Fforwm Twristiaeth Gynaliadwy Sir Gâr

Mae twristiaeth yn darparu cyfraniad economaidd sylweddol i Sir Gâr; y gwariant cysylltiedig â thwristiaeth oedd £730miliwn yn 2024. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhanddeiliad pwysig wrth gefnogi sector twristiaeth cynaliadwy, gan weithredu fel y corff statudol ar gyfer gwasanaethau fel cynllunio, iechyd y cyhoedd a phriffyrdd, rheoli atyniadau ymwelwyr allweddol fel theatrau, traethau, amgueddfeydd, pyllau nofio a pharciau gwledig yn ogystal â hwyluso'r gwaith o ddarparu neu wella seilwaith a busnes. Rydyn ni hefyd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o'r Sir fel cyrchfan i dwristiaid, gan gynnal gweithgareddau marchnata i gefnogi gwaith Croeso Cymru a Visit Britain.

Yn 2026 rydyn ni eisiau ymgysylltu mwy â rhanddeiliaid lleol drwy sefydlu Fforwm Twristiaeth Gynaliadwy, a'r pwrpas fydd:

  • cynnwys partneriaid allweddol yn ein gwaith, i ystyried materion gweithredol ymarferol, gan gynnwys heriau a chyfleoedd 
  • ennill mewnwelediad rhanddeiliaid perthnasol, cefnogi cynllunio a chyflawni strategaethau a gweithgareddau a fydd yn cynorthwyo twf parhaus mewn ansawdd ac effaith economaidd ar draws y Sir
  • trafod effaith leol ac unrhyw gamau angenrheidiol ar gyfer penderfyniadau polisi cenedlaethol yn ogystal â materion sector ehangach fel sgiliau. 
  • darparu proses gyfathrebu ddwyffordd effeithiol rhwng gwahanol segmentau o'r sector, preifat, cyhoeddus a chymunedol, gan ymhelaethu ar negeseuon allweddol i'r holl grwpiau rhanddeiliaid.

Bydd aelodaeth y fforwm yn cynnwys aelodau gwirfoddol o ystod o sefydliadau sy'n cynnig ystod o brofiad, arbenigedd a safbwyntiau ar y sector twristiaeth a fydd yn helpu i gefnogi nodau datganedig. Er y gall aelodau ychwanegol gael eu hychwanegu at y grŵp yn y dyfodol, bydd y gynrychiolaeth gychwynnol yn dod o'r canlynol:

  1. Gwestai (cadwyn ac annibynnol) 
  2. Llety Gwely a Brecwast/Gwestai a hunanarlwyo 
  3. Carafanau / gwersylla / hostelau
  4. Tafarndai / bwytai 
  5. Digwyddiadau
  6. Atyniadau a lleoedd i ymweld â nhw (gyda thâl)
  7. Manwerthu

Y sector cyhoeddus a chymunedol i gynnwys cynrychiolaeth o gyrff cenedlaethol megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru (gan gynnwys CADW) yn ogystal â Chynghorau Trefi a Chymuned lleol.

Pan fydd angen, bydd cynrychiolaeth yn cynnwys swyddogion y Cyngor Sir o feysydd gwastraff, priffyrdd, seilwaith, hamdden, diwylliant, hamdden awyr agored, cynllunio, hawliau tramwy, bioamrywiaeth, datblygu economaidd, trwyddedu, materion busnes a marchnata.

Gofynnir i'r aelodau wneud y canlynol:

  • Darparu adborth a sylwadau ar waith prosiect a chanllawiau drafft
  • Ystyried a chynghori ar gyfleoedd a bygythiadau posibl i'r sector
  • Rhannu gwaith y fforwm yn effeithiol â'r segment y maent yn ei gynrychioli, gan gynnig pynciau sgwrs a fyddai'n fuddiol i'w trafod mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

Trefniadau Llywodraethu 

Bydd y Fforwm yn cael ei gadeirio gan aelod Cabinet y Cyngor Sir dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth a bydd yn gyfarfod wyneb yn wyneb. Bydd trafodaeth a dogfennau yn cael eu rhannu i'w lledaenu'n ehangach gydag ysgrifenyddiaeth, cymorth gweinyddol a threfniadau ar gyfer cyfarfodydd a gwaith y fforwm a gydlynir gan swyddogion Datblygu Twristiaeth y Cyngor.

Bydd y fforwm yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn gydag opsiwn i alw cyfarfodydd ychwanegol ar fyr rybudd i drafod eitem benodol.

Sut i ddod yn aelod

Anfonwch eich enw, manylion cyswllt, y categori y mae gennych ddiddordeb mewn ei gynrychioli a heb roi mwy na 200 o eiriau, y profiad a'r gwerth y byddech chi'n eu cyfrannu i'r fforwm trwy e-bost i twristiaeth@sirgar.gov.uk . Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Huw Parsons drwy ffonio 07733 102318.

Adolygu

Rydyn ni'n bwriadu adolygu'r Cylch Gorchwyl yn flynyddol ar y cyd ar gyfer y fforwm hwn ac asesu a ydyn ni'n cyflawni'r nodau a fwriadwyd.

Sylwer

Mae Twristiaeth Gynaliadwy yn ystyried yn llawn ei heffeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol nawr ac yn y dyfodol, gan fynd i'r afael ag anghenion ymwelwyr, y diwydiant, yr amgylchedd a'r cymunedau lleol.

Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin y swyddogaethau canlynol mewn perthynas â hyrwyddo datblygiad twristiaeth yn Sir Gâr:

  1. annog pobl i ymweld â Sir Gâr
  2. annog preswylwyr i ymweld â lleoedd eraill yn y Sir
  3. darparu neu wella, neu hwyluso'r gwaith o ddarparu neu wella, amwynderau, cyfleusterau a gwasanaethau twristiaeth ledled y Sir
  4. darparu neu wella, neu hwyluso'r gwaith o ddarparu neu wella, seilwaith i'w ddefnyddio gan ymwelwyr yn Sir Gâr (p'un a yw hyn hefyd i'w ddefnyddio gan bobl leol ai peidio). 

Wrth arfer y swyddogaethau hyn, rhaid i Gyngor Sir Caerfyrddin ystyried pwysigrwydd

  • lliniaru effaith gymdeithasol ac amgylcheddol ymwelwyr.
  • cynnal a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg. 

Caiff Cyngor Sir Caerfyrddin wneud unrhyw beth y mae'n ei ystyried yn briodol, o fewn neu y tu allan i Sir Gâr, at ddibenion cyflawni ei swyddogaethau, gan gynnwys cyflawni, neu hwyluso, y gweithgareddau canlynol

  1. marchnata Sir Gâr fel cyrchfan i ymwelwyr
  2. darparu gwasanaethau ymgynghori a gwybodaeth am dwristiaeth
  3. ymgymryd ag ymchwil am dwristiaeth
  4. darparu cymorth ariannol (ar y telerau hynny y mae CSC yn ystyried eu bod yn briodol)