Beicio ar y Ffyrdd

Diweddarwyd y dudalen ar: 03/01/2023

Gyda rhwydwaith ffyrdd 3,487km (yr 2il hiraf yng Nghymru) mewn lleoliadau arfordirol a chefn gwlad a llwyth o lety addas i feicwyr, rydym (gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru) yn cyflawni ymgyrch farchnata i ddenu beicwyr ffordd i feicio ac aros yn Sir Gaerfyrddin.

Gyda rhwydwaith ffyrdd 3,487km (yr 2il hiraf yng Nghymru) mewn lleoliadau arfordirol a chefn gwlad a llwyth o lety addas i feicwyr, rydym wedi creu ymgyrch farchnata i ddenu beicwyr ffordd i feicio ac aros. Dyma gynulleidfa darged sy'n cynyddu, sydd â gwariant uchel ac nid yw'n dymhorol, lle mae gennym gynnig hynod gystadleuol o ran cynnyrch

Beicio yw un o'r gweithgareddau hamdden sy'n tyfu gyflymaf ledled y wlad, ac mae wedi tyfu yn sgil Covid-19 hefyd. Dyma gynulleidfa darged sy'n cynyddu, sydd â gwariant uchel ac nid yw'n dymhorol, lle mae gennym gynnig hynod gystadleuol o ran cynnyrch. Mae'n fath o dwristiaeth y gall cymunedau fanteisio ar gyfleoedd datblygu economaidd cynaliadwy ac mae'n arbennig o fuddiol i gymunedau gwledig gan fod y twristiaid hyn yn tueddu i chwilio am ffyrdd gwledig prydferth, golygfeydd oddi ar y llwybrau cyfarwydd. Gan eu bod yn beicio ac yn teithio'n arafach, byddant yn aros yn hirach mewn ardal yn ogystal â gwario mwy ar wasanaethau. Mae beicio hefyd yn cyfrannu at well iechyd cymunedol a'r cynilon cysylltiedig, llai o dagfeydd, iechyd yr amgylchedd a phobl hapusach.

Mae'r camau gweithredu hyd yn hyn yn cynnwys: creu a dychmygu 6 llwybr allweddol gan gyn-feiciwr proffesiynol, creu fforwm beicio ar draws y sir a threialu grŵp tref (Llanymddyfri), cynnal ras beicio ar y ffordd mwyaf y DU i ddynion a menywod a chael sylw mewn papurau newydd a chylchgronau fel Men's Health a'r Guardian.