Iaith Gymraeg
Mae Sir Gâr yn un o gadarnleoedd y Gymraeg yng Nghymru, gyda 72,838 o bobl yn gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021. Mae ein poblogaeth ddwyieithog yn ased unigryw a gwerthfawr sy'n cyfrannu at ddiwylliant, cymunedau ac economi'r sir.
Mae gennym ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaethau Cymraeg, ond rydym hefyd yn ymrwymedig i hyrwyddo'r Gymraeg a sicrhau bod gan drigolion y sir gyfleoedd i ddysgu, defnyddio a mwynhau'r iaith ym mhob agwedd ar fywyd. Er gwaethaf y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2021, rydym yn parhau i gyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Rydym yn benderfynol o sicrhau bod y Gymraeg yn parhau'n iaith fyw a ffyniannus yng nghymunedau Sir Gâr. Er mwyn gwneud hyn, mae angen cydweithio i greu mwy o gyfleoedd i blant, pobl ifanc, oedolion a theuluoedd ddefnyddio'r Gymraeg yn yr ysgol, yn y gweithle, mewn busnesau ac mewn gweithgareddau hamdden.










