Pam yr ydym wedi ymgynghori

Yn 2018/19 cwblhawyd Adolygiad Gorchwyl a Gorffen gan y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant o'r ddarpariaeth bresennol ar gyfer addysg blynyddoedd cynnar, gofal plant a chyfleoedd chwarae. Un o'r casgliadau a nodwyd yn yr adroddiad oedd bod Polisi Dod i fyny i 4 oed yr Awdurdod yn wahanol iawn i awdurdodau lleol eraill cyfagos a bod y Cyngor yn cynnal adolygiad ffurfiol o'i bolisi derbyn presennol ar gyfer addysg llawn amser i blant 4 oed (y Polisi Dod i fyny i 4 oed).

Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2023, bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar y rhesymeg dros gael gwared ar y polisi o bosibl ac asesiad o oblygiadau cael gwared ar y Polisi Dod i fyny i 4 oed mewn ysgolion unigol ar ffurf dadansoddiad o fylchau. O ganlyniad, penderfynodd y Cabinet ymgynghori ar gael gwared ar y Polisi Dod i fyny i 4 oed yn ystod yr ymgynghoriad blynyddol ar dderbyn disgyblion i ysgolion ym mis Ionawr 2024, i'w weithredu ym mis Medi 2025. Cynhaliwyd ymgynghoriad helaeth rhwng 19 Ionawr 2024 ac 1 Mawrth 2024.

Canlyniad yr ymgynghoriad

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a phenderfyniad gan y Cabinet, mae trefniadau derbyn ysgolion ar gyfer plant pedair oed yn newid yn Sir Gaerfyrddin. O fis Medi 2025 bydd plant yn dechrau addysg llawn-amser y tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed yn hytrach na'r tymor pan fyddant yn troi'n bedair oed. 

Mae hyn yn golygu y bydd plant sy'n mynychu ysgolion 3-11 oed ac sy'n derbyn addysg ran-amser yn aros mewn addysg ran-amser am gyfnod hirach nag y maent o dan y polisi presennol.

Bydd y newid hwn ond yn effeithio ar blant a gafodd eu geni ar neu ar ôl 1 Medi 2021. Ni fydd unrhyw newid i blant sy'n dechrau addysg ran-amser neu lawn-amser cyn 1 Medi 2025.

Rhagor o Wybodaeth