Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2023-2024

Cyflwyniad i'n Hadroddiad Blynyddol

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn sefydliad mawr, cymhleth sydd â gweithlu o oddeutu 8,350 o weithwyr a chyllideb o dros £900m (refeniw a chyfalaf) ar gyfer 2024/25. O achos y cyllid annigonol i wasanaethau cyhoeddus o’r naill flwyddyn i’r llall am dros ddegawd, mae’r pwysau rydym yn ei wynebu wrth ddarparu gwasanaethau i’r tua 188,000 o bobl sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin yn dal i fod yn fwy nag erioed. Wrth wneud hyn rydym yn ymdrechu i wneud cynnydd yn erbyn ein pedwar amcan llesiant.

Pwrpas yr adroddiad blynyddol hwn yw rhoi trosolwg o'r cynnydd rydym wedi'i wneud yn ystod 2023/2024 yn erbyn yr amcanion llesiant hyn, sef:

  1. Galluogi ein plant a’n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau’n Dda),
  2. Galluogi ein preswylwyr i fyw a heneiddio’n dda (Byw a Heneiddio’n Dda),
  3. Galluogi ein cymunedau a’n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus),
  4. Moderneiddio a datblygu ynhellach fel Cyngor cydnerth ac effeithlon (Ein Cyngor).

Mae'r amcanion hyn wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â'r heriau mwyaf dybryd i'r Sir gan gyfrannu gymaint ag sy'n bosib i'r saith nod llesiant cenedlaethol. Mae gan bob amcan set o ganlyniadau sy'n ein cefnogi i fesur ein cynnydd ac arwain ein gweithgarwch fel sefydliad. Cyfeirir at y rhain drwy gydol yr adroddiad hwn, fodd bynnag, mae ein Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer 2022-2027 yn rhoi trosolwg manwl. Fe'u datblygwyd yn 2022/2023 yn dilyn asesiad anghenion helaeth a chyfnod ymgynghori.

Er mai prif bwrpas yr adroddiad hwn yw rhoi dealltwriaeth dda i drigolion, defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid allweddol o sut rydym wedi bod yn perfformio, mae hefyd yn bodloni'r ddyletswydd statudol sydd arnom ni drwy'r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.

Y Prif Egwyddorion

Gwerthoedd ac Ymddygiad Craidd

Mae gweledigaeth y Cyngor yn sail i bopeth a wnawn fel sefydliad.

Datblygu Sir Gaerfyrddin gyda'n gilydd: Un Cyngor, Un Weledigaeth, Un Llais.’

 Wrth eu hystyried gyda'i gilydd, mae'r weledigaeth a'n gwerthoedd craidd a'n hymddygiadau yn ein helpu i wneud y penderfyniad cywir a llunio sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd i ddarparu gwasanaethau a gwneud y gorau allwn.

Mae ein chwe gwerth craidd yn ffurfio'r egwyddorion cyffredinol sy'n fframio ein hugain ymddygiad, ac mae'r ymddygiadau hyn yn disgrifio'r camau gweithredu a'r dulliau unigol ar gyfer sut rydym yn gweithio ac yn trin eraill. Mae ein gwerthoedd fel a ganlyn ond gellir eu gweld yn llawn ynghyd â'n hymddygiadau yma;

  • Gweithio fel un tîm,
  • Canolbwyntio ar gwsmeriaid,
  • Gwrando er mwyn gwella,
  • Ymdrechu i ragori,
  • Gweithredu ag uniondeb,
  • Cymryd cyfrifoldeb personol

Llywodraethu

Fel Cyngor rydym yn gyfrifol am sicrhau bod ein busnes yn cael ei wneud yn unol â'r gyfraith a safonau priodol. Rhaid i ni hefyd sicrhau y diogelir cyllid cyhoeddus, y rhoddir cyfrif priodol amdano ac y’i defnyddir yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol a sicrhau gwelliant parhaus yn hyn o beth.

Rydym yn gyfrifol am sefydlu trefniadau priodol ar gyfer Llywodraethu ein gwaith, gan hwyluso cyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol, gan gynnwys bod â threfniadau priodol ar gyfer rheoli risg. Mae'r Cyngor yn gweld Llywodraethu Corfforaethol fel "gwneud y pethau iawn, yn y ffordd iawn, i'r bobl iawn mewn modd amserol, cynhwysol, agored, gonest ac atebol.” Mae’r Fframwaith Llywodraethu yn cynnwys y systemau a’r prosesau, y diwylliannau a’r gwerthoedd hynny sy’n ein cyfarwyddo ac yn ein rheoli ni, ynghyd â’r modd y mae'n atebol i’r gymuned, yn ymgysylltu â hi ac yn ei harwain. Mae’r Fframwaith yn ein galluogi i fonitro i ba raddau y cyflawnwyd ein hamcanion strategol ac i ystyried a yw’r amcanion hynny wedi arwain at ddarparu gwasanaethau priodol a chost- effeithiol.

Mae ein Datganiad Llywodraethu Blynyddol fel y’i cynhwysir yn ein Datganiad o Gyfrifon yn manylu ar sut rydym wedi cydymffurfio a’r gwahanol elfennau o’n Fframwaith Llywodraethu.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn deg ac yn gyfartal i bawb ym mhopeth a wnawn. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn nodi egwyddorion ein hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac yn amlinellu sut y bwriadwn gyflawni ein cyfrifoldebau fel cyflogwr, darparwr gwasanaethau ac fel arweinydd cymunedol.

Fel corff cyhoeddus, mae angen i ni sicrhau bod pawb yn cael mynediad cyfartal i'n gwasanaethau ac yn cael eu trin yn deg gan ein gwasanaethau. Mae angen i egwyddorion sylfaenol hawliau dynol hefyd fod wrth wraidd darparu gwasanaethau. Mae'n ofynnol i ni ganolbwyntio ar gyflawni canlyniadau cydraddoldeb mesuradwy trwy welliannau penodol mewn polisïau a'r ffordd y mae ein gwasanaethau a'n swyddogaethau'n cael eu darparu.

Rydym wedi ymrwymo i drin ein staff, a phobl Sir Gaerfyrddin, yn deg. Byddwn yn sicrhau nad ydym yn gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu hoedran, anabledd, tarddiad ethnig, cenedligrwydd, crefydd, cred neu ddiffyg cred, dosbarth cymdeithasol, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, newid rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, cyfrifoldeb am ddibynyddion neu am unrhyw reswm annheg arall.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yn cael eu darparu i bawb sy'n byw, yn gweithio ac yn astudio yn Sir Gaerfyrddin ac sy’n ymweld â'r sir. Caiff hyn ei ategu gan ein pedwar amcan cydraddoldeb ar gyfer 2024-2028:

  • Bod yn gyflogwr o ddewis;
  • Galluogi ein trigolion i fyw a heneiddio'n dda;
  • Ymgorffori Cydlyniant Cymunedol yn ein sefydliad a'n cymuned; a
  • Diogelu a chryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol.