Gwneud cais am adolygiad
Diweddarwyd y dudalen ar: 26/08/2025
Gall unrhyw un o'r Awdurdodau Cyfrifol, neu unrhyw berson arall wneud cais am adolygiad. Mae'n rhaid i adolygiad fod yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn berthnasol i un neu fwy o'r amcanion trwyddedu, sydd fel a ganlyn:
- Atal Troseddu ac Anhrefn
- Diogelu'r Cyhoedd
- Atal Niwsans Cyhoeddus
- Amddiffyn Plant rhag Niwed
Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch y broses cais am adolygiad yn ein Polisi Trwyddedu, yn y Canllawiau Statudol A182 yn ogystal ag ar wefan Y Swyddfa Gartref.
Os ydych yn ystyried gwneud cais am adolygu trwydded safle, rydym yn eich cynghori i gysylltu â ni am gyngor ac arweiniad.
Ar ôl i gais am adolygiad gael ei gyflwyno, gall unrhyw awdurdod cyfrifol neu unrhyw berson arall gyflwyno sylwadau ynghylch y cais hwnnw.