Beth rydym yn ei wneud?

Diweddarwyd y dudalen ar: 11/11/2024

Yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, rydym wedi ymrwymo i arwain o ran cynaliadwyedd a gweithredu dros yr hinsawdd. Drwy fentrau fel prosiect Re:fit Cymru, rydym yn ôl-osod adeiladau'r cyngor yn systematig er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni a lleihau allyriadau carbon. Ers 2016/17, mae'r ymdrechion hyn wedi arwain at ostyngiad trawiadol o 37% mewn allyriadau o'n hadeiladau annomestig, sydd ymysg y defnyddwyr ynni mwyaf yn ein hystâd.

Yn ein hymrwymiad i foderneiddio ein fflyd, rydym wedi integreiddio technolegau uwch i leihau allyriadau, gan gynnwys 7 car adrannol trydan, 3 lori sbwriel drydan, a 3 cherbyd hybrid.

Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i ehangu galluoedd trydan a hybrid ein fflyd ymhellach yn y dyfodol. Drwy gwblhau'r broses o newid i oleuadau stryd LED yn 2011, mae lleihad sylweddol o 69% wedi bod mewn allyriadau carbon o oleuadau stryd. Mae mynd i'r afael ag allyriadau teithio busnes yn parhau i fod yn her, ond trwy strategaethau effeithiol rydym wedi cyflawni lleihad nodedig o 41% mewn allyriadau ers 2016. Mae croesawu'r egwyddorion a amlinellir ym Maniffesto Gweithredu dros yr Hinsawdd ‘Walk the Global Walk’ a blaenoriaethu bioamrywiaeth ac atebion sy'n seiliedig ar natur yn agweddau sylfaenol ar ein stiwardiaeth amgylcheddol. Yn ogystal, mae mentrau fel Egni Sir Gâr yn dangos ein hymrwymiad i gynaliadwyedd sy'n cael ei yrru gan y gymuned, fel y dangosir gan ein portffolio ynni'r haul a gefnogodd fanciau bwyd lleol yn 2020.

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau