Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2024-2025

Cyflwyniad gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin

Gwelwch ein hadroddiad fel PDF

 

Mae'n bleser gennyf gyflwyno Adroddiad Blynyddol Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2024/25; blwyddyn sydd wedi bod yn brawf i'n gwytnwch a'n hyblygrwydd. Ar draws y sir mae ein cymunedau, ein staff, ein partneriaid a'n busnesau wedi gweithio gyda'i gilydd i oresgyn heriau sylweddol, gan ddarparu'r gefnogaeth orau posibl i bob un o'r 188,000 o bobl y mae Sir Gâr yn gartref iddynt.   

Fel sy'n wir o hyd, mae'r cyd-destun rydym yn gweithio ynddo dal yn gymhleth. Mae ein sir yn parhau i dyfu a newid, ac fel sefydliad rydym yn gweithio i gadw lan â hynny. Rydym yn parhau i wynebu'r realiti llym fod cyllid sector cyhoeddus wedi bod yn annigonol ers dros ddegawd, sydd wedi rhoi mwy o bwysau nag erioed ar ein gallu i gyflawni gwasanaethau hanfodol y mae ein preswylwyr yn dibynnu arnynt. Mae'r argyfwng costau byw, yr economi anwadal a'r newidiadau demograffig i gyd wedi cymhlethu'r galw cynyddol hwnnw.   

Er gwaethaf yr holl wasgfeydd hyn, mae'r hyn gyflawnwyd yn y flwyddyn ddiwethaf wedi dangos grym gweledigaeth strategol, partneriaeth ac arloesi. Mae ein hymrwymiad i'n pedwar amcan llesiant wedi llywio pob gweithred: rhoi'r dechrau gorau posibl i blant mewn bywyd, galluogi pobl i fyw a heneiddio'n dda, meithrin cymunedau ffyniannus a gwydn, a moderneiddio ymhellach fel Cyngor gwydn, effeithlon.   

Ym maes addysg a blynyddoedd cynnar rydym wedi parhau i hyrwyddo cynhwysiant, codi safonau ar draws ein hysgolion, ac ehangu'r ddarpariaeth gofal plant, gan sicrhau bod pob plentyn, beth bynnag ei gefndir, yn gallu cael cyfleoedd.   

Mae ein rhaglen drawsnewid yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi cyflawni buddsoddiad sylweddol, gan ysgogi gwelliannau er gwaethaf cynnydd yn y galw. Mae rhaglenni iechyd a hamdden arloesol wedi ymgysylltu â miloedd o bobl, gan gefnogi llesiant corfforol a meddyliol.  

I'n cymuned ehangach, mae mynd i'r afael â thlodi a chefnogi'r rhai sy'n wynebu caledi wedi bod yn flaenoriaeth allweddol. Trwy ymdrechion ein hymgynghorwyr Hwb a'n gwasanaeth Hwb Bach y Wlad, mae preswylwyr cymwys wedi cael cymorth i hawlio dros £7.5 miliwn mewn budd-daliadau. Rydym wedi ailddefnyddio tai gwag, cynnal tenantiaethau newydd, a gwneud cynnydd mewn tai fforddiadwy, gan dynnu dros £17 miliwn i lawr mewn Grantiau Tai Cymdeithasol ac ychwanegu 361 o dai newydd at ein stoc.  

Mae ein hymagwedd gadarn at iechyd a gofal cymdeithasol wedi esgor ar ganlyniadau, gan leihau derbyniadau i'r ysbyty a galluogi unigolion i ddychwelyd adref yn gynt gyda'r cymorth iawn mewn lle. Mae'r llwybr Gartref yn Gyntaf a'r buddsoddiad cynyddol mewn gwasanaethau ataliol yn enghreifftiau allweddol o integreiddio effeithiol ac ymyrraeth gynnar, gan ddod â gwelliannau gweladwy i fywydau pobl agored i niwed.   

Mae adferiad economaidd a thwf Sir Gaerfyrddin wedi'u galluogi drwy sicrhau dros £58 miliwn o gyllid, cefnogi dros 2,300 o fusnesau, a chreu neu ddiogelu miloedd o swyddi. Mae cynnydd da yn dal i gael ei wneud ar brosiectau strategol fel Pentre Awel, gan ddarparu cyfleusterau o'r radd flaenaf a chyfleoedd arloesol i'n cymunedau.   

Ar yr un pryd, mae ein hymrwymiad i ddatgarboneiddio a bioamrywiaeth yn ddiwyro, gyda gostyngiad o 37% mewn allyriadau carbon wedi'u targedu ers ein blwyddyn gychwynnol, a dros hanner y tai Cyngor bellach yn cyrraedd safonau perfformiad ynni uwch.   

Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg a'r diwylliant i'n hunaniaeth ac wedi ymateb yn bendant i'r dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg drwy weithredu strategaethau a chynlluniau gweithredu newydd, cefnogi dysgu staff, a hyrwyddo mentrau celfyddydol bywiog.  

Trwy gydol yr amser rydym wedi cadw ffocws ar lywodraethu, cydraddoldeb ac ymgysylltu, gan wrando ar ein preswylwyr a'n staff a sicrhau bod egwyddor datblygu cynaliadwy wrth wraidd popeth a wnawn. Mae'r adborth rydych chi'n ei roi drwy'r Arolwg Preswylwyr Blynyddol yn hynod ddefnyddiol i ni wrth i ni flaenoriaethu ein gwaith a'n hymrwymiadau yn y dyfodol. Mae moderneiddio a thrawsnewid wedi cyflymu trwy drawsnewid digidol, awtomeiddio, a ffyrdd mwy clyfar o weithio, gan ddarparu arbedion effeithlonrwydd a phrofiadau gwell i'r rheiny rydym yn eu gwasanaethu.  

Rwyf am ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr hyn a gyflawnwyd, ein gweithlu ymroddedig, ein partneriaid, ac, yn bwysicaf oll, pobl Sir Gaerfyrddin. Er gwaethaf yr heriau cymhleth sy'n ein hwynebu, rydym wedi dangos, trwy weithio fel un tîm â'n gwreiddiau yn ein gwerthoedd craidd, ein bod yn gallu cyflawni i'n cymunedau, heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.  

Wrth i ni edrych ymlaen i'r flwyddyn sydd i ddod, rydym yn gwneud hynny gyda phenderfyniad o'r newydd er mwyn wynebu heriau, arloesi, a sicrhau bod Sir Gâr yn parhau i fod yn rhywle y gall pob unigolyn ffynnu ynddo.

Y Cynghorydd Darren Price 

Arweinydd, Cyngor Sir Caerfyrddin 


Cyflwyniad i'n Hadroddiad Blynyddol

Rhagarweiniad

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin (CSC) yn sefydliad mawr, cymhleth gyda gweithlu o oddeutu 8,400 o weithwyr a chyllideb o dros £900 miliwn (refeniw a chyfalaf). Oherwydd y pwysau ariannol parhaus ar wasanaethau cyhoeddus flwyddyn ar ôl blwyddyn ers dros ddegawd, rydym yn parhau i wynebu mwy o bwysau nag erioed wrth ddarparu gwasanaethau i'r oddeutu 188,000 o bobl y mae Sir Gaerfyrddin yn gartref iddynt. Wrth wneud hyn, rydym yn ymdrechu i wneud cynnydd yn erbyn ein pedwar amcan llesiant.   

Pwrpas yr adroddiad blynyddol hwn yw rhoi trosolwg o'r cynnydd rydym wedi'i wneud yn ystod 2024/25 yn erbyn yr amcanion llesiant hyn, sef:   

  1. Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. (Dechrau'n Dda)  
  2. Galluogi ein preswylwyr i fyw a heneiddio'n dda. (Byw a Heneiddio'n Dda) 
  3. Galluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus. (Cymunedau Ffyniannus)
  4. Moderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor cydnerth ac effeithlon. (Ein Cyngor)  

Bwriad yr amcanion hyn yw mynd i'r afael â heriau mwyaf dybryd y sir, gan sicrhau ein bod yn cyfrannu cymaint ag sy'n bosibl i'r saith nod llesiant cenedlaethol. Mae gan bob amcan set o ganlyniadau sy'n ein helpu i fesur ein cynnydd a llywio ein gwaith fel sefydliad. Cyfeirir at y rhain trwy gydol yr adroddiad hwn ac mae ein Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer 2022-2027 yn rhoi trosolwg manwl. Fe'u datblygwyd yn 2022/23 yn dilyn asesiad anghenion helaeth a chyfnod o ymgynghori.  

Prif bwrpas yr adroddiad hwn yw darparu dealltwriaeth dda i breswylwyr, defnyddwyr gwasanaeth, a rhanddeiliaid allweddol o sut rydym wedi bod yn perfformio. Hefyd mae'n bodloni'r ddyletswydd statudol sydd arnom ni drwy Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, a'r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol fel y nodwyd yn Neddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.   

Mesur Cynnydd a Hunanasesu

Mae ein hamcanion llesiant wedi'u gwreiddio'n ddwfn mewn egwyddor sy'n hyrwyddo ffocws ar yr holl gyrff cyhoeddus yn cydweithio i wneud cynnydd o ran canlyniadau sy'n gwella ansawdd bywyd preswylwyr a chymunedau, nawr ac yn y dyfodol.   

Er mwyn mesur yn effeithiol y cynnydd rydym yn ei wneud o ran cyflawni ein hamcanion, rydym yn edrych ar ystod o ddata a thystiolaeth. Mae hyn yn cynnwys casgliadau ein hunanasesiadau ac adroddiadau rheoleiddiol i greu darlun mor gyflawn ag sy'n bosibl o'n cynnydd - yn nhermau tueddiadau dros amser ac o ran y modd rydym yn cymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.   

Er mwyn i ni wneud hyn yn effeithiol, rydym wedi datblygu cyfres ddata o ddangosyddion a mesurau. O'u hystyried gyda'i gilydd, mae'r rhain yn cwmpasu ystod eang o wahanol ffynonellau ac yn caniatáu inni edrych ar y dystiolaeth sydd ar gael i ni yn y rownd. Mae'r ystod o ddata yn cwmpasu'r canlynol a chyfeirir ato drwy gydol yr adroddiad hwn. Gallwch ei weld yn llawn yn Atodiad 5:  

  • Dangosyddion Poblogaeth: Yn bennaf maent yn cynnwys data sydd ar gael i'r cyhoedd ac a nodwyd i ddatblygu dealltwriaeth o dueddiadau a sefyllfa Sir Gaerfyrddin mewn perthynas ag awdurdodau lleol eraill Cymru. Mae'r ffynonellau'n cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): Arolwg Poblogaeth Blynyddol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau.  
  • Mesurau Perfformiad: Cynnwys ffurflenni statudol, mesurau mewnol y Cyngor a gwybodaeth sylfaenol ar ffurf canfyddiadau ymgynghori yr ydym yn eu defnyddio i fesur a monitro perfformiad yn rheolaidd. Cyfrifoldeb uniongyrchol y Cyngor yw'r rhain.

