Mynediad at Gyfleoedd Masnachu
Diweddarwyd y dudalen ar: 21/05/2025
Mynediad at Gyfleoedd Masnachu
Fel rhan o'i ymrwymiad parhaus i ddatblygu economaidd a chefnogi masnachwyr lleol, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyflwyno cronfa i ganiatáu busnesau lleol i gael mynediad at gyfleoedd masnachu ledled y sir ac yn genedlaethol, sy'n cael eu hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Gall busnesau wneud cais am hyd at £1,000 o gyllid trwy'r gronfa. Rhaid i fasnachwyr sydd â diddordeb ddarparu manylion am y digwyddiadau y maent yn dymuno mynychu yn y dyfodol agos. Gellir cynnwys digwyddiadau sydd eisoed wedi'u harchebu, ond ni ddylent fod wedi talu eisoes amdanynt ymlaen llaw.
Os fydd y cais yn cael eu cymeradwyo, rhaid i fasnachwyr dalu am y digwyddiad(au) a mynychu cyn y gellid ad-dalu arian.
Ni fydd digwyddiadau sydd eisoes wedi cael eu talu amdanynt cyn gwneud cais yn cael eu hystyried.
Rhoddir blaenoriaeth i'r rhai sy'n mynychu digwyddiad am y tro cyntaf. Fodd bynnag, mae modd cefnogi unigolion i fynychu eilwaith yn ôl disgresiwn y Tîm Ymgysylltu â Busnes.
I gyflwyno cais am y cymorth hwn, ewch ati i lawrlwytho’r ffurflen isod a'i dychwelyd at ymgysylltubusnes@sirgar.gov.uk.