Pam yr ydym wedi ymgynghori
Rydym yn gweithio gydag AtkinsRéalis i ymgymryd â dyluniad rhagarweiniol cyfleuster Cyfnewidfa Deithio Aml-ddull ar gyfer Gorsaf Reilffordd Llanelli, gyda'r weledigaeth o wella cysylltedd trwy symleiddio'r cysylltiadau rhwng rheilffyrdd, bysiau a dulliau teithio llesol.
Rydym am gynnwys y cyhoedd yn ein cynnig i sicrhau ein bod yn gweithredu cynllun priodol sy'n gwella mynediad at gyfleoedd trafnidiaeth mwy cynaliadwy i ategu'r cynigion datblygu cynyddol sy'n mynd yn eu blaenau yn ne Llanelli.