Trwydded loteri
Diweddarwyd y dudalen ar: 27/08/2025
Weithiau cyfeirir at loterïau fel raffl, tôt, tynnu enw o het a thombola. Maent yn fodd i gymdeithasau a sefydliadau eraill cymwys godi arian. Gellir diffinio loteri fel dosbarthu gwobrau ar sail siawns neu fwrw coelbren.
Er mwyn cynnal loterïau, rhaid i gymdeithasau gofrestru gyda'r cyngor yn yr ardal lle mae eu prif swyddfa. Ni allwn gofrestru cymdeithasau heblaw'r rhai a sefydlwyd at un neu fwy o'r dibenion canlynol:
- at ddibenion elusennol
- at ddiben galluogi cyfranogiad mewn, neu gefnogi, chwaraeon, athletau neu weithgaredd diwylliannol
- at unrhyw ddiben anfasnachol arall ac eithrio elw preifat
Fodd bynnag, os yw gwerth yr holl docynnau a werthir yn fwy nag £20,000.00 ar gyfer un gystadleuaeth, neu'n fwy na £250,000.00 ar gyfer y flwyddyn galendr gyfan, rhaid i'r gymdeithas gofrestru gyda'r Comisiwn Hapchwarae.
Gwneud cais am drwydded
Fe'ch cynghorir i ddarllen y canllawiau a'r dogfennau polisi perthnasol a chysylltu â'r adran drwyddedu gydag unrhyw ymholiadau cyn cwblhau cais.
Rhaid i chi wneud eich cais yn bersonol yn un o'n canolfannau gwasanaeth cwsmeriaid. Bydd angen i chi ddarparu'r eitemau canlynol:
- Ffurflen gais wedi'i chwblhau
- Dogfennau ategol
- Ffi
Ffurflenni manylion loteri
Mae'n ofynnol i gymdeithasau cofrestredig gwblhau a chyflwyno ffurflen fanylion ar gyfer pob loteri unigol. Rhaid cyflwyno'r ffurflen cyn pen tri mis wedi dyddiad y loteri.
Adnewyddu'ch trwydded
Bydd cofrestriad cymdeithas ar gyfer loterïau yn dod i ben wedi 12 mis, oni thelir y ffi flynyddol ar ben-blwydd caniatáu'r cofrestriad neu cyn hynny. Gallwch dalu drwy siec (yn daladwy i "Cyngor Sir Caerfyrddin) neu dros y ffôn gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd.