Datganiad ynghylch Gwastraff ar gyfer Sir Gaerfyrddin

Rhagarweiniad

Diben y datganiad ynghylch gwastraff yw nodi'r hyn y mae'r Cyngor wedi'i wneud hyd yma i gyrraedd ei dargedau statudol o ran ailgylchu a gwastraff, ein perfformiad hyd yma, a'r hyn y byddwn yn ei gyflawni dros y blynyddoedd nesaf hyd at 2025

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu gwasanaethau gwastraff i tua 91,000 o gartrefi. Rydym yn darparu'r casgliadau canlynol:

  • Casgliad ymyl y ffordd o fagiau du gweddilliol bob pythefnos
  • Casgliad ailgylchu cymysg (bag glas) o ymyl y ffordd bob pythefnos
  • Casgliad bwyd wythnosol.
  • Casgliad hylendid bob pythefnos ar gais
  • Casgliad eitemau swmpus a gwastraff gardd am dâl ar gais

Yn ogystal, rydym yn darparu pedair Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref yn Hendy-gwyn ar Daf, Wernddu, Nant-y-caws a Throstre a safleoedd ailgylchu llai ledled y sir ar gyfer gwydr, nwyddau trydanol bach, tecstilau a theclynnau cyfryngau.


Ein strategaeth wastraff

Mae ein strategaeth yn deillio o ddogfen strategaeth wastraff bresennol Llywodraeth Cymru, ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’. Mae'n amlinellu canlyniadau lefel uchel, polisïau, a thargedau i Awdurdodau Lleol eu dilyn. Mae’n rhoi gwybodaeth i ni ynglŷn â sut i reoli gwastraff domestig sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru mewn modd sy’n creu manteision amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol.

Mae’r llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi ei strategaeth ‘Tu Hwnt i Ailgylchu’ sy’n canolbwyntio ar economi fwy cylchol, gan ddefnyddio gwastraff fel adnodd a lleihau carbon. Mae’n gosod targedau manylach i ni eu dilyn, mewn ymgais i fynd â Chymru o fod y 3ydd yn y byd o ran ailgylchu i fod yn 1af.

Ein gweledigaeth a’n hamcanion yn Sir Gaerfyrddin yw gweithio tuag at gyflawni’r targedau statudol a osodwyd yn strategaeth Llywodraeth Cymru, gan sicrhau ein bod yn gwneud ein rhan i gyflawni ‘Dyfodol diwastraff’ erbyn 2050. Mae’r targedau statudol hyn yn golygu bod gan Lywodraeth Cymru bwerau deddfwriaethol i roi dirwy i Gynghorau nad ydynt yn cyflawni’r targedau a bennwyd sef bod gwastraff trefol yn cael ei ailgylchu, ei baratoi i’w ailddefnyddio, neu ei gompostio. Gall hyn arwain at ddirwyon o £200 y dunnell am bob tunnell o wastraff y mae Sir Gaerfyrddin yn methu â'i brosesu drwy'r hierarchaeth wastraff.

Mae dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi yn flaenoriaeth ac mae methu â dargyfeirio ‘Gwastraff Trefol pydradwy’ o safleoedd tirlenwi yn cynnwys cost o £200 y dunnell ychwanegol at y lwfans penodedig.

Byddwn yn cyd-fynd â’r polisïau a’r targedau a osodwyd yn strategaethau Llywodraeth Cymru gan roi ffocws clir ar economi gylchol, addewid carbon sero net, amgylchedd glanach, a strategaeth i ddatblygu ymhellach y gwaith da a gyflawnwyd eisoes gan Gymru a’n safle fel y drydedd wlad orau yn y byd o ran ailgylchu. Nod Sir Gaerfyrddin yw chwarae ein rhan yn llwyddiant cyffredinol Cymru a bod yn sir sy’n perfformio’n dda o ran lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu ein gwastraff heddiw ac yn y dyfodol.


Sut y byddwn yn cyflawni ein Nodau a'n targedau

Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â Cwm Environmental Ltd., cwmni gwastraff sy’n eiddo’n gyfan gwbl i Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae’r cwmni’n derbyn y rhan fwyaf o wastraff trefol Sir Gaerfyrddin ac mae’n gyfrifol am brosesu, trin, ailgylchu a gwaredu’r gwastraff a gesglir gan y Cyngor. Mae hefyd yn gyfrifol am baratoi eitemau i'w hailddefnyddio lle bo modd.

Mae'r cwmni'n gweithredu cyfleusterau trin, didoli a phrosesu yn ei bencadlys yn Nant-y-Caws ger Caerfyrddin ac mae'n gweithredu holl ganolfannau ailgylchu gwastraff cartref y Sir ar ran y Cyngor.


Ymgynghoriad

Rydym yn ymgysylltu â phreswylwyr, aelodau lleol, CWM Environmental Ltd, a rhanddeiliaid amrywiol eraill, i sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl yn unol â'r adnoddau a’r amserlenni sydd ar gael. Cynhaliwyd arolwg ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Mehefin 2021 ynghylch newidiadau gwastraff yn y dyfodol. Trosglwyddwyd y farn a gasglwyd i Gynghorwyr i'w harwain wrth wneud penderfyniadau ar ddyfodol casgliadau gwastraff.

Rydym yn cynnal sesiynau briffio i aelodau lleol ynghylch yr holl newidiadau sy’n ymwneud â gwastraff ac mae ein tudalennau gwe ar wastraff/ailgylchu wedi’u llunio i roi cyngor, arweiniad ac esboniadau ar y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n tîm gwasanaethau cwsmeriaid a marchnata a'r cyfryngau, i sicrhau bod y wybodaeth hon yn cael ei diweddaru ac yn berthnasol i'n cwsmeriaid.

Rydym yn ymateb ac yn gweithredu ar adborth a chwestiynau sy'n dod i law dros y ffôn, e-bost, y cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau ‘Gofyn cwestiwn’ sydd ar gael i’r cyhoedd. Mae'r mewnbwn hwn gan y cyhoedd yn hanfodol i ni ddarparu'r lefel gywir o wybodaeth i gefnogi trigolion i ailgylchu cymaint o'u gwastraff â phosibl. Mae rhestr gynhwysfawr A-Y ynghylch ailgylchu wedi'i llunio er hwylustod.


Ein Perfformiad hyd yn hyn

Rydym wedi gwneud cynnydd da ers i’r strategaeth llywodraeth cymru gael ei chymeradwyo yn 2010 ac rydym wedi bodloni’r holl dargedau statudol hyd yn hyn. Y targed statudol nesaf yw 70% ar gyfer y flwyddyn 2024/2025

Blwyddyn Ariannol yn seiliedig ar darged ailgylchu statudol Cyfanswm Ailgylchu CSC % Targed Statudol Llywodraeth Cymru %
2010/2011 43.13% 40%
2012/2013 53.77% 50%
2015/2016 63.52% 58%
2019/2020 64.66 64%
2024/2025   70%

Newidiadau a wnaed dros y 6 mlynedd diwethaf

Rydym yn parhau i wneud newidiadau i wasanaethau gwastraff er mwyn sicrhau ein bod yn darparu'r gwasanaeth ailgylchu gorau posibl i drigolion ac yn bodloni ein targedau statudol.

2016

Ymestyn ailgylchu ar ymyl y ffordd i bob cartref yn y sir. Cyflwyno casgliad gwastraff gardd newydd y tanysgrifir ar ei gyfer, trwy wasanaeth biniau olwynion y codir tâl amdano.

2017

Dechrau dosbarthu 3 rholyn o fagiau ailgylchu glas i bob cartref bob blwyddyn.

2018

Ychwanegu 3 rholyn o leinwyr biniau bwyd at y danfoniadau blynyddol. Annog mwy o gartrefi i ailgylchu eu bwyd.

2019

Cyflwyno newidiadau sylweddol yn ein canolfannau ailgylchu, i hybu cyfraddau ailgylchu a lleihau costau sy’n deillio o ddefnydd masnachol anghyfreithlon a blaenoriaethu lefel uchel o wasanaeth i breswylwyr Sir Gaerfyrddin. Gwahardd gwastraff masnachol a chyflwyno hawlenni ar gyfer cerbydau masnachol penodol. Rhoi gwiriadau preswylio ar waith, yn ogystal â didoli unrhyw wastraff mewn bagiau du a ddygir i'r safleoedd.
Lleihau'r lwfans bagiau du ar gyfer cartrefi, i 3 fesul casgliad. Cafodd hyn ei roi ar waith fel anogaeth bellach i leihau gwastraff ac i ailgylchu ymhlith deiliaid tai; drwy fabwysiadu dull hierarchaidd o leihau gwastraff yn gyntaf cyn ailgylchu popeth posibl.

2020

Cynyddu nifer y cynwysyddion ailgylchu gwydr ar draws ein safleoedd ailgylchu.
Gwella ein gwasanaeth dosbarthu eitemau ailgylchu a chasglu gwastraff swmpus, er mwyn cyflymu’r cyflenwad i’n cwsmeriaid, a chynyddu’r gallu i gasglu.
Cyflwyno system yn seiliedig ar apwyntiadau ar gyfer Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref o ganlyniad i'r pandemig Coronafeirws ym mis Mai 2020. Mae'r system yn caniatáu i breswylwyr archebu ymlaen llaw neu ar y diwrnod, yn ddigidol neu drwy ein canolfan gyswllt.

2021 Cynhyrchion Hylendid Amsugnol wedi'u Dargyfeirio o safleoedd tirlenwi trwy gyflwyno gwasanaeth casglu gwastraff hylendid newydd.

Symud ymlaen, y blynyddoedd nesaf yn Sir Gaerfyrddin

Yn ogystal â chyflwyno gwasanaeth casglu gwastraff hylendid yn hydref 2021, mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi sicrhau gwasanaeth casglu gwastraff cewynnau newydd sy'n cael ei chyflwyno yng ngwanwyn 2022. Bydd preswylwyr sy'n tanysgrifio i'r gwasanaeth hwn, sy'n rhad ac am ddim, yn cael bagiau porffor, a fydd yn cael eu casglu bob pythefnos. Bydd y gwastraff yn cael ei brosesu yn Nappy Cycle yng Nghapel Hendre. Wrth brosesu, mae deunyddiau fel plastig yn cael eu hadfer a'u hailgylchu lle bo modd.

Gwastraff gardd
Bydd cerbydau gwastraff gardd ychwanegol yn ein galluogi i ymestyn y cynllun i hyd yn oed fwy o gartrefi a gwneud y gwasanaeth yn fwy effeithlon. Mae’r holl wastraff gardd yn cael ei brosesu yn Nant-y-caws i gynhyrchu ‘Compost Hud Myrddin’.

Prosiect ailddefnyddio
Mae Sir Gaerfyrddin wedi sicrhau cyllid grant economi gylchol Llywodraeth Cymru i adeiladu pentref ailddefnyddio yn Nant-y-caws ac agor siop ailddefnyddio yng nghanol tref Llanelli. Lansiwyd prosiect ‘Eto’ ym mis Chwefror 2022 pryd yr agorwyd siop Llanelli, ac mae disgwyl i’r pentref ailddefnyddio agor yng ngwanwyn 2022. Bydd preswylwyr yn gallu mynd ag eitemau gwastraff sy’n addas i’w hailddefnyddio/atgyweirio i bob un o’n canolfannau ailgylchu, gan leihau gwastraff a rhoi ail fywyd iddynt.

Bwriad y newid hwn yw creu mwy o gyfleoedd ailddefnyddio ac atgyweirio i breswylwyr, gan eu hannog i leihau eu gwastraff fel blaenoriaeth cyn ystyried unrhyw opsiynau ailgylchu. Bydd yn rhoi cyfle i breswylwyr brynu eitemau am bris fforddiadwy gan ailddefnyddio eitem a fyddai wedi cael ei thaflu yn y gorffennol.

Cyfleuster Ailddefnyddio Paent
Trwy gyllid Economi Gylchol y llywodraeth, mae cyfleuster ailddefnyddio paent i fod i ddechrau yng ngwanwyn 2022 yn Nant-y-caws, lle bydd paent emwlsiwn dyfrsail a dderbynnir yn y pedair Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref yn cael ei gymysgu a’i ailwerthu yn ein siopau ailddefnyddio ‘Eto’.

Canolfan Ailgylchu Fasnachol
Mae cyfleuster ailgylchu gwastraff masnachol yn cael ei ddatblygu yn Nant-y-caws. Bydd y ganolfan yn fan gwerthu i'r sector busnes yn Sir Gaerfyrddin ailgylchu ac ailddefnyddio eu gwastraff. Ar ôl i'r gwastraff gael ei wahanu, bydd yn adnodd ar gyfer marchnadoedd adfer ac ailgylchu, i'w ddefnyddio i greu cynnyrch cynaliadwy, gan weithio tuag at uchelgeisiau economi gylchol Llywodraeth Cymru.

Bydd y cyfleuster hwn yn cynyddu faint o wastraff ailgylchadwy sy'n cael ei ddal gan fusnesau lleol yn sylweddol. Bydd hefyd yn darparu cyfleoedd i ailddefnyddio ac ailgylchu mwy o’u gwastraff, lleihau eu hôl troed carbon, a dod yn fwy effeithlon o ran adnoddau. Bydd hyn yn galluogi busnesau lleol i arbed arian ar gostau gwaredu er mwyn dod yn fwy gwydn a chyflawni canlyniadau amgylcheddol cadarnhaol.

Newidiadau yn y dyfodol i gasgliadau ailgylchu ar ymyl y ffordd
O hydref 2022, byddwn yn dechrau casglu:

  • Bagiau glas bob wythnos
  • Casgliadau gwydr bob tair wythnos
  • Bagiau du bob tair wythnos – hyd at uchafswm o dri bag fesul casgliad
  • Bydd gwastraff bwyd yn parhau i gael ei gasglu'n wythnosol

Yn 2024, byddwn yn cyflwyno:

  • Casgliadau wythnosol ar wahân ar gyfer gwydr, papur, cardbord, caniau, plastig, tecstilau, batris a theclynnau bach ar gyfer y tŷ.

Bydd casgliadau gwastraff gardd y codir tâl amdanynt a chasgliadau cewynnau a hylendid am ddim yn parhau fel gwasanaethau tanysgrifio, a gesglir bob pythefnos.