Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2024-2025

Amcan Llesiant 3 - Galluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus)

Trosolwg o'r cynnydd

Mae economi sefydlog sy'n gweithio'n dda yn sail ar gyfer twf, cymunedau ffyniannus, a safonau byw gwell, lle gall pawb fanteisio ar gyfle. Mae cyfleoedd cyflogaeth amrywiol a diogel, canol trefi a busnesau ffyniannus, a marchnad lafur fedrus yn allweddol i sicrhau economi iach, ac rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo hyn trwy ystod o ymyriadau. Mae economi Sir Gaerfyrddin wedi adfer yn dda dros y blynyddoedd diwethaf, ond nid yw'n rhydd rhag pwysau a heriau allanol. Mae incwm gwario aelwydydd yn parhau i fod yn is na'r cyfartaleddau cenedlaethol ac mae cyfraddau anweithgarwch economaidd dal yn uwch na'r cyfartaledd.   

Mae mewnfuddsoddiad a chyllid allanol sylweddol wedi'u sicrhau i gefnogi prosiectau cymunedol, busnesau, creu swyddi, ac adfywio canol trefi. Mae nifer o brosiectau strategol a phrosiectau cyhoeddus naill ai ar y gweill neu wedi'u cwblhau a fydd yn gwella canol trefi ac ardaloedd cyfagos er budd cymunedau lleol. Mae'r gwaith ym Mhentre Awel yn parhau acha rât gyda manteision i'r ardaloedd cyfagos eisoes yn cael eu gwireddu drwy gymunedau.    

Mae ein dwy raglen gyflogadwyedd wedi parhau i gefnogi'r rhai sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur i gael mynediad at gyflogaeth, cyfleoedd gwirfoddoli, neu hyfforddiant. Mae'r cyfleoedd hyn wedi'u cynllunio i gynyddu hyder ac arfogi pobl â'r sgiliau i gael swyddi a fydd yn gwella eu rhagolygon.    

I gydnabod mai busnesau'r sir yw sylfaen ein heconomi, mae gwaith yn parhau i gynnig cefnogaeth trwy ystod o ymyriadau, gyda ffocws ar wella mynediad i ofod masnachol, darparu cyfleoedd rhwydweithio, cyfeirio at gyfleoedd cyllido sydd ar gael, a chefnogi busnesau i fanteisio ar gadwyni cyflenwi lleol trwy gyfleoedd caffael.    

Amgylchedd naturiol Sir Gaerfyrddin yw un o'i hasedau mwyaf. Mae'r Cyngor wedi datgan ei ymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur a bydd yn parhau i weithio tuag at fod yn Awdurdod Lleol Carbon Sero Net erbyn 2030, gan fynd i'r afael â'r materion sy'n sbarduno dirywiad yn ein bioamrywiaeth ac yn cefnogi adferiad natur. Rydym wedi gweld gostyngiad o 37% yn yr allyriadau carbon a dargedwyd yn y Cynllun Sero Net. Mae tair strategaeth arwyddocaol wedi'u datblygu i gefnogi bioamrywiaeth. Rydym hefyd wedi cymryd nifer o gamau i liniaru effeithiau llifogydd.   

Rydym wedi gweld cynnydd da yn y Gwasanaethau Gwastraff, lle bu gwelliant parhaus mewn perfformiad o ran ailddefnyddio ac ailgylchu, gostyngiad yn y gwastraff sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi, a gostyngiad yn y gwastraff fesul person nad yw'n cael ei ailgylchu. Ategir hyn gan y ffaith i'r Gwasanaethau Gwastraff gael y lefelau boddhad uchaf yn yr arolwg preswylwyr ar gyfer 2024.   

Mae ein Sir yn gadarnle strategol i'r Gymraeg, gyda bron i 40% o'r preswylwyr yn siaradwyr Cymraeg. Mae ein cymunedau Cymraeg yn wydn; fodd bynnag, mae gostyngiad wedi bod yn nifer y siaradwyr Cymraeg dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r Cyngor wedi arwain ar ddatblygu cynlluniau i gefnogi gwneud y Gymraeg yn norm mewn meysydd fel annog ei defnydd gyda phlant oedran cyn-ysgol, cynyddu cyfran y teuluoedd sy'n trosglwyddo'r iaith yn llwyddiannus gartref, a chynyddu nifer y preswylwyr sy'n dysgu Cymraeg.   

Mae lefelau troseddu yn Sir Gaerfyrddin yn gymharol isel. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno eu bod yn teimlo'n ddiogel yn eu cymuned, ond mae rhywfaint o anghysondeb ar draws y Sir. Mae gwaith partneriaeth effeithiol wedi parhau dros y flwyddyn, gan ganolbwyntio ar gydlyniant cymunedol a gwaith cymunedol wedi'i dargedu.  

Mae'r Cyngor yn cynnal rhwydwaith priffyrdd helaeth o dros 3,500km ar draws ardaloedd lled-drefol a gwledig. Golyga cwtogiadau cyllid, pwysau ar y gadwyn gyflenwi, disgwyliadau cynyddol y cyhoedd, a dirywiad yn y priffyrdd fod y gwasanaeth dan bwysau. Ategir hyn gan y ffaith i faes gwasanaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth gael y lefelau boddhad isaf yn yr Arolwg Preswylwyr ar gyfer 2024. O ganlyniad, rydym yn blaenoriaethu cynnal y rhwydwaith, yn enwedig yn ystod y gaeaf, er mwyn sicrhau mynediad di-dor i wasanaethau hanfodol sy'n diogelu cysylltedd strategol. Mae rhagor o waith wedi'i gwblhau ar heriau strategol mawr megis ymgyrch genedlaethol 20mya, datblygu cynllunio trafnidiaeth ranbarthol, a'r dyheadau carbon sero net.   

Mae nifer y bobl a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol ar ein ffyrdd yn parhau i gynyddu, ac mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wneud popeth yn ei allu i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel trwy weithio mewn partneriaeth, codi ymwybyddiaeth, a chyfleoedd addysg a hyfforddiant i wella sgiliau ac ymddygiadau defnyddwyr ffordd.   

Mae'r cynnig chwaraeon, hamdden a thwristiaeth yn y sir yn parhau i berfformio'n dda wrth i ymwelwyr dros nos a dydd gyfrannu £683m i'r economi leol gan gefnogi 6,649 o swyddi amser llawn. Mae'r sectorau hyn yn strategol bwysig i'r Sir ac yn manteisio ar ein tirwedd naturiol a'n cynnig diwylliannol a threftadaeth cryf. Yn bwysicach byth, maent yn helpu ac yn annog ein preswylwyr a'n hymwelwyr i fyw bywydau egnïol, iach a chyfoethog.

 

 

Yn Gryno

Bu gwaith sylweddol mewn adferiad a thwf economaidd yn 2024/25. Llwyddwyd i gyflawni hyn oherwydd bod y gwasanaeth wedi cael cyllid allanol – yn bennaf oll trwy Raglen Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a'r Rhaglen Ffyniant Bro. Ynghyd â chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, mae'r arian hyn wedi galluogi Datblygu Economaidd i ddarparu rhaglenni'n uniongyrchol ym maes Sgiliau, Adfywio Canol Trefi, Cymunedau a Chymorth Busnes. Mae prosiectau strategol fel Hwb Caerfyrddin a Phentre Awel ar y gweill ers tro, ac mae'r gwaith adeiladu'n mynd rhagddo'n hwylus ar y naw.   

Mae cyllideb £38.68m Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi'i gwario'n llawn gyda'r holl brosiectau bellach wedi'u cwblhau. Derbyniodd dros 520 o brosiectau Sir Gaerfyrddin gyllid o'n dyraniad Cronfa Ffyniant Gyffredin, ac roeddent yn amrywio o welliannau mewn trefi bach i brosiectau strategol mawr. Mae busnesau a chymunedau wedi derbyn buddsoddiad sylweddol, ac mae'r rhaglen wedi cael effaith sylweddol ar yr economi leol. Mae tîm penodol Datblygu Economaidd ar gyfer Rheoli Prosiectau'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a Thimau Angor wedi cyflawni'r allbynnau canlynol:   

  • 529 o swyddi cyfwerth ag amser llawn wedi'u creu,  
  • 154 o swyddi cyfwerth ag amser llawn wedi'u diogelu,   
  • 508 o bobl wedi cael cymorth i gael cyflogaeth,   
  • 3,652 o gyfleoedd gwirfoddoli newydd wedi eu creu,   
  • 6,988 o gyfleoedd gwirfoddoli presennol wedi'u cefnogi,   
  • 3,378 o ddigwyddiadau neu weithgareddau lleol wedi'u cefnogi,   
  • 842 o fentrau wedi cael cymorth anariannol,  
  • 7,611 o bobl wedi mynychu sesiynau hyfforddiant,   
  • 1,264 o bobl wedi cael cymorth i gael cymhwyster,  
  • 209 o gyrsiau rhifedd i oedolion wedi'u cyflwyno,   
  • 2,185 o bobl yn ymgysylltu â gweithiwr allweddol,   
  • 417 o sefydliadau wedi derbyn grant.   

   

Sut ydyn ni'n gwneud?

  • Mae cyfraddau cyflogaeth wedi gwella rhyw fymryn yn Sir Gaerfyrddin i 72.8% ar ddiwedd mis Mawrth 2025, o gymharu â 72.0% am y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, maent yn parhau i fod yn is na chyfraddau Cymru a'r DU o 73.4% a 75.4%. Cynyddodd y ffigurau diweithdra ychydig i 3.6% ym mis Mawrth 2025 o gymharu â 3.0% ym Mawrth 2024. Mae hyn yn uwch na'r gyfradd ar gyfer Cymru (3.5%) ond yn is na chyfradd y DU (3.8%). Mae Anweithgarwch Economaidd1 yn Sir Gaerfyrddin yn parhau i fod yn uchel er gwaethaf gwelliant bach o 21.7% ym mis Mawrth 2024 i 21.1% ym mis Mawrth 2025. Mae hyn yn uwch na chyfradd Cymru o 19.9% a llawer uwch na chyfradd y DU o 17.7%.   
  • Am y tro cyntaf ers 2020, gostyngodd cyfran y rhai rhwng 18 a 64 oed oedd yn gymwys hyd at Lefel 4 neu uwch y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r data diweddaraf (Rhagfyr 2024) yn dangos canlyniad o 40.7% sy'n ostyngiad sylweddol o ffigur y flwyddyn flaenorol, sef 46.3%. Mae hyn llawer is na chanlyniad Cymru o 46.4%, a oedd yn 45% y flwyddyn gynt. Mae datblygu sgiliau a chymwysterau yn gwella cyflogadwyedd, yn rhoi hwb i ragolygon gyrfa ac yn creu marchnad lafur fedrus a galluog iawn. Mae hefyd yn sicrhau bod gennym weithlu sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Yn dilyn tuedd am i lawr dros y blynyddoedd diwethaf, cynyddodd cyfran y rhai rhwng 18 a 64 oed heb unrhyw gymwysterau yn ôl y data diweddaraf (Rhagfyr 2024) – 6.4% o gymharu â 5.3% y flwyddyn flaenorol. Rydym yn parhau i fod yn is na Chymru (7.9%).     
  • Crëwyd 1,789 o swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol gyda chymorth adfywio yn ystod 2024/25. Mae hyn bron ddwywaith ffigur y flwyddyn flaenorol sef 955.   
  • Cafodd 151 o unigolion eu cefnogi drwy gynlluniau cyflogadwyedd y Cyngor i ennill y cyflog byw go iawn yn ystod 2024/25, mae hyn yn ostyngiad bach o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, sef 158. Roedd llawer o'r cleientiaid a gefnogwyd yn dal i dderbyn cyngor ac arweiniad ar ddiwedd y flwyddyn ariannol gan eu bod yn profi rhwystrau lluosog ac anghenion cymhleth. Felly, mae angen cymorth ychwanegol cyn cael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth.  
  • Sicrhaodd Datblygu Economaidd dros £58m o gyllid yn ystod 2024/25 trwy fuddsoddiad yn y sector preifat ac amrywiol geisiadau llwyddiannus am gyllid allanol.   
  • Mae ymwelwyr dros nos ac ymwelwyr dydd yn cyfrannu £683m i'r economi leol gan gefnogi 6,649 o swyddi amser llawn.   

  

Cynnydd yn erbyn Canlyniadau  

Canlyniad: Cefnogir busnesau a darperir swyddi.   

Mae cymorth a thwf sylweddol wedi'u darparu ledled Sir Gaerfyrddin drwy Ddatblygu Economaidd yn 2024/25, gyda 1,353 o swyddi uniongyrchol wedi'u creu/darparu ar eu cyfer, 436 o swyddi anuniongyrchol wedi'u creu drwy adeiladu, a 346 o swyddi wedi'u diogelu.   

Mae cyfanswm o 3,953 o wirfoddolwyr wedi cael eu cefnogi drwy raglenni fel y Gronfa Cymunedau Cynaliadwy a'r Rhaglen Ffyniant Gyffredin. Mae 2,328 o fusnesau wedi cael eu cefnogi drwy Gymorth Busnes, y Bartneriaeth Sgiliau Dysgu Ranbarthol, a mentrau adfywio canol trefi. Mae'r tabl isod yn dangos yr hyn mae'r tîm wedi'i gyflawni yn erbyn y targedau.   

 

Marchnadoedd   

Mae'r marchnadoedd nwyddau yn ein prif drefi yn parhau i ddarparu gwasanaeth allweddol i'n preswylwyr a'n hymwelwyr. Gan adeiladu ar eu llwyddiant, rydym wedi cynnal digwyddiad masnachu i ieuenctid ym mhob un o'n trefi, ac roedd presenoldeb da ynddynt. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i blant ysgol lleol gael profiad o fasnachu yn y farchnad trwy ddatblygu syniad busnes a'i droi'n fenter, gan ennill profiad gwerthfawr o'r byd gwaith a busnes.  

  

Cymorth Busnes

Parhaodd Datblygu Economaidd i gynnig amrywiaeth o fesurau cymorth busnes gyda'r nod o greu a diogelu swyddi, darparu arian i brynu offer cyfalaf a refeniw, ac adeiladu ac adnewyddu eiddo at ddefnydd economaidd ledled y sir.   

Cefnogwyd 1,061 o fusnesau gyda grantiau a benthyciadau trwy Ddatblygu Economaidd yn 2024/25. Er enghraifft, o dan Raglen Twf Busnes a Dechrau Busnes y Gronfa Ffyniant Gyffredin, cefnogwyd cyfanswm o 194 o fusnesau, gan ddarparu £3.4 miliwn o fuddsoddiad, creu 317 o swyddi, a diogelu 97 o swyddi.   

  

Safleoedd Cyflogaeth   

Dros y 12 mis diwethaf, mae Datblygu Economaidd wedi gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i ddatblygu a darparu sawl safle cyflogaeth i greu lle i fusnesau naill ai ddechrau neu dyfu, gan greu swyddi a thwf.  

Mae Parc Gelli Werdd yn ddatblygiad newydd a chynaliadwy sy'n darparu cyfanswm o 32,500 troedfedd sgwâr o le cyflogaeth ar Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain  Cross Hands. Mae'r datblygiad yn cynnwys unedau diwydiannol a swyddfeydd mewn tri adeilad, gan dargedu'r sectorau canlynol:  

  • Gweithgynhyrchu Uwch   
  • Technoleg Bwyd-Amaeth   
  • Creadigol  
  • Ynni a'r Amgylchedd   
  • Ariannol a Phroffesiynol.

Un o uchafbwyntiau'r lle yw ei fod wedi defnyddio egwyddorion Adeiladu Gweithredol sy'n cynnwys ynni solar ffotofoltäig ar y safle a dull ffabrig yn gyntaf sy'n cynnwys lefelau uchel o insiwleiddio a fydd yn lleihau costau gwresogi. Wedi'i gynllunio gyda'r nod o gyflawni 'Targed carbon sero net mewn defnydd' ac wedi cyflawni graddau BREEAM2 "Rhagorol" ac EPC3 "A". Mae'r datblygiad hwn yn cynnwys system rheoli adeiladau arloesol (BMS) sy'n ymgorffori platfform mesur a monitro pwrpasol i alluogi bilio a monitro perfformiad manwl. Bydd data a gesglir drwy'r system rheoli adeiladau yn cael ei ddefnyddio i ddarparu dysgu yn y dyfodol mewn perthynas â chynaliadwyedd a datgarboneiddio, i wella perfformiad y datblygiad ac i lywio'r gwaith o adeiladu a gweithredu safleoedd newydd. Drwy fabwysiadu arferion da, dylai tenantiaid allu mwynhau costau ynni is o ganlyniad i nodweddion cynaliadwy'r datblygiad.  

Yn ogystal, mae caniatâd cynllunio wedi'i sicrhau ar gyfer datblygu 7,500 troedfedd sgwâr o unedau diwydiannol ar safle cyflogaeth Beechwood yn Llandeilo. Rhagwelir y bydd y datblygiad hwn yn cael ei gyflawni yn 2025/26 mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru drwy'r Gyd-fenter Wledig.   

  

  

Canlyniad: Caiff pobl eu cynorthwyo i fanteisio ar gyfleoedd lleol boed hynny trwy ddechrau busnes, ennill cymwysterau neu gael gwaith ystyrlon.  

Y Rhaglen Deg Tref  

Rydym wedi bod yn cyflawni'r rhaglen hon i gefnogi adfywio deg tref farchnad wledig ledled y sir. Mae'r Awdurdod wedi buddsoddi £1m o gyllid cyfalaf ynghyd â buddsoddiad pellach o £1.2m gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin i gyflawni ystod o fentrau i gefnogi anghenion busnesau a'r gymuned ehangach:  

  • Mae £260,000 wedi'i fuddsoddi i gefnogi'r gwaith o addasu eiddo gwag a dechrau eu defnyddio at ddibenion busnes eto.   
  • Mae 95 eiddo wedi cael cyllid i wella blaen eu siopau.  
  • Gwelwyd gwelliannau i'r amgylchfyd cyhoeddus, glanhau strydoedd, a murluniau celf i wella bywiogrwydd y trefi.    
  • Mae 8 digwyddiad gwledig wedi cael cymorth i ddenu ymwelwyr ychwanegol i'r trefi.  
  • Mae pob un o'r trefi wedi derbyn cyllid i gefnogi mentrau a nodwyd yn flaenoriaeth gan y cymunedau priodol e.e. datblygu canolfan gymunedol; trac pwmpio; man digwyddiadau; byncws, datblygiad marchnad newydd; gwell cyfleusterau parcio ceir.  
  • Mae sawl menter wedi cael cymorth i godi ymwybyddiaeth o'r economi gylchol gan gynnwys gweithgareddau siop gyfnewid, llyfrgell pethau, a chaffis trwsio. Yn ogystal, mae ysgolion lleol wedi dylunio gwaith artistig o gynhyrchion gwastraff sy'n cael ei arddangos yn eu trefi.  

  

Cronfa Cymunedau Cynaliadwy 

Wedi'i ariannu drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, mae'r Gronfa Cymunedau Cynaliadwy wedi galluogi buddsoddiad o dros £6m mewn prosiectau a arweinir gan y gymuned leol. Mae'r cynllun wedi cyflawni'r allbynnau canlynol:  

  • 70 o brosiectau wedi'u cynorthwyo,   
  • 37 o swyddi wedi'u creu,   
  • 32 o swyddi wedi'u diogelu,   
  • Gwariwyd dros £900,000 yn lleol,  
  • 42 amwynder/cyfleuster newydd neu well,  
  • 12,900m o lwybrau wedi eu creu neu eu gwella;   
  • 586 digwyddiad neu weithgaredd cymunedol,  
  • 2,933 cyfle gwirfoddoli newydd.  

Ceir astudiaethau achos drwy'r ddolen: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Prosiectau Cymunedau Cynaliadwy - Cyngor Sir Caerfyrddin  

 

Cronfa Cyflogadwyedd a Sgiliau   

Wedi'i ariannu drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, mae'r Gronfa Cyflogadwyedd a Sgiliau wedi bod yn cefnogi pobl i gael swyddi, gyda:  

  • 11 prosiect yn cael cymorth,   
  • 45 yn cael cymorth i gael swyddi neu hunangyflogaeth,   
  • 1,201 yn ennill cymhwyster,  
  • 111 o gyfleoedd gwirfoddoli.  

  

Adfywio Canol Trefi

Dros y 12 mis diwethaf, mae Datblygu Economaidd wedi parhau i ddarparu mentrau adfywio canol trefi yn y tair prif dref sef Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli. Mae cyfanswm o £4.2 miliwn wedi'i fuddsoddi yn ein trefi drwy lu o fentrau sy'n anelu at wella'r cynnig. Rydym wedi darparu grantiau i fusnesau i wella eu heiddo, gwneud gwelliannau i'r amgylchfyd cyhoeddus, a rhoi cyllid i gefnogi digwyddiadau yng nghanol ein trefi.  

Mae'r gweithgarwch wedi'i gydlynu trwy Fforwm a Thasglu pob tref, lle mae rhanddeiliaid allweddol o'r sector preifat, y sector gwirfoddol, cyrff cyhoeddus eraill, a'r awdurdod lleol yn dod at ei gilydd i drafod a chydlynu gweithgarwch yng nghanol ein trefi.   

  

Digwyddiadau Canol y Dref

Mae nifer o ddigwyddiadau a gwyliau yng Nghanol ein Trefi wedi cael eu cefnogi gan Ddatblygu Economaidd yn ystod 2024/25, gan ddod â llawer o sefydliadau a chymunedau at ei gilydd yn ein prif drefi yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli a chynyddu nifer yr ymwelwyr â'n trefi.   

   

Hwb Caerfyrddin

Cwblhawyd gwaith galluogi ar gyfer y prosiect ym mis Ebrill 2024, gyda'r prif gontract adeiladu wedi'i lofnodi ym mis Gorffennaf 2024. Mae gwaith yn mynd rhagddo'n hwylus ar y safle. Mae'r prif adeilad ar y safle wedi'i gyflawni a'r gosodiadau yn eu lle, ac mae is-gontractwyr y sylfeini wedi cwblhau'r gwaith o dorri'r slabiau mewnol allan a gosod y draeniau. Dechreuodd y gwaith toi ar gychwyn mis Tachwedd a'r ystafell beiriannau yn y to ym mis Rhagfyr 2024. Mae'r dur eilaidd, chwyddedig, a'r cysylltiad draenio adran 104 wedi'u cwblhau. Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2026.  

  

YMCA – Llanelli

Ym mis Tachwedd 2019, llwyddodd y Cyngor i gael y dyfarniad llawn o £2,000,000 o gyllid strategol y Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio ar gyfer datblygiad YMCA. Y bwriad oedd ailddatblygu adeilad eiconig yng nghanol tref Llanelli er mwyn ei ailddefnyddio. Mae'r datblygiad yn 1,700m2 dros bedwar llawr ac islawr. Bydd yr hen adeilad YMCA hwn yn cael ei ddefnyddio at ddibenion masnachol a chymunedol ar y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf, gydag wyth fflat dwy ystafell wely ar yr ail lawr a'r trydydd llawr. Mae rhywun yn byw yn yr holl unedau tai, tra bo'r unedau adwerthu a swyddfa'n cael eu hysbysebu ar-lein ar hyn o bryd i fusnesau fynegi'u diddordeb.   

  

Gogledd Stryd y Farchnad

Ym mis Tachwedd 2019, llwyddodd y Cyngor hefyd i gael y dyfarniad llawn o £2,000,000 o gyllid strategol y Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio ar gyfer Cynllun Gogledd Stryd y Farchnad. Rhoddwyd caniatâd cynllunio ym mis Awst 2020 ar gyfer dymchwel ac ailgodi'r adeilad tri llawr i ddarparu pum uned at ddefnydd masnachol ar y llawr gwaelod a 10 fflat 2 ystafell wely ar y llawr cyntaf a'r ail lawr. Cwblhawyd y gwaith dymchwel ym mis Rhagfyr 2020. Dechreuodd y prosiect yn swyddogol ar y safle ym mis Medi 2023, ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau ym mis Medi 2025.   

  

Gwelliannau i'r Amgylchfyd Cyhoeddus  

Mae nifer o welliannau i'r amgylchfyd cyhoeddus wedi'u cyflawni yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli.  Mae'r prosiectau hyn wedi gwella gwedd canol ein trefi. Ymhlith yr enghreifftiau o brosiectau a gwblhawyd y mae:   

  

Sgwâr y Farchnad Rhydaman - Stryd y Cei  

Mae gwaith helaeth wedi'i wneud yn Sgwâr y Farchnad, Rhydaman, lle gwaredwyd arhosfan bws diddefnydd, ad-leolwyd lloches feiciau, gwnaed gwelliannau i oleuadau a rheiliau, a gwellwyd mynediad i gerddwyr rhwng Maes Parcio Carregaman a chanol y dref. Ynghyd ag ailwynebu sgwâr y farchnad yn llwyr, mae'r llecyn hwn bellach yn lleoliad canolog mwy o faint ar gyfer cynnal y farchnad a digwyddiadau cymunedol eraill yng nghanol y dref.  

  

Caerfyrddin

Mae sawl prosiect ar y gweill yng nghanol y dref i wella gwedd, hygyrchedd, cysylltedd rhwng lleoliadau allweddol yng nghanol y dref, a moderneiddio celfi stryd. Mae'r prosiectau Mynd i'r Afael â Threfi yn cynnwys Castell Caerfyrddin, Mynedfa Maes Parcio San Pedr, y Neuadd Sirol a Maes Nott, Heol y Brenin a Heol y Frenhines, Heol Goch a Rhodfa'r Farchnad, Stryd y Capel, Ffordd Cambria, Heol Ioan, Heol Goch ac Arwyddion Tref.   

  

Stryd Cowell

Mewn ymateb i COVID-19, cafodd cyfyngiad traffig dros dro ei gyflwyno yn Stryd Cowell, a rhoddwyd mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith. Roedd hyn yn caniatáu asesu'r effeithiau posibl ar yr amgylchedd stryd. Dengys astudiaethau rhagarweiniol fod y lle hwn wedi cael ei ddefnyddio'n gadarnhaol gan gwmnïau, ac nad oes unrhyw effeithiau negyddol sylweddol ar gylchrediad cerbydau. Wrth ymateb, nodwyd bod gwelliannau i amgylchfyd cyhoeddus Stryd Cowell yn hanfodol i Gynllun Adfer Canol Tref Llanelli. Ar ôl cyhoeddi'r cynllun adfer, cafodd Atkins ei hurio i gynnal astudiaeth ddichonoldeb i edrych ar ffyrdd o wella'r amgylchfyd cyhoeddus a chreu lleoedd mewn sawl rhan bwysig o ganol tref Llanelli, gan gynnwys Stryd Cowell.   

Mae'r cynllun a gyflwynwyd yn dangos dyluniad 'cyfeillgar' i gerddwyr. Er enghraifft, mae croesfan arfaethedig 1.6m o led i'w hychwanegu, cilfannau presennol i'w codi i lefel y droedffordd, a chroesfan arall i'w hychwanegu yn unol â'r canllawiau teithio llesol. Ar ben hynny, bwriedir ail-darmacio rhannau o'r stryd fel rhan o'r prosiect. Dechreuodd gwaith y prosiect ar 27 Awst ac fe'i cwblhawyd mewn 9 wythnos.  

  

Y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol  

Mae'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol ar gyfer De-orllewin Cymru yn un o bedair partneriaeth sgiliau sy'n gweithio gyda'r sector preifat, y sector cyhoeddus, darparwyr sgiliau/hyfforddiant, darparwyr addysg, a rhanddeiliaid allweddol i sicrhau ein bod yn darparu'r sgiliau cywir ar gyfer ein gweithlu yn y dyfodol.   

Mae'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol yn cynhyrchu ac yn dadansoddi gwybodaeth am y farchnad lafur, yn casglu tystiolaeth gan gyflogwyr rhanbarthol trwy grwpiau clwstwr y sector a thrwy arolygon, ac yn cyhoeddi Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Rhanbarthol 3 blynedd. Mae hyn yn rhoi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru am y sgiliau sydd eu hangen ar draws y rhanbarth nawr ac yn y dyfodol. Mae'r tabl isod yn dangos gwaith y Bartneriaeth Sgiliau dros y flwyddyn.   

Mae'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol hefyd yn arwain ar ddarparu'r rhaglen Sgiliau a Thalentau ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Gwaith y rhaglen yw nodi'n benodol anghenion sgiliau'r wyth prosiect Bargen Ddinesig a datblygu modiwlau neu gyrsiau newydd i ddiwallu anghenion sgiliau'r dyfodol lle nad ydynt yn bodoli'n barod. Mae cyfanswm o 25 o brosiectau peilot wedi'u hariannu ar draws y rhanbarth cyfan.   

 

Cynlluniau Cyflogadwyedd Sir Gaerfyrddin   

Mae dwy raglen gyflogadwyedd yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi'u cynllunio i gynorthwyo unigolion sydd naill ai'n ddi-waith neu'n chwilio am waith ychwanegol. Mae'r rhaglenni Cymunedau am Waith a Mwy a Gweithio Sir Gaerfyrddin (a ariennir gan Lywodraeth Cymru a thrwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin) yn darparu cymorth i unigolion sydd â'u bryd ar fynd i'r gweithlu'n syth neu ar ôl cymryd rhan mewn hyfforddiant neu wirfoddoli i gynyddu eu hyder.   

Mae'r ddwy raglen yn cynnig amrywiaeth o opsiynau hyfforddi, cymorth gyda pharatoi CV a chyfweliadau, yn ogystal â chymorth i chwilio am swydd. Drwy gydol y flwyddyn, mae'r rhaglenni'n trefnu ffeiriau swyddi yn Llanelli, Rhydaman a Chaerfyrddin, gan gydweithio â busnesau lleol i hwyluso recriwtio ar gyfer swyddi gwag. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r rhaglenni wedi cefnogi 185 o fusnesau, wedi helpu 312 o unigolion i sicrhau cyflogaeth, ac wedi galluogi 184 o unigolion i gymryd rhan mewn cyfleoedd gwirfoddoli.   

  

  

Canlyniad: Caiff busnesau eu cynorthwyo i fanteisio ar gadwyni cyflenwi lleol a chyfleoedd caffael.

Mae'r Uned Caffael Corfforaethol yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn Datblygu Economaidd i ddarparu Cymorthfeydd Caffael a Busnes. Mae'r rhain yn cynnig cyngor ac arweiniad caffael i ddarpar gyflenwyr, cyngor ar grantiau busnes i'r rhai sy'n gymwys, a chymorth busnes ehangach. Mae'r Cymorthfeydd Caffael a Chymorth Busnes wedi profi'n llwyddiannus iawn, gyda naw wedi'u cynnal hyd yn hyn. Mae pob un wedi bod yn llawn gyda'r uchafswm o 12 busnes y dydd. Mae mwy o gymorthfeydd wedi'u trefnu ar gyfer Mai, Gorffennaf, a Medi 2025. Mae digwyddiad caffael hefyd wedi'i drefnu ar y cyd â Busnes mewn Ffocws, Cwmpas, Antur Cymru, a Busnes Cymru.  

Mae'r tîm Caffael a'r tîm Cymorth Busnes yn cyflwyno Cymhorthfa Caffael a Chymorth Busnes fisol ledled y sir, sy'n rhoi cyfle i fusnesau drafod mynediad at waith gyda'r Cyngor, a'r cymorth a'r cyllid sydd ar gael iddynt. Cysylltir hefyd trwy e-bost, cynnwys yn y llythyr newyddion busnes a galwadau ffôn achlysurol. Mae contractau diweddar yn cynnwys contract sylweddol Gwaith Eiddo lle ymgysylltodd y tîm busnes â'r dwsinau o fusnesau y dyfarnwyd contractau iddynt. Mae astudiaethau achos i'w llunio o'r canlyniadau cadarnhaol. Yn ogystal, maent yn parhau i weithio gyda Datblygu Economaidd ar ymarferion tendro y dyfodol, i'w hyrwyddo i fusnesau lleol a allai fod â diddordeb mewn tendro, a rhannu'r rhaglen waith bob chwarter i nodi cyfleoedd pellach i hyrwyddo'r cyfleoedd i fusnesau Sir Gaerfyrddin.    
  

Cyfleoedd Caffael  

Ym mis Mehefin 2024, tendrwyd Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru gyda chyfanswm gwerth o oddeutu £800 miliwn. Bu i Caffael a Dylunio Eiddo fabwysiadu amrywiaeth o fentrau ymgysylltu â chyflenwyr, i ddenu contractwyr lleol i dendro, i hyrwyddo'r gofynion tendro ac i wella'r tendrau a gyflwynir drwy gynnig cymorth tendro pan fo angen. Yn dilyn gweminar 'Bod yn Barod i Dendro' yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, cynhaliom sesiwn friffio ar gyfer y tendr hwn ym Mharc y Scarlets, Llanelli ym mis Ebrill 2024, pryd daeth 186 o gontractwyr. Er mwyn gwella a chefnogi cyflenwyr sydd â diddordeb mewn tendro am y cyfle hwn, fe wnaethom drefnu Gweminar Tendr fyw drwy Busnes Cymru ym mis Mehefin 2024. Cafodd y weminar ei threfnu i helpu contractwyr gyda'r broses dendro.   

