Bwrsariaeth Lansio Busnes Sir Gâr
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/05/2025
Mae Bwrsariaeth Lansio Busnes Sir Gâr yn ôl!
Fel rhan o'i ymrwymiad parhaus i ddatblygu economaidd a chefnogi entrepreneuriaid lleol, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyflwyno Bwrsariaeth Lansio Busnes Sir Gâr sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Nod y fwrsariaeth yw creu'r cyfle i entrepreneuriaid lleol brofi eu syniadau busnes cyn creu busnes newydd yn ffurfiol. Drwy gyfnod o fasnachu prawf, gall entrepreneuriaid fireinio eu cynhyrchion neu eu gwasanaethau a deall galw'r farchnad heb y risg ariannol.
Bydd ymgeiswyr yn derbyn cymorth cofleidiol i ddatblygu cynllun busnes cynaliadwy, yn ogystal â mentora busnes 1:1. Fel ymrwymiad i gefnogi ymgeiswyr yn llawn, bydd y cymorth hwn yn orfodol.
Ynglŷn â'r Fwrsariaeth
Mae Bwrsariaeth Lansio Busnes Sir Gâr yn daliad wedi'i ariannu'n llawn o hyd at £1,000 sydd ar gael i unrhyw unigolion dros 18 oed yn Sir Gaerfyrddin sydd â diddordeb mewn masnachu prawf ar gyfer syniad busnes, a heb fawr ddim profiad busnes blaenorol, neu ddim o gwbl.
Rhaid i ymgeiswyr ddarparu dadansoddiad o’r gwariant arfaethedig, gan gynnwys cost ac enw’r cyflenwr/cyflenwyr gyda dyfynbrisiau ategol. Anogir y defnydd o gyflenwyr yn Sir Gaerfyrddin lle bynnag y bo modd.
Bydd yr holl wariant rhesymol yn cael ei ystyried fesul achos ac yn cael ei benderfynu yn ôl disgresiwn y Tîm Datblygu Economaidd. Nid ystyrir eitemau a brynir ag arian parod.
Rhaid i ymgeiswyr fynychu Gweithdy Dechrau Busnes a drefnir gan Gyngor Sir Caerfyrddin, a fydd yn eu cynorthwyo i lunio cynllun busnes cynaliadwy a rhagolwg llif arian, a chytuno i gael sesiynau mentora 1:1.
Bydd Ceisiadau Llwyddiannus yn Ddarostyngedig i'r Amodau Canlynol:
- Bydd 100% o'r dyfarniad yn cael ei ryddhau ymlaen llaw
- Rhaid darparu tystiolaeth o'r gwariant a amlinellir yn y cais o fewn 2 fis i ddyddiad dyfarnu'r Fwrsariaeth
- Rhaid darparu tystiolaeth o weithgareddau masnachu prawf o fewn 6 mis i ddyfarnu'r Fwrsariaeth
- Gellir gwneud cais am estyniad i'r cyfnodau uchod gydag esboniad rhesymol a phenderfynir ar achosion o'r fath yn ôl disgresiwn y Tîm Datblygu Economaidd
Gellir lawrlwytho telerau llawn y Fwrsariaeth isod.
I gyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb, lawrlwythwch y ffurflen isod a'i dychwelyd i: ymgysylltubusnes@sirgar.gov.uk.
Bydd Swyddog Datblygu Economaidd yn adolygu eich Mynegiant o Ddiddordeb ac yn cysylltu â chi'n fuan.
Sylwer: Ni fydd unigolion y dyfarnwyd bwrsariaeth iddynt yn flaenorol o dan Fwrsariaeth Lansio Busnes wreiddiol Sir Gaerfyrddin (2024) yn gymwys i ailymgeisio.