Pam yr ydym wedi ymgynghori

Dros y 2 flynedd ddiwethaf mae Cynghorau Sir Penfro, Ceredigion a Chaerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn ymgysylltu â phobl niwrowahanol a phobl ag anableddau dysgu fel rhan o drafodaethau ynghylch y Strategaeth Anabledd Dysgu. Bydd y strategaeth hon yn un strategaeth ranbarthol unigol sy’n cwmpasu pob ardal. Mae’r strategaeth wedi cael ei hadolygu gan y Bartneriaeth Gwella Bywydau Ranbarthol (RILP), sydd yn grŵp tair sir yn cynnwys pobl o’r canlynol:

  • Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Cyngor Sir Ceredigion
  • Cyngor Sir Penfro
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Tîm Perffaith
  • Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin
  • Pobl yn Gyntaf Sir Benfro
  • Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru
  • Amrywiol brosiectau a ariennir gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol

Caiff y strategaeth ei dylanwadu gan Asesiad Anghenion y Boblogaeth a gyhoeddwyd gan Fwrdd Partneriaeth Gorllewin Cymru. Hoffem glywed eich barn am yr argymhellion sydd wedi dod i'r golwg o'r ymgysylltiad.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol tudalen Partneriaeth Anabledd Dysgu Gorllewin Cymru.