Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
Diweddarwyd y dudalen ar: 30/05/2025
Bob blwyddyn mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn penderfynu ar ystod a lefelau'r cyflogau, y ffïoedd a'r lwfansau a delir gan y Cyngor Sir i'w gynghorwyr ac i'w aelodau cyfetholedig. Mae manylion y cyflogau a lwfansau a dalwyd yn ystod y flwyddyn hyd yn hyn i gynghorwyr, a manylion yr hawliadau a wnaed, ar gael dan y Gronfa Ddata Lwfansau Cynghorwyr. Mae’n rhaid i Gynghorwyr gofrestru unrhyw fuddion personol neu ariannol sydd ganddynt yn unol â'r Côd Ymddygiad – Rhan 5.1 o Gyfansoddiad y Cyngor.