Pleidleisio drwy'r Post a Phleidleisio drwy Ddirprwy

Adnewyddu eich trefniadau pleidleisio drwy'r post

Etholiadau Seneddol y DU ac Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu

Oherwydd newidiadau yn Neddf Etholiadau 2022, dim ond am uchafswm o 3 blynedd y gall trefniadau i bleidleisio drwy'r post yn Etholiadau Seneddol y DU ac Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu fod ar waith. Mae hyn yn golygu, os yw etholwr eisiau parhau i bleidleisio drwy'r post bydd angen iddo wneud cais newydd bob 3 blynedd.

Nid yw'r newidiadau hyn yn effeithio ar drefniadau pleidleisio drwy'r post ar gyfer etholiadau'r Senedd a Llywodraeth Leol.

O fis Medi 2025 ymlaen, byddwn yn ysgrifennu at bleidleiswyr post presennol sydd angen ailymgeisio ar gyfer parhau â'u trefniadau pleidleisio drwy'r post.

 

Beth sydd angen i mi wneud?

Os hoffech barhau i bleidleisio drwy'r post yn Etholiadau Seneddol y DU ac Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn y dyfodol, rhaid i chi ailymgeisio nawr

Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch i gwblhau eich cais:

  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Llun clir o'ch llofnod llawysgrifenedig. Mae angen i hyn fod mewn inc du ac ar bapur gwyn plaen.
  • Y cyfeiriad lle rydych chi wedi'ch cofrestru i bleidleisio

Os nad ydych yn gallu darparu llofnod cyson oherwydd unrhyw anabledd neu anallu i ddarllen neu ysgrifennu, cysylltwch â'r Gwasanaethau Etholiadol gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Os na allwch gwblhau eich cais ar-lein, gellir lawrlwytho ffurflenni cais papur ar wefan Gov.uk.

Fel arall, cwblhewch y cais sydd wedi'i gynnwys gyda'r llythyr a anfonwyd atoch chi.

A fyddech cystal â dychwelyd y ffurflenni sydd wedi'u cwblhau at: Gwasanaethau Etholiadol, Cyngor Sir Caerfyrddin, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP.

Fel arall, cysylltwch â: gwasanaethauetholiadol@sirgar.gov.uk neu ffoniwch: 01267 228889.

 

Canslo eich pleidlais drwy'r post

Os hoffech ganslo eich pleidlais drwy'r post, cysylltwch â ni trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.

 

Newydd i bleidleisio drwy'r post?

Os ydych chi'n newydd i bleidleisio drwy'r post ac yn dymuno pleidleisio drwy'r post ym 'mhob etholiad', lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen a'i dychwelyd i'r cyfeiriad a ddarperir uchod.

 

Eich dynodwyr personol a sut maent yn cael eu defnyddio

Yn eich cais i bleidleisio drwy'r post, gofynnir i chi ddarparu eich dyddiad geni a'ch llofnod (a elwir hefyd yn "dynodwyr personol").

Pan fyddwch wedyn yn gwneud pleidlais drwy'r post, gofynnir i chi gwblhau a dychwelyd datganiad sy'n rhoi eich dynodwyr personol. Yna rydym yn gwirio'r dynodwyr personol ar eich datganiad yn erbyn y rhai a roddwyd gennych ar eich cais i sicrhau eu bod yn cyfateb. Os nad ydyn nhw'n cyfateb, ni ellir cyfrif eich pleidlais. Mae hyn er mwyn atal rhywun arall rhag defnyddio eich pleidlais.

Mae eich dynodwyr personol bob amser yn cael eu cadw ar wahân i'ch papur pleidleisio, felly does neb yn gwybod sut wnaethoch chi bleidleisio.