.05 775.26 904.47
Cynghorau Cymuned (cyfartaledd) (£) 88.40 103.13 117.87 132.60 162.07 191.53 221.00 265.20 309.40

Mae’r wybodaeth a roddir isod yn esbonio rhai o’r termau y gellir eu defnyddio ar yr hysbysiad galw am dalu ardreth annomestig ac yn yr wybodaeth ategol. Gellir cael mwy o wybodaeth ynghylch rhwymedigaeth i dalu ardrethi annomestig gan awdurdodau bilio.

Mae ardrethi annomestig a gesglir gan awdurdodau bilio yn cael eu talu i mewn i gronfa ganolog a’u hailddosbarthu i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac i awdurdodau heddlu. Bydd eich cyngor a’ch awdurdod heddlu yn defnyddio eu cyfrannau o’r incwm ardrethi a ailddosbarthwyd, ynghyd ag incwm oddi wrth y rhai sy’n talu’r dreth gyngor iddynt, y grant cynnal refeniw a ddarperir gan Weinidogion Cymru a symiau penodol eraill, i dalu am y gwasanaethau a ddarperir ganddynt.

Gosodir gwerth ardrethol eiddo annomestig yn y rhan fwyaf o achosion gan swyddog prisio annibynnol o Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Caiff pob eiddo annomestig ei ail brisio bob 5 mlynedd. O 1 Ebrill 2023 mae gwerth ardrethol eiddo yn cynrychioli ei werth rhentol blynyddol ar y farchnad agored fel yr oedd ar 1 Ebrill 2021. Yn achos eiddo cyfansawdd sy’n rhannol ddomestig ac yn rhannol annomestig, ymwneud â’r rhan annomestig yn unig y mae’r gwerth ardrethol.

Dangosir gwerth mwyafrif yr eiddo y mae ardreth yn daladwy i’ch awdurdod arno yn y rhestr ardrethi leol, y gellir archwilio copi ar wefan y Swyddfa Brisio neu drwy ffonio 03000 505505.

Os hoffech herio'r Gwerth Ardrethol a neilltuwyd i'ch eiddo, gellir gwneud hyn drwy'r broses Gwirio, Herio Apeliadau:

mwy o wybodaeth

Gall y gwerth ardrethol newid os cred y swyddog prisio fod amgylchiadau'r eiddo wedi newid. Gall y trethdalwr (a rhai eraill sydd â diddordeb yn yr eiddo) hefyd mewn rhai amgylchiadau penodol gynnig newid mewn gwerth. Os nad yw'r trethdalwr a'r swyddog prisio yn cytuno ar y prisiad, bydd y mater yn cael ei gyfeirio fel apêl i Dribiwnlys Prisio. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gynnig newid mewn gwerth ardrethol ar gael gan y Swyddfa Brisio.

Mae gwybodaeth am yr amgylchiadau y gellir cynnig newid yn y gwerth ardrethol ac am sut y gellir gwneud cynnig o’r fath ar gael gan y swyddfa brisio leol a ddangosir uchod. Mae mwy o wybodaeth am y trefniadau apelio ar gael gan Cyngor Sir Gâr neu gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar gwefan Swyddfa Brisio.

Dyma’r gyfradd yn y bunt y lluosir y gwerth ardrethol â hi i roi swm y bil ardrethol blynyddol ar gyfer eiddo. Mae’r lluosydd a bennir bob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru yr un fath ar gyfer Cymru gyfan ac, ag eithrio mewn blwyddyn ailbrisio, ni all godi o fwy na chyfradd y cynnydd yn y mynegai prisiau manwerthu.

Ar 1 Ebrill 2011 mae’r trothwy eithrio o ran Gwerth Trethiannol wedi gostwng i £2,600.

Gall perchenogion eiddo annomestig sydd heb ei feddiannu fod yn agored i dalu ardrethi eiddo gwag a godir yn ôl 100 y cant o’r rhwymedigaeth arferol. Mae’r rhwymedigaeth yn dechrau pan fydd yr eiddo wedi bod yn wag am 3 mis, neu, yn achos ffatrioedd a warysau, pan fydd yr eiddo wedi bod yn wag am 6 mis. Mae mathau penodol o eiddo wedi’u heithrio rhag ardrethi eiddo gwag.

Mae hawl gan elusennau a chlybiau chwaraeon cymunedol amatur i gael rhyddhad o 80% o ardrethi ar unrhyw eiddo annomestig—

  • yn achos elusen, os defnyddir yr eiddo yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion elusennol, neu
  • yn achos clwb, os yw’r clwb wedi’i gofrestru gyda Chyllid a Thollau EM.

Mae gan awdurdodau bilio ddisgresiwn i beidio â chodi rhan neu’r cyfan o’r 20 y cant sy’n weddill o’r bil ar eiddo o’r fath a chaiff hefyd roi rhyddhad ar eiddo a feddiennir gan gyrff penodol nad ydynt wedi’u sefydlu nac yn cael eu rhedeg i wneud elw.

Am fwy o wybodaeth ynghylch clybiau dylech gysylltu â:

  • Inland Revenue Charities, Sport Clubs Unit, St. Johns House, Bootle L69 9BB (0845 3020203)
  • A’i wefan yw:- www.hmrc.gov.uk

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau i'r cynllun a fydd yn dod i rym ar 1af Ebrill 2018. Disgrifir y cynllun diwygiedig isod:

  • Bydd hawl o hyd gan safleoedd busnes sydd â Gwerth Ardrethol nad yw'n fwy na £6,000 i gael rhyddhad o 100%.
  • Hefyd nid oes newid ar gyfer safleoedd busnes sydd â Gwerth Ardrethol dros £6,000, hyd at y terfyn Gwerth Ardrethol uwch o £12,000, lle bydd rhyddhad yn gostwng yn raddol ar raddfa o oddeutu 1% am bob £60 o Werth Ardrethol e.e. bydd eiddo â Gwerth Ardrethol o £6,120 yn cael rhyddhad o 98%; bydd eiddo â Gwerth Ardrethol o £6,600 yn cael rhyddhad o 90%.

(Bydd y rhyddhad a amlinellir uchod yn berthnasol i bob math o fusnes, ac nid i rai adwerthu yn unig. Er bod rhai categoriau o dalwyr treth yn cael eu eithrio , gan gynnwys awdurdodau lleol a sefydliadau elusennol.)

  • Bydd hawl o hyd gan safleoedd gofal plant sydd â Gwerth Ardrethol nad yw'n fwy na £6,000 i gael rhyddhad o 100%.
  • Ar gyfer safleoedd gofal plant sydd â gwerth ardrethol dros £6,000, a hyd at derfyn Gwerth Ardrethol uwch cynyddol o £20,500, bydd rhyddhad yn gostwng yn raddol o 100% i sero.
  • Bydd hawl gan Swyddfeydd Post sydd â Gwerth Ardrethol nad yw'n fwy na £9,000 i gael rhyddhad o 100%; bydd hawl gan y rheiny sydd â Gwerth Ardrethol uwch na £9,000 hyd at £12,000 i gael rhyddhad o 50%.

Fodd bynnag, o dan y rheolau newydd, bydd trethdalwr ond yn gallu cael rhyddhad ar gyfer hyd at ddau eiddo mewn un awdurdod lleol (mae eiddo gofal plant a swyddfeydd post wedi'u heithrio o'r cyfyngiad hwn). Mewn achosion o'r fath rhaid i'r trethdalwr roi gwybod i'r Cyngor am yr hereditamentau hynny.

Cofiwch na fydd safleoedd talwyr ardrethi sy'n elusennau neu'n sefydliadau dielw ac sydd â hawl i wneud cais am ryddhad "elusennol" gorfodol neu yn ôl disgresiwn, yn gymwys i gael Rhyddhad Busnesau Bach. Mae'n rhaid bod adeilad y busnes yn cael ei ddefnyddio yn ei gyfanrwydd er mwyn bod yn gymwys i gael rhyddhad.

Llwythwch mwy