Trwydded delwyr metel sgrap

Er mwyn gweithredu fel deliwr neu gasglwr metel sgrap yn Sir Gaerfyrddin mae'n rhaid i chi gael trwydded wrthym. Mae gweithredu heb drwydded briodol yn drosedd y gallwch gael eich erlyn amdani a derbyn dirwy o hyd at £5,000.

Mae dau fath o drwydded:

Trwydded Safle:

  • Byddwn yn darparu trwydded safle os yw eich safle wedi'i leoli yn Sir Gaerfyrddin.
  • Nodwch gyfeiriad llawn pob safle lle'r ydych chi, fel trwyddedai, yn bwriadu gweithredu eich busnes fel deliwr metel sgrap. Yn ogystal, rhaid enwi rheolwr safle ar gyfer pob safle.
  • Bydd angen trwydded safle arnoch er mwyn tynnu darnau oddi ar gerbydau i'w gwerthu neu eu defnyddio i drwsio cerbydau eraill.

Trwydded Casglwr Teithiol:

  • Bydd trwydded casglwr teithiol a roddir gennym ni yn awdurdodi’r trwyddedai i weithredu fel casglwr yn Sir Gaerfyrddin yn unig.
  • Os ydych chi'n bwriadu casglu sgrap o ardal unrhyw awdurdod lleol arall mae'n rhaid i chi gael trwydded ar wahân gan yr awdurdod lleol perthnasol.
  • Bydd angen trwydded Casglwr Teithiol arnoch er mwyn cludo cerbydau diwedd oes.

Dim ond un math o drwydded y gallwch chi ei dal (Trwydded Safle neu Gasglwr) a fydd yn para am dair blynedd. Bydd y dyddiad dod i ben yn cael ei ddangos ar eich trwydded.

Yn ogystal bydd angen ichi gael Trwydded Cludo Gwastraff wrth Gyfoeth Naturiol Cymru er mwyn gallu casglu metel sgrap.

Nid oes cyfyngiad o ran ble gallwch gludo, pwyso neu werthu eich metelau.

I grynhoi, diffiniad y Ddeddf o “ddeliwr metel sgrap” yw rhywun sy'n rhedeg busnes fel deliwr metel sgrap, p’un a yw hynny wedi’i awdurdodi gan drwydded neu beidio. Mae’n nodi ymhellach fod metel sgrap yn cynnwys y canlynol:

  • Unrhyw hen fetel neu ddeunydd metelig gwastraff neu wedi’i waredu, ac
  • Unrhyw gynnyrch, eitem neu gydosodiad a wnaed o fetel neu sy’n cynnwys metel, ac sydd wedi torri, wedi treulio, neu y mae’r deiliad diwethaf yn barnu ei fod wedi cyrraedd diwedd ei oes ddefnyddiol

Ni fernir bod y canlynol yn fetel sgrap:

  • Aur
  • Arian
  • Aloi y mae 2 y cant neu fwy o’i bwysau yn aur neu’n arian

Os ydych chi'n ddeliwr metel sgrap mae'n rhaid i chi arddangos copi o'ch trwydded bob amser:

  • Yn achos gweithredwyr safle rhaid iddi fod mewn man amlwg, mewn ardal y mae’r cyhoedd yn mynd iddo
  • Yn achos casglwyr teithiol, rhaid iddi fod mewn lle y gall person y tu allan i’r cerbyd ddarllen y     drwydded yn hawdd

Mae methu â bodloni'r gofynion hyn yn drosedd.

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ddelwyr metel sgrap wirio pwy yw’r person yr ydych yn derbyn metel oddi wrtho/wrthi a'r cyfeiriad. Rhaid cyflawni’r gwirio hyn trwy gyfeirio at ddogfennau dibynadwy, megis pasbort, trwydded yrru a bil banc neu gyfleustod. Mae'n drosedd peidio â chanfod pwy yw’r gwerthwr a gwirio hynny.

Rhaid cadw cofnodion ynghylch unrhyw fetel sgrap a dderbynnir, gwerthir, cyfnewidir neu a waredir gennych fel rhan o’ch busnes. Mae hyn yn cynnwys:

  • Y math o fetel sy’n cael ei brynu
  • Amser a dyddiad y trafodyn
  • Gwybodaeth bersonol am y gwerthwr
  • Pwy sy’n gweithredu ar ran y deliwr
  • Prawf o’r trafodyn na ddefnyddiwyd arian parod ar ei gyfer

Ni allwch ddefnyddio arian parod i brynu a gwerthu metel sgrap gan nad yw Deddfwriaeth Delwyr Metel Sgrap 2013 yn caniatáu defnyddio arian parod yn y diwydiant hwn.

Rhoddwyd pwerau i ni a'r heddlu fynd i mewn i safleoedd a’u harchwilio. Fel awdurdod trwyddedu mae'n rhaid inni fod yn fodlon eich bod chi'n berson addas i redeg busnes deliwr metel sgrap. Wrth ystyried addasrwydd, rhaid inni ymgynghori â’r canlynol:

  • Unrhyw awdurdod lleol arall, os ydych hefyd yn gwneud cais iddynt hwy
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Yr heddlu

Byddwn yn asesu’r meini prawf canlynol:

  • A ydych chi neu unrhyw reolwr safle wedi eich cael yn euog o unrhyw ‘drosedd berthnasol’
  • A ydych chi neu unrhyw reolwr safle wedi bod yn destun unrhyw gamau gorfodi perthnasol
  • Unrhyw achos blaenorol o wrthod rhoi neu adnewyddu trwydded metel sgrap
  • Unrhyw achos blaenorol o wrthod hawlen neu gofrestriad amgylcheddol
  • Unrhyw achos blaenorol o ddirymu trwydded metel sgrap
  • A ydych chi wedi dangos y bydd gweithdrefnau digonol i gydymffurfio â’r Ddeddf

Bydd pob un o’r uchod yn berthnasol i unrhyw gyfarwyddwr neu ysgrifennydd cwmni, os nad ydych yn unigolyn.

