Ymchwil, tueddiadau a datblygu

Diweddarwyd y dudalen ar: 18/10/2022

Yn 2019, daeth 3.436 miliwn o ymwelwyr i Sir Gaerfyrddin, gan gynhyrchu bron £513 miliwn i'r economi leol. Treuliwyd dros 7.023 miliwn o ddyddiau twristiaid yn y Sir, ac roedd 1.121 miliwn o bobl wedi aros yn un o'r 1,200 o sefydliadau. Mae’r newidiadau ar gyfer 2008 - 2018 (%) fel a ganlyn:

  • Effaith economaidd: +63.5% (£326 miliwn i £513 miliwn yn 2018)
  • Nifer yr ymwelwyr: +14.2%

Cafodd y cynnydd o ran yr incwm sy'n deillio o ymwelwyr ei ysgogi gan berfformiad cryf yn y sector ymwelwyr sy'n aros, yn enwedig llety â gwasanaeth. Ers 2008, mae nifer yr ymwelwyr sy'n aros bob blwyddyn yn Sir Gaerfyrddin wedi cynyddu 21%, gan gyfrannu £164miliwn arall i'r economi yn 2018. Llety heb wasanaeth yw'r darparwr llety mwyaf o hyd. Mae ei effaith economaidd wedi cynyddu 63% ers 2008 ac roedd yn werth £332 miliwn yn 2019. Mesurir perfformiad twristiaeth Sir Gaerfyrddin gan ddefnyddio STEAM (Scarborough Tourism Economic Activity Monitor).

Pwy sy'n ymweld â Sir Gâr?

  • Pobl gefnog 55+ oed y mae eu plant wedi gadael cartref
  • Nifer y bobl ym mhob grŵp o ymwelwyr ar gyfartaledd yw 4.4
  • Teuluoedd incwm canolig sydd â phlant hŷn
  • Dywedodd 97% eu bod yn debygol o ddychwelyd yn y dyfodol
  • Dywedodd 98% y byddent yn ei argymell fel lle i ymweld ag ef
  • O ble y maent yn dod: Rhannau eraill o Gymru, Canolbarth Lloegr, De-ddwyrain, Unol Daleithiau, yr Almaen ac Iwerddon