Mae ein hamcanion llesiant hefyd yn llunio ein hymagwedd at hunanasesu. Mae'r ymagwedd hon yn rhoi'r cyd-destun yr ydym yn arfer ein swyddogaethau ynddo, yn defnyddio adnoddau, ac yn sicrhau bod llywodraethu'n effeithiol. A hefyd:  

  • mae'n sicrhau bod ein hunanasesiad yn strategol, gan ganolbwyntio ar y sefydliad, yn hytrach na gwasanaethau unigol ac i ba raddau y mae'r Cyngor yn cyflawni ei amcanion llesiant a'i ganlyniadau bwriadedig.  
  • mae'n caniatáu inni fyfyrio ar lefel strategol ar sut mae ein holl swyddogaethau yn cyfrannu at gyflawni ein hamcanion llesiant, sut rydym yn gweithredu a pha gamau y mae angen i ni eu cymryd i wella ymhellach a pharhau i ddarparu gwasanaethau effeithiol nawr ac yn y tymor hir.  
  • mae'n defnyddio ein hamcanion llesiant fel y fframwaith cyffredinol ac yn annog golwg fwy cyfannol ar berfformiad y Cyngor, gan gydnabod bod llawer o wasanaethau'n 'cydlynu' ac yn cyfrannu at un neu ragor o amcanion llesiant.   
  • rydym yn parhau i reoli perfformiad gwasanaethau unigol drwy Gynlluniau Busnes Is-adrannol. Mae hyn yn rhan bwysig o ymagwedd y Cyngor at reoli perfformiad fel y manylir yn ein Fframwaith Rheoli Perfformiad, sy'n seiliedig ar gylch Cynllunio/Gwneud/Adolygu.   

 

Y Prif Egwyddorion  

Gwerthoedd ac Ymddygiad Craidd 

Mae gweledigaeth y Cyngor yn ategu popeth rydym yn ei wneud fel sefydliad:  

‘Datblygu Sir Gaerfyrddin gyda'n gilydd: Un Cyngor, Un Weledigaeth, Un Llais.’ 

O'u hystyried gyda'i gilydd, mae'r weledigaeth, ein gwerthoedd craidd a'n hymddygiadau yn ein helpu i wneud y penderfyniad cywir, ac yn llunio sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd i ddarparu gwasanaethau a gwneud y gorau y gallwn.  

Mae ein chwe gwerth craidd yn ffurfio'r egwyddorion cyffredinol sy'n gonglfaen i'n hugain ymddygiad. Mae'r ymddygiadau hyn yn disgrifio'r camau a'r ymagweddau unigol ar gyfer sut rydym yn gweithio ac yn trin eraill. Mae ein gwerthoedd fel a ganlyn ond gellir eu gweld yn llawn ynghyd â'n hymddygiadau yma: 

  • Gweithio fel un tîm; 
  • Canolbwyntio ar ein cwsmeriaid;   
  • Gwrando er mwyn gwella;   
  • Ymdrechu i ragori;   
  • Gweithredu ag uniondeb;   
  • Cymryd cyfrifoldeb personol.

  

Llywodraethu

Fel Cyngor, mae cyfrifoldeb arnom i sicrhau bod ein busnes yn cael ei gynnal yn unol â'r gyfraith a safonau priodol. Rhaid inni sicrhau hefyd y diogelir cyllid cyhoeddus, y rhoddir cyfrif priodol amdano ac y’i defnyddir yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol, a sicrhau gwelliant parhaus yn hyn o beth.   

Rydym yn gyfrifol am sefydlu trefniadau priodol ar gyfer Llywodraethu ein gwaith a hwyluso cyflawni ein swyddogaethau'n effeithiol, gan gynnwys bod â threfniadau priodol ar gyfer rheoli risg.   

Mae’r Cyngor yn credu mai Llywodraethu Corfforaethol yw “gwneud y pethau iawn, yn y ffordd iawn, i’r bobl iawn mewn modd amserol, cynhwysol, agored, gonest ac atebol.” Mae’r Fframwaith Llywodraethu yn cynnwys y systemau, y prosesau, y diwylliannau a’r gwerthoedd sy’n ein cyfarwyddo ac yn ein rheoli, ynghyd â’r modd y mae'n atebol i’r gymuned, yn ymgysylltu â hi ac yn ei harwain. Mae’n ein galluogi i fonitro i ba raddau y cyflawnwyd ein hamcanion strategol ac i ystyried a yw’r amcanion hynny wedi arwain at gyflawni gwasanaethau priodol a chost-effeithiol.  

Mae ein Datganiad Llywodraethu Blynyddol fel y'i cynhwysir yn ein Datganiad o Gyfrifon yn manylu ar sut rydym wedi cydymffurfio â gwahanol elfennau ein Fframwaith Llywodraethu.   

  

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'r Cyngor wedi ymroi i sicrhau ein bod yn deg i bawb ym mhopeth rydym yn ei wneud. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn nodi egwyddorion ein hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae'n amlinellu sut rydym yn bwriadu cyflawni ein cyfrifoldebau fel cyflogwr, darparwr gwasanaeth, ac fel arweinydd cymunedol.  

Fel corff cyhoeddus mae angen i ni sicrhau bod pawb yn cael mynediad cyfartal i'n gwasanaethau ac yn cael eu trin yn gyfartal. Hefyd mae angen i egwyddorion sylfaenol hawliau dynol fod wrth wraidd darparu gwasanaethau. Mae'n ofynnol i ni ganolbwyntio ar gyflawni canlyniadau cydraddoldeb mesuradwy trwy welliannau penodol mewn polisïau, a'r ffordd mae ein gwasanaethau a'n swyddogaethau yn cael eu cyflawni.  

Rydym wedi ymrwymo i drin ein staff, a phobl Sir Gaerfyrddin, yn deg. Byddwn yn sicrhau nad ydym yn gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu hoedran, anabledd, tarddiad ethnig, cenedligrwydd, crefydd, cred neu ddiffyg cred, dosbarth cymdeithasol, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, newid rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, cyfrifoldeb am ddibynyddion neu am unrhyw reswm annheg arall.   

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yn cael eu darparu i bawb sy'n byw, yn gweithio ac yn astudio yn Sir Gaerfyrddin ac sy’n ymweld â'r sir. Caiff hyn ei ategu gan ein pedwar amcan cydraddoldeb ar gyfer 2024/2028:  

  • Bod yn gyflogwr o ddewis;  
  • Galluogi ein preswylwyr i fyw a heneiddio'n dda;  
  • Ymwreiddio Cydlyniant Cymunedol yn ein sefydliad a'n cymuned; a   
  • Gwarchod a chryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol.   

 

Y Cyngor

Yn yr etholiadau lleol yn 2022, pleidleisiodd Sir Gaerfyrddin dros 75 o gynghorwyr sir i gynrychioli ein 51 ward. Mae Cabinet y Cyngor yn cynnwys 10 Cynghorydd, sy'n cynnwys Arweinydd y Cyngor. Mae ganddynt gyfrifoldeb am sicrhau cynnydd yn erbyn ein hamcanion llesiant. Mae gan bob aelod o'r Cabinet bortffolio y mae’n gyfrifol amdano. 


Amcan Llesiant 1 - Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau'n Dda) 

Trosolwg o'r Cynnydd

Mae'r Cyngor yn credu bod pob plentyn yn haeddu'r dechrau gorau mewn bywyd beth bynnag ei gefndir. Mae sicrhau bod gan blant sylfaen gref yn gynnar yn eu rhoi ar lwybr sy'n cyfyngu ar effeithiau anghydraddoldeb ar draws canlyniadau iechyd a llesiant, cyflawniad addysgol, a statws economaidd. I'r Cyngor, beth sydd wrth wraidd gwneud hynny yw darparu'r gefnogaeth gywir i blant a theuluoedd pryd a lle mae ei hangen arnynt, gan ganolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar, darparu mynediad at fentrau iechyd a llesiant sy'n cyfoethogi, a system addysg sy'n helpu plant i fod gystal ag y gallant fod.  

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Cyngor wedi parhau â'i ymdrechion i fynd i'r afael â rhai heriau sylweddol. Er bod lefel y plant mewn tlodi wedi gostwng yn y sir, credir bod tua 30% yn dal i fyw mewn tlodi. Nid yw'r sefyllfa hon yn un sy'n unigryw i Sir Gaerfyrddin, ac rydym wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i leihau effeithiau tlodi ar ein preswylwyr fel y nodir dan amcan llesiant 2. Mae darparu prydau ysgol maethlon am ddim yn parhau i fod yn flaenoriaeth, ac mae 25,000 o brydau bwyd yn cael eu darparu bob dydd yn ysgolion Sir Gaerfyrddin.  Mae'r ddarpariaeth hon hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod plant yn cadw at ddiet iach a chytbwys. Ymhen amser, dylai hyn gyfrannu'n gadarnhaol at lefel gordewdra yn ystod plentyndod yn y sir, sydd ar hyn o bryd yn 30% ar gyfer plant 4 i 5 oed. Mae'r llu o fentrau chwaraeon a hamdden, fel 'Actif Unrhyw Le ar gyfer Ysgolion' a rhaglen nofio 'Sblash', wedi cynyddu'n sylweddol nifer y plant sy'n gwneud gweithgarwch corfforol, yn enwedig y rheiny o gefndiroedd difreintiedig.

Mae'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd o dan bwysau oherwydd galw mawr, yn enwedig o achos cymhlethdod y galw hwnnw a phrinder gweithlu. I gydnabod hyn, mae'r Cyngor wedi gwneud buddsoddiadau sylweddol, gan gynnwys rhaglen drawsnewid sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd hirdymor ar gyfer y gwasanaeth. Gan Sir Gaerfyrddin y mae'r nifer leiaf o blant sy'n derbyn gofal o1 gymharu ag Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru, ac roedd ychydig yn llai o blant mewn lleoliadau maeth ar ddiwedd y flwyddyn o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, mae prinder gofalwyr maeth yn lleol ac yn genedlaethol o hyd sy'n effeithio ar sefydlogrwydd lleoliadau. Mae'r Cyngor yn mynd i'r afael â hyn yn rhagweithiol trwy ymgyrchoedd recriwtio wedi'u targedu. Mae cynnydd da wedi'i wneud mewn Cartrefi Plant, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl ofal preswyl yn cael ei ddarparu o fewn y sir erbyn 2026. Mae gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac ataliol yn parhau i ddarparu cymorth o ansawdd da sy'n cyflawni canlyniadau da i deuluoedd, er gwaethaf yr heriau sy'n ymwneud â'r galw cynyddol a chymhlethdod yr angen.   

Mae'r cynnig gofal plant ledled y sir wedi cynyddu, ac mae cam 2 y broses o ehangu Gofal Plant Dechrau'n Deg wedi'i gyflwyno'n llawn. Bydd cam 3 yn cael ei gyflwyno yn ystod 2025/26.   

Er gwaethaf wynebu heriau ariannu ac effeithiau parhaus y pandemig, mae cynnydd da wedi'i wneud o fewn Addysg. Mae'r diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) wedi'u cyflwyno, gan ehangu cymorth arbenigol, ac mae'r camau dilynol cadarnhaol wedi arolygiad Estyn yn dangos y cynnydd a wnaed. Ar ben hynny, mae seilwaith ysgolion wedi gweld datblygiadau drwy'r Rhaglen Moderneiddio Addysg, gan gynnwys cyfleusterau newydd ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac addysg ADY. Mae datblygu'r cwricwlwm yn unol â Chwricwlwm Cymru hefyd wedi parhau i fod yn flaenoriaeth, gan hyrwyddo dysgu cynhwysol, cymunedol gyda phwyslais ar lythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol.   

Mae presenoldeb ysgol yn parhau i fod yn bryder, a chyda'r sir mae'r lefelau presenoldeb isaf yng Nghymru. Mae gan y sir hefyd lefel gymharol uwch o ddysgwyr Addysg Ddewisol yn y Cartref sydd angen cymorth wedi'i deilwra. Rydym yn mynd i'r afael â'r heriau hyn yn rhagweithiol trwy farchnata a chymorth wedi'u targedu. 

 

 


Amcan Llesiant 2 - Galluogi ein preswylwyr i fyw a heneiddio'n dda (Byw a Heneiddio'n Dda) 

Trosolwg o'r cynnydd

Mae patrwm demograffig Sir Gaerfyrddin yn newid mewn modd cadarnhaol. Mae pobl yn byw'n hirach oherwydd datblygiadau mewn gofal iechyd a gwelliant cyffredinol mewn safonau byw. O gofio hynny, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi preswylwyr i fyw a heneiddio'n dda.   

Er bod incwm wythnosol gros yn parhau i wella, credir bod tua 30% o aelwydydd yn byw mewn tlodi, ac mae'r costau byw cynyddol yn parhau i fod yn bryder i lawer o bobl ein sir. Mewn ymateb i hyn, mae gwaith y Grŵp Ymgynghorol Trechu Tlodi yn parhau ar gyflymder, gyda'n Cynllun Trechu Tlodi yn llywio'r gweithgarwch. Aed i ymdrech fawr i sicrhau bod preswylwyr yn gallu cael mynediad at y cymorth mae hawl ganddynt iddo drwy ein canolfannau Hwb a gwasanaeth Hwb Fach y Wlad. 

Yn fwyfwy mae argaeledd tai fforddiadwy o ansawdd da, yn ogystal â chynnal buddsoddiad parhaus mewn tai presennol, yn flaenoriaeth i'r Cyngor. Mae mynediad at dai addas i'r diben yn hyrwyddo iechyd a llesiant ac yn sylfaen i well safonau byw. Mae ffocws ar gaffael eiddo sector preifat, ailddefnyddio cartrefi gwag, a datblygu tai newydd wedi golygu bod 361 o gartrefi ychwanegol wedi'u hychwanegu at y stoc dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae cynnydd da wedi'i wneud yn yr ymdrechion i ddatgarboneiddio'r stoc dai bresennol, sy'n lleihau allyriadau carbon a thlodi tanwydd.  

Mae disgwyliad oes iach yn y Sir wedi gostwng yn achos dynion (59.2 mlynedd) a menywod (57.9 mlynedd). Bydd hyn yn arwain at gynnydd yn y galw am wasanaethau yn y dyfodol. I gydnabod hyn, rydym yn parhau â'n hymdrechion o ran ymyrraeth gynnar ac atal, sydd wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn derbyniadau i'r ysbyty, gwell canlyniadau iechyd, ac arosiadau byrrach yn yr ysbyty. Mae hyn yn galluogi unigolion i ddychwelyd adref yn gynt gyda'r cymorth cywir ar waith. Mae lleihau dibyniaeth ar ofal preswyl yn flaenoriaeth allweddol, ac mae ffocws cryf ar ehangu opsiynau byw â chymorth sy'n hyrwyddo annibyniaeth.  

Mae llu o fentrau iechyd a llesiant ar gael i'n preswylwyr, gan ganolbwyntio ar gynyddu hygyrchedd a sicrhau bod ein cynnig yn diwallu anghenion amrywiol defnyddwyr gwasanaeth. Mae mentrau iechyd a llesiant yn parhau i gael eu cyflwyno mewn ffyrdd arloesol i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at fentrau ataliol. Mae nifer y preswylwyr yn Sir Gaerfyrddin sydd â dau ymddygiad iach neu fwy o ran eu ffordd o fyw yn parhau i gynyddu. Mae'r ymddygiadau hyn yn lleihau'n sylweddol y risg o glefydau cronig fel clefyd y galon, diabetes, a rhai canserau, ac yn cynyddu disgwyliad oes unigolion. Yn ei dro, dylai hyn leihau'r galw ar ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol. 

I gydnabod bod iechyd meddwl yn bryder cynyddol ac yn flaenoriaeth i bob un ohonom, mae'r gwasanaeth llesiant iechyd meddwl yn darparu cymorth ymyrraeth gynnar ac atal hanfodol. Mae cymorth iechyd meddwl hefyd yn cael ei ystyried trwy fentrau chwaraeon a llesiant, o ystyried pa mor bwysig yw cynnal a gwella iechyd meddwl. 

 

 

 


Amcan Llesiant 3 - Galluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus)

Trosolwg o'r cynnydd

Mae economi sefydlog sy'n gweithio'n dda yn sail ar gyfer twf, cymunedau ffyniannus, a safonau byw gwell, lle gall pawb fanteisio ar gyfle. Mae cyfleoedd cyflogaeth amrywiol a diogel, canol trefi a busnesau ffyniannus, a marchnad lafur fedrus yn allweddol i sicrhau economi iach, ac rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo hyn trwy ystod o ymyriadau. Mae economi Sir Gaerfyrddin wedi adfer yn dda dros y blynyddoedd diwethaf, ond nid yw'n rhydd rhag pwysau a heriau allanol. Mae incwm gwario aelwydydd yn parhau i fod yn is na'r cyfartaleddau cenedlaethol ac mae cyfraddau anweithgarwch economaidd dal yn uwch na'r cyfartaledd.   

Mae mewnfuddsoddiad a chyllid allanol sylweddol wedi'u sicrhau i gefnogi prosiectau cymunedol, busnesau, creu swyddi, ac adfywio canol trefi. Mae nifer o brosiectau strategol a phrosiectau cyhoeddus naill ai ar y gweill neu wedi'u cwblhau a fydd yn gwella canol trefi ac ardaloedd cyfagos er budd cymunedau lleol. Mae'r gwaith ym Mhentre Awel yn parhau acha rât gyda manteision i'r ardaloedd cyfagos eisoes yn cael eu gwireddu drwy gymunedau.    

Mae ein dwy raglen gyflogadwyedd wedi parhau i gefnogi'r rhai sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur i gael mynediad at gyflogaeth, cyfleoedd gwirfoddoli, neu hyfforddiant. Mae'r cyfleoedd hyn wedi'u cynllunio i gynyddu hyder ac arfogi pobl â'r sgiliau i gael swyddi a fydd yn gwella eu rhagolygon.    

I gydnabod mai busnesau'r sir yw sylfaen ein heconomi, mae gwaith yn parhau i gynnig cefnogaeth trwy ystod o ymyriadau, gyda ffocws ar wella mynediad i ofod masnachol, darparu cyfleoedd rhwydweithio, cyfeirio at gyfleoedd cyllido sydd ar gael, a chefnogi busnesau i fanteisio ar gadwyni cyflenwi lleol trwy gyfleoedd caffael.    

Amgylchedd naturiol Sir Gaerfyrddin yw un o'i hasedau mwyaf. Mae'r Cyngor wedi datgan ei ymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur a bydd yn parhau i weithio tuag at fod yn Awdurdod Lleol Carbon Sero Net erbyn 2030, gan fynd i'r afael â'r materion sy'n sbarduno dirywiad yn ein bioamrywiaeth ac yn cefnogi adferiad natur. Rydym wedi gweld gostyngiad o 37% yn yr allyriadau carbon a dargedwyd yn y Cynllun Sero Net. Mae tair strategaeth arwyddocaol wedi'u datblygu i gefnogi bioamrywiaeth. Rydym hefyd wedi cymryd nifer o gamau i liniaru effeithiau llifogydd.   

Rydym wedi gweld cynnydd da yn y Gwasanaethau Gwastraff, lle bu gwelliant parhaus mewn perfformiad o ran ailddefnyddio ac ailgylchu, gostyngiad yn y gwastraff sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi, a gostyngiad yn y gwastraff fesul person nad yw'n cael ei ailgylchu. Ategir hyn gan y ffaith i'r Gwasanaethau Gwastraff gael y lefelau boddhad uchaf yn yr arolwg preswylwyr ar gyfer 2024.   

Mae ein Sir yn gadarnle strategol i'r Gymraeg, gyda bron i 40% o'r preswylwyr yn siaradwyr Cymraeg. Mae ein cymunedau Cymraeg yn wydn; fodd bynnag, mae gostyngiad wedi bod yn nifer y siaradwyr Cymraeg dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r Cyngor wedi arwain ar ddatblygu cynlluniau i gefnogi gwneud y Gymraeg yn norm mewn meysydd fel annog ei defnydd gyda phlant oedran cyn-ysgol, cynyddu cyfran y teuluoedd sy'n trosglwyddo'r iaith yn llwyddiannus gartref, a chynyddu nifer y preswylwyr sy'n dysgu Cymraeg.   

Mae lefelau troseddu yn Sir Gaerfyrddin yn gymharol isel. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno eu bod yn teimlo'n ddiogel yn eu cymuned, ond mae rhywfaint o anghysondeb ar draws y Sir. Mae gwaith partneriaeth effeithiol wedi parhau dros y flwyddyn, gan ganolbwyntio ar gydlyniant cymunedol a gwaith cymunedol wedi'i dargedu.  

Mae'r Cyngor yn cynnal rhwydwaith priffyrdd helaeth o dros 3,500km ar draws ardaloedd lled-drefol a gwledig. Golyga cwtogiadau cyllid, pwysau ar y gadwyn gyflenwi, disgwyliadau cynyddol y cyhoedd, a dirywiad yn y priffyrdd fod y gwasanaeth dan bwysau. Ategir hyn gan y ffaith i faes gwasanaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth gael y lefelau boddhad isaf yn yr Arolwg Preswylwyr ar gyfer 2024. O ganlyniad, rydym yn blaenoriaethu cynnal y rhwydwaith, yn enwedig yn ystod y gaeaf, er mwyn sicrhau mynediad di-dor i wasanaethau hanfodol sy'n diogelu cysylltedd strategol. Mae rhagor o waith wedi'i gwblhau ar heriau strategol mawr megis ymgyrch genedlaethol 20mya, datblygu cynllunio trafnidiaeth ranbarthol, a'r dyheadau carbon sero net.   

Mae nifer y bobl a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol ar ein ffyrdd yn parhau i gynyddu, ac mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wneud popeth yn ei allu i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel trwy weithio mewn partneriaeth, codi ymwybyddiaeth, a chyfleoedd addysg a hyfforddiant i wella sgiliau ac ymddygiadau defnyddwyr ffordd.   

Mae'r cynnig chwaraeon, hamdden a thwristiaeth yn y sir yn parhau i berfformio'n dda wrth i ymwelwyr dros nos a dydd gyfrannu £683m i'r economi leol gan gefnogi 6,649 o swyddi amser llawn. Mae'r sectorau hyn yn strategol bwysig i'r Sir ac yn manteisio ar ein tirwedd naturiol a'n cynnig diwylliannol a threftadaeth cryf. Yn bwysicach byth, maent yn helpu ac yn annog ein preswylwyr a'n hymwelwyr i fyw bywydau egnïol, iach a chyfoethog.

 

 

 


Amcan Llesiant 4 - Ein Cyngor: Moderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor cydnerth ac effeithlon

Trosolwg o'r cynnydd

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Cyngor wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran moderneiddio ei weithrediadau a gwella gwytnwch ac effeithlonrwydd:  

  • Mae'r Rhaglen Drawsnewid wedi cyflawni arbedion cost sylweddol, gan gynnwys dros £200,000 o adolygiadau fflyd a £2.5 miliwn drwy wella adennill dyledion.   
  • Mae gweithio hybrid wedi'i ymgorffori'n llwyddiannus, ac mae gwerthu Parc Dewi Sant a defnyddio dulliau rheoli'r gweithle wedi cefnogi rhesymoli eiddo.   
  • Mae buddsoddiadau technolegol wedi symleiddio gweithrediadau, gydag awtomeiddio a roboteg yn lleihau llwythi gwaith â llaw ac yn arbed dros £61,000 trwy bost hybrid yn unig.   
  • Mewn perthynas â Rheoli Pobl, mae Strategaeth Recriwtio a Chadw newydd yn cael ei datblygu, a chafodd y Cyngor ei gydnabod fel 'Cyflogwr y Flwyddyn' am ei gefnogaeth i ddysgu Cymraeg.   
  • Mae ymgysylltu â'r staff yn parhau i fod yn gryf, gyda sgoriau arolwg gwell yn dangos balchder ac eiriolaeth dros y Cyngor fel cyflogwr.   
  • Mae blwyddyn gyntaf ein Strategaeth Ddigidol wedi cyflawni newid trawsnewidiol ar draws y sefydliad. Rydym wedi gwella seilwaith, grymuso ein gweithlu, gwella darparu gwasanaethau, a sicrhau bod seiberddiogelwch wrth wraidd ein gwaith. Mae sylfeini cadarn ar waith, ac rydym mewn sefyllfa dda i barhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus sy'n fwy clyfar, mwy diogel, a mwy cysylltiedig yn y blynyddoedd i ddod.  
  • Rydym hefyd wedi datblygu ei allu i wneud penderfyniadau ar sail data ac wedi buddsoddi mewn datblygu sgiliau digidol.   

  

Sut ydyn ni'n gwneud?  

Rydym yn rhoi pwyslais sylweddol ar bwysigrwydd barn ein preswylwyr. Y brif ffordd o fesur cynnydd yn erbyn yr amcan hwn yw drwy ein harolwg preswylwyr blynyddol. Mae'r canlyniadau ar gyfer 2024 yn cael eu darparu isod gyda chymharydd ar gyfer y ddwy flynedd flaenorol. Mae'r datganiadau hyn yn ymwneud yn uniongyrchol â'r Cyngor a'n perfformiad.  

O'r naw datganiad a gyflwynwyd yn gysylltiedig â'r Cyngor a'i berfformiad, roedd yr ymatebwyr yn cytuno neu'n cytuno'n gryf â phump (56%) ohonynt. Mae hyn yn gyson â'r tueddiadau a welwyd am y flwyddyn flaenorol.   

Er hyn, bu gwelliant eleni, gyda phedwar datganiad yn gweld gostyngiad mewn sgoriau, o gymharu ag wyth datganiad y llynedd. Mae dau ddatganiad wedi aros yr un fath a thri yn dangos canlyniadau gwell.  

  • Mae’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi byw yn Sir Gaerfyrddin. Dyma'r datganiad sydd wedi sgorio uchaf dros y tair blynedd diwethaf.  
  • Roedd yr ymatebion yn gymysg o ran y graddau y mae preswylwyr yn teimlo bod y Cyngor yn rhoi gwybod iddynt sut mae'n perfformio. Dewisodd y gyfran fwyaf 'y naill na'r llall', sy'n gyson â'r tueddiadau a welwyd y llynedd.  
  • Roedd safbwyntiau'n gymysg ynglŷn â 'mae'r Cyngor yn darparu cyfleoedd i breswylwyr gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau.' Mae awydd ymhlith ymatebwyr am wneud penderfyniadau mewn modd mwy ymatebol, tryloyw ac wedi'i deilwra i anghenion cymunedau unigol.   
  • Mae proses gyfathrebu'r Cyngor ar y cyfan yn effeithiol o ran caniatáu i breswylwyr gael mynediad at wybodaeth gyfredol am wasanaethau, ac mae'r rhan fwyaf yn cytuno bod cysylltu'r â'r Cyngor yn syml ac yn hawdd. Fodd bynnag, mae rhai problemau gyda phrosesau cyswllt uniongyrchol, megis pan fydd preswylwyr yn defnyddio'r prif switsfwrdd, yn defnyddio e-bost i gysylltu â swyddogion neu'n dymuno siarad yn uniongyrchol â swyddogion mewn adrannau unigol. Mae'r canfyddiadau hyn yn gyson â'r flwyddyn flaenorol.   
  • Ar y cyfan mae'r ymatebwyr o'r farn nad yw'r Cyngor yn gwneud defnydd da o'r adnoddau ariannol sydd ar gael i ni, ac nad yw buddsoddi'n digwydd yn y meysydd cywir.   
  • Mae'r argyfwng costau byw yn parhau i fod yn her sylweddol i breswylwyr a'u teuluoedd. Mae costau cynyddol yn parhau i roi pwysau sylweddol ar breswylwyr Sir Gaerfyrddin.   
  • Er bod mwyafrif yr ymatebwyr yn cytuno bod eu hiechyd a'u llesiant cyffredinol yn dda, mae mynediad at wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol addas i'r diben yn parhau i fod yn bryder ac yn her wirioneddol i breswylwyr.   
  • Mae diffyg opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus addas i'r diben a chysylltiadau trafnidiaeth da yn rhwystr i lawer.  Dywedwyd bod tyllau a diogelwch ffordd cyffredinol yn broblem.   
  • Y gwasanaethau gwastraff gafodd y lefelau boddhad uchaf, wrth i 59% o'r ymatebwyr fynegi boddhad. Er hynny, derbyniwyd sylwadau o hyd mewn perthynas â sbwriel, tipio anghyfreithlon ac ymdeimlad cyffredinol anniben rhai ardaloedd o'r Sir. Mae'r sylwadau hyn yn arbennig o berthnasol i ganol trefi.   
  • Er bod y mwyafrif (46%) yn cytuno bod eu hamgylchedd lleol yn ddymunol ac yn cael gofal da, mae cyfran gymharol uchel yn anghytuno.   
  • Mae gan Sir Gaerfyrddin gyfradd droseddu eithaf isel o gymharu â siroedd eraill yng Nghymru, gyda 67% o'r ymatebwyr yn cytuno eu bod yn teimlo’n ddiogel yn eu cymunedau.  
  • Er bod newid wedi bod o 'cytuno'n gryf' i 'cytuno', mae'n parhau i fod yn bwysig i breswylwyr bod pobl leol yn cael eu cefnogi i brynu cartrefi yn lleol. Mae hyn yn cyfateb i 'cytuno' yn gyffredinol gan 75% o'r ymatebwyr.  
  • Nododd cyfran sylweddol o ymatebwyr 'y naill na'r llall' pan ofynnwyd iddynt a oeddent yn teimlo bod pobl leol yn cael cefnogaeth dda i fanteisio ar gyfleoedd lleol.  
  • Mae'r rhan fwyaf o ymatebwyr (63%) yn cytuno ei bod yn bwysig hyrwyddo a diogelu'r Gymraeg. Fodd bynnag, mynegodd rhai preswylwyr safbwynt i'r gwrthwyneb, gan dynnu sylw at yr adnoddau oedd yn cael eu defnyddio ar y flaenoriaeth hon pan oedd adnoddau'n prinhau.   
  • Er bod y sgôr wedi gostwng ychydig flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae'n dal yn bwysig i breswylwyr fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i gefnogi iechyd meddwl a llesiant pobl.   
  • Nododd y gyfran fwyaf o ymatebwyr (42%) 'y naill na'r llall' pan ofynnwyd iddynt a oedd yr argyfwng hinsawdd yn cael sylw’n lleol. Mae hon yn duedd gyson â'r flwyddyn flaenorol.  
  • Ac eithrio'r rhai a atebodd 'nid y naill na'r llall' neu 'ddim yn gwybod', roedd y lefelau anghytuno yn uwch (33%) na'r lefelau cytuno (14%) ar gyfer y graddau y cefnogir busnesau yn yr ardal leol.   
  • Mynegodd 21% o'r ymatebwyr anfodlonrwydd â gwasanaethau cymorth cyflogaeth.   
  • Yn gyffredinol, mae'r ymatebwyr (44%) yn cytuno bod ysgolion lleol yn darparu addysg dda i blant a phobl ifanc.   

  

Cynnydd yn erbyn Canlyniadau   

Canlyniad: Moderneiddio a datblygu ffyrdd y Cyngor o weithio ymhellach.  

Trawsnewid   

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein Rhaglen Drawsnewid wedi canolbwyntio ar gyflymu ei hymdrechion moderneiddio i sicrhau y darperir gwasanaethau cost-effeithiol sydd o safon uchel.   

Un o'r prif bethau sydd wedi'u cyflawni yw clustnodi a gwneud arbedion cost drwy reolaeth ariannol glyfrach. Er enghraifft, mae'r adolygiad o'n fflyd cerbydau eisoes wedi cyflawni dros £200,000 mewn arbedion cost, ac mae bellach yn cael ei ymestyn i feysydd eraill. Yn ogystal, mae ymdrechion i adennill dyledion wedi arwain at £2,523,468 mewn refeniw ychwanegol, gan dynnu sylw at lwyddiant ymagwedd fasnachol y Cyngor at ddarparu gwasanaethau.  

Rydym hefyd wedi gwneud cynnydd o ran rhesymoli asedau'r Cyngor, gan ryddhau safle Parc Dewi Sant i'w werthu ac ail-leoli staff i adeiladau eraill. Mae'r cam hwn, ynghyd â'r defnydd o feddalwedd rheoli gweithleoedd, yn cefnogi penderfyniadau gwybodus ar gydgrynhoi eiddo ac yn caniatáu ar gyfer dulliau gweithio mwy clyfar.   

Mae buddsoddiadau mewn technoleg wedi moderneiddio gwaith y Cyngor ymhellach. Mae awtomeiddio prosesau papur wedi arwain at arbedion sylweddol, gyda gwasanaethau post hybrid yn unig yn arbed £61,884 mewn costau ar gyfer y flwyddyn. Ar ben hynny, mae defnyddio technoleg roboteg (RPA) wedi optimeiddio swyddogaethau swyddfa gefn, gan ryddhau staff i ganolbwyntio ar dasgau sy'n rhoi mwy o werth ychwanegol. Mae enghreifftiau o RPA yn cynnwys Create New Post, sydd wedi rhyddhau amser i staff AD gefnogi rheolwyr gyda materion mwy cymhleth, a'r broses Ymgeisio am Grant Hanfodion Ysgol (SEG). Mae gweithredu RPA ar gyfer SEG wedi cynnwys awtomeiddio'r broses o  wirio cymhwysedd rhieni/gwarcheidwaid, sydd nid yn unig wedi rhyddhau amser sylweddol i staff Addysg ond hefyd yn fanteisiol yn yr ystyr bod rhieni/gwarcheidwaid yn cael gwybod a ydynt yn gymwys o fewn 48 awr o gyflwyno'r cais, yn hytrach nag wythnos neu ragor mewn rhai achosion.   

Rydym wedi cwblhau cynllun peilot llwyddiannus o fewn ein Gwasanaethau Gofal Preswyl er mwyn lleihau'r defnydd o weithlu'r asiantaeth, ac, yn hytrach, defnyddio adnoddau mewnol. Nod y cynllun peilot oedd darparu gwasanaeth mwy cost-effeithiol, gan gynyddu hefyd lefelau boddhad y preswylwyr drwy wella cysondeb, a hynny drwy gael staff CSC cyfarwydd i ddarparu eu gofal. Mae hyn wedi rhoi bod i ostyngiad o 79% mewn oriau a fyddai fel arall wedi cael eu cyflawni gan asiantaethau.   

  

Canlyniad: Cefnogi datblygiad y Cyngor fel sefydliad modern, amrywiol, cynhwysol ac ymatebol a bod yn 'Gyflogwr o Ddewis’.  

Prentisiaethau  

Ystyrir bod prentisiaethau'n sylfaenol i ddatblygiad ein gweithlu yn y dyfodol. Fel Cyngor, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ddechreuwyr newydd, yn ogystal â staff presennol sydd am uwchsgilio. Ers 2022, cwblhaodd 21 o bobl ar gontractau prentisiaeth eu hastudiaethau gyda 13 ohonynt yn dal i fod yn gyflogedig.   

Rydym hefyd yn cefnogi lleoliadau mewn partneriaeth â chynllun Cyfle, i roi i ddysgwyr ystod o brofiadau sydd eu hangen ar ddysgwyr i gyflawni eu cymhwyster. Mae hwn wedi bod yn llwybr effeithiol i lawer o'n staff. Yn ogystal, ar hyn o bryd mae 83 aelod o staff sy'n ymgymryd â chymwysterau prentisiaeth i uwchsgilio – yn amrywio o Lefel 2 (sy'n cyfateb i TGAU) hyd at lefel gradd.   

  

Gwella Recriwtio a Chadw   

Mae Strategaeth Recriwtio a Chadw newydd yn cael ei llunio ar hyn o bryd, a fydd yn nodi ein hamcanion ac yn disgrifio sut byddwn yn mynd i'r afael â'n heriau ariannu. Mae hyn yn cyfateb i'n 'Strategaeth Gweithlu' a'n 'Strategaeth Drawsnewid', gan adlewyrchu ein hymrwymiad corfforaethol i gydraddoldeb ac amrywiaeth, tra'n sicrhau bod arferion recriwtio diogel ar waith. Mae hefyd yn cyfateb i ddatganiad gweledigaeth y Cabinet, yn benodol:   

  • Gweithio mewn modd cystadleuol a gweithio tuag at wella lefelau recriwtio yn barhaus ar draws y sefydliad. Ceisio deall y camau sydd eu hangen er mwyn dod yn gyflogwr o ddewis yng Ngorllewin Cymru.  
  • Gweithio i farchnata Cyngor Sir Caerfyrddin fel cyflogwr deniadol i brentisiaid, pobl sy'n gadael yr ysgol a graddedigion. Canolbwyntio ar leihau nifer y bobl ifanc sy'n mudo o Sir Gaerfyrddin ac o ardaloedd gwledig.  
  • Gweithio gyda grwpiau perthnasol i hyrwyddo'r Cyngor fel cyflogwr ar draws pob cymuned gan gynnwys o fewn y gymuned Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. 

Hyd at fis Mawrth 2025, roedd 91 (1.08%) o weithwyr y Cyngor o gymunedau sydd o leiafrifoedd ethnig o gymharu â 78 (0.94%) ar ddiwedd Mawrth 2024.  

  

Datblygu Sgiliau Cymraeg  

Cafodd y Cyngor wobr 'Cyflogwr y Flwyddyn' gan Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gaerfyrddin, o Brifysgol Aberystwyth. Roedd hyn yn cydnabod ei ymroddiad i gefnogi staff i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i feithrin gweithlu dwyieithog a chreu amgylchedd cefnogol lle gall y Gymraeg ffynnu. Gall staff fynychu cyrsiau Cymraeg yn ystod oriau gwaith ac mae cyrsiau'n cael eu hariannu'n gorfforaethol.  

  

Presenoldeb  

Mae cynnydd bach wedi bod yn absenoldeb salwch cyfartalog gweithwyr y Cyngor yn ystod 2024/25, gan gynyddu o 11.1 diwrnod i 11.5 diwrnod. Mae hyn yn uwch o lawer na'r lefelau cyn y pandemig sef tua 10 diwrnod.   

Canlyniad: Gwrando ar ein staff drwy ymgysylltu'n rheolaidd â staff a'u grymuso i wella eu meysydd gwasanaeth eu hunain.  

Cawsom dros 1,600 o ymatebion i'n harolwg staff yn ystod 2024/25, gellir gweld y sgoriau a'r cymariaethau o flwyddyn i flwyddyn isod. Dadansoddwyd y canlyniadau a'r sylwadau, gyda chanfyddiadau'n cael eu trafod ar lefel gorfforaethol ac adrannol, a chamau lleol cytunedig i fynd i'r afael â rhai o'r meysydd sydd angen eu gwella.   


  

Canlyniad: Sicrhau bod y gwaith a wneir mewn partneriaeth yn lleol ac yn rhanbarthol yn effeithlon ac yn effeithiol ac yn ychwanegu gwerth at waith y Cyngor.  

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin  

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin wedi symud ymlaen â chamau allweddol o'r Cynllun Llesiant.  

Un enghraifft yw datblygu Strategaeth Fwyd Sir Gaerfyrddin, sydd wedi cynnwys ymgynghori â thros 450 o randdeiliaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae grwpiau ffocws, gweithdai, arolygon, a chyfweliadau un-i-un gyda phobl, busnesau a sefydliadau wedi cefnogi'r ymchwil academaidd i'r system fwyd leol sydd ei hangen i ddatblygu'r strategaeth. Mae mewnbwn a chyfranogiad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi bod yn hanfodol wrth nodi'r meysydd mwyaf addas ac effeithiol ar gyfer ymyrraeth, gan arwain at ddiffinio a blaenoriaethu amcanion a thargedau strategol.  

Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i adeiladu cysylltiadau cryfach rhwng y ddwy ardal.   

  

PARTNERIAETH   

Sefydlwyd PARTNERIAETH i gefnogi ysgolion mewn partneriaeth â chynghorau Abertawe a Sir Benfro, yn dilyn diddymu'r gwasanaeth Ein Rhanbarth Ar Waith (ERW). Sefydlwyd Cyd-bwyllgor newydd, a datblygwyd Cytundeb Cyfreithiol i reoli gwaith yr endid newydd. Mae staff craidd wedi cael eu hailstrwythuro i greu tîm o swyddogion i gefnogi ac ategu gweithgareddau gwella ysgolion yn y tair sir.  

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Cytundeb Cydweithio newydd wedi cymryd lle'r Cytundeb Cyfreithiol.  O 1 Ebrill 2025, mae yno i gynnal lefel gymesur o lywodraethu er mwyn cynnal cyfrifoldeb ar y cyd a gweithio partneriaeth effeithiol.  

Mae gwaith yn parhau i gryfhau'r gwaith o lywodraethu, monitro a dwyn PARTNERIAETH i gyfrif am ei gyfraniad at wella ysgolion yn y rhanbarth. Blaenoriaethau'r dyfodol yw:   

  • Blaenoriaeth 1: Cefnogi pob ysgol a lleoliad addysgol i ddylunio a darparu eu cwricwlwm eu hunain, sy'n deg ac yn safonol.   
  • Blaenoriaeth 2: Cynnwys egwyddorion a phrosesau sy'n sail i gydraddoldeb addysgol ym mhob ysgol a lleoliad addysgol.  
  • Blaenoriaeth 3: Cefnogi ysgolion a lleoliadau addysgol i ddatblygu ystod o sgiliau ymchwilio ac ymholi fel rhan allweddol o'u dysgu proffesiynol.   
  • Blaenoriaeth 4: Darparu llwybrau gyrfa i arweinwyr, ymarferwyr a staff cymorth ar bob lefel o'r system.  

  

Bargen Ddinesig Bae Abertawe  

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad nas gwelwyd ei debyg o'r blaen o hyd at £1.3 biliwn erbyn 2033 gan greu 9,000 o swyddi ar draws portffolio o naw o brif brosiectau a rhaglenni ledled siroedd Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro. Mae'r portffolio'n cael ei gyflawni'n llawn, gan gyd-fynd â thair thema sef cyflymu'r economi, ynni a gweithgynhyrchu clyfar, a gwyddor bywyd a llesiant. Bydd y Fargen yn cynnig cyfleoedd i lawer o fusnesau rhanbarthol presennol a newydd, yn ogystal â thrigolion ar draws y rhanbarth.  

  

Cyd-bwyllgor Corfforaethol De Orllewin Cymru (CJC)   

Sefydlwyd Cyd-bwyllgor Corfforaethol De Orllewin Cymru (CJC) fel corff corfforaethol rhanbarthol gan Weinidogion Cymru. Mae'r aelodaeth yn cynnwys arweinwyr gweithredol Cynghorau Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe, ynghyd ag aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Cyhoeddodd y Cyd-bwyllgor Corfforaethol ei Gynllun Corfforaethol ar gyfer 2023-2028, sy'n cydnabod ei swyddogaethau a'i gyfrifoldebau yn Ne-orllewin Cymru, a hynny mewn perthynas â llesiant economaidd, ynni, trafnidiaeth, a chynllunio strategol, gan gyfleu'r cynnydd a wnaed hyd yma, ac i nodi uchelgeisiau am y dyfodol. I'r perwyl hwn, mae'r Cynllun Corfforaethol yn cynnwys Gweledigaeth ar gyfer De-orllewin Cymru 2035, yn ogystal â thri amcan llesiant ac amcan cydraddoldeb.  

  

  

Datblygu Economaidd  

Mae gwaith partneriaeth lleol yn parhau yn ein prif drefi, sef Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli. Gwneir hyn trwy'r gwahanol dasgluoedd canol trefi, a fforymau tref, lle mae'r holl randdeiliaid yn dod at ei gilydd i drafod materion, datblygiadau a gweithgareddau canol tref er mwyn cyflawni Cynlluniau Adfer Datblygu Economaidd pob tref.   

Mae partneriaethau rhanbarthol yn mynd rhagddynt drwy'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol, a'i strwythurau cymorth. Yn fwyaf nodedig, Bwrdd Ymgynghorol y Sector Preifat. Ar hyn o bryd mae'r pedwar Awdurdod Lleol yn cynnal adolygiad o'r Cynllun Datblygu Economaidd Rhanbarthol, sy'n nodi'r cyfeiriad strategol rhanbarthol ar gyfer datblygu economaidd a fydd yn sail i weithgarwch economaidd am y pum mlynedd nesaf.  

  

Canlyniad: Mwy o ymgysylltu â'r cyhoedd drwy ymgysylltu, cyfranogi ac ymgynghori.  

 

Strategaeth Gynnwys   

Yn ystod 2024/25, rydym wedi datblygu a chymeradwyo Strategaeth Gynnwys ar gyfer 2025-27, sy'n pwysleisio pa mor bwysig yw ymgysylltu â'n cymuned wrth ddylunio a darparu gwasanaethau. Nod y strategaeth yw sicrhau bod pob preswylydd yn ymwybodol o'r cyfleoedd i gyfrannu at drafodaethau sy'n llunio eu hamgylchedd a'u gwasanaethau lleol. Cefnogir yr ymrwymiad hwn gan amrywiol fframweithiau deddfwriaethol sy'n anelu at hyrwyddo llesiant a chynhwysiant ledled Cymru.  

Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu'n effeithiol, a chaiff hyn ei ategu gan ystod o ddeddfwriaeth gan gynnwys:   

  • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015,  
  • Deddf Cydraddoldeb 2010,  
  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2015,  
  • Mesur y Gymraeg 2011,  
  • Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021,  
  • Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael (Cymru) 2023.  

Fel rhan o'r Strategaeth, byddwn yn dilyn arferion gorau a safonau cenedlaethol. Er enghraifft, Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc a'r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i fabwysiadu arferion gorau newydd, fel gyda llwyfannau ymgysylltu digidol a gweithio gyda'n partneriaid ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Fel rhan o'r Strategaeth, byddwn yn gwerthuso effeithiolrwydd ein strategaeth drwy'r pecyn cymorth Gwerthuso Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd.   

  

Hamdden – Arolwg NPS Leisure   

Roedd gan 2024/25 ei heriau amrywiol o ran profiadau cwsmeriaid mewn canolfannau hamdden, megis dirywiad parhaus teils pwll nofio Canolfan Hamdden Caerfyrddin, y to'n gollwng yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman, a phroblemau parcio a chyflwr cyffredinol Canolfan Hamdden Llanelli. Wrth gwrs, dim ond buddsoddiad hollol hanfodol a wnaed yn Llanelli gan fod y safle ar fin cau, ond mae disgwyl i'r gwaith ail-wynebu ym mhwll nofio Caerfyrddin, a'r gwaith ar y to yn Rhydaman, gael eu gwneud yn y flwyddyn ariannol newydd - buddsoddiad o ryw £400,000. O ystyried bod y safleoedd hyn yn cyfrif am dros 76% o'r ymatebion gafwyd, roedd y sgôr gyffredinol yn is na'n targed sef 44%. Fodd bynnag, mae hyn bwynt canran yn uwch na'r sgôr o 2023/24, yn cyfateb i'r sgôr meincnod fyd-eang, ac mae 4% yn uwch na sgôr meincnod y DU ar 40%.  

Mae sgoriau uchel safleoedd gwledig hefyd yn gadarnhaol, gyda Llanymddyfri yn 87%, Castell Newydd Emlyn yn 80%, a Sanclêr yn 57%. I raddau helaeth iawn, mae staff a chyfleusterau ar frig y tabl ar gyfer adborth cadarnhaol yn y safleoedd hyn.  

Gyda'r gwaith atgyweirio yn yr arfaeth a gyda Chanolfan Pentre Awel yn agor yn 2025/26, byddem yn disgwyl gweld cynnydd yn y canlyniadau y flwyddyn nesaf.  

  

Gweithgarwch Ymgynghori Blynyddol  

Yn unol â'n rhwymedigaeth statudol drwy'r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau, ymgynghorodd y Cyngor â phreswylwyr, busnesau, staff ac undebau llafur ar y graddau yr ydym yn bodloni ein gofynion perfformiad:   

Arolwg Preswylwyr: 2024

Cawsom ychydig o dan 3,600 o ymatebion i'n Harolwg Preswylwyr yn ystod 2024, ac mae hwn yn ostyngiad o 9% ar y gyfradd ymateb ar gyfer y flwyddyn flaenorol (3,943), er bod hyn dal yn dda. Cafodd y canfyddiadau eu dadansoddi a'u crynhoi mewn adroddiad. Mae'r prif ganfyddiadau ar ein gwefan ac wedi'u cynnwys ym mhroses cynllunio busnes 2025/26. Gofynnwyd i feysydd gwasanaeth ystyried y rhain wrth lunio camau gweithredu.

Arolwg Staff (Rheoli Pobl): 2024

Cawsom dros 1,600 o ymatebion i'n harolwg staff yn ystod 2024/25, ac mae hwn yn gynnydd ar y flwyddyn flaenorol ac yn cyfateb i tua 18% o'n gweithlu cyfan. Yn dilyn eu dadansoddi, trafodwyd y canfyddiadau ar lefel gorfforaethol ac ariannol, a chytunwyd ar gamau lleol i roi sylw i rai o'r meysydd roedd angen eu gwella.

Arolwg Busnes: 2024

Cawsom 110 o ymatebion i'n Harolwg Busnes yn ystod 2024, sy'n gyson â'r flwyddyn flaenorol. Rydym wedi crynhoi'r dadansoddi a'r canfyddiadau mewn adroddiad sy'n cynnwys cymariaethau â blynyddoedd blaenorol.

Arolwg Undebau Llafur: 2024

Dim ond 1 ymateb a gafwyd, sy'n siomedig ac yn llai na'r ddwy flynedd flaenorol. Bydd y wybodaeth brin ddaeth i law yn cael ei chrynhoi a'i hadrodd.

 

Ymgynghori ynghylch y Gyllideb   

Wrth baratoi cyllideb heriol iawn arall, estynnwyd gwahoddiad gennym i'r cyhoedd, a phartïon eraill â diddordeb, fynegi eu barn am ystod o faterion, gan gynnwys cynnydd yn y dreth gyngor, trafnidiaeth addysg, cyfleusterau cyhoeddus, a rhai gwasanaethau diwylliannol a hamdden. Cafodd y rhain eu hystyried ochr yn ochr â 90 o gynigion gweithredol manwl, megis costau adeiladu, defnydd effeithlon o gerbydau, effeithlonrwydd digidol, strwythurau staffio a swyddogaethau mewnol a chefn swyddfa.  

Ymatebodd dros 2,900 o bobl i'r ymgynghoriad ar-lein, ac fe ddaeth 61 o bobl ifanc o naw o ysgolion uwchradd i ddigwyddiad wyneb yn wyneb 'Golwg Sir Gâr' yn Neuadd y Sir i drafod ag Aelodau'r Cabinet a mynegi eu blaenoriaethau. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i ddisgyblion gamu i esgidiau Cabinet y Cyngor a thrafod eu barn am gynigion y gyllideb.  Roedd hefyd yn gyfle i Aelodau'r Cabinet glywed barn disgyblion a thrafod gyda nhw'n uniongyrchol y materion sy'n bwysig iddynt.   

Mewn ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus, cafodd newidiadau eu gwneud i gynigion cyllideb y Cyngor. Er enghraifft, peidio â chynyddu taliadau parcio ceir yn uwch na chwyddiant, gan gydnabod sylwadau'r cyhoedd ynghylch cyfraniad pwysig y cyfleusterau hyn o ran cefnogi busnesau canol tref a thwristiaeth, yn ogystal â'r effaith ddyddiol ar fywydau trigolion.  

  

Partneriaeth Gymdeithasol  

Mae gan y Cyngor fframweithiau gwybodaeth, ymgynghori a negodi sydd wedi hen ennill eu plwyf ar waith gyda'i Undebau Llafur cydnabyddedig. Fodd bynnag, mae'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn rhoi cyfle i ddatblygu'r gwaith hwn ymhellach, gyda'r potensial i gael buddiannau cydfuddiannol trwy gydweithredu a chydweithio. Trwy gydol y flwyddyn rydym wedi cynnal ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth â'r Undebau Llafur trwy gadw fframweithiau sefydledig ar gyfer cyfathrebu ac ymgynghori rheolaidd, ond rydym hefyd wedi ymdrechu i ymgysylltu ag ystod o faterion strategol sy'n effeithio ar y gweithlu. Mae manylion llawn am y gweithgareddau hyn i’w gweld yn Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Gymdeithasol yn Atodiad 6.   

  

Canlyniad: Datblygu agwedd fwy masnachol at ddarparu gwasanaethau’r Cyngor gyda’r bwriad o gynyddu lefel yr incwm a gynhyrchir.  

  

Ystadau a Rheoli Asedau  

Rydym yn edrych ar gyfleoedd i ddefnyddio ein hystâd yn y modd gorau posib, sy'n cynnwys rhesymoli asedau sy'n cael eu tanddefnyddio neu sy'n perfformio'n wael, ac ailfuddsoddi mewn safleoedd craidd. Er mwyn cefnogi egwyddor Canol y Dref yn Gyntaf Llywodraeth Cymru, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i flaenoriaethu lleoliad ac adleoli cyfleusterau gwasanaeth cyhoeddus a swyddfeydd yng nghanol trefi. Mae'r ymagwedd strategol hon yn cydnabod rôl allweddol canol trefi mewn llesiant amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ein cymunedau. Trwy ymgorffori swyddogaethau dinesig a masnachol yn ganolog, rydym yn anelu at wrthdroi'r duedd o ddatganoli sydd wedi cyfrannu yn hanesyddol at leihau nifer yr ymwelwyr a lleihau gwariant lleol. Mae ein cynigion adfywio yn ystyried defnyddio canol trefi ar gyfer datblygiadau newydd, gan gynnwys hamdden, tai, a chanolfannau gweithio ar y cyd, er mwyn creu cyrchfannau bywiog, amlswyddogaethol. Mae hyn nid yn unig yn cefnogi hyfywedd y sectorau manwerthu a lletygarwch ond hefyd yn annog teithio cynaliadwy, yn lleihau allyriadau carbon, ac yn meithrin cymdogaethau cynhwysol, cerddadwy. Trwy fuddsoddiad wedi'i dargedu a phartneriaethau cydweithredol, rydym yn gweithio i adfywio canol ein trefi fel lleoedd ffyniannus i fyw, gweithio ac ymgysylltu ynddynt.  

Yn ddiweddar, rydym wedi cwblhau adolygiadau rhent o'n portffolio diwydiannol a gynhyrchodd refeniw ychwanegol o £193,728 y flwyddyn, gan gynyddu ein hincwm ar y portffolio o £1,974,001 i £2,167,729.  

  

Canlyniad: Parhau i wneud gwell defnydd o dechnoleg ddigidol i drawsnewid ein gwasanaethau ymhellach yn brosesau gwasanaeth mwy clyfar ac effeithlon a chynnig gwell profiad i gwsmeriaid.  

Ym mis Gorffennaf 2024, cymeradwyodd y Cyngor ei Strategaeth Ddigidol newydd ar gyfer 2024–2027, gan bennu gweledigaeth feiddgar ar gyfer Sir Gaerfyrddin sydd wedi'i galluogi'n ddigidol. Mae'r Strategaeth hon wedi bod yn sail i'n hymdrechion i wella galluoedd digidol, gwella gwasanaeth cwsmeriaid ac ymgysylltu, a thrawsnewid y ffordd mae gwasanaethau'n cael eu darparu. Mae'n cyd-fynd â blaenoriaethau corfforaethol, rhanbarthol a chenedlaethol, ac agendâu digidol ac yn gosod pobl wrth wraidd dylunio gwasanaethau cyhoeddus - "dyluniwyd ar gyfer pobl, galluogwyd gan dechnoleg.”  

  

Sylfeini a Gweledigaeth Strategol  

Mae'r Strategaeth yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn ystod y pedair blynedd diwethaf, yn enwedig mewn ymateb i bandemig COVID-19. Mae'n amlinellu pum maes blaenoriaeth allweddol:   

  • Gwasanaethau Digidol  
  • Pobl a Sgiliau  
  • Data a Gwneud Penderfyniadau  
  • Technoleg ac Arloesi  
  • Cymunedau Digidol a'r Economi  

Mae pob maes yn cael ei gefnogi gan fuddsoddiadau wedi'u targedu, partneriaethau strategol, ac ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog, sy'n adlewyrchu pwysigrwydd diwylliannol y Gymraeg yn ein dyfodol digidol.  

 

Cyflawniadau a Chynnydd Allweddol yn 2024/25  

Technolegau Cwmwl a Systemau Mudo   

Fe wnaethom ganolbwyntio ar fudo systemau busnes hanfodol i lwyfannau modern, a reolir gan y cwmwl, er mwyn gwella darparu gwasanaethau, effeithlonrwydd, gwytnwch a pharhad busnes. Roedd y prosiectau allweddol yn cynnwys:   

  • System Rheoli Ariannol Agresso  
  • System Refeniw a Budd-daliadau iWorld  
  • System Gofal Cymdeithasol Gofal yn Gyntaf OLM   
  • System Gwasanaethau Tai Civica CX   

Mae'r mudo hwn yn hanfodol i wella'r gwasanaethau a ddarperir i breswylwyr wyneb yn wyneb, effeithlonrwydd gweithredol, dadgomisiynu ein hamgylchedd ar y safle, a symleiddio ein hôl troed canolfan ddata.  

 

Cyfnewid Systemau a Gwelliannau i'r Gwasanaeth  

Fe wnaethom gyfnewid hen systemau am atebion cwmwl modern, gan alluogi darparu gwasanaethau 24/7 i breswylwyr:  

  • System a Phorth Pridiannau Tir Arcus  
  • System Rheoli Gwastraff ALLOY  
  • System Atgyweirio Tai Total Connect  
  • System Rheoli Dysgu Thinqi  
  • System a Phorth Recriwtio Oleeo   

Mae'r systemau hyn wedi gwella profiad cwsmeriaid, effeithlonrwydd gweithredol, ac integreiddio ar draws adrannau.   

 

Arloesi, Deallusrwydd Artiffisial ac Awtomeiddio   

Fe wnaethom groesawu technolegau datblygol i foderneiddio gwasanaethau:   

  • Microsoft 365 Copilot (cynorthwyydd personol AI) - wedi'i dreialu gyda 240 o staff; bwriedir ei gyflwyno'n ehangach.   
  • Magic Notes AI – Wedi'i dreialu ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol, gan arbed hyd at saith awr yr wythnos y person o ran cymryd nodiadau.   
  • Gweithrediadau Awtomeiddio Prosesau Robotig – Tasgau AD awtomataidd, Prydau Ysgol am ddim, a Grantiau Mynediad Grant Datblygu Disgyblion – dros 3,000 o geisiadau wedi'u prosesu gyda phenderfyniadau ar yr un diwrnod.   

Fe wnaethom hefyd ddechrau llunio Strategaeth AI a Data gynhwysfawr a blaengar sy'n cyd-fynd â'n huchelgeisiau digidol a chorfforaethol. Bydd hyn yn darparu fframwaith strwythuredig, moesegol a blaengar er mwyn defnyddio technolegau newydd mewn ffyrdd sydd o fudd uniongyrchol i breswylwyr, staff, a'r gymuned ehangach.  

  

Seiberddiogelwch: Blaenoriaeth Strategol  

Roedd seiberwydnwch yn brif ffocws eleni. Fe wnaethom gryfhau ein hamddiffynfeydd ac ymgorffori ymhellach ddiwylliant o fod yn wyliadwrus:   

  • Fe wnaethom gael ein sefydliad i ymuno â'n Canolfan Gweithrediadau Diogelwch Cymru gyfan, gan ddarparu gwybodaeth am fygythiadau seiber ac ymateb i ddigwyddiadau 24/7. Gan gydweithio â Llywodraeth Cymru, mae'n cefnogi 21 o gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn cyd-fynd â strategaeth "Defend as One" Llywodraeth y DU a Chynllun Gweithredu Seiber Llywodraeth Cymru.  
  • Efelychiadau Gwe-rwydo - Wedi'u cynnal ar draws ein gweithlu; hyfforddiant ar sail canlyniadau a chynyddu ymwybyddiaeth.   
  • Cynllun Gweithredu Seiber - Yn cynnwys adolygiadau caniatâd, diweddariadau polisi, a llyfrau chwarae seiber.   
  • Ymarferion Ymateb i Ddigwyddiadau – Wedi cymryd rhan mewn efelychiadau cenedlaethol (Tŷ Coch, Celyn Coch).   
  • Adolygiad Seiber Archwilio Cymru – Wedi'i gwblhau; argymhellion yn yr arfaeth.   
  • Hyfforddiant Seiber ThinQi - Wedi'i lansio a'i wneud yn orfodol ar gyfer yr holl staff swyddfa.  

Mae'r ymdrechion hyn wedi gwella'n sylweddol ein parodrwydd a'n gwytnwch yn erbyn bygythiadau newydd. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni barhau i fuddsoddi yn y maes hwn i wrthsefyll y bygythiad seiber cynyddol.   

  

Pobl a Sgiliau Digidol  

Fe wnaethom fuddsoddi mewn datblygu'r gweithlu i adeiladu sefydliad sy'n hyderus yn ddigidol:  

  • Archwiliad Sgiliau Digidol - 1,092 o ymatebion; hyfforddiant gwybodus wedi'i dargedu.   
  • ThinQi LMS - Wedi'i lansio gyda modiwlau mewn Seiberddiogelwch, Diogelu Data, ac AI.   
  • Mentoriaid Digidol – Rhwydwaith wedi'i sefydlu i gefnogi staff.  
  • Cynllunio'r Gweithlu – Datblygu cynlluniau olyniaeth.   

Hefyd cynhaliwyd seminarau gennym, fe wnaethom ymgysylltu â cholegau, a recriwtio prentisiaid a graddedigion i ddiogelu ein gweithlu yn y dyfodol.  

 

Data a Gwneud Penderfyniadau  

Fe wnaethom wreiddio diwylliant lle mae pwyslais mawr ar ddata i gefnogi penderfyniadau ar sail tystiolaeth:  

  • Mabwysiadu Power BI – dros 80 o ddefnyddwyr hyfforddedig yn darparu mewnwelediadau gweithredadwy.   
  • Prosiect Diogelu LINC – Menter rhannu data arloesol gyda'r heddlu a'r gwasanaethau iechyd.  
  • Asesiadau Aeddfedrwydd Digidol – Wedi'u cynnal ar draws adrannau i lywio trawsnewid.  
  • Rheoli SharePoint - 38TB o ddata wedi'i reoli, polisïau cadw a mentrau cadwraeth ddigidol ar waith.   

 

Technoleg a Seilwaith   

Fe wnaethom barhau i foderneiddio ein seilwaith trwy fudo cwmwl, Rhaglen Cyfnewid Dyfeisiau, Adolygiad Technoleg Llais, a chefnogi anghenion digidol symud a chau swyddfeydd.   

 

Cymunedau Digidol a'r Economi  

Fe wnaethom gefnogi cysylltedd a chynhwysiant ledled y sir:   

  • Uwchraddio Ffeibr Parc Gwledig Pen-bre – buddsoddiad o £201,000 drwy'r Fargen Ddinesig.  
  • Rhwydwaith Rhyngrwyd Pethau Trefi Clyfar – dros 60 o byrth wedi'u defnyddio, cynlluniau peilot mewn monitro diogelwch a gwastraff.   
  • Prosiect Ffeibr Tywyll – buddsoddiad o £3.5 miliwn i gysylltu 33 o safleoedd sector cyhoeddus erbyn 2026.  
  • Buddsoddiad Seilwaith Rhanbarthol – £26.7M dros y tair blynedd diwethaf mewn prosiectau cysylltedd.  

Fe wnaethom hefyd gefnogi datblygiadau strategol fel Pentre Awel, HWB Caerfyrddin, a Chanol Tref Llanelli, gan sicrhau parodrwydd digidol.  

 

Cwynion  

Mae nifer y cwynion ddaeth i law yn ystod 2024/25 wedi gostwng rhyw fymryn i ychydig dan 1,700 o gymharu â bron 2,000 y flwyddyn flaenorol. Ymdriniwyd ag ychydig dros 61% o'r cwynion hyn ar amser. Gan fod natur y cwynion yn mynd yn fwy cymhleth a gan fod y cyfathrebu gan achwynwyr yn fwy manwl, mae cwrdd â'r amserlenni ymateb statudol yn fwyfwy heriol.  

  

Canlyniad: Croesawu a hyrwyddo arferion gweithio ystwyth, cyfarfodydd hybrid a ffyrdd newydd o weithio ar draws y sefydliad, drwy fod yn fwy cynaliadwy a chreadigol i wella gwasanaethau'r Cyngor.  

 

Trawsnewid   

Rydym wedi trosglwyddo'n llwyddiannus i ffyrdd newydd o weithio gyda chefnogaeth rhesymoli ein hasedau, sy'n caniatáu i staff weithio'n glyfrach, gan sicrhau parhad a chynhyrchiant. Amlygwyd yr ymagwedd hon drwy ryddhau safle Parc Dewi Sant i'w werthu a symud staff i adeiladau eraill y Cyngor. Mae'r defnydd o feddalwedd rheoli gweithfannau wedi galluogi penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ynghylch rhesymoli portffolio eiddo, gan sicrhau y defnydd gorau posibl o adnoddau.  

Mae ein symudiad tuag at awtomeiddio prosesau, fel technoleg post hybrid a roboteg, wedi gwella effeithlonrwydd gweithredol yn sylweddol. Er enghraifft, mae gweithredu post hybrid wedi arwain at dros £61,884 o arbedion cost yn ystod y flwyddyn, tra bod awtomeiddio prosesau robotig (RPA) wrth adennill dyledion wedi rhyddhau staff i ganolbwyntio ar dasgau gwerth uchel, gan arwain at gasglu £2,523,468 mewn dyled ychwanegol.  

Rydym hefyd wedi canolbwyntio ar hyfforddi a rhoi i reolwyr y sgiliau angenrheidiol i ddarparu gwasanaethau mewn modd masnachol a modern. Mae'r sesiynau hyfforddi a gynhaliwyd ar gyfer dros 50 o reolwyr ym mis Mawrth 2025 yn rhan o'r cynllun hwn, gan feithrin meddylfryd busnes ar draws y sefydliad.  

  

Digidol   

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cymryd camau pendant a mesuradwy i gofleidio a hyrwyddo gweithio ystwyth, cyfarfodydd hybrid a ffyrdd newydd o weithio ar draws y sefydliad. Mae'r ymdrechion hyn wedi'u hategu gan ymrwymiad clir i gynaliadwyedd, creadigrwydd a gwella gwasanaethau, fel y nodir yn ein Strategaethau Digidol, Gweithlu a Thrawsnewid.   

Rydym wedi gweithredu ystod o offer a seilwaith digidol i gefnogi hyn. Er enghraifft, cyflwynodd y Cyngor feddalwedd rheoli gweithfannau i alluogi archebu desgiau hyblyg a phenderfyniadau seiliedig ar dystiolaeth ar resymoli eiddo. Roedd hyn yn cefnogi rhyddhau safle Parc Dewi Sant a symud staff i adeiladau eraill y Cyngor, gan ddangos bod egwyddorion gwaith hybrid yn cael eu rhoi ar waith yn ymarferol. Cyfarfodydd hybrid yw'r norm bellach, wedi'u cefnogi gan Microsoft Teams a strwythurau SharePoint gwell.   

Un o'r cynlluniau mwyaf trawsnewidiol oedd cynllun peilot Microsoft CoPilot, cynorthwyydd AI a gyflwynwyd i 240 o ddefnyddwyr. Dangosodd Achos Busnes Copilot sut oedd CoPilot yn helpu staff i wneud tasgau arferol, gan ryddhau amser ar gyfer cyfrifoldebau mwy cymhleth. Rydym wedi nodi nifer o achosion byd go iawn lle mae cynnydd wedi bod mewn cynhyrchiant heb golli swyddi. Arweiniodd llwyddiant y peilot at gynnig bod yr offeryn hwn yn cael ei ymestyn i bob rhan o'r sefydliad.   

Un o alluogwyr allweddol y trawsnewidiad hwn yw ein hymrwymiad i gynnal ystâd ddyfeisiau defnyddwyr gadarn a modern. Ac eithrio ysgolion, rydym yn cefnogi ac yn rheoli'n llawn oddeutu 3,500 o liniaduron, 450 o lechi, 2,500 o ffonau clyfar, a 300 o fyrddau gwaith ar gyfer ein hadrannau a'n gwasanaethau corfforaethol – pob un ohonynt wedi'u ffurfweddu i alluogi gweithio symudol, ystwyth a hyblyg. Mae'r ystâd hon yn sicrhau bod staff yn gallu cael mynediad diogel at systemau a chydweithio'n effeithiol o unrhyw leoliad, boed yn y swyddfa, gartref, neu yn y gymuned. Mae rhagoriaeth gliniaduron a ffonau clyfar yn adlewyrchu ein newid strategol tuag at symudedd a darparu gwasanaethau digidol-gyntaf, tra bo byrddau gwaith yn parhau i gael eu defnyddio lle mae gweithfannau sefydlog yn dal i fod yn briodol.  

  

  

Canlyniad: Sicrhau newid sefydliadol sy'n cefnogi targedau allweddol Carbon Sero Net  

Dylunio Eiddo  

  • Mae datblygiadau Tai newydd wedi'u cynllunio i leihau'r carbon a ddefnyddir wrth weithredu ac wrth adeiladu. Mae'r holl eiddo wedi'u dylunio i gwrdd â gradd SAP 1 o 92+ man lleiaf. Dyluniwyd ac adeiladwyd Wauniago yn unol ag egwyddorion Passivhaus, a chafodd ei drosglwyddo ym mis Tachwedd 2024.   
  • Cwblhawyd Ysgol Pen-bre ym mis Hydref 2024. Mae'r ysgol yn ysgol Passivhaus, sy'n golygu ei bod yn hynod effeithlon o ran ynni oherwydd lefelau uchel o inswleiddio ac aerdyndra.   
  • Wedi helpu i ddarparu'r prosiect datgarboneiddio i gyfnewid boeleri tanwydd ffosil am bympiau gwres o'r aer a thrydan solar ffotofoltäig mewn chwe ysgol gynradd bresennol.  
  • Parhau i fonitro a dadansoddi perfformiad ynni mewn ysgolion cynradd i werthuso effeithiolrwydd mabwysiadu egwyddorion 'ffabrig yn gyntaf' a mesurau datgarboneiddio i lywio dyluniadau a manylebau prosiectau'r dyfodol.   

  

Canlyniad: Sicrhau bod y Cyngor yn defnyddio ei adnoddau mewn modd darbodus, effeithlon ac effeithiol.  

Mae'r Cyngor wedi cymeradwyo cynnydd o 8.9% yn y Dreth Gyngor a gostyngiadau mewn gwariant o fwy nag £8m yn ystod cyfarfod i osod ei Strategaeth Gyllideb.   

Cafodd cynnig gwreiddiol gan y Cabinet o 9.75% ei ostwng i 8.9% yn dilyn mân addasiadau yng nghyllid y Cyngor oherwydd cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru, ardoll ychydig yn is i’r Frigâd Dân, a dyraniad o £500,000m o'r gyllideb wrth gefn.  

  

 Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau:  

‘Y gyllideb hon yw'r un fwyaf heriol ers blynyddoedd lawer. Mae'r Cyngor hwn dros £150m ar ei golled mewn termau real nag yr oeddem ddegawd yn ôl. Mae hynny'n golygu bod £150m yn llai i'w wario ar wasanaethau hanfodol fel gofal cymdeithasol, addysg, priffyrdd ac yn y blaen.’  

Dim ond 16% o incwm y Cyngor sy'n dod o'r Dreth Gyngor. Daw'r rhan fwyaf o'n cyllid o Lywodraeth Cymru, sydd yn ei dro yn dibynnu ar grant bloc gan Lywodraeth y DU. Fel pob Cyngor arall, rydym yn wynebu cyfnod heriol iawn wrth i'r pwysau enfawr ar wariant cyhoeddus a gwasanaethau barhau.    

O ganlyniad i gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2025, a mynd â hanner miliwn o'r gyllideb wrth gefn, cynigiodd y Cabinet godiad o 8.9% yn y Dreth Gyngor. Mae hyn yn llawer mwy nag y byddem wedi'i hoffi yn y dyddiau anodd hyn, ond fel Awdurdod Lleol, mae'n rhaid i ni osod