  

Budd i'r Gymuned  

Trwy ddarparu Budd i'r Gymuned a Recriwtio wedi'i Dargedu, mae Caffael Hyfforddiant yn sicrhau bod contractwyr/cyflenwyr yn darparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i'r rhai sy'n wynebu rhwystrau i gyflogaeth. Ymhlith y rhwystrau hyn mae diweithdra hirdymor, anweithgarwch economaidd, anableddau, cyflyrau iechyd, a bod dros 54 oed. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda chontractwyr fel eu bod yn darparu mwy o gyfleoedd prentisiaeth na'r hyn fyddent fel arfer yn ei wneud.   

Rydym yn gweithio gyda nifer o gontractwyr ar draws sawl fframwaith, gan gynnwys Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru (SWWRCF), Fframwaith Contractwyr Peirianneg Rhanbarthol De-orllewin Cymru (SWWRECF), a'r Fframwaith Gwaith Eiddo (PWF).  

Mae cyfleoedd yn cael eu mesur mewn wythnosau person4, gyda 5,011 wythnos person wedi'u creu yn 2024/25 – gan fwy na dyblu ein targed o 2,462. Crëwyd 64 o swyddi hefyd, gan guro ein targed o 60.   

  

Pentre Awel

Fel rhan o gyflawni contract Parth 1 Pentre Awel fel y prif gontractwr penodedig, roedd yn ofynnol i Bouygues UK (BYUK) ddarparu cyfleoedd i gontractwyr lleol gynnig am waith is-gontractio ar y prosiect. Cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd i nodi mecanweithiau ar gyfer hysbysebu cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi a chipio'r gwariant. Roedd hyn yn cynnwys olrhain deunyddiau'r gadwyn gyflenwi yn ôl lleoliad a lleoliad unigolion a gyflogir ar y safle. Gan ddefnyddio model adrodd a ddatblygwyd ac a addaswyd ar y cyd â'r Ganolfan ar gyfer Strategaethau Economïau Lleol (CLES), mae Bouygues yn cwblhau'r ffigurau i'w rhannu yn ôl cod post a rhanbarth. Bydd y data hwn yn cwmpasu'r pecynnau mwy, gan gynnwys gwaith tir, a gwaith mecanyddol, peirianneg a phlymio. Dywed Bouygues fod 74% o wariant contractwyr yng Nghymru.  

Darparodd Pentre Awel nifer o gyfleoedd ar gyfer cyfleoedd recriwtio wedi'u targedu. Gosodom darged o 4,680 wythnos person o recriwtio wedi'i dargedu ac rydym eisoes wedi cyflwyno 5,495 wythnos. Mae rhywfaint o hyn wedi'i gyflawni trwy arferion arloesol a fabwysiadwyd gan y Cyngor a Bouygues, gan gynnwys cyflwyno Canolfannau Cyflogadwyedd – gan weithio gyda phrosiectau cymorth cyflogadwyedd lleol i sefydlu canolfannau cyflogadwyedd misol ar y safle. Roedd y canolfannau'n rhoi cyfle i'r contractwr gwrdd â darpar weithwyr a rhoi cyflwyniad manwl o sut beth fyddai gweithio ar y safle. Arweiniodd y broses hon at broses hidlo effeithiol a wnaeth, yn ei dro, arwain at lefel uwch o gadw gweithwyr ar y safle. 

Mae Cyfle yn elusen gofrestredig sy'n darparu cynllun prentisiaethau a rennir yn Sir Gaerfyrddin a thu hwnt. Yn ddiweddar roedd Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi dod â'r cymhorthdal ariannol oedd yn gysylltiedig â phrentisiaid Mecanyddol a Thrydanol i ben, a olygai fod nifer o brentisiaid blwyddyn gyntaf nad oeddent yn gallu dod o hyd i gyflogwyr ac na fyddent wedi cael y cyfle i gwblhau eu prentisiaeth. Cytunodd Bouygues hefyd i ariannu'r cymhorthdal ar gyfer 10 o brentisiaid Mecanyddol a Thrydanol drwy Cyfle. Cafodd y prentisiaid eu cyflwyno ym Mhentre Awel ac yna eu lleoli gyda busnesau bach a chanolig lleol. Galluogodd hyn iddynt gwblhau eu hail flwyddyn a rhoddodd gyfle i gyflogwyr lleol weithio gyda phrentis.   

  

  

Canlyniad: Ceisio sicrhau bod mwy o leoliadau addysg a gofal plant blynyddoedd cynnar ar gael ledled y sir a'u bod yn fwy fforddiadwy, i fynd i'r afael ag un o'r rhwystrau cyffredin sy'n wynebu unigolion sydd am ddychwelyd i weithio neu ddod o hyd i waith.  

  

Fforddiadwyedd  

Mae Sir Gaerfyrddin yn hyrwyddo ac yn cefnogi'n llawn Cynnig Gofal Plant 30 awr Llywodraeth Cymru, gan gydnabod bod gofal plant fforddiadwy, sydd ar gael, a hygyrch yn galluogi rhieni i weithio. Mae hyn yn cefnogi'r ymgyrch i gynyddu twf economaidd, mynd i'r afael â thlodi, a lleihau anghydraddoldebau. Rydym yn cefnogi darparwyr cofrestredig a rhieni cymwys drwy gyflwyno'r Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol newydd.  

Drwy Gynnig Gofal Plant Cymru, gallai plant rhieni cymwys dderbyn mwyafswm o 30 awr o addysg gynnar wedi'i hariannu a gofal plant yr wythnos, am hyd at 48 wythnos o'r flwyddyn. Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn gynnig cyfunol, sy'n cynnwys addysg Blynyddoedd Cynnar ran-amser a darpariaeth gofal plant. Felly, mae'n rhaid i blant fod o oedran lle maent yn gymwys i gael mynediad i'r ddwy elfen ar yr un pryd. Os yw rhieni'n gymwys, bydd plant fel arfer yn derbyn elfen gofal plant y cynnig o'r tymor ar ôl eu penblwydd yn dair oed, nes eu bod yn cael cynnig lle addysg amser llawn.  

Mae'r Grant Cymorth Ychwanegol yn darparu cyllid i helpu i sicrhau bod plant cymwys ag anghenion cymorth ychwanegol yn gallu cael mynediad at elfen gofal plant y Cynnig Gofal Plant yn yr un modd â phlant cymwys eraill. Cafodd 16 o blant gymorth drwy Grant Cymorth Ychwanegol y Cynnig Gofal Plant.  

  

Oes unrhyw un ar ei ennill?   

Astudiaeth Achos ar gyfer Grantiau Cychwynnol a Thwf – Lignum Joinery Ltd  

Ym mis Mehefin 2024, cysylltodd Owen Smart â Chyngor Sir Caerfyrddin ynghylch grant cychwynnol. Mae'r grantiau hyn yn cael eu hariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.   

Ar ôl cael cais Owen, cafodd ei arwain gan y tîm grant drwy'r broses a llwyddodd i gael grant sylweddol. Roedd yr arian oedd ar gael wedi cyfrannu at y costau oedd ynghlwm wrth gyfarpar sefydlu ac wrth agor y gweithdy yn Rhydaman yn ystod haf 2024.   

Dywedodd Owen 'roedd y gefnogaeth ges i gan y tîm datblygu busnes yn arbennig. Fe 'naethon nhw dywys fi drwy holl broses y grant, sy'n edrych yn eithaf brawychus ar yr olwg gynta'. Ond fe 'naethon nhw roi'r holl gyngor roedd ei angen arna' i i fod yn llwyddiannus gyda'r grant cychwynnol. Roedd costau cychwynnol fy musnes yn uchel oherwydd pris rhywfaint o'r cyfarpar roedd ei angen arnon ni. Roedd gallu gwneud cais am gymorth grant tuag at gyfarpar hanfodol wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i'm costau buddsoddi. Sicrhaodd yr hwb ariannol cychwynnol hwn fod y cyfarpar oedd yn cael ei brynu'n addas i'r diben am y tymor hir.’  

Ar ôl sefydlu'r busnes a chlustnodi marchnadoedd penodol, roedd angen i'r busnes fuddsoddi mewn offer arbenigol. Gwnaeth Lignum Joinery gais pellach am grant twf. Dywedodd Owen 'unwaith eto, roedd y gefnogaeth ges i gan y tîm datblygu busnes heb ei hail. Fe 'naethon nhw dywys fi trwy broses y grant twf, a rhoi'r cyngor ychwanegol oedd ei angen arna' i i wneud ceisiadau llwyddiannus. Rydyn ni bellach wedi cwblhau un cais grant cychwynnol a dau gais grant twf sydd wedi ein helpu ni i ddechrau a datblygu ein busnes.’ 

Ychwanegodd Owen "Galla' i ddweud gyda'm llaw ar fy nghalon fod y cymorth ges i a'm busnes wedi gwneud gwahaniaeth enfawr ac wedi rhoi dechrau gwych i'r busnes ar gyfer y dyfodol.”  

  

Y Prosiect Stori   

Bu Theatrau Sir Gâr yn gweithio mewn partneriaeth â The Wallich ar 'Y Prosiect Stori' – prosiect bywiog rhwng pobl sydd â phrofiad byw o ddigartrefedd a dibyniaeth, a chymuned y celfyddydau perfformio yng Nghymru. Nod y prosiect oedd datgelu doniau, meithrin creadigrwydd, a chyflwyno lleisiau a chynulleidfaoedd newydd i theatrau ledled Cymru.  

Dros 10 sesiwn wythnosol yn Rhydaman a Llanelli, bu 15 o gyfranogwyr yn gweithio gydag artistiaid lleol i greu a pherfformio darn pwerus o theatr. Roedd y perfformiad olaf yn deimladwy ac addysgiadol, gyda llawer o gyfranogwyr yn disgrifio'r profiad fel un wnaeth newid eu bywyd. Soniasant am hyder cynyddol, sgiliau newydd a dyheadau ar gyfer y dyfodol.  Mae un cyfranogwr, a oedd ofn mynd i mewn i theatr i ddechrau, bellach yn mynychu'n rheolaidd ac yn gwirfoddoli fel cynorthwyydd technegol a llysgennad.   

Mae'r prosiect hwn hefyd wedi ein helpu i edrych ar ffyrdd creadigol, cefnogol o weithio gydag unigolion sydd â phrofiad byw o ddigartrefedd. Gan adeiladu ar y llwyddiant hwn, rydym wedi parhau â'n partneriaeth â The Wallich trwy ganolfan gelf wythnosol. Mae'r cynllun peilot yn cefnogi datblygiad creadigol, adeiladu cymunedau, ac adrodd straeon yn gyhoeddus mewn gofod diogel a chynhwysol.   

  

Rhaglen Sgiliau a Thalentau yn dyfarnu cyllid i Fenter Addysgol Arloesol  

Yn 2020 arweiniodd dwy ysgol cyfrwng Cymraeg, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin ac Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, y prosiect peilot cyntaf i gael ei ariannu gan Raglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Nod y prosiect oedd mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau hanfodol yn y rhanbarth drwy gynnig cyfle i fyfyrwyr gyflawni cymwysterau Lefel 2 a Lefel 3 mewn Peirianneg ac Astudiaethau Digidol drwy gyfrwng y Gymraeg. Hon oedd y rhaglen gyntaf o'i bath, ac, ers iddi gael ei chymeradwyo, mae wedi llwyddo i gofrestru cannoedd o fyfyrwyr i gymryd y cyrsiau Lefel 2 a Lefel 3. Mae llawer o'r rhain yn gadael yr ysgol gyda'r cymhwyster ac yn symud ymlaen i goleg, prifysgol, neu brentisiaethau.  

Cynlluniwyd y rhaglen i roi dealltwriaeth gynhwysfawr i fyfyrwyr o'r cyfleoedd yn y sectorau peirianneg a TG. Trwy weithio'n agos gyda'r Brifysgol, enillodd myfyrwyr sgiliau ymarferol gan ddefnyddio offer o'r radd flaenaf ac maent wedi elwa ar yr ymchwil a gynhaliwyd gan y Brifysgol. Mae'r profiad ymarferol hwn o fewn yr ysgolion yn sicrhau trosglwyddiad di-dor i addysg uwch.   

Bu cynnydd sylweddol yn nifer y myfyrwyr sy'n cofrestru yn y cymwysterau hyn ar draws y ddwy ysgol. Mae tua 40% o fyfyrwyr sy'n cwblhau cyrsiau Lefel 2 yn parhau i Lefel 3, gan ddangos llwybr addysgol clir a diddordeb parhaus yn y meysydd hyn. Ers dechrau'r prosiect peilot, mae 843 o fyfyrwyr wedi cofrestru ar gymwysterau Lefel 2 a Lefel 3 mewn Peirianneg ac Astudiaethau Digidol, gan ddangos bod y cyrsiau hyn yn llwyddiannus a bod galw mawr amdanynt.   

Dywedodd Dr Llinos Jones, Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin "Mae Gwobrau'r Rhaglen Sgiliau a Thalentau wedi bod yn gatalydd ar gyfer newid trawsnewidiol, gan alluogi ein menter addysgol arloesol i gyrraedd uchelfannau newydd yn ein hysgolion. Mae'r cyllid hwn wedi ehangu mynediad at adnoddau dysgu hanfodol ynghyd â grymuso dysgwyr gyda sgiliau ar gyfer y dyfodol, gan feithrin twf a chyfleoedd rhanbarthol hirdymor.'  

 

Sut gallwn ni wneud yn well?

Byddwn yn cryfhau cymorth i fusnesau lleol trwy ehangu ymgysylltu cynnar a chyfleoedd caffael, gan helpu mwy o gwmnïau lleol i gael mynediad at gontractau a chadwyni cyflenwi'r Cyngor. Bydd ein rhwydwaith cymorth busnes yn cael ei wella i ddarparu cyngor wedi'i deilwra, annog entrepreneuriaeth, a hyrwyddo'r dull "Meddwl Sir Gâr yn Gyntaf". Byddwn yn parhau i gyflawni a monitro prosiectau adfywio yn ein canol trefi a'n hardaloedd gwledig, gan roi ffocws o'r newydd ar fynd i'r afael ag eiddo gwag, cefnogi digwyddiadau, a gwella mannau cyhoeddus, er mwyn hybu nifer yr ymwelwyr a balchder cymunedol. Gan gydnabod pwysigrwydd sgiliau a chyflogadwyedd, byddwn yn datblygu rhaglenni hyfforddi ac uwchsgilio ymhellach, gan weithio'n agos gyda'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol a chyflogwyr lleol i fynd i'r afael â bylchau a chefnogi pobl i gael swyddi o safon. Byddwn hefyd yn adolygu ac yn ehangu ein cynnig tir ac eiddo cyflogaeth, gan sicrhau bod safleoedd newydd a phresennol yn diwallu anghenion sectorau sy'n tyfu ac yn cefnogi datblygu cynaliadwy. Yn olaf, byddwn yn ceisio cyllid a phartneriaethau ychwanegol i fwyhau buddsoddiad yn ein cymunedau, tra'n monitro effaith hirdymor ein prosiectau i sicrhau eu bod yn darparu manteision parhaol i breswylwyr a busnesau.  

 

Yn Gryno

Datganodd y Cyngor ei ymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur yn 2019 a 2022. Byddwn yn parhau i weithio tuag at fod yn Awdurdod Lleol Carbon Sero Net erbyn 2030, gan fynd i'r afael â'r materion sy'n sbarduno dirywiad yn ein bioamrywiaeth ac yn cefnogi adferiad natur. 2023/24 oedd y pwynt hanner ffordd yn ein rhaglen cynllun sero net ac mae wedi arwain at ostyngiad o 37% yn yr allyriadau carbon a dargedwyd. Mae ein trydydd Blaengynllun Deddf yr Amgylchedd 2023 – 2025 yn nodi'r camau rydym yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, ac eleni cyhoeddwyd tair prif strategaeth i gefnogi bioamrywiaeth: y Seilwaith Gwyrdd a Glas, Coed a Choetir, a Rheoli Glaswelltir ar gyfer Peillwyr.   

Mae ardaloedd o'r Sir yn agored i effeithiau negyddol yr argyfwng hinsawdd, yn enwedig llifogydd. Mae'r Cyngor wedi gweithredu ymyriadau drwy'r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr a'r Cynllun Rheoli'r Traethlin i liniaru'r effeithiau hyn.   

Mae ymdrechion i ddatgarboneiddio'r stoc dai hefyd wedi datblygu, gyda dros 51% o dai bellach yn cyflawni isafswm sgôr perfformiad ynni B a C. Rydym wedi mabwysiadu dull ffabrig-gyntaf ar gyfer effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys paneli solar, deunydd inswleiddio thermol, a systemau pwmp gwres hybrid. Mae'r mesurau hyn nid yn unig yn lleihau allyriadau carbon a thlodi tanwydd ond hefyd yn ysgogi'r economi leol ac yn cefnogi datblygiad y gweithlu.  

  

  

Sut ydyn ni'n gwneud?   

  • Sir Gaerfyrddin yw un o'r siroedd mwyaf rhagweithiol yng Nghymru o ran buddsoddi mewn prosiectau ynni carbon isel. Mae hyn yn gadarnhaol ac yn cadarnhau'r dull blaengar y mae'r sir yn ei fabwysiadu o ran mynd i'r afael â'r bygythiadau a achosir gan yr argyfyngau hinsawdd a natur.  Mae'r data diweddaraf ar gyfer 2023 yn dangos bod cyfanswm o 10,103 o brosiectau yn Sir Gaerfyrddin yn cynhyrchu 346MW o ynni. Dyma'r lefel bedwaredd uchaf yng Nghymru ac mae'n gynnydd ar ffigurau 2022.  
  • Mae llifogydd wastad yn bryder yn Sir Gaerfyrddin, ac, yn ôl data 2024 Cyfoeth Naturiol Cymru, mae dros 18,000 o fusnesau a chartrefi naill ai'n wynebu perygl o lifogydd o afonydd, llanw neu ddŵr wyneb. Mae hwn yn gynnydd o ffigur 2019 o 15,000.   
  • Bu cynnydd o 27% yn yr eiddo sy'n wynebu perygl mawr neu ganolig o lifogydd rhwng 2019 a 2024, gan godi o 5,400 i ychydig o dan 7,000. O achos newid yn yr hinsawdd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhagweld y bydd hyn yn mwy na dyblu eto i dros 15,5000 erbyn 2120.   
  • Mae bygythiad cynyddol yr argyfyngau hinsawdd a natur yn rhoi mwy o bwyslais ar yr angen am amddiffynfeydd llifogydd addas a chymesur i ddiogelu'r rheiny sy'n wynebu'r perygl mwyaf. Drwy ein Cynllun Rheoli Llifogydd a Dŵr a'r Cynllun Rheoli'r Traethlin, mae sawl ymyriad wedi'u cwblhau. Mae hyn yn cynnwys gosod amddiffynfeydd newydd a gwella amddiffynfeydd presennol.   
  • Yn ein harolwg preswylwyr 2024, atebodd y gyfran fwyaf o ymatebwyr 'y naill na'r llall' pan ofynnwyd iddynt a oedd yr argyfwng hinsawdd yn cael sylw lleol. Gallai hyn awgrymu nad yw pobl yn ymwybodol o'r mesurau a roddwyd ar waith. I'r rhai a atebodd, roedd ychydig yn fwy o bobl yn anghytuno na'n cytuno. 

  

Cynnydd yn erbyn Canlyniadau   

Canlyniad: Parhau i weithio tuag at ddod yn Awdurdod Lleol Carbon Sero Net erbyn 2030  

Dadansoddiad o Ôl-troed Carbon y Cyngor   

  
Mae’r data diweddaraf ar gyfer 2024/25 yn adlewyrchu perfformiad cryf parhaus. Mae ein hôl troed carbon (a fesurir mewn tunnell o allyriadau CO₂) wedi gostwng 37% o’i gymharu â’n blwyddyn sylfaen 2016/17. Mae’r cynnydd parhaus hwn yn tynnu sylw at effeithiolrwydd y mesurau rydym wedi’u gweithredu. O ystyried y camau helaeth a nodwyd yn ein Cynllun Sero Net a weithredwyd yn 2024/25, rydym yn disgwyl i’r data sydd ar ddod ddangos ymhellach effaith ein hymrwymiad i leihau allyriadau ac i hyrwyddo ein nodau hinsawdd.  

Mae data yn hanfodol i'n monitro carbon, ac rydym yn gwella ei gywirdeb trwy gyflwyno ein rhaglen uwchraddio mesuryddion. Mae hyn yn darparu data amser real sy'n hanfodol wrth asesu effaith ein mentrau, yn ogystal â nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer buddsoddiad pellach.

  

Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn  

Yn ein hymdrech i ddatgarboneiddio trafnidiaeth y Sir, sicrhaodd y Cyngor gyllid gan Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn Llywodraeth Cymru i dreialu gwefru cerbydau trydan mewn lleoliadau trefol a gwledig. Gan ddefnyddio system Kerbo Charge Gully, gosodwyd cyfleusterau gwefru i 13 o breswylwyr oedd â pharcio ar y ffordd. Mae cam cyntaf y treial wedi bod yn llwyddiant mawr, gyda defnyddwyr yn cofnodi profiadau cadarnhaol yn seiliedig ar waith gosod a chynnal a chadw, a gwelliant yn y ddealltwriaeth o atebion gwefru cerbydau trydan. Mae'r defnyddwyr wedi canmol y gyli gwefru fel datrysiad gwefru gartref cyfleus, diogel a chost-effeithiol - yn enwedig i'r rhai heb lefydd parcio oddi ar y ffordd. Mae system y gyli yn dileu peryglon baglu mewn ceblau, gan sicrhau llwybr cerdded gwastad a diogel - ddydd a nos, tra'n galluogi defnyddwyr i wefru ar gyfraddau rhatach dros nos. Mae'r treial hwn wedi rhoi cipolwg ar fabwysiadu a hyd a lled cynlluniau gwefru cerbydau trydan yn y sir, ac er bod effaith y treial yn dal i gael ei hasesu, y bwriad yw ei fabwysiadu'n llawn. Mae ail gam y treial hwn newydd ddechrau gyda 10 system arall wedi'u gosod.   

  

Trawsnewid i Gerbydau Trydan   

Mae'r broses o drawsnewid i gerbydau trydan wedi cyflymu, gyda chynnydd nodedig yn nifer y cerbydau trydan sy'n cael eu mabwysiadu ar draws gwahanol sectorau. Rydym wedi bod yn rhagweithiol wrth ehangu ein fflyd cerbydau trydan. Er enghraifft, yn 2024 cafodd y Cyngor £431,632 o gyllid gan Lywodraeth Cymru. O ganlyniad prynwyd 40 o gerbydau trydan newydd - 30 fan a 10 car. Mae cyfuno'r cyllid hwn ag ymdrechion caffael cydweithredol ychwanegol wedi rhoi hwb sylweddol i gyfran y cerbydau trydan yn fflyd y Cyngor, gan gynyddu o 1.8% i 8% hyd at fis Mawrth 2024.  

  

Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes   

Mae Datblygu Economaidd wedi hyrwyddo cynaliadwyedd wrth gyflwyno sawl rhaglen ledled Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys y Gronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes. Mae'r Gronfa hon yn rhoi cymorth grant i fusnesau sy'n buddsoddi mewn systemau ynni adnewyddadwy wneud eu busnes yn fwy effeithlon a chynaliadwy. Hyd yn hyn rydym wedi cefnogi 28 o fusnesau y rhagwelir eu bod wedi arbed 640 tunnell o allyriadau CO2 dros dair blynedd.  

  

Cynllun Datgarboneiddio Tai   

Ym mis Chwefror 2023, gwnaeth y Cyngor ymrwymiad clir i sicrhau bod ein cartrefi i gyd yn rhai ynni-effeithlon ac yn cyflawni sgôr perfformiad ynni B ac C o leiaf, cyn gynted â phosibl. Mae dros 51% o'n cartrefi eisoes wedi cyrraedd y safon hon, sef gwelliant o ychydig dros 19% ers gwneud ein hymrwymiad.   

Bydd buddsoddiad yn y dyfodol yn ein cartrefi presennol yn seiliedig ar wella perfformiad ynni ein cartrefi drwy ein rhaglenni cynnal a chadw cynlluniedig parhaus. Mae'r ymagwedd integredig hon yn sicrhau ein bod yn gwella perfformiad ynni ein cartrefi ac yn lleihau allyriadau carbon, tra'n gwella a chynnal cyflwr cyffredinol ein cartrefi yr un pryd.   

Bydd y gwaith i wella effeithlonrwydd ynni ein cartrefi yn seiliedig ar ddefnyddio dull Ffabrig-gyntaf, sy'n gwella effeithlonrwydd thermol ein cartrefi ac yn cynnwys gosod technoleg adnewyddadwy lle bo'n briodol. Mae hyn yn cynnwys gosod paneli solar a mwy o inswleiddio thermol fel rhan o'n rhaglenni ail-doi, a systemau pwmp gwres hybrid fel rhan o'n rhaglen gosod boeleri barhaus.   

Yn ogystal â'r gwaith presennol, rydym hefyd yn datblygu llwybrau ynni targed ar gyfer ein holl gartrefi i helpu i bennu dull addas a chost-effeithiol ar gyfer gwella perfformiad ynni ymhellach. Bydd hyn yn helpu i:  

  • Lleihau biliau tanwydd i denantiaid er mwyn lleihau tlodi tanwydd, mae hyn yn arbennig o bwysig oherwydd yr argyfwng costau byw presennol sy'n effeithio ar gynifer o'n tenantiaid. 
  • Gwella perfformiad thermol ein cartrefi ac ansawdd aer dan do i hyrwyddo iechyd a llesiant.  
  • Tyfu'r economi leol trwy ddarparu rhaglenni buddsoddi tymor hir.  
  • Uwchsgilio'r gadwyn gyflenwi leol a darparu mwy o hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl leol.

Mae ein tai Cyngor newydd yn croesawu datgarboneiddio. Maent yn effeithlon o ran ynni, wedi'u hinswleiddio'n dda; mae ganddynt y technolegau arloesol diweddaraf ac maent yn cefnogi egwyddorion Carbon Sero Net y Cyngor. Mae'r rhain wedi helpu i leihau ein hallyriadau carbon 70% ar gyfartaledd ac yn creu cynhesrwydd fforddiadwy i denantiaid gan dyfu'r economi werdd a chreu cymunedau cynaliadwy.  

  

Amgueddfa Sir Gâr   

Cwblhaodd Amgueddfa Sir Gâr brosiect gwerth £330,000 i ailddatblygu ein cyfleuster parcio ceir yn 2024/25. Ariannwyd hyn gan grant o £264,000 gan Croeso Cymru fel rhan o'u Cronfa Pethau Pwysig. Mae'r prosiect wedi darparu mannau hygyrch newydd, llwybrau i gerddwyr, a chynllun gwell i wella profiad ymwelwyr. Mae'r maes parcio gwell yn gwella mynediad i'r amgueddfa ac yn cysylltu'n uniongyrchol â Llwybr Beicio Dyffryn Tywi, gyda gosod uned gwefru beiciau trydan newydd yn annog twristiaeth a chyfranogiad diwylliannol. Mae'r prosiect yn cynnwys goleuadau ynni-effeithlon ac ystyriaethau dylunio cynaliadwy – gan gynnwys defnyddio arwyddion alwminiwm y gellir eu hailgylchu'n llawn, a datblygu Gardd Stori newydd sy'n gwella bioamrywiaeth y man gwyrdd y tu allan i fynedfa'r amgueddfa.  

  

  

Canlyniad: Gwella datblygiadau presennol ac archwilio datblygiadau newydd i gyfyngu ar effeithiau llifogydd a bygythiadau amgylcheddol eraill sy’n effeithio ar ein preswylwyr a defnyddwyr gwasanaeth.      

Y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig  

Cynhaliwyd Asesiad Canlyniadau Llifogydd Strategol i arwain a llywio dosbarthiad a lleoliad datblygiadau yn y dyfodol, gan gynnwys tai, cyflogaeth, a phenderfyniadau yn y dyfodol. Roedd hyn yn diffinio hyd a lled y perygl llifogydd a ragwelir gan ymgorffori tybiaethau newid yn yr hinsawdd, ac mae'n ffurfio tystiolaeth allweddol i gefnogi'r gwaith o baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig.   

Paratowyd dogfennau'r Canllawiau Cynllunio Atodol i gyd-fynd â'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig. Mae'r rhain yn cynnwys Canllawiau Cynllunio Atodol ar Fannau Agored; Seilwaith Gwyrdd a Glas (SGG); Coed, Coetiroedd a Gwrychoedd; a Chreu Lleoedd a Dylunio Cynaliadwy. At ei gilydd, maent yn rhoi disgwyliadau clir i ddatblygwyr ac yn rhoi modd i swyddogion cynllunio gynnwys seilwaith gwyrdd a glas mewn cynllunio strategol a datblygiadau safle-benodol.  

  

Cynlluniau Rheoli Maetholion  

Mae'r Cyngor yn Aelod allweddol o Fyrddau Rheoli Maetholion Cleddau, Tywi a Theifi, ac mae'n rhan ganolog o gyflawni camau a nodwyd drwy'r Cynlluniau Rheoli Maetholion a baratowyd gan y byrddau. Mae'r camau hyn yn cael eu hategu gan ddeddfwriaeth a'u cefnogi gan Lywodraeth Cymru.  

Ym Mawrth 2025 mabwysiadwyd y Cynlluniau Rheoli Maetholion (NMP) ar gyfer yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) afonol yr effeithir arnynt gan ganllawiau maetholion yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r Cynlluniau Rheoli Maetholion a'r cynllun gweithredu cysylltiedig yn gwasanaethu i:  

  • Hwyluso gwaredu ffosfforws i gefnogi'r gwaith o godi tai.   
  • Bod yn fframwaith ar gyfer monitro'r sefyllfa o ran gwasgfeydd eraill mewn perthynas â maetholion.   
  • Cynnig cyfleoedd cyfannol i ystyried effeithiau llifogydd a ffactorau amgylcheddol eraill.  

Ymhlith y camau gweithredu a nodwyd yn y Cynlluniau Rheoli Maetholion i gyfyngu ar effeithiau llifogydd a bygythiadau amgylcheddol eraill y mae:  

  • Hyrwyddo rheoli llifogydd yn naturiol: mynd i'r afael â'r effeithiau sy'n deillio o ddigwyddiadau llif brig i nid yn unig lleihau trosglwyddo maetholion i afonydd ond lleihau risg llifogydd i lawr yr afon trwy reoli llifoedd yn well.   
  • Cyfleoedd ar gyfer clustogfeydd afonol ac atebion eraill sy'n seiliedig ar natur, gan gynnwys rheoli llifogydd yn naturiol, i arafu'r llif a gwella ansawdd dŵr yn fwy cyffredinol.  
  • Ymyriadau dylunio i ystyried ffactorau fel diogelwch y cyhoedd, cynefin bywyd gwyllt, a rheoli gorlifdir lle maent yn hwyluso datblygiad a/neu'n cyfrannu at adfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonol i statws cyflwr ffafriol.

  

Seilwaith Gwyrdd a Glas   

Rydym yn parhau i ddefnyddio Seilwaith Gwyrdd a Glas fel offeryn strategol i helpu i liniaru bygythiadau amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys llifogydd sy'n effeithio'n uniongyrchol ar ein preswylwyr, busnesau lleol a defnyddwyr gwasanaeth. Yn hyn o beth, mae Sir Gaerfyrddin wedi datblygu Strategaeth Seilwaith Gwyrdd a Glas ddrafft a Chanllawiau Cynllunio Atodol, a phecynnau cymorth i gefnogi gweithredu egwyddorion a chynnwys y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig.   

Mae Strategaeth GBI ddrafft Sir Gaerfyrddin yn nodi dull sir gyfan o wella a gwarchod y rhwydwaith seilwaith gwyrdd a glas lleol, gan wella rheoli dŵr, cefnogi gwytnwch hinsawdd, a mynd i'r afael ag ystod o flaenoriaethau amgylcheddol a chreu lleoedd eraill. Mae'r strategaeth yn blaenoriaethu'r defnydd o Atebion Seiliedig ar Natur fel systemau draenio cynaliadwy, adfer cynefinoedd, a phlannu coed – pob un ohonynt yn cyfrannu at leihau'r perygl o lifogydd, gwella ansawdd aer a dŵr, a chlustogi effeithiau tywydd eithafol.  

  

Rheoli Perygl Llifogydd  

Mae rheoli perygl llifogydd effeithiol yn gonglfaen i'n hymdrechion i ddiogelu ein preswylwyr, busnesau a defnyddwyr gwasanaeth rhag bygythiadau amgylcheddol. Trwy wella arferion presennol yn barhaus ac archwilio i atebion arloesol, gallwn liniaru effeithiau llifogydd yn well a sicrhau cymunedau gwydn ynghyd â'n nodau creu lleoedd.  

