Ar gyfer pwy mae'r pecyn cymorth hwn?

Mae'r pecyn cymorth hwn ar gyfer busnesau yn y sector twristiaeth a lletygarwch, gan gynnwys darparwyr llety, caffis, tafarndai, siopau, a mwy. Ei bwrpas yw:

  • Rhoi trosolwg o'r cynnyrch a'r cyfleoedd presennol yn Sir Gâr sy'n gysylltiedig â beicio a'r rhai sydd i ddod.
  • Tynnu sylw at sut y gall busnesau ddenu'r farchnad feicio sy'n tyfu a chael budd ohoni.
  • Archwilio'r diwydiant digwyddiadau beicio a chael gwybod sut y gall eich busnes gymryd rhan.
  • Eich cysylltu ag adnoddau a chymorth defnyddiol i helpu eich busnes i ffynnu yn y sector twristiaeth feicio.

Mae twristiaeth beicio dros nos yng Nghymru yn farchnad sy'n tyfu - ac nid yw'n ymwneud â'r beicio yn unig. Mae beicwyr yn gwario arian ar lety, bwyd, trafnidiaeth, a mwy. Dyma beth mae'r data diweddaraf (2022–2023) yn ei ddweud wrthym:

Beicwyr Ffordd/Llwybr Llyfn

220,000 o deithiau dros nos bob blwyddyn ar gyfartaledd

Mae beicwyr yn aros 3.6 noson ar gyfartaledd

Cyfanswm gwariant blynyddol: £83 miliwn

Gwariant fesul taith: £376

Gwariant y noson: £103

Beicwyr Mynydd

122,000 o deithiau dros nos bob blwyddyn ar gyfartaledd

Arhosiad cyfartalog: 2.7 noson

Cyfanswm gwariant blynyddol: £29 miliwn

Gwariant fesul taith: £241

Gwariant y noson: £90

Mae beicwyr nid yn unig yn aros yn hirach ond hefyd yn gwario mwy ar gyfartaledd fesul taith, o lety i fwyd a theithio. Drwy ddarparu ar gyfer anghenion beicwyr - p'un a yw'n cynnig storio beiciau, darparu mapiau beicio, neu hyrwyddo digwyddiadau beicio lleol - gall eich busnes ddenu'r ymwelwyr gwerth uchel hyn a chreu sylfaen cwsmeriaid ffyddlon. Wrth i feicio barhau i dod yn fwyfwy poblogaidd, bydd sicrhau bod eich busnes yn addas ar gyfer beicwyr yn eich gwneud yn wahanol a bydd hyn yn dod â mwy o refeniw gan y grŵp egnïol a brwdfrydig hwn o deithwyr.

  • Rhwydwaith Ffyrdd Helaeth: Gyda 3,487 cilometr o ffyrdd, gan gynnwys lonydd gwledig hardd, mae Sir Gâr yn hafan i feicwyr ffordd sy'n awyddus i grwydro.

 

  • Llwybrau Beicio Epig: O'r Mynydd Du enwog i ddringfeydd syfrdanol a golygfeydd panoramig, mae Sir Gâr yn cynnig rhai o'r llwybrau beicio ffordd gorau yng Nghymru.

 

 

 

  • Llwybrau a Chylchffyrdd: Mae gan y sir ddau gyfleuster gwych: y felodrom hanesyddol yn nhref Caerfyrddin a'r gylchffordd gaeedig genedlaethol ym Mharc Gwledig Pen-bre. Mae'r ddau ohonyn nhw'n gymwys i gynnal sesiynau hyfforddi, cystadlaethau beicio a gweithgareddau hamdden.

 

  • Cyffro Digwyddiadau: Heb os, roedd cynnal Taith Prydain wedi rhoi'r sir ar y map, gan godi ein proffil fel cyrchfan o'r radd flaenaf, ac fel sir dra chymwys i gynnal digwyddiadau beicio o safon uchel. Mae llawer o ddigwyddiadau beicio a thriathlon llwyddiannus bellach yn cael eu trefnu'n flynyddol gan gynnwys Battle on the Beach, Grit Fest, Triathlon Byr Llanelli.

Beth am ymweld â lleoedd newydd ar feic? Mae beicio'n ffordd agos ac arbennig o brofi hanes, tirwedd a nodweddion lleol, y cyfan drwy gadw'n iach ac yn ffit. Mae hefyd yn cefnogi busnesau lleol ac yn helpu i leihau tagfeydd traffig, gan olygu bod ymwelwyr a chymunedau lleol ar eu hennill.

Wedi'i hybu gan lwyddiant Gemau Olympaidd Llundain a'r Tour de France, mae beicio wedi dod yn fusnes mawr yng Nghymru gyda theithiau beicio ffordd yn dod â £83 miliwn i'r economi a beicio mynydd yn dod â £29m. Mae'n cwmpasu 4 grŵp ymwelwyr craidd, pob un â'i anghenion penodol ei hun:

  1. Teithiol: Mae'r beicwyr hyn yn cychwyn ar lwybrau hirach, llwybrau llinellol neu gylchol, ac maen nhw fel arfer yn gofyn am gael aros am o leiaf un noson. Maen nhw fel arfer yn teithio ar feic neu gyfuniad o feic a thrên.
  2. Beicwyr Brwd: Beicwyr ffordd neu feicwyr mynydd sy'n teithio i le i gael seibiant byr neu fel rhan o daith aml-stop. Maen nhw fel arfer yn gyrru i'r ardal ac yn dilyn llwybrau lleol.
  3. Achlysurol: Teuluoedd neu gyplau a all feicio unwaith neu ddwywaith yn ystod gwyliau hirach. Maen nhw fel arfer yn teithio mewn car ac yn chwilio am daith hawdd a hamddenol. 
  4. Trip Undydd: Mae'r beicwyr hyn, gan gynnwys y rhai sy'n mynychu digwyddiadau beicio, yn ymweld â'r ardal am gyfnod byr ac nid oes angen llety dros nos arnyn nhw.