Pam yr ydym yn ymgynghori

Rydym yn gofyn i drigolion ledled Sir Gaerfyrddin rannu eu profiadau a’u hadborth ar y  llifogydd diweddar. Bydd eich mewnbwn yn ein helpu i gynnal asesiad lefel uchel ar draws y sir i nodi materion strategol ac i gyflawni ein rhwymedigaethau o dan Adran 19 o’r Ddeddf Rheoli Dŵr a Llifogydd.

Mae’r arolwg cychwynnol hwn yn gam cyntaf. Byddwn yn dilyn hyn gyda digwyddiadau ymgysylltu cymunedol mwy manwl, gan weithio ochr yn ochr â’n partneriaid, yn yr ardaloedd a gafodd eu heffeithio fwyaf.

Cymerwch ychydig funudau i gwblhau’r arolwg a helpu i lunio ein hymateb a’n cynllunio ar gyfer gwydnwch yn y dyfodol.

Mae eich mewnbwn yn ganolog i’n gwybodaeth a’n dealltwriaeth a bydd yn helpu i lunio’r ymyriadau byddwn yn eu rhoi ar waith.

Sut i gymryd rhan

Gallwch gymryd rhan drwy gwblhau'r arolwg ar-lein hwn.