Rydym yn defnyddio dull cynhwysfawr o reoli perygl llifogydd ac rydym yn ceisio datblygu ein tîm yn unol â hynny. Rydym wedi llunio strategaeth leol newydd sy'n nodi sut byddwn yn ceisio rheoli perygl llifogydd a chyflawni amcanion lleol a chenedlaethol. Rydym hefyd yn datblygu cynlluniau perygl llifogydd – dogfennau gweithredol sy'n manylu ar y camau byddwn yn eu cymryd yn ein cymunedau lle mae'r perygl ar ei fwyaf er mwyn rheoli perygl llifogydd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi datblygu ein sgiliau a'n hadnoddau mewn perthynas â gwaith cyfalaf ac erbyn hyn mae gennym raglen gwaith cyfalaf sylweddol. Drwy grantiau Llywodraeth Cymru, rydym wedi gallu datblygu ein gwybodaeth am berygl llifogydd a gweithredu mesurau strwythurol.   

Mae mesurau anstrwythurol yn ategu'r amddiffynfeydd ffisegol hyn trwy ganolbwyntio ar bolisïau ac arferion sy'n lleihau bregusrwydd. Mae'r rhain yn cynnwys rhaglenni ymwybyddiaeth gymunedol i addysgu preswylwyr ynghylch bod yn barod am lifogydd, a systemau rhybuddio cynnar sy'n rhoi rhybuddion amserol am lifogydd.   

Mewn datblygiadau newydd, rydym yn ceisio yn barhaus ffyrdd newydd o wella eu strategaethau rheoli perygl llifogydd. Mae dogfen polisi cynllunio newydd Nodyn Cyngor Technegol 15 (a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025) yn allweddol i gefnogi hyn. Mae datblygiadau mewn technoleg yn cynnig llwybrau addawol ar gyfer arloesi.  Er enghraifft, mae'r defnydd o ddronau a Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) yn caniatáu ar gyfer mapio a dadansoddi ardaloedd sy'n agored i lifogydd yn fwy manwl, gan alluogi ymyriadau wedi'u targedu. Yn ogystal, gall datblygu integreiddio data amser real o orsafoedd tywydd a mesuryddion afonydd yn fodelau rhagfynegol wella cywirdeb rhagolygon llifogydd, gan ganiatáu cynllunio ymateb yn fwy effeithiol.  

  

Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy

Datblygiad arall yw mabwysiadu systemau draenio trefol cynaliadwy (SUDS). Mae'r systemau hyn yn dynwared prosesau naturiol i reoli dŵr ffo wyneb, gan leihau'r baich ar seilwaith draenio traddodiadol. Mae nodweddion fel toeau gwyrdd, palmentydd hydraidd, a gerddi glaw nid yn unig yn lliniaru peryglon llifogydd ond hefyd yn gwella bioamrywiaeth drefol ac yn gwella ansawdd dŵr.  

Mae cydweithredu a rhannu gwybodaeth hefyd yn hanfodol ar gyfer hyrwyddo rheoli perygl llifogydd. Trwy bartneru â sefydliadau academaidd, arbenigwyr sector preifat, ac awdurdodau rheoli risg eraill, gallwn fanteisio ar arbenigedd ac adnoddau amrywiol. Gall partneriaethau o'r fath arwain at ddatblygu atebion arloesol sy'n effeithiol ac yn gynaliadwy.  

  

Cynlluniau Llifogydd  

Rydym wedi parhau i ddatblygu ein rhaglen gwaith cyfalaf rheoli perygl llifogydd drwy gydol 2024/25, gan adeiladu ar lwyddiannau'r blynyddoedd aeth heibio. Eleni, roedd ein rhaglen yn cynnwys 21 cynllun, wedi'u hanelu at reoli'r perygl llifogydd mewn 740 o gartrefi a busnesau yn Sir Gaerfyrddin. Rydym wedi cwblhau cynlluniau yn Rhydaman, Castellnewydd Emlyn, Cydweli, a Llanymddyfri, ac mae gennym gynlluniau diogelu ar lefel eiddo yn barod ar gyfer dechrau 2025 yn Llanybydder, Llandysul a Llangennech. Rydym hefyd wedi sicrhau £2.1 miliwn o gyllid grant rheoli perygl llifogydd ar gyfer 2025/26.  

  

Ansawdd Aer    

Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud o ran cynyddu ymwybyddiaeth a gwella ansawdd aer ar draws Sir Gaerfyrddin:  

  • Allgymorth Addysgol: Rhoddodd swyddogion sgyrsiau addysgol i ysgolion cynradd, gan dynnu sylw at effeithiau llygredd aer ar iechyd ac annog newid ymddygiad.   
  • Monitro Amser Real: Gosodwyd monitorau ansawdd aer y tu allan i wyth ysgol, gan alluogi dros 2,000 o ddisgyblion i gael mynediad at ddata byw ac ymgymryd â phrosiectau amgylcheddol lleol.  
  • Hyrwyddo Teithio Llesol:  Mewn partneriaeth â'r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd, defnyddiodd tua 2,500 o ddisgyblion Traciwr Teithio WoW, gan gofnodi dros 130,000 o deithiau egnïol ym mlwyddyn academaidd 2024/25.  
  • Dysgu Rhyngweithiol: Cyrhaeddodd sioe "Abbie Ayre and the Shed of Science" 790 o ddisgyblion Blwyddyn 5 ar draws dros 20 o ysgolion, gan ddefnyddio perfformiad i edrych ar faterion ansawdd aer a hyrwyddo teithio cynaliadwy.   

  

Oes unrhyw un ar ei ennill?

Mae cynnydd y Cyngor ar ddatgarboneiddio ac adfer natur yn darparu buddion mesuradwy i lesiant. Mae dros hanner tai’r cyngor bellach yn cyrraedd sgôr ynni Band C, gan ddarparu cartrefi cynhesach ac iachach a lleihau biliau tanwydd i filoedd o denantiaid. Mae cynlluniau llifogydd a gwblhawyd eleni wedi cryfhau gwytnwch cartrefi a busnesau, gan amddiffyn cymunedau rhag aflonyddwch a cholled. Mae strategaethau bioamrywiaeth a datrysiadau sy’n seiliedig ar natur yn gwella cynefinoedd, yn cefnogi peillwyr, ac yn gwella mynediad at ardaloedd gwyrdd a glas. Mae’r camau hyn yn cyfrannu at well lles corfforol, llai o bryder ynghylch risgiau hinsawdd, a chymunedau cryfach, mwy gwydn, ynghyd â’r posibilrwydd o arbedion ariannol drwy effeithlonrwydd ynni a lleihau risg llifogydd. 

Rydym yn parhau’n ymrwymedig i ddod yn awdurdod net sero o dan ein Cynllun Carbon Net Sero, gan liniaru effeithiau hinsawdd yn weithredol a hyrwyddo dyfodol cynaliadwy. Mae sicrhau cyllid grant wedi gwella ein gallu i gyflawni’r mesurau hyn, gan sicrhau gwell gwerth am arian a gwneud y mwyaf o fuddsoddiad mewn gwytnwch hinsawdd. 

Mae’r Uned Amddiffyn Llifogydd ac Amddiffyn Arfordirol wedi gweithio’n helaeth gyda chymunedau i adeiladu gwytnwch ac ymwybyddiaeth o addasu i’r hinsawdd. Mae mentrau’n cynnwys gweithdai a hyfforddiant ar baratoi ar gyfer llifogydd ac amddiffyn eiddo ar lefel unigol, gyda chefnogaeth arbenigwyr diwydiant megis Llifogydd Mary (Mary Donohue). Mae cydweithio mewnol wedi cryfhau prosesau ymateb brys drwy gyfarfodydd wythnosol ar dywydd garw a driliau rheolaidd i brofi a mireinio cynlluniau, gan sicrhau parodrwydd ar gyfer sefyllfaoedd go iawn. 

 

  

Sut gallwn ni wneud yn well?  

Er bod cynnydd yn gryf, mae mwy i’w wneud o hyd i fynd i’r afael â maint yr argyfyngau hinsawdd a natur. Mae’r risg llifogydd yn parhau i gynyddu, ac gyda dros 18,000 o gartrefi a busnesau bellach mewn perygl, mae cyflymu ymyriadau rheoli llifogydd strwythurol a naturiol yn parhau’n hanfodol. Er gwaethaf gwaith sylweddol, mae llawer o drigolion yn parhau’n anymwybodol o’r camau sy’n cael eu cymryd, gan amlygu’r angen am gyfathrebu ac ymgysylltu cliriach, mwy gweladwy. Bydd buddsoddi parhaus mewn datgarboneiddio trafnidiaeth, ehangu seilwaith cerbydau trydan, a gwella effeithlonrwydd ynni yn y cartrefi sy’n weddill yn hollbwysig i gyrraedd net sero erbyn 2030. Mae angen inni hefyd gryfhau adferiad ecosystemau ymhellach, ehangu datrysiadau sy’n seiliedig ar natur, a sicrhau bod datblygiadau newydd yn ymgorffori enillion gwydnwch a bioamrywiaeth yn llawn. Drwy wella cydweithio, gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd, a graddio ymyriadau profedig, gallwn fynd ymhellach ac yn gyflymach i sicrhau Sir Gâr iachach, gwyrddach ac yn fwy gwydn o ran yr hinsawdd.

Yn Gryno

  • Mae'r Gymraeg yn nodwedd ddiffiniol o hunaniaeth Sir Gaerfyrddin fel lle. Mae ein cymunedau Cymraeg eu hiaith yn rhai cydnerth. Fodd bynnag, mae gostyngiad sylweddol wedi bod yn nifer y siaradwyr ar draws y sir. Mae'r canlyniadau hyn wedi cynyddu ymhellach bwysigrwydd hyrwyddo a normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg. 
  • Wrth i Sir Gaerfyrddin ddioddef y golled ganrannol uchaf o siaradwyr Cymraeg o blith holl siroedd Cymru am yr ail ddegawd yn olynol, rhaid cymryd camau cadarn a hyderus fel yr amlinellir yn 'Strategaeth Hybu'r Gymraeg Sir Gaerfyrddin 2023-2028' i atal y duedd hon.

  

Sut ydyn ni'n gwneud?   

  • Mae data'r Cyfrifiad ar gyfer 2021 yn dangos bod Sir Gaerfyrddin yn gartref i 72,838 o siaradwyr Cymraeg, sef 39.9% o'r boblogaeth.  
  • Ymatebodd ychydig dros 3,500 i'n harolwg preswylwyr yn 2024, gyda'r mwyafrif yn cytuno ei bod yn bwysig hyrwyddo ac amddiffyn y Gymraeg.  
  • Aeth 179 aelod o staff ar gyrsiau Dysgu Cymraeg o wahanol lefel rhwng Medi 2023 a Mehefin 2024 (Blwyddyn Academaidd), sef lleihad ar y flwyddyn flaenorol (242).

  

Cynnydd yn erbyn Canlyniadau   

Canlyniad: Cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg.

Mae Fforwm Strategol y Gymraeg yn cael ei arwain gan y Cyngor ac mae'n cynnwys cynrychiolaeth o sefydliadau hyrwyddo iaith y sir a chyrff cyhoeddus sydd â chyfrifoldebau statudol. Mae'r Fforwm wedi parhau i ddatblygu rhaglen i hyrwyddo'r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin ac wedi cyfrannu'n helaeth at gyd-gynllunio Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Hyrwyddo yn unol â'r Safon Hyrwyddo.   

Dros y flwyddyn, mae'r Fforwm wedi bod yn arwain ar y gwaith o baratoi cynlluniau gweithredu sy'n cefnogi gweledigaeth gyffredinol y Strategaeth "i wneud Cymraeg yn brif iaith y Sir. Ein nod ni yw adfer y Gymraeg yn iaith a siaredir ac a ddefnyddir gan fwyafrif ein trigolion yn gyson, ac ym mhob agwedd o fywyd.”    

Rydym wedi datblygu cynlluniau gweithredu i gefnogi gwneud y Gymraeg yn norm mewn meysydd fel annog ei defnydd gyda phlant oedran cyn-ysgol, cynyddu cyfran y teuluoedd sy'n trosglwyddo'r iaith gartref yn llwyddiannus, a chynyddu nifer y preswylwyr sy'n dysgu Cymraeg.  

Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi ein staff i ddysgu Cymraeg, ac mae gwaith yr Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu wedi bod yn allweddol o ran cael mynediad at ddarpariaeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Yn ystod y flwyddyn, cafwyd cyfle i gydweithio â'r Ganolfan ar ystod o gyfleoedd i staff. Mae'r adborth o'r cyfleoedd hynny wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda staff yn nodi newid yn y defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle mewn pethau fel cynnal cyfarfodydd gyda chydweithwyr, cymryd cofnodion, a chynnal asesiadau.  

  

Canlyniad: Mwy o hyder a defnydd o'r Gymraeg fel iaith ffyniannus.  

Theatrau Sir Gâr 

Mae Theatrau Sir Gâr wedi cefnogi artistiaid a chrewyr lleol o Gymru i ddatblygu syniadau a gweithgareddau theatr newydd drwy gyfleoedd ymchwil a datblygu pwrpasol. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae:   

  • Darn theatr i blant wedi'i ysbrydoli gan y Mabinogion, sy'n edrych ar sgript, cerddoriaeth, ac adrodd straeon yn amlieithog gan ddefnyddio Cymraeg, Iaith Arwyddion Prydain, a Saesneg.  
  • Darn o waith newydd pwerus gan artist o Sir Gaerfyrddin, sy'n tynnu ar brofiad byw o Anhwylder Obsesiynol Cymhellol (OCD).   
  • Cefnogaeth i gwmni theatr Cymreig i addasu a chwtogi cynhyrchiad am y cyn-hyfforddwr rygbi Carwyn ar gyfer taith wledig.  
  • Cefnogaeth i opera ieuenctid Gymraeg wedi'i hysbrydoli gan farddoniaeth Taliesin.

  

Llyfrgelloedd – Prosiect Sêr y Silffoedd

Ym mis Ionawr 2025, cymerodd Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin ran ym menter Sêr y Silffoedd – rhaglen i Gymru gyfan sydd wedi'i chynllunio i ysbrydoli darllenwyr ac awduron ifanc drwy ymgysylltu'n uniongyrchol ag awduron enwog o Gymru. Roedd y prosiect hwn yn cynnig cyfle unigryw i ddod â llenyddiaeth yn fyw i blant ysgol lleol trwy weithdai rhyngweithiol a sesiynau adrodd straeon.  

Yn ystod y prosiect cynhaliwyd wyth digwyddiad ar draws llyfrgelloedd Rhydaman, Llanelli a Chaerfyrddin, gan groesawu tua 210 o ddisgyblion o wyth dosbarth ysgol. Arweiniodd awduron gan gynnwys Dr. Ffion Jones, Robin Bennett, Sion Owen Thomas, ac Eloise Williams sesiynau a oedd yn edrych ar adrodd straeon, datblygu cymeriadau, a'r broses ysgrifennu. Cafodd plant gyfle i ofyn cwestiynau, cymryd rhan mewn gweithgareddau ysgrifennu creadigol, a chael eu llyfrau wedi'u llofnodi – gan greu atgofion parhaol.   

 

Oes unrhyw un ar ei ennill?   

Y Cyngor yn ennill 'Cyflogwr y Flwyddyn' a 'Dysgwr y Flwyddyn yn y Gweithle' am ragoriaeth yn y Gymraeg

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ennill gwobr 'Cyflogwr y Flwyddyn' gan Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gaerfyrddin, o Brifysgol Aberystwyth. Gan gydnabod ei ymroddiad i gefnogi staff i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.   

Gan ychwanegu at y dathliad, mae David Lewis, Cynorthwyydd Cyflawni Gweithredol yn yr adran Lle, Seilwaith a Datblygu Economaidd, wedi'i enwi'n 'Ddysgwr y Flwyddyn yn y Gweithle.’   

Mae David wedi gwneud cynnydd enfawr ar ei daith dysgu Cymraeg, ac mae'n disgrifio'r cyfle i ddysgu'r iaith trwy'r gwaith fel "rhywbeth arbennig." Mae'n rhoi clod i'r gefnogaeth gan y Cyngor, yn ogystal ag ysbrydoliaeth a brwdfrydedd ei diwtoriaid, am ei gymell i ddal ati i ddatblygu ei sgiliau a'i hyder.   

