Dechrau gweithio ar Ganolfan Hamdden newydd i Lanelli, fel rhan o gam cyntaf Pentre Awel.
Darparu cae chwaraeon 3G newydd yn Rhydaman.
Cwblhau astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer Parc Sglefrfyrddio a datblygu'r trac Pwmpio BMX ym Mhen-bre ymhellach.
Ystyried dichonoldeb datblygu mwy o lwybrau beicio/cerdded ar reilffyrdd segur, gan gynnwys hen reilffordd y Cardi Bach i'r gogledd o Hendy-gwyn ar Daf.
Datblygu strategaeth ac asesu'r angen am leiniau pob tywydd ar draws y sir.
Datblygu Oriel Myrddin yng Nghaerfyrddin fel Canolfan Gelfyddydau Gorllewin Cymru ac agor Archif y Sir yn Heol y Brenin.
Gweithio gyda chymunedau lleol i ddatblygu llwybrau diwylliannol a hanesyddol sy'n hygyrch i drigolion a thwristiaid. Annog trigolion i gymryd perchnogaeth o'u hardaloedd lleol drwy greu llwybrau cymunedol yn seiliedig ar wybodaeth leol. Fel rhan o gynllun ehangach, edrych ar ffyrdd o ddatblygu llwybrau sy'n seiliedig ar y cestyll a'r safleoedd hanesyddol niferus ar draws y sir.
Adolygu arddangosion a digwyddiadau diwylliannol yn barhaus er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru'n rheolaidd, yn amserol ac yn berthnasol. Manteisio i'r eithaf ar hanes cyfoethog Sir Gaerfyrddin.
Ystyried y pwerau sydd ar gael mewn perthynas ag ardollau twristiaeth lleol ac effaith eu cyflwyno'n lleol.
Datblygu dull 'chwaraeon i bawb' i gynorthwyo ystod eang o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon, o ddechreuwyr i'r elît.
Cynyddu effaith ymwelwyr dydd a thwristiaid sy'n aros dros nos ar yr economi leol ar draws sir Gaerfyrddin wledig a threfol.
Byddwn yn hyrwyddo ac yn cefnogi cyfleoedd priodol yng Nghwrs Rasio Pen-bre.