Daeth Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013 i rym ar 1 Hydref 2013. Mae’r Ddeddf hon yn cynnwys delwyr metel sgrap a gweithredwyr arbed rhannau moduron ill dau o dan un trefniant trwyddedu. Rydym yn parhau i weithredu fel prif reoleiddiwr, ond mae’r Ddeddf newydd yn rhoi mwy o bwerau, megis gwrthod, neu ddirymu trwydded os bernir bod y deliwr yn anaddas.

Cyn cyflwyno ffurflen gais, mae'n rhaid ichi:

Bydd y cais yn cymryd hyd at wythnos neu bythefnos i'w brosesu. Mae'n rhaid ichi anfon bob dogfen ynghyd â'r cais, neu, ni fydd modd inni ei brosesu.

Mae'n rhaid ichi adnewyddu eich Trwydded Safle a Chasglwr Teithiol bob tair blynedd. Dylech gysylltu â ni o leiaf ddau fis cyn i'ch trwydded ddod i ben er mwyn rhoi amser inni brosesu'ch cais adnewyddu.

Os ydych yn gwneud cais am Drwydded Casglwr Teithiol: Ar ôl cwblhau'r cais, byddwn yn anfon eich Trwydded Casglwr a dau 'Lyfr Cofnodion Delwyr Metel Sgrap Cofrestredig' atoch. Rhaid cadw cofnodion am ddwy flynedd gan ddechrau o'r diwrnod y gwnaed y cofnod olaf yn y llyfr.

Os oes angen rhagor o Lyfrau Cofnodi Delwyr Metel Sgrap arnoch, gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 01267 234567. Cost y llyfrau yw £5 yr un.

Dylid dychwelyd pob cais wedi'i gwblhau at:

Cyngor Sir Gaerfyrddin
Ty Parcyrhun
Ffordd y Rhyd
Rhydaman
Sir Gaerfyrddin
SA18 3FB

Ffurflen Gais            Ffurflen Gydsynio

Cais Trwydded safle Trwydded casglwr Teithiol
Newydd £380 £260
Adnewyddu £320 £260
Amrywio £60 £60

Cyflwynodd Deddf Cyllid 2021 wiriadau treth fel rhan o geisiadau i adnewyddu trwydded sgrap o 4 Ebrill 2022. Bellach bydd gofyn i chi ddarparu Côd Gwirio Treth i'r Awdurdod Lleol wrth adnewyddu trwydded safle neu drwydded casglwr teithiol. 

Bydd angen i chi ddarparu Côd Gwirio Treth os ydych chi'n:

  • Adnewyddu eich trwydded 
  • Neu'n gwneud cais am drwydded oedd gennych yn flaenorol, a oedd wedi peidio â bod yn ddilys lai na blwyddyn yn ôl 
  • Neu'n gwneud cais am drwydded sgrap os ydych eisoes yn ddeiliad trwydded sgrap gydag awdurdod trwyddedu arall 

Gellir cwblhau'r Gwiriad Treth trwy wefan GOV.UK trwy eich Cyfrif Porth y Llywodraeth. Gweler y ddolen isod. Os nad oes gennych gyfrif Porth y Llywodraeth, gallwch gofrestru ar wefan GOV.UK. Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch neu os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gallwch gwblhau'r gwiriad treth trwy wneud galwad ffôn trwy linell gymorth CThEM i gwsmeriaid. 

Canllawiau ynghylch cwblhau gwiriad treth:

https://www.gov.uk/guidance/changes-for-taxi-private-hire-or-scrap-metal-licence-applications-from-april-2022

Dolen i gynnal gwiriad treth:

https://www.gov.uk/guidance/complete-a-tax-check-for-a-taxi-private-hire-or-scrap-metal-licence

Llinell ffôn CThEM ar gyfer unigolion: 0300 200 3300
Llinell ffôn CThEM ar gyfer cwmnïau: 0300 200 3410

Bydd y Gwiriad Treth yn gofyn cwestiynau am sut rydych chi'n talu unrhyw dreth a allai fod yn ddyledus ar incwm rydych chi'n ei ennill o'ch masnach drwyddedig. 

Ar ôl i'r Gwiriad Treth gael ei gwblhau, byddwch yn cael côd 9 nod. Bydd angen i chi roi'r côd hwn i ni. Ni allwn fwrw ymlaen â'r gwaith o adnewyddu eich trwydded hyd nes ein bod wedi cael y Côd Gwirio Treth hwn. Bydd y côd hwn ond yn rhoi cadarnhad i ni eich bod wedi cwblhau'r Gwiriad Treth. Ni fyddwn yn cael unrhyw wybodaeth mewn perthynas â'ch treth neu eich materion ariannol. 

Drwy ddarparu eich côd gwirio treth Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi i ni, rydych yn cydsynio i'r Cyngor gadarnhau gyda Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi eich bod wedi cynnal gwiriad treth. Ni fyddwch yn cael trwydded os na fyddwch yn darparu côd gwirio treth.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am dreth, mae croeso ichi gysylltu â CThEM yn uniongyrchol.