"Rwy'n bendant wedi cymryd camau mawr ymlaen yn fy nhaith dysgu Cymraeg," meddai David. “Rwy' wir yn mwynhau darllen cylchgronau a llyfrau Cymraeg am y tro cyntaf, ac rwy'n edrych ymlaen at ddilyn cwrs y lefel nesaf.”  

Yn ogystal â dysgu yn yr ystafell ddosbarth, mae'r Cyngor a Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gaerfyrddin wedi datblygu rhaglen Gymraeg ehangach sy'n hyrwyddo diwylliant ieithyddol cadarnhaol ar draws y sefydliad.   

Mae'r gwobrau hyn yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i feithrin gweithlu dwyieithog a chreu amgylchedd cefnogol lle gall y Gymraeg ffynnu, lle gall staff fynychu cyrsiau Cymraeg yn ystod oriau gwaith, a lle ariennir cyrsiau'n gorfforaethol.  

  

Sut gallwn ni wneud yn well?   

Rydym yn parhau i gymryd camau i hyrwyddo a normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ar brosiect peilot i gryfhau'r defnydd mewnol o'r Gymraeg, i drefnu swydd prentisiaeth Gymraeg newydd (Lefel 4), ac ailsefydlu Fforwm Cymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin a Fforwm Sirol y Gymraeg i fonitro cynnydd ar y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) a Strategaeth Hybu'r Iaith Gymraeg. Byddwn hefyd yn adolygu ein Strategaeth Sgiliau Iaith Gymraeg ac yn parhau i gefnogi staff ac adrannau i fodloni Safonau'r Gymraeg, gan sicrhau bod preswylwyr yn gallu cael mynediad at wasanaethau yn eu dewis iaith. 

Yn Gryno

  • Cynyddodd cyfanswm y troseddau yn Sir Gaerfyrddin yn ystod 2024/25 – tuedd sy'n gyson ag Awdurdodau Lleol eraill yn Ardal Llu Dyfed-Powys. Fodd bynnag, mae cyfradd y troseddau a gafodd eu riportio fesul 1,000 o'r boblogaeth yn parhau i fod yn gymharol isel. Bydd gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol yn helpu i gadw'r cyfraddau hyn yn isel.  
  • Dangosodd arolwg preswylwyr 2024 fod y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn hoffi byw yn Sir Gaerfyrddin.   
  • Roedd y rhan fwyaf o bobl yn cytuno eu bod yn teimlo'n ddiogel yn eu cymuned. Fodd bynnag, roedd rhywfaint o amrywio o ardal i ardal, er enghraifft cafodd Llanelli sgôr negyddol ar y cyfan.  

  

Sut ydyn ni'n gwneud?   

  • Roedd 99.22% o sefydliadau bwyd yn Sir Gaerfyrddin yn cyrraedd safonau hylendid bwyd yn ystod 2024/25.  
  • Cwblhawyd arolygiad yn achos pob un o'r 173 (100%) o fusnesau Safonau Masnach oedd i fod i gael arolygiad. Mae hyn llawer gwell na pherfformiad 2023/24 o 49%.  
  • Yn ystod 2024/25, cafwyd 18 o ddiffynyddion yn euog o droseddau cysylltiedig ag Iechyd Anifeiliaid a Safonau Masnach, gyda 141 mis o garchar a 500 awr o wasanaeth cymunedol wedi'u dedfrydu. Ar ben hynny, cafodd yr awdurdod £61,310 mewn costau a £127,600 mewn iawndal a gwneud iawn am gamwedd ar gyfer dioddefwyr y troseddau.

  

Cynnydd yn erbyn Canlyniadau   

Canlyniad: Cynnal cyfraddau troseddu isel gan barhau i weithio'n effeithiol mewn partneriaeth i fynd i'r afael â'r cyfraddau cynyddol sy'n amlwg mewn rhai ardaloedd o'r sir.  

  

Tîm Cydlyniant Cymunedol   

Mae tîm Cydlyniant Cymunedol Canolbarth a De-orllewin Cymru yn un o wyth tîm rhanbarthol sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae'n parhau i ddarparu ymagwedd gyson a chydweithredol at gydlyniant cymunedol ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Cefnogodd y tîm ymgyrchoedd cenedlaethol a rhanbarthol i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo cynhwysiant:  

  • Wythnos Ffoaduriaid (Mehefin 2024): Rhannwyd negeseuon allweddol ar draws y cyfryngau cymdeithasol i amlygu profiadau ffoaduriaid a hyrwyddo dealltwriaeth.   
  • Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb (Hydref 2024): Sesiynau hyfforddi gan Ganolfan Cymorth Casineb Cymru a chynhaliwyd digwyddiad ymgysylltu mawr ei sylw ym Mharc y Scarlets i gynyddu ymwybyddiaeth ac annog riportio.   
  • Diwrnod Cofio'r Holocost (Ionawr 2025): Wedi'i goffáu trwy ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol a goleuo adeiladau cyhoeddus mewn porffor.  
  • Mis Hanes LGBT (Chwefror 2025): Wedi hyrwyddo cynhwysiant a gwelededd trwy gynnwys digidol a rennir a thrwy ymgysylltu â'r gymuned.  

Cyflwynodd a threfnodd y tîm ystod o gyfleoedd hyfforddi i gryfhau capasiti lleol:

  • Dangosodd y sesiwn “Cydlyniant yn ein Cymunedau" arferion da o dri phrosiect a ariannwyd gan grantiau bach.  
  • Wedi darparu hyfforddiant a dargedwyd i staff awdurdod lleol ar:   
  • Casineb ar-lein a diogelwch trydydd sector,   
  • Ymwybyddiaeth o droseddau casineb ar gyfer rheolwyr,   
  • Cyfathrebu cynhwysol drwy "Grym Iaith,”  
  • Cydweithio â Cymorth i Ddioddefwyr i ddatblygu ymgyrchoedd a hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o droseddau casineb a'u riportio.

Ariannwyd tri phrosiect mawr eu heffaith drwy Gynllun Grantiau Bach Rhanbarthol Tîm Cydlyniant Cymunedol Canolbarth a De-orllewin Cymru:   

Mae CETMA's 'YN CYNNWYS: ymgyrch 'Dweud na wrth Gasineb' a wnaeth gynnal  digwyddiadau effeithiol yn Llanelli, Caerfyrddin ac Abergwaun, gan gynnwys boreau coffi a phresenoldeb cryf ar y cyfryngau cymdeithasol. Ymgysylltodd y fenter â 240 o fynychwyr, 10 sefydliad partner, a sicrhau 11 ymrwymiad "Diogel rhag Casineb". Gyda dros 67,500 wedi gwylio ar y cyfryngau cymdeithasol, cododd yr ymgyrch lawer o ymwybyddiaeth o droseddau casineb, cryfhau'r partneriaethau lleol, a gosod y sylfaen ar gyfer ehangu yn y dyfodol.

Cynhaliodd menter Llanelli Unites dri digwyddiad cynhwysol gyda pherfformiadau gair llafar, cerddoriaeth a diwylliannol.  Rhagorodd ar y targedau trwy ddenu 88 o fynychwyr ac ymgysylltu â phartneriaid amrywiol fel People Speak Up a Llanelli Queer Collective. Trwy hyrwyddo amlieithog a lleoliadau hygyrch, llwyddodd y digwyddiadau i gyrraedd grwpiau wedi'u tangynrychioli. Amlygodd adborth yr arolwg effaith gadarnhaol ar ganfyddiadau o gydlyniant cymunedol a nodi cyfleoedd i ymgysylltu'n ddyfnach â digwyddiadau'r dyfodol ar ganfyddiadau o gydlyniant.  

Cyflwynodd Cyngor Tref Sanclêr Brosiect Celfyddydau Gwrth-graffiti wythnos o hyd a wnaeth ymgysylltu ag ysgolion, grwpiau ieuenctid, a thrigolion hŷn i fynd i'r afael â graffiti sy'n gysylltiedig â chasineb trwy fynegiant creadigol. Mae'r prosiect yn rhagori ar ei darged cyfranogi gyda 75 o fynychwyr. Bu i'r prosiect integreiddio themâu cydraddoldeb i gwricwlwm ysgolion, ac arwain at ostyngiad amlwg mewn graffiti, a mwy o ddiddordeb mewn celf gyhoeddus.

  

Prosiect Trawsnewid Tyisha  

Mae ward Tyisha wedi'i nodi fel un o'r wardiau mwyaf difreintiedig yn Sir Gaerfyrddin, ac mae ganddi safle daearyddol pwysig rhwng canol tref Llanelli a datblygiad newydd Pentre Awel. Mae tîm prosiect wedi'i greu i drawsnewid yr ardal gydag amcanion allweddol ar: 

  • Leihau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol,   
  • Gwella iechyd a llesiant,  
  • Cynyddu cyfleoedd cyflogaeth ac addysg,  
  • Gwella'r amgylchedd,   
  • Cyflawni gwelliannau ar draws y stoc dai a datblygu safleoedd strategol allweddol ar gyfer tai newydd a chyfleusterau cymunedol. 

Mae prosiect Trawsnewid Tyisha yn rhan bwysig o gyfres o ymyriadau strategol sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd gan y Cyngor ac sy'n cynnwys mesurau buddsoddi, datblygu, ymgysylltu, a gorfodi a gyflawnir trwy ddull cyfannol a chynaliadwy. Prif ethos y prosiect yw trawsnewid yr ardal yn gymuned fywiog, gydlynol a chydnerth a fydd yn addasu i'r newidiadau sydd eu hangen. Bydd hyn yn cael ei gwblhau trwy newid ymddygiad sylweddol, sef un o heriau anoddaf y prosiect. Mae'r newid hwn yn broses hir a gyflawnir trwy raglenni addysgol, newidiadau i'r gwasanaeth, a chodi ymwybyddiaeth. Yn dilyn y newid hwn, dylai'r gymuned allu targedu'r prif broblemau'n annibynnol mewn ffordd gynaliadwy, ochr yn ochr ag ymyriadau'r Cyngor.  

Mae ymgysylltu â'r gymuned yn rhan allweddol o wneud unrhyw brosiect creu lleoedd yn llwyddiannus. Mae angen i ni sicrhau ein bod yn ymgysylltu â'r gymuned bob cam o'r ffordd. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn datblygu cydlyniant cymunedol, cydnerthedd a hirhoedledd i'r gymuned pan ddaw'r prosiect i ben.   

  

Oes unrhyw un ar ei ennill?   

  

Clos Sant Paul – Trawsnewid Tyisha

Fel rhan o raglen Trawsnewid Tyisha, datgelodd ymarfer "Planning for Real" fod preswylwyr Clos Sant Paul yn teimlo'n anniogel oherwydd lefelau uchel o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Cafodd unigolion yn sefyllian ar hyd lle o dan ddylanwad alcohol a chyffuriau eu riportio'n aml gan aelodau'r gymuned. Dywedodd chwe phreswylydd nad oeddent yn gallu defnyddio eu gerddi blaen a'u bod yn ystyried adleoli trwy'r gofrestr tai cymdeithasol.  

Mewn ymateb, arweiniodd partneriaeth â Heddlu Dyfed-Powys at Archwiliad Gweledol Amgylcheddol i nodi atebion ymarferol, megis:  

  • Gosod ffensys isel i atal loetran,  
  • Cyflwyno cynlluniau Gwarchod Cymdogaeth,  
  • Defnyddio clychau drws a theledu cylch cyfyng ychwanegol,  
  • Cynllun gweithredu troseddu ar y cyd gyda phatrolau rheolaidd,  
  • Cefnogaeth gan asiantaethau lleol i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau.

Gweithredwyd cynllun ymgysylltu cymunedol cadarn hefyd i adeiladu cydlyniant, hyder a chydnerthedd. Nod yr ymdrechion hyn oedd grymuso preswylwyr i berchnogi materion lleol a chynnal gwelliannau y tu hwnt i oes y prosiect.  

Dangosodd arolygon ôl-ymyrraeth fod 90% o'r preswylwyr yn fodlon, gyda sylwadau fel "Gwneud yr ardal yn ddiogel ac i edrych yn well" ac "Ardal ddiogel i fy mhlant fyw a chwarae ynddi”.  

Yn gyffredinol, mae troseddu yn ward Tyisha wedi gostwng 34%, sy'n dangos effeithiolrwydd ymagwedd gyfannol at adfywio, sy'n cael ei harwain gan y gymuned.   

  

Sut gallwn ni wneud yn well?   

Byddwn yn gweithio'n agos gyda Heddlu Dyfed-Powys a phartneriaid eraill i gyflwyno cynllun gweithredu ar y cyd wedi'i ddiweddaru er mwyn lleihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ledled Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys gwyliadwriaeth, mesurau gorfodi, ac ymgyrchoedd ymwybyddiaeth. Byddwn yn cwblhau blwyddyn olaf y Cynllun Cydlyniant Cymunedol tair blynedd, yn cefnogi'r Bartneriaeth Cymunedau Mwy Diogel, ac yn adolygu llwybrau mwy diogel a mesurau arafu traffig mewn trefi a phentrefi. Drwy weithio gyda'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, byddwn hefyd yn gwella ymgysylltu ac arferion recriwtio er mwyn gwella cynrychiolaeth o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, gan roi arweiniad a chymorth clir drwy ein gwefan a'n rhwydweithiau cymunedol. 

Yn Gryno

Yn ystod y flwyddyn, cyflawnodd Hamdden a Thwristiaeth yn Sir Gaerfyrddin sawl carreg filltir nodedig. Parc Gwledig Pen-bre oedd yr unig safle yn Sir Gaerfyrddin i ddal Baner Las a Baner Werdd, sy'n tanlinellu ei ragoriaeth wrth reoli arfordir a pharcdir. Cadwodd Traeth Cefn Sidan, sydd o fewn y parc, ei statws Baner Las, gan adlewyrchu safonau uchel o ran ansawdd dŵr, stiwardiaeth amgylcheddol, diogelwch a chyfleusterau ymwelwyr. Enillodd y parc hefyd y teitl Safle Gwersylla Gorau yng Ngwobrau Twristiaeth De-orllewin Cymru a chynrychioli'r rhanbarth yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru ym mis Mawrth 2025. Cynhaliwyd yno hefyd ddigwyddiad proffil uchel 'Battle of the Beach', gan ddenu mwy na 700 o gystadleuwyr o bob cwr o Ewrop.   

Parhaodd llety 14 ystafell wely a bwyty Caban i berfformio'n gryf, a chael adolygiadau cwsmeriaid perffaith bron a sgôr 4 seren Croeso Cymru.   

Yn y cyfamser, derbyniodd CofGâr, Gwasanaeth Amgueddfeydd a Chelfyddydau'r Cyngor Sir, y wobr Atyniad Gorau ar gyfer yr Amgueddfa Cyflymder Tir ym Mhentywyn. Mae'r amgueddfa hon yn adnabyddus am ei dyluniad cynaliadwy a'i harddangosfeydd diddorol, ac mae wedi denu ymwelwyr o bedwar ban a chynnal ystod amrywiol o ddigwyddiadau, gan gynnwys rhai corfforaethol, gweithgareddau plant, a phriodasau. Mae hyn oll ar gyrion traeth saith milltir Pentywyn.   

  

Sut ydyn ni'n gwneud?   

  • Mae ymwelwyr dros nos ac ymwelwyr dydd yn cyfrannu £683m i'r economi leol gan gefnogi 6,649 o swyddi amser llawn.  
  • Roedd bron 750,000 o ymweliadau (personol ac ar-lein) â'n llyfrgelloedd yn ystod 2024/25. Mae hwn yn welliant o 13% ar y flwyddyn flaenorol sef 660,000. Cyflawnwyd y cynnydd hwn drwy amryw ddigwyddiadau yn ein llyfrgelloedd megis digwyddiadau Makerspace, Clybiau Sadwrn, Sesiynau Hyfforddi Digidol, Clybiau Crosio a Gwnïo, yn ogystal ag ymweliadau Diwrnod y Llyfr y Byd a Ffeiriau Crefftau Nadolig. Mae ein hymweliadau digidol yn parhau'n uchel gyda chwsmeriaid yn elwa ar ein hystod o e-lyfrau digidol, e-lyfrau llafar, papurau newydd, cylchgronau ac apiau hyfforddi.  
  • Mae nifer yr ymweliadau â'n canolfannau hamdden yn ystod 2024/25 ar ei uchaf erioed ac ychydig o dan ddwy filiwn (1,941,547), sy'n cyfateb i ychydig dros 10,000 o ymweliadau fesul 1,000 o'r boblogaeth. Mae twf mewn gwerthiannau ffitrwydd, yn enwedig mewn lleoliadau gwledig, a gwelliannau mewn sesiynau grŵp a chasglu data i gyd wedi helpu i wella presenoldeb.   

