Pam yr ydym wedi ymgynghori
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn bwrw ymlaen â chynlluniau i gyflwyno systemau draenio cynaliadwy (SuDS) ym meysydd parcio dwy dref wledig fel rhan o'i ymrwymiad parhaus i wella ansawdd dŵr a diogelu amgylchedd naturiol y sir.
Bydd y Prosiect Afonydd Gwydn yn archwilio opsiynau draenio cynaliadwy ar gyfer Maes Parcio Llanymddyfri a Maes Parcio Castellnewydd Emlyn. Nod y cynlluniau arfaethedig yw lleihau faint o ddŵr wyneb ffo sy'n mynd i mewn i rwydweithiau draenio lleol ac afonydd cyfagos.Trwy gyflwyno nodweddion systemau draenio cynaliadwy, bydd glawiad yn cael ei arafu a'i hidlo lle mae'n glanio, yn hytrach na llifo oddi ar y tarmac ac i mewn i'r draen.
Bydd y dull arloesol hwn yn helpu i leihau'r risg o orlif stormydd, gwella ansawdd dŵr lleol, a chefnogi'r gwaith o ddiogelu Ardaloedd Cadwraeth Arbennig y Teifi a'r Tywi rhag cyfoethogi maetholion.
Mae cyllid ar gyfer cam datblygu'r prosiectau wedi'i sicrhau gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
