Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2024-2025
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin
- Cyflwyniad i'n Hadroddiad Blynyddol
- Amcan Llesiant 1 - Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau'n Dda)
- Amcan Llesiant 2 - Galluogi ein preswylwyr i fyw a heneiddio'n dda (Byw a Heneiddio'n Dda)
Cyflwyniad gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin
Mae'n bleser gennyf gyflwyno Adroddiad Blynyddol Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2024/25; blwyddyn sydd wedi bod yn brawf i'n gwytnwch a'n hyblygrwydd. Ar draws y sir mae ein cymunedau, ein staff, ein partneriaid a'n busnesau wedi gweithio gyda'i gilydd i oresgyn heriau sylweddol, gan ddarparu'r gefnogaeth orau posibl i bob un o'r 188,000 o bobl y mae Sir Gâr yn gartref iddynt.
Fel sy'n wir o hyd, mae'r cyd-destun rydym yn gweithio ynddo dal yn gymhleth. Mae ein sir yn parhau i dyfu a newid, ac fel sefydliad rydym yn gweithio i gadw lan â hynny. Rydym yn parhau i wynebu'r realiti llym fod cyllid sector cyhoeddus wedi bod yn annigonol ers dros ddegawd, sydd wedi rhoi mwy o bwysau nag erioed ar ein gallu i gyflawni gwasanaethau hanfodol y mae ein preswylwyr yn dibynnu arnynt. Mae'r argyfwng costau byw, yr economi anwadal a'r newidiadau demograffig i gyd wedi cymhlethu'r galw cynyddol hwnnw.
Er gwaethaf yr holl wasgfeydd hyn, mae'r hyn gyflawnwyd yn y flwyddyn ddiwethaf wedi dangos grym gweledigaeth strategol, partneriaeth ac arloesi. Mae ein hymrwymiad i'n pedwar amcan llesiant wedi llywio pob gweithred: rhoi'r dechrau gorau posibl i blant mewn bywyd, galluogi pobl i fyw a heneiddio'n dda, meithrin cymunedau ffyniannus a gwydn, a moderneiddio ymhellach fel Cyngor gwydn, effeithlon.
Ym maes addysg a blynyddoedd cynnar rydym wedi parhau i hyrwyddo cynhwysiant, codi safonau ar draws ein hysgolion, ac ehangu'r ddarpariaeth gofal plant, gan sicrhau bod pob plentyn, beth bynnag ei gefndir, yn gallu cael cyfleoedd.
Mae ein rhaglen drawsnewid yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi cyflawni buddsoddiad sylweddol, gan ysgogi gwelliannau er gwaethaf cynnydd yn y galw. Mae rhaglenni iechyd a hamdden arloesol wedi ymgysylltu â miloedd o bobl, gan gefnogi llesiant corfforol a meddyliol.
I'n cymuned ehangach, mae mynd i'r afael â thlodi a chefnogi'r rhai sy'n wynebu caledi wedi bod yn flaenoriaeth allweddol. Trwy ymdrechion ein hymgynghorwyr Hwb a'n gwasanaeth Hwb Bach y Wlad, mae preswylwyr cymwys wedi cael cymorth i hawlio dros £7.5 miliwn mewn budd-daliadau. Rydym wedi ailddefnyddio tai gwag, cynnal tenantiaethau newydd, a gwneud cynnydd mewn tai fforddiadwy, gan dynnu dros £17 miliwn i lawr mewn Grantiau Tai Cymdeithasol ac ychwanegu 361 o dai newydd at ein stoc.
Mae ein hymagwedd gadarn at iechyd a gofal cymdeithasol wedi esgor ar ganlyniadau, gan leihau derbyniadau i'r ysbyty a galluogi unigolion i ddychwelyd adref yn gynt gyda'r cymorth iawn mewn lle. Mae'r llwybr Gartref yn Gyntaf a'r buddsoddiad cynyddol mewn gwasanaethau ataliol yn enghreifftiau allweddol o integreiddio effeithiol ac ymyrraeth gynnar, gan ddod â gwelliannau gweladwy i fywydau pobl agored i niwed.
Mae adferiad economaidd a thwf Sir Gaerfyrddin wedi'u galluogi drwy sicrhau dros £58 miliwn o gyllid, cefnogi dros 2,300 o fusnesau, a chreu neu ddiogelu miloedd o swyddi. Mae cynnydd da yn dal i gael ei wneud ar brosiectau strategol fel Pentre Awel, gan ddarparu cyfleusterau o'r radd flaenaf a chyfleoedd arloesol i'n cymunedau.
Ar yr un pryd, mae ein hymrwymiad i ddatgarboneiddio a bioamrywiaeth yn ddiwyro, gyda gostyngiad o 37% mewn allyriadau carbon wedi'u targedu ers ein blwyddyn gychwynnol, a dros hanner y tai Cyngor bellach yn cyrraedd safonau perfformiad ynni uwch.
Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg a'r diwylliant i'n hunaniaeth ac wedi ymateb yn bendant i'r dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg drwy weithredu strategaethau a chynlluniau gweithredu newydd, cefnogi dysgu staff, a hyrwyddo mentrau celfyddydol bywiog.
Trwy gydol yr amser rydym wedi cadw ffocws ar lywodraethu, cydraddoldeb ac ymgysylltu, gan wrando ar ein preswylwyr a'n staff a sicrhau bod egwyddor datblygu cynaliadwy wrth wraidd popeth a wnawn. Mae'r adborth rydych chi'n ei roi drwy'r Arolwg Preswylwyr Blynyddol yn hynod ddefnyddiol i ni wrth i ni flaenoriaethu ein gwaith a'n hymrwymiadau yn y dyfodol. Mae moderneiddio a thrawsnewid wedi cyflymu trwy drawsnewid digidol, awtomeiddio, a ffyrdd mwy clyfar o weithio, gan ddarparu arbedion effeithlonrwydd a phrofiadau gwell i'r rheiny rydym yn eu gwasanaethu.
Rwyf am ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr hyn a gyflawnwyd, ein gweithlu ymroddedig, ein partneriaid, ac, yn bwysicaf oll, pobl Sir Gaerfyrddin. Er gwaethaf yr heriau cymhleth sy'n ein hwynebu, rydym wedi dangos, trwy weithio fel un tîm â'n gwreiddiau yn ein gwerthoedd craidd, ein bod yn gallu cyflawni i'n cymunedau, heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Wrth i ni edrych ymlaen i'r flwyddyn sydd i ddod, rydym yn gwneud hynny gyda phenderfyniad o'r newydd er mwyn wynebu heriau, arloesi, a sicrhau bod Sir Gâr yn parhau i fod yn rhywle y gall pob unigolyn ffynnu ynddo.
Y Cynghorydd Darren Price
Arweinydd, Cyngor Sir Caerfyrddin