  

Cynnydd yn erbyn Canlyniadau   

Canlyniad: Pobl yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i fyw bywydau egnïol ac iach trwy fynediad at wasanaethau a darpariaeth sy’n addas i’r diben.   

  

"Codi Drwy Newid"   

Lansiwyd y prosiect yn Hendy-gwyn ar Daf i gefnogi menywod sy'n mynd drwy'r perimenopos neu'r menopos. Cyfunodd y fenter sesiynau hyfforddiant cryfder gan Actif a gwybodaeth dan arweiniad arbenigwyr o dimau byrddau iechyd. Nod y rhaglen oedd lleihau'r risg o osteoporosis mewn menywod hŷn tra'n cynyddu ymwybyddiaeth o'r arwyddion, y symptomau a'r heriau sy'n gysylltiedig â'r menopos. Cafodd y cyfranogwyr arweiniad ar faeth, iechyd y pelfis, a llesiant seicolegol. Roedd manteision sylweddol i'r cynllun peilot 10 wythnos, gan gynnwys mwy o hyder i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol, gwell gwybodaeth, a gwell sgoriau llesiant. Yn seiliedig ar ei lwyddiant, mae cynlluniau ar y gweill i sicrhau cyllid ychwanegol i ehangu'r prosiect a datblygu adnodd digidol i gyrraedd cynulleidfa ehangach.   

  

Chwaraeon a Hamdden Actif  

Mae'r buddsoddiadau yn y portffolio cyfleusterau wedi cynnwys y Cyfleusterau Athletau newydd a'r cae 3G yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman, cyfleusterau newid yng nghae 3G Penrhos, Ystafell Iechyd newydd yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin, a buddsoddiad ar raddfa lai mewn gwaith adnewyddu ac offer mewn gwahanol ganolfannau hamdden. Mae rhaglenni wedi parhau i esblygu a datblygu tra'n gwrando ar ofynion cwsmeriaid a defnyddio cyllid grant wedi'i dargedu i sicrhau ymateb cadarn. Mae hyn wedi bod yn gynhyrchiol, ac mae'r twf mewn presenoldeb a'r gwelliannau cysylltiedig mewn incwm yn dangos hynny.   

  

  

Parc Gwledig Pen-bre    

Parc Gwledig Pen-bre yw'r unig le yng Nghymru yn awr sy’n meddu ar Faner Las a Baner Werdd, oherwydd ei ragoriaeth mewn rheoli ardaloedd arfordirol a pharcdir.   

Mae Traeth Cefn Sidan, sydd wedi'i leoli yn y parc, unwaith eto wedi ennill gwobr nodedig y Faner Las. Mae'r anrhydedd hon, sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol a'i gweinyddu gan Cadwch Gymru'n Daclus ar ran y Sefydliad ar gyfer Addysg Amgylcheddol, yn adlewyrchu ansawdd dŵr, rheolaeth amgylcheddol, safonau diogelwch, a chyfleusterau ymwelwyr arbennig y traeth.   

Enwyd Parc Gwledig Pen-bre fel y Safle Gwersylla Gorau yng Ngwobrau Twristiaeth De-orllewin Cymru, gan gydnabod ei gyfleusterau rhagorol, ei wasanaeth i gwsmeriaid, a'i ymrwymiad i gynaliadwyedd. Aeth y parc ymlaen i gynrychioli'r rhanbarth yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru ym mis Mawrth 2025. Cynhaliwyd yno hefyd ddigwyddiad arloesol 'Battle of the Beach', gan ddenu mwy na 700 o gystadleuwyr o bob cwr o Ewrop.   

  

Llety Caban  

Mae ein llety 14 ystafell wely a bwyty, sef 'Caban', yn parhau i ffynnu, gydag adolygiadau cwsmeriaid yn rhoi'n agos i 5 seren ar gyfartaledd, ac ymfalchïa'r safle yn y gradd 4 seren gafodd gan Croeso Cymru.   

  

CofGâr

Cipiodd CofGâr, Gwasanaeth Amgueddfeydd a Chelfyddydau'r Cyngor Sir, y wobr Atyniad Gorau ar gyfer yr Amgueddfa Cyflymder Tir ym Mhentywyn. Mae'r safle'n dathlu hanes torri'r record cyflymder tir ar y traeth enwog, ac mae'n denu ymwelwyr o bob cwr o'r byd. Mae'r amgueddfa hwyliog ac ymarferol hon yn fodel o ddylunio cynaliadwy sy'n cynnal arddangosion arbennig ochr yn ochr ag arddangosfeydd rhyngweithiol. Mae'r lle pwrpasol ar gyfer derbyniadau wedi croesawu amrywiaeth o ddigwyddiadau eleni, o gyfarfodydd corfforaethol a gweithgareddau i blant i seremoni briodas hardd - a hynny gan gynnig golygfeydd ysblennydd o draeth saith milltir Pentywyn.  

  

  

Oes unrhyw un ar ei ennill?    

Symudiad Meddylgar (gyda CYCA)  

Cyflwynwyd dau gwrs Symudiad Meddylgar wyth wythnos mewn partneriaeth â CYCA (Cysylltu Ieuenctid, Plant ac Oedolion), wedi'u hategu gan eu Model Cydnerthedd. Mae'r rhaglen yn cefnogi cyfranogwyr trwy gadw cofnod, ymwybyddiaeth o straen, ac ymarfer corff ysgafn, gan roi'r grym i unigolion fyfyrio, gosod nodau, a gwella eu llesiant meddyliol a chorfforol. Cafodd y fenter effaith drawsnewidiol ar gyfranogwyr, gyda llawer yn adrodd llai o bryder, gwell cwsg, ac ymdeimlad newydd o bwrpas.   

Rhannodd un cyfranogwr, "Mae'r sesiynau wedi bod yn help mawr o ran fy ngorbryder drwy ioga, sgwrsio, a chofnodi. Bydda' i'n bendant yn cario ymlaen gyda'r technegau hyn."    

Disgrifiodd un arall y peth fel profiad newidiodd fywyd: "Rwy'n gwenu mwy nawr; rwy'n cymdeithasu ac yn hapusach fy myd - mae wedi bod yn drobwynt mawr i mi."    

Cafodd cyfranogwyr hefyd eu cymell i wneud newidiadau cadarnhaol i'w ffordd o fyw. Ysbrydolwyd un unigolyn i ddechrau busnes ac ysgrifennu llyfr, gan ddweud, "Rwy'n teimlo mor hapus, ac rwy'n caru bywyd."   

Yn ôl eraill roedd eu perthnasoedd teuluol a'u cydnerthedd emosiynol wedi gwella: "Rwy'n gweiddi llai ar y plant nawr... mae fy ngorbryder wedi lleihau, ac rwy'n teimlo fy mod yn gallu ymdopi â mwy mewn bywyd."   

Roedd y rhaglen yn cefnogi twf unigol ond hefyd yn meithrin ymdeimlad o gymuned a grymuso, gan roi'r dulliau gydol oes i gyfranogwyr reoli straen a chynnal llesiant.   

  

  

Sut gallwn ni wneud yn well?

Byddwn ni'n buddsoddi mewn cyfleusterau hamdden a thwristiaeth newydd a gwell, gan gynnwys agor Parth 1 Pentre Awel yn Llanelli fel rhan o ganolfan iechyd a llesiant flaenllaw. Byddwn yn parhau i gymryd rhan yn y Prosiect Llwybrau Celtaidd i hyrwyddo Sir Gaerfyrddin fel cyrchfan i dwristiaid ac yn cwblhau astudiaeth dichonoldeb busnes i gefnogi'r uchelgais i ailagor Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli fel adnodd cymunedol modern. Byddwn hefyd yn cyflwyno Actif Unrhyw Le ar gyfer ysgolion, yn darparu amser Cynllunio, Paratoi ac Asesu (PPA) a chymorth ar ôl ysgol, ac yn sefydlu rhwydwaith ar gyfer partneriaid blynyddoedd cynnar i atgyfnerthu pwysigrwydd bod yn egnïol o oedran ifanc.

Yn Gryno

  • Mae'r Strategaeth Casglu Gwastraff bresennol yn parhau i gynyddu'r tunelli a ailddefnyddir ac a ailgylchir, gan ragori ar y Targed Cenedlaethol Statudol o 70%.   
  • Mae'r gwastraff trefol cyfartalog fesul person nad yw'n cael ei ailgylchu wedi lleihau.   
  • Mae canran y gwastraff sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi wedi lleihau.   
  • Bellach mae'r Cyngor yn darparu gwasanaeth casglu gwydr o ymyl y ffordd i  99% o'r preswylwyr.   
  • Codi ymwybyddiaeth a chymorth addysgol mewn modd parhaus a gwell trwy gynllun allgymorth cymunedol cynhwysfawr i hyrwyddo ailgylchu a chynaliadwyedd.   
  • Datblygu ymhellach a chyflwyno ein prosiectau ailddefnyddio Eto ac Economi Gylchol. Mae'r rhaglen addysg a'r siopau yn hyrwyddo effeithlonrwydd adnoddau, adfer, atgyweirio, ac economi gylchol i wahanol grwpiau cymdeithasol, cymunedau a phreswylwyr.    
  • Mae'r Cyngor wedi gwella nifer cyfartalog y diwrnodau a gymerwyd i glirio achosion o dipio anghyfreithlon, sy'n parhau i gwympo.   

  

Sut ydyn ni'n gwneud?   

  • Fe wnaeth ein cyfradd ailgylchu barhau i wella i 71.3% yn 2024/25, gan ragori ar y Targed Ailgylchu Cenedlaethol o 70% erbyn diwedd Mawrth 2025. Mae'r data diweddaraf ar gyfer Cymru gyfan o 2023/24 yn dangos cyfradd ailgylchu genedlaethol o 66.6% ac yn gosod Sir Gaerfyrddin ymysg y chwech uchaf yng Nghymru. Ni fydd data cymharol am 2024/25 ar gael tan fis Ionawr 2026.  
  • Gostyngodd canran y gwastraff a anfonwyd i safleoedd tirlenwi ymhellach i 1.31% ond nid yw wedi cyrraedd y targed cenedlaethol o Beidio ag Anfon Unrhyw Wastraff i Safleoedd Tirlenwi erbyn 2025 (gofyniad Llywodraeth Cymru yw 'Atal yr arfer o anfon i safleoedd tirlenwi i'r graddau mwyaf posib, gyda'r bwriad bod yr Awdurdod Lleol yn anelu at dargedau ailddefnyddio ac ailgylchu o +70.’)  
  • Ymatebodd ychydig dros 3,500 i'n harolwg preswylwyr 2024. Er bod y mwyafrif yn tueddu i gytuno bod eu hamgylchedd lleol yn ddymunol ac yn cael gofal da, mae cyfran uchel yn anghytuno. Mae'r sgôr gyffredinol o 0.03 wedi gwaethygu ychydig iawn ers canlyniad y flwyddyn flaenorol sef 0.04. Roedd rhai o'r sylwadau'n amlygu problemau ynghylch glanhau strydoedd, gwastraff, a sbwriel, sy'n debygol o fod yn ffactorau sy'n cyfrannu at hyn.   
  • Mae'r gwastraff trefol cyfartalog fesul person nad yw'n cael ei ailgylchu wedi aros yn sefydlog ar 122Kg ar ddiwedd 2024/25, o gymharu â 121Kg yn 2023/24. Mae data cymharol cenedlaethol yn dangos bod cyfradd Sir Gaerfyrddin yn well na'r ffigur ar gyfer Cymru gyfan, ac yn ail o blith yr holl siroedd.  
  • Mae ein harolygon System Archwilio a Rheoli Amgylcheddol Lleol (LEAMS) deufisol a gynhaliwyd yn ystod 2024/25 yn dangos bod mwy o sbwriel i'w gael ar strydoedd Sir Gaerfyrddin, gyda sbwriel cysylltiedig ag ysmygu a bwyd brys yn bennaf. Yn ogystal, mae bagiau du a glas sy'n cael eu gadael yn ein strydoedd hefyd wedi dylanwadu ar lefel y sbwriel y deuir o hyd iddo, yn enwedig yn ardal Llanelli. Rydym wedi dechrau cynllun cyfathrebu gwrth-sbwriel i gefnogi strategaeth y Cyngor ar gyfer mynd i'r afael â'r mater hwn. Ar ôl ei gwblhau, bydd cynllun gweithredu lleol yn cael ei ddatblygu ac yn cynnwys ymgysylltu â busnesau allweddol, cyfathrebu neges gwrth-sbwriel glir, nodi sut byddwn yn gweithio gyda'r gymuned leol a grwpiau gwirfoddol i leihau sbwriel, a nodi camau gorfodi ar gyfer y rhai sy'n dal i daflu sbwriel.  
  • Mae nifer gyfartalog y diwrnodau mae'n cymryd i glirio achosion o dipio anghyfreithlon wedi gwella i 2.2 diwrnod yn ystod 2024/25 gydag ychydig llai na 1,700 o achosion a adroddwyd wedi'u clirio.  

  

Cynnydd yn erbyn Canlyniadau   

Canlyniad: Rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd y targedau ailgylchu cenedlaethol.   

  

Ailgylchu  

  • Nid yw'r ffigur ailgylchu cychwynnol ar gyfer 2024/25 wedi'i wirio eto gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ond mae wedi'i ddynodi fel 71.3%. Mae hyn yn fwy na'r targed cenedlaethol statudol o 70% ar gyfer 2025. Yr hyn sy'n gyfrifol am y llwyddiant hwn yw system gasglu newydd ar ymyl y ffordd, gyda nodweddion fel casgliadau wythnosol ar gyfer ailgylchu cymysg sych a gwastraff bwyd, a chasgliadau ar wahân ar gyfer gwydr a bagiau du bob tair wythnos. Mae'r system hon yn cyd-fynd â gweledigaeth y Cyngor ar gyfer gwasanaeth gwastraff modern sy'n cydymffurfio â methodoleg casglu Glasbrint Llywodraeth Cymru.   
  • Cafodd y cynllun casglu gwydr ar ymyl y ffordd ei roi ar waith i gychwyn ar gyfer 95% o aelwydydd yn ystod y newid i'r gwasanaeth gwastraff ym mis Ionawr 2023. Mae rhagor o aelwydydd wedi'u cynnwys yn ystod 2024/25, a bellach mae 99% o aelwydydd yn derbyn gwasanaeth casglu poteli a jariau gwydr o ymyl y ffordd.   
  • I gefnogi aelwydydd sydd heb y gwasanaeth hwn ac i helpu â chasgliadau sy'n fwy na'r hyn all fynd yn y cynwysyddion, mae gennym 25 o safleoedd casglu cymunedol mewn lleoliadau strategol o amgylch y sir.   
  • Lluniwyd rhaglen gynhwysfawr ar gyfer ymgysylltu â'r gymuned yn ystod 2024/25 i hyrwyddo ailgylchu a chyflawni ein dyheadau o ailgylchu mwy:   
    o    Rhoi 22 cyflwyniad i grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid.  
    o    Cefnogi 10 o ddigwyddiadau a arweinir gan y gymuned i hyrwyddo ailgylchu, ailddefnyddio a chynaliadwyedd.   
    o    Ymgysylltu'n uniongyrchol â 10,037 o aelwydydd drwy ymgysylltu wyneb yn wyneb drwy ymgynghorydd ailgylchu cymunedol i gefnogi cydymffurfiaeth o ran ailgylchu wrth ymyl y ffordd.   
  • Fe wnaethom fonitro 950 o gyfraddau ailgylchu wrth ymyl y ffordd i weld faint o gymorth pellach oedd ei angen ar aelwydydd penodol.   
  • Rydym wedi parhau i weithio gyda sefydliadau perthnasol fel Wrap Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a CWM Environmental i sicrhau bod holl fusnesau ac adeiladau'r Cyngor yn barod ar gyfer y Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle newydd a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2024.  Roedd hyn yn cynnwys cynnig cymorth a chyngor uniongyrchol i ysgolion, busnesau a sefydliadau'r trydydd sector i ddatblygu a rhannu arferion gorau er mwyn cyflawni systemau ailgylchu effeithiol ar draws y sector masnachol a chyd-fynd â nodau rheoli gwastraff cenedlaethol ehangach. Mynychodd swyddogion ddigwyddiadau masnach a thwristiaeth yn y sir i gefnogi ac ateb unrhyw gwestiynau am y ddeddfwriaeth newydd. Roedd y gyfradd ailgylchu gwastraff masnachol dros 80% erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.  

