Pam yr ydym wedi ymgynghori

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi adolygu'r trefniadau derbyn ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2027-28, yn unol â gofynion y Côd Derbyn, ac mae bellach yn ymgynghori ynghylch y trefniadau arfaethedig.

Mae Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir yn gyfrifol am eu Polisi Derbyn eu hunain ac am ymgynghori ynghylch mapiau dalgylchoedd.  Mae'r adolygiad o ddalgylchoedd yn berthnasol i ysgolion prif ffrwd yn unig ac nid yw'n cynnwys Unedau Anghenion Ychwanegol nac Ysgol Arbennig.

Nid yw'r ymgynghoriad hwn yn effeithio ar hawl y rhieni i wneud cais am le mewn ysgol o'u dewis yn unol â Pholisi Derbyn Llywodraeth Cymru.

Mae'r ymgynghoriad hefyd yn cynnwys y mapiau dalgylchoedd arfaethedig, sy'n cael eu defnyddio gan y cyngor wrth ddyrannu lleoedd i ysgol lle mae gormod o alw. Bydd y cyngor hefyd yn defnyddio'r mapiau hyn wrth ystyried ceisiadau o dan y Polisi Cludiant Ysgol.

Fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, rydym hefyd yn gofyn am eich barn ar y newidiadau arfaethedig i gludiant am ddim i'r ysgol, i gefnogi darpariaeth fwy effeithlon..

Cafodd yr adolygiad diwethaf o ddalgylchoedd ysgolion yn Sir Gaerfyrddin ei gynnal yn 2010, ac ers hynny mae'r dalgylchoedd, ar y cyfan, heb newid heblaw am ad-drefnu/cau ysgolion. Mae'r newidiadau arfaethedig wedi'u seilio ar ddata ac yn deillio o:

  • Sicrhau bod dalgylchoedd ysgolion yn gyson â Ffin Awdurdod Unedol Sir Gaerfyrddin, ble yn posib?
  • Sicrhau bod pob ardal yn Sir Gaerfyrddin bellach yn cael ei chynnwys mewn dalgylch ysgol.
  • Cau ysgolion yn flaenorol neu agor ysgolion newydd lle nad yw dalgylchoedd bellach yn adlewyrchu patrwm gwirioneddol symudiadau disgyblion.
  • Cynnwys rhai darnau o dir lle nad oes llawer o ddisgyblion, ond a gafodd eu hepgor yn ystod yr adolygiad diwethaf.
  • Adlewyrchu mwy o gydlyniant cymunedol lle mae pentrefi, aneddiadau a chymunedau wedi ehangu ar draws y ffiniau presennol. 
  • Gwallau wrth dynnu mapiau yn y gorffennol a oedd yn golygu bod llawer o eiddo wedi'i dorri yn ei hanner gan linellau dalgylch. 
  • Technoleg ddigidol sydd wedi gwella'r gallu i nodi'n fwy cywir o ble mae disgyblion yn dod a pha ysgolion maen nhw'n eu mynychu.
  • Adborth o'r trafodaethau anffurfiol ag ysgolion ym mis Mawrth a mis Tachwedd 2025.
  • Mwy o ddisgyblion na'r lleoedd sydd ar gael a gormod o alw mewn rhai lleoliadau a’r angen i gydbwyso niferoedd disgyblion er mwyn gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ariannol.
  • Cefnogi darpariaeth fwy effeithlon o gludiant ysgol

Ers 2010 mae sawl blaenoriaeth newydd y mae angen eu hystyried, gan gynnwys:

  1. Strategaeth Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gaerfyrddin a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2024.
  2. Mae niferoedd disgyblion dalgylchoedd wedi mynd yn anghytbwys ers 2010 o'u cymharu â chapasiti llawer o ysgolion cynradd ac uwchradd sy'n gwasanaethu'r dalgylchoedd hynny. Mae hyn wedi arwain at brinder lleoedd i'r disgyblion yn y dalgylch gan gynyddu nifer yr apelau derbyn, ond mae gan ysgolion eraill leoedd gwag. Fodd bynnag, mae gan rieni hawl o hyd i fynegi dewis ynghylch ysgol.
  3. Natur newidiol ôl troed ysgolion cynradd ac uwchradd ers 2010 a rhesymoli'r ddarpariaeth ysgolion cynradd mewn rhai ardaloedd.
  4. Mae'r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg wedi dod yn fwy blaenllaw ac mae bellach yn ffactor allweddol wrth gynllunio lleoedd mewn ysgolion wrth i fwy o ysgolion symud ar hyd continwwm y Gymraeg. Mae mwy o alw am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. 
  5. Mae datblygiadau tai ar raddfa fawr a datblygiadau tai eraill yn Sir Gaerfyrddin ers 2010 wedi cael effaith ar niferoedd disgyblion o fewn dalgylchoedd.
  6. Mae'n bwysig nodi bod cynigion parhaus o ran y Rhaglen Moderneiddio Addysg a gallai canlyniadau rhain effeithio ar y dalgylchoedd arfaethedig yn yr ymgynghoriad hwn.

Mae'n bwysig ein bod yn ceisio barn pobl sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin am y trefniadau derbyn ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2027/28 a'r dalgylchoedd arfaethedig i ddeall sut y gallai ein cynnig effeithio arnoch chi cyn i'r dogfennau hyn gael eu cwblhau.