Pam yr ydym yn ymgynghori
Fel rhan o'n dyletswyddau statudol o dan y Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) mae'n rhaid i ni fapio ein llwybrau presennol a llwybrau (arfaethedig) yn y dyfodol.
Mae'r map yn nodi'r llwybrau cerdded, olwyno a beicio presennol ar draws y sir, ynghyd â gwelliannau arfaethedig, awgrymiadau a llwybrau y bydd y Cyngor yn ceisio eu datblygu a'u gweithredu dros y 15 mlynedd nesaf.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwahodd adborth ar y llwybrau hyn ac unrhyw ychwanegiadau a awgrymir, gan na all llwybrau nad ydynt wedi'u cynnwys ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol gael eu hystyried ar gyfer cyllid gan Lywodraeth Cymru neu ffynonellau eraill er mwyn eu creu neu eu gwella
Sut i gymryd rhan
Bydd gennym arolwg ar-lein, ond bydd modd ei lanlwytho'n uniongyrchol i'r platfform ar-lein: Map Teithio Llesol Cyngor Sir Caerfyrddin.
Gallwch anfon eich sylwadau drwy e-bostiwch activetravel@sirgar.gov.uk
Gallwch ofyn am gopi papur o'r ymgynghoriad gan unrhyw un o'r canolfannau Hwb, yn Rhydaman, Caerfyrddin neu Lanelli.
Camau nesaf
Bydd awgrymiadau a sylwadau sy'n cael eu cyflwyno drwy'r platfform ar-lein uchod a'r arolwg yn cael eu cynnwys (lle bo'n berthnasol) yn yr hyn sy'n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar 1 Rhagfyr.