  

Economi Gylchol   

Mae'r Cyngor yn hyrwyddo Economi Gylchol trwy sawl menter:   

  • Canolfan Eto, Nant-y-caws:  
    o  Gweithdy a siop ailddefnyddio sy'n derbyn eitemau a roddwyd o'n canolfannau ailgylchu i'w hatgyweirio a'u hailgylchu i'w hailwerthu.   
    o  Y Ganolfan Addysg.  
    o  Cyfleuster ailddefnyddio paent lle mae paent sydd heb ei ddefnyddio yn cael ei ailgylchu/ail-gymysgu i'w ailwerthu.   
  • Mae'r Cydgysylltydd Addysg a Digwyddiadau ar gyfer Canolfan Addysg Eto ac Allgymorth Ysgolion/Cymunedol wedi mynychu 74 o ysgolion i gynnal sgyrsiau a chyflwyniadau, wedi cyflwyno 190 o becynnau dysgu addysgol ar gynaliadwyedd a'r economi gylchol, ac wedi croesawu 24 o ysgolion i'r cyfleuster yn Nant-y-caws.  
  • Cynhaliwyd digwyddiad Meithrin Capasiti yr Economi Gylchol yn Sero ym mis Chwefror 2025. Cafwyd pedair sgwrs gyda sesiynau holi ac ateb ar ddatblygu prosiectau'r economi gylchol leol, rhannu arferion gorau, a gwersi a ddysgwyd. Y nod oedd rhoi i aelodau'r gymuned y wybodaeth i symud ymlaen yn eu prosiectau a'u hymdrechion economi gylchol.  
  • Cynhaliwyd hyfforddiant ynghylch codi ymwybyddiaeth o'r economi gylchol i Aelodau'r Cabinet ym mis Mawrth 2025. Yn yr hyfforddiant hwn esboniwyd cysyniad economi gylchol, ei pherthnasedd ddeddfwriaethol, ei pherthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a sut rydym ni fel Cyngor yn bodloni nodau drwy ein gwaith economi gylchol.   
  • Wedi cefnogi Ynni Sir Gâr gyda'r prosiect Llyfrgell Pethau 'Pethau Pawb'. Wedi'i ariannu gan gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru, fe wnaethom sefydlu a hyrwyddo "Llyfrgell Pethau" newydd yn Llanymddyfri i gyfrannu at ymrwymiad Rhaglen y Llywodraeth i gefnogi 80 o ganolfannau atgyweirio ac ailddefnyddio yng nghanol ein trefi.   

  

Oes unrhyw un ar ei ennill?   

Cymunedau yn Elwa ar yr Economi Gylchol 

Rydym wedi cefnogi prosiectau cymunedol gyda chyllid sbarduno i sefydlu prosiectau economi gylchol newydd o fewn cymunedau lleol.  

  

Cadernid, Castell Newydd Emlyn   

Creu canolfan Economi Gylchol yng nghanol tref Castellnewydd Emlyn i gartrefu Llyfrgell Pethau, oergell a rhewgell gymunedol, a chaffi atgyweirio.   

  

CETMA, Cydweli  

Ehangu eu llyfrgell offer cegin i gynnwys offer eraill nad ydynt yn rhai cegin e.e. offer sy'n cynnwys profion PAT a chefnogi siop ar-lein ail genhedlaeth.  

  

Hen Ysgol Llanybydder  

Sefydlu Caffi Atgyweirio yn adeilad Hen Ysgol Llanybydder, creu gofod cymdeithasol ar gyfer llesiant preswylwyr, a chynnal gweithdai i ddysgu pobl sut i wneud plymio sylfaenol, DIY, gwau, crosio, coginio, gwehyddu, nyddu gwlân, uwchgylchu, garddio, a thyfu bwyd.   

  

Permaddiwylliant Tywi ac Uwchgylchu Ffabrig   

Ailddefnyddio edafedd gwastraff a ffabrigau i greu cynhyrchion newydd er budd y gymuned ac elusennau.   

  

  

Sut gallwn ni wneud yn well?   

Ein nod yw cadw at neu ragori ar darged ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru o 70% yn 2025/26. Byddwn yn cychwyn ar gam nesaf ein newidiadau i'r gwasanaeth gwastraff trwy fabwysiadu glasbrint Llywodraeth Cymru ar gyfer didoli ailgylchu wrth ymyl y ffordd a chynyddu ystod y deunyddiau ailgylchadwy a gesglir o 2026 ymlaen. Byddwn hefyd yn gweithio'n agos gyda chymunedau i gynyddu ymwybyddiaeth, mynd i'r afael â halogi bagiau glas, a darparu gwybodaeth glir a chymorth i sicrhau bod gwastraff yn cael ei waredu'n gywir. 

Yn Gryno  

Mae'r Cyngor yn blaenoriaethu cynnal a chadw'r rhwydwaith priffyrdd, yn enwedig yn ystod y gaeaf, er mwyn sicrhau mynediad di-dor i wasanaethau hanfodol. Fodd bynnag, dirywiodd cyflwr arwyneb y ffordd yn 2024/25, gyda chynnydd sylweddol mewn diffygion a gofnodwyd. Rydym wedi parhau i weithio trwy heriau strategol mawr fel ymgyrch genedlaethol 20mya, datblygu cynllunio trafnidiaeth ranbarthol a'r llwybr tuag at ddyheadau carbon sero net.  

Rydym wedi bod yn rhagweithiol wrth gyflawni newid ac wedi llwyddo i gael cyllid grant i gefnogi darparu gwasanaethau. Fodd bynnag, rydym yn wynebu heriau o ran cyllidebau cyfalaf a refeniw yn lleihau, cynnydd yn nisgwyliadau'r cyhoedd, pwysau ar y gadwyn gyflenwi, a chyflwr asedau'n dirywio. Mae hyn wedi arwain at amgylchedd anodd i'r gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth.  

Rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau cyllid drwy Fenter Benthyca Llywodraeth Leol, er mwyn cynorthwyo i gyflawni ein cyfraniad tuag at sicrhau cydnerthedd ein rhwydwaith. Bydd hyn yn cael ei gyflawni'n unol â'n Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd, sy'n blaenoriaethu buddsoddiad sy'n diogelu cysylltedd strategol.   

  

Sut ydyn ni'n gwneud?   

Arolwg Cyflwr Ffyrdd - Canran sydd mewn Cyflwr Gwael

  

  • O gymharu ag arolwg 2022/23, ni fu unrhyw newid yng nghanran ein ffyrdd Dosbarth A yr ystyrid eu bod mewn 'Cyflwr Gwael', tra bo ychydig yn fwy o'n ffyrdd Dosbarth B, ac ychydig yn llai o'n ffyrdd Dosbarth C.   
  • Ymatebodd ychydig dros 3,500 i'n harolwg preswylwyr 2024. Yn y cwestiwn, 'Rydych chi'n gallu cael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnoch', er i lawer ymateb 'y naill na'r llall' (29%), roedd ychydig yn fwy o ymatebwyr yn anghytuno (35%) nag oedd yn cytuno (33%). Mae'r sgôr wedi gwaethygu ychydig ers y flwyddyn flaenorol, sy'n awgrymu nad yw'r teimladau wedi dychwelyd i fel oeddent yn 2022, pryd roeddent yn gadarnhaol.   
  • Yn y datganiad 'mae cysylltiadau cludiant da o'm cwmpas i', gostyngodd sgôr yr arolwg preswylwyr o -0.45 i -0.59.  

  

  

Cynnydd yn erbyn Canlyniadau   

  

Canlyniad: Ceisio gwella mynediad at wasanaethau trwy rwydweithiau trafnidiaeth a seilwaith gwell.  

Rydym wrthi'n buddsoddi mewn gwella trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith ar draws y sir.  

  

Cysylltu Cymunedau   

Llwybr Dyffryn Tywi   

Mae £16.7m o arian Ffyniant Bro Llywodraeth y DU yn cael ei ddefnyddio i gyflawni'r prosiect uchelgeisiol hwn sy'n cysylltu cymunedau gwledig yn Nyffryn Tywi. Agorwyd y rhan bedair milltir gyntaf rhwng Abergwili a Nantgaredig ym mis Ebrill 2025, gan ddarparu ffordd werthfawr, ddiogel, gynaliadwy a fforddiadwy o gysylltu cymunedau.   

   

Mynd i'r afael ag Anghenion Trafnidiaeth Wledig  

Gwasanaeth Bws Bach y Wlad  

Rydym wedi datblygu menter i lenwi'r bwlch mewn trafnidiaeth gyhoeddus i drigolion ardaloedd gwledig Gogledd Sir Gaerfyrddin. Ymateb uniongyrchol yw hwn i ddiflaniad gwasanaeth Bwcabus, gan sicrhau y gall preswylwyr gysylltu â chyfleoedd economaidd a meithrin twf a datblygiad rhanbarthol.   

   

Gwella'r Seilwaith Ffyrdd   

Mae'r prosiect hwn wedi arwain at nifer o fanteision i Lanelli. Mae cylchfan Heol y Sandy ar ei newydd wedd yn hyrwyddo newid tuag at opsiynau teithio lleol fel beicio a cherdded. Mae hyn yn gwella ansawdd aer, yn lleddfu tagfeydd traffig, ac yn gwella dibynadwyedd teithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus. Drwy wneud hynny, mae hyn yn gwella hygyrchedd a bywiogrwydd economaidd canol tref Llanelli. Mae ail gam y prosiect wedi sicrhau cyllid gan Gronfa Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru a bydd yn cael ei gyflawni yn Haf 2025. Bydd hyn yn golygu gwneud gwelliannau i gyffordd Heol y Sandy/Maesycoed i wella llif traffig, lleihau tagfeydd, a darparu amgylchedd mwy diogel i'r holl ddefnyddwyr ffordd.  

  

Cynnal a Chadw Ffyrdd A, B, ac C  

Rydym yn parhau i flaenoriaethu cyllid ar draws y rhwydwaith ffyrdd mewn modd sy'n seiliedig ar risg, gan roi blaenoriaeth i'r rhannau prysurach o'r ffordd. Yn 2024/25, gwnaethom fuddsoddi £2 filiwn mewn gosod arwyneb newydd ar briffyrdd. Dangosir gwelliannau yn y dangosydd cyflwr ffyrdd ar ffyrdd dosbarth C, gyda ffyrdd A yn aros yn sefydlog, a dirywiad bach yng nghyflwr ffyrdd dosbarth B. Mae'r Cyngor yn cydnabod bod angen cyllid pellach i fynd i'r afael â chyflwr ffyrdd di-ddosbarth a gwledig. Trwy gronfa Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru, fe wnaethom sicrhau £500,000m o gyllid i wneud gwaith atgyweirio mawr ar draws y Sir. Roedd y cyllid hwn yn help i ni gyda sawl argyfwng go sylweddol, gan gynnwys tri arglawdd ffordd wedi cwympo, a dwy wal gynnal a dau gwlfer wedi dymchwel.   

  

Cynnal a Chadw  

Rydym yn blaenoriaethu cynnal a chadw'r rhwydwaith priffyrdd drwy gydol y flwyddyn, er mwyn sicrhau bod gan breswylwyr fynediad di-dor at wasanaethau hanfodol a bod preswylwyr agored i niwed yn cael gofal a chymorth. Mae llwybrau priffyrdd strategol yn cael eu trin â halen, fel rhan o'n Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf, i sicrhau bod modd cynnal gwasanaethau a chyflenwadau hanfodol.   

Parhau i waethygu wnaeth cyflwr wyneb y ffordd yn 2024/25, yn enwedig ar ffyrdd dosbarth is. Gostyngodd nifer y cwsmeriaid wnaeth roi gwybod am ddiffygion a thyllau (2,567) 21% o gymharu â 2023/24, ond mae hyn dal yn gynnydd o 88% o gymharu â ffigurau 2022/23. Mae cwtogi ar raglenni cynnal a chadw ataliol yn gadael ein ffyrdd yn agored i ddirywiad cyflym, a hynny'n fwy fyth wrth i dywydd eithafol ein taro'n fwy aml.   

  

Diogelwch   

Bob blwyddyn, mae'r Tîm Diogelwch Ffyrdd yn cynnal rhaglen i nodi lleoliadau lle mae gwrthdrawiadau anafiadau personol yn achos pryder, ac yna llunio mesurau peirianneg i leihau'r risg o wrthdrawiadau'n digwydd. Gwneir hyn gan ddefnyddio data gwrthdrawiadau Heddlu Dyfed-Powys, sy'n gyfrifol am gasglu'r holl ddata gwrthdrawiadau traffig ffyrdd lle cafwyd anafiadau personol. Mae hyn yn golygu y gellir gwneud yn siŵr bod y cyfeiriad a'r ffocws yn gyfredol ac yn parhau i fod yn berthnasol. Rhwng 2015 a 2023, gwelodd Sir Gaerfyrddin ostyngiad o 25% yn nifer y gwrthdrawiadau lle cafwyd anafiadau personol. Mae marwolaethau ac anafiadau o wrthdrawiadau traffig ffyrdd yn faich economaidd, amgylcheddol, iechyd a chymdeithasol sylweddol ar gymdeithas. Mae lleihau gwrthdrawiadau ac anafiadau yn cefnogi amcan corfforaethol allweddol ar gyfer cymunedau iachach, mwy diogel a mwy ffyniannus.  

  

Oes unrhyw un ar ei ennill?   

 

Grymuso Cymunedau Gwledig  

Fe wnaethom ailddatgan ein hymrwymiad i lesiant a ffyniant pobl sy'n byw yng nghefn gwlad gyda lansiad dwy fenter: Bws Bach y Wlad a Hwb Bach y Wlad. Roedd y rhain yn gamau sylweddol ymlaen o ran sicrhau bod preswylwyr Gogledd Sir Gaerfyrddin yn cael mynediad at adnoddau a chymorth hanfodol, waeth beth fo'u rhwystrau gwledig.   

Diolch i gyllid hanfodol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, cynigiodd Bws Bach y Wlad wasanaeth pum diwrnod yr wythnos fel rhan o brosiect peilot naw mis.  Mae'r fenter wedi'i chynllunio i rymuso a chyfoethogi bywydau preswylwyr sy'n byw mewn ardaloedd gwledig trwy fynd i'r afael â'r heriau sy'n perthyn i ynysu a mynediad cyfyngedig i wasanaethau hanfodol. Mae Bws Bach y Wlad yn gwneud hyn drwy ddarparu mynediad hwylus at wasanaethau cymorth hanfodol, mynd ar drywydd cyfleoedd addysgol a chyflogaeth, a gweithgareddau hamdden. Mae'r cyfleoedd hyn hefyd yn ymestyn i bobl ifanc y Sir Gaerfyrddin wledig, sy'n elwa ar gyfraddau teithio gostyngol er mwyn gallu achub mantais ar gyfleoedd y tu hwnt i'w hardaloedd lleol.    

Gan adeiladu ar lwyddiant y prosiect hwn, rydym hefyd wedi cyflwyno Hwb Bach y Wlad, sef canolfan gymorth gynhwysfawr sydd wedi'i theilwra i ddiwallu anghenion amrywiol trigolion gwledig. Bellach gall unigolion dderbyn cyngor ar wasanaethau'r Cyngor, costau byw, gwastraff ac ailgylchu, materion defnyddwyr a busnes, materion tai, ac atgyfeiriadau at sefydliadau partner. Mae'n estyniad i'n Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid, sydd wedi cyrraedd dros 6,000 o gwsmeriaid drwy ymweld â neuaddau cymunedol, banciau bwyd, canolfannau Hamdden a martiau ffermwyr.  

  

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:  

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i fod yn ymroddedig i wella bywydau'r holl drigolion, ac mae'r mentrau hyn yn tanlinellu ein hymrwymiad diflino i feithrin cymunedau ffyniannus a chynhwysol yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin.  

Drwy ddarparu gwasanaethau cymorth hanfodol a phontio'r bwlch rhwng ardaloedd anghysbell ac adnoddau hanfodol, rydym yn grymuso unigolion i ffynnu a meithrin cymunedau cynhwysol yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin.”  

  

  

Sut gallwn ni wneud yn well?  

Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth i wella mynediad at wasanaethau a chefnogi twf economaidd, gan ganolbwyntio ar gynaliadwyedd a chysylltedd gwledig. Mae ein cynlluniau'n cynnwys datblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, bwrw ymlaen â METRO De-orllewin Cymru, a buddsoddi mewn seilwaith cerbydau trydan wedi'i gefnogi gan Strategaeth Trawsnewid y Fflyd. Byddwn yn adolygu'r Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf Priffyrdd, yn treialu Cymorthfeydd Trafnidiaeth i wella ymgysylltiad â'r cyhoedd, ac yn datblygu Strategaeth Parcio Ceir newydd i gyd-fynd â'n nodau economaidd a chynaliadwyedd.