Adeiladu Diwylliant Gwell
- Y cyfnod ymgynghori: 29/05/2026 ~ 09:00 - 30/06/2026 ~ 12:00
- Cynulleidfa: Pob preswylydd, busnes a sefydliad
- Ardal: Pob Ward/Ardal
- Adran / gwasanaeth y Cyngor: Addysg a Hamdden / Hamdden
Pam yr ydym yn ymgynghori
Mae diwylliant yn meddwl rhywbeth gwahanol i bawb. I rai mae'n golygu cymryd rhan mewn perfformiadau theatrig, i eriall mae'n ddarpariaeth llyfrgell neu'n ymweliad ag arddangosfa.
Mae Powys, Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro wedi creu partneriaeth newydd i archwilio sut y gall diwylliant ddod â chymunedau ynghyd a hyrwyddo Cymru i’r byd.
Sut i gymryd rhan
Os hoffech chi siapio dyfodol diwylliant yn y canolbarth a'r gorllewin, cwblhewch yr ymgynghoriad ar-lein.
neu dewch i roi eich barn yn sgwrs syniadau dwyieithog prosiect Cwlwm:
8 Mehefin 2026 1-5pm a 7pm Llyfrgell Llanelli
10 Mehefin 2026 Sgwrs ar-lein Cymraeg 7pm, sgwrs ar-lein Saesneg 8pm
29 Mehefin 2026 1-5pm a 7pm Llyfrgell Caerfyrddin
I rhoi gwybod eich bod yn dod neu i gael y ddolen i'r sgwrs ar-lein: : LowriJones@golwg.cymru
