Trwyddedau safleoedd hapchwarae
Diweddarwyd y dudalen ar: 27/08/2025
Rydym yn cyflwyno trwyddedau safleoedd hapchwarae a gallwn awdurdodi darparu cyfleusterau hapchwarae yn y mannau canlynol:
- Safleoedd casino
- Safleoedd bingo
- Safleoedd betio, gan gynnwys caeau rasio
- Canolfannau hapchwarae i oedolion
- Canolfannau adloniant teulu
Ac eithrio yn achos caeau rasio lle efallai nad deiliad y cae rasio sy'n meddu ar y drwydded safle yw'r sawl sy'n cynnig yr hapchwarae, gellir ond rhoi trwyddedau safle i bobl â thrwydded gweithredydd hapchwarae berthnasol. Er enghraifft, i gael trwydded safle bingo, rhaid i'r ymgeisydd feddu ar drwydded gweithredu bingo. Mae modd trosglwyddo trwyddedau safle i rywun arall sy'n meddu ar drwydded weithredu ddilys.
Ffioedd
Mae ffi flynyddol ar gyfer trwydded safle yn daladwy yn y flwyddyn gyntaf, 30 diwrnod ar ôl caniatáu'r hawlen, ac yna bob blwyddyn ddilynol ar ben-blwydd cyflwyno'r hawlen.
Gwneud cais am drwydded safle
Fe'ch cynghorir i ddarllen y canllawiau a'r dogfennau polisi perthnasol a chysylltu â'r adran drwyddedu gydag unrhyw ymholiadau cyn cwblhau cais.
Rhaid i chi wneud eich cais mewn person yn un o'n canolfannau gwasanaeth cwsmeriaid. Bydd angen i chi ddarparu'r eitemau canlynol:
- Ffurflen gais wedi'i chwblhau
- Dogfennau ategol
- Ffi