Pam yr ydym yn ymgynghori
Mae'r ymgynghoriad yn cael ei gynnal i helpu Cyngor Sir Caerfyrddin i fodloni gofynion Llywodraeth Cymru o ran datblygu Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai pedair blynedd, er mwyn atal digartrefedd a darparu cymorth sy'n gysylltiedig â thai.
Bydd y strategaeth ar gyfer y cyfnod rhwng 2027 a 2031, a bydd yn cynnwys dyletswyddau digartrefedd statudol o dan Ddeddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) 2026, ochr yn ochr â dyraniad Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru.
Pwrpas yr ymgynghoriad yw casglu tystiolaeth gan ddinasyddion Sir Gaerfyrddin, sefydliadau partner a rhanddeiliaid eraill i ennill dealltwriaeth gynhwysfawr o'r anghenion digartrefedd a chymorth presennol, ac yn y dyfodol, ledled Sir Gaerfyrddin.
Er bod yr asesiad o anghenion yn defnyddio ystod eang o ddata demograffig, economaidd a marchnad, mae ymgynghori yn rhan hanfodol o'r broses. Mae'n ategu'r dadansoddiad meintiol trwy roi cipolwg gwerthfawr ar brofiadau byw dinasyddion, darparwyr cymorth a chyflogwyr, gan roi cyd-destun i'r data a helpu i esbonio'r ffactorau tu ôl i dueddiadau, heriau a chyfleoedd. Mae'r dystiolaeth hon yn galluogi'r Cyngor nid yn unig i ddeall beth sy'n digwydd yn y farchnad dai, ond hefyd pam mae'n digwydd a pha atebion ymarferol fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf ym marn rhanddeiliaid.
Trwy ymgynghori, bydd y Cyngor yn gallu nodi'r anghenion nad ydynt yn cael eu diwallu a'r hyn sy'n rhwystro pobl rhag cael cymorth tai, deall y rhesymau dros ddigartrefedd, a chasglu barn am y cymorth, y cyllid a'r newidiadau polisi sydd eu hangen i ateb y galw yn y dyfodol.
Bydd y canfyddiadau yn llywio Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai Sir Gaerfyrddin 2027–2031 a'i Chynllun Gweithredu cysylltiedig, gan sicrhau bod cynllunio, buddsoddi a chymorth i wasanaethau cymorth digartrefedd yn y dyfodol yn seiliedig ar dystiolaeth, yn adlewyrchu blaenoriaethau lleol ac yn cael eu llunio gan farn a phrofiadau'r rhai sy'n adnabod y sector a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu orau.
Sut i gymryd rhan
Bydd sawl cyfle i unigolion a sefydliadau gyfrannu at Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai drwy gydol y cyfnod ymgynghori.
Bydd y cyfrannu'n digwydd yn bennaf drwy wahoddiad, a bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cysylltu â rhanddeiliaid perthnasol yn uniongyrchol i'w cael i gymryd rhan mewn:
- grwpiau ffocws rhithwir neu wyneb yn wyneb; a
- sesiynau ymgysylltu wedi'u targedu gyda grwpiau rhanddeiliaid penodol.
Bydd arolygon ar-lein hefyd ar gael i ddinasyddion, gan alluogi pobl i gyfrannu'n hwylus ar adeg sy'n gyfleus iddynt.
Mae'r ymgynghoriad wedi'i ddylunio i fod mor gynhwysol a hygyrch â phosibl. Bydd modd cyfrannu yn Gymraeg neu Saesneg, a bydd cymorth ar gael lle bo angen i alluogi pobl i gyfrannu mewn ffordd ystyrlon.
Cyfrannwch drwy lenwi'r ffurflen ar-lein
Camau nesaf
Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu dadansoddi ochr yn ochr â data marchnad demograffig, tai a digartrefedd i ddarparu asesiad cynhwysfawr o anghenion digartrefedd a chymorth tai ledled Sir Gaerfyrddin. Bydd y canfyddiadau yn dilysu'r dystiolaeth feintiol ac yn rhoi cyd-destun iddi, yn nodi blaenoriaethau ar gyfer gwelliant, ac yn llywio'n uniongyrchol y gwaith o lunio Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai 2027–2031 a'r Cynllun Gweithredu cysylltiedig.
Ar ôl eu cymeradwyo, bydd y dogfennau terfynol yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru a'u defnyddio wrth gynllunio a datblygu gwasanaethau yn y dyfodol er mwyn atal digartrefedd ar draws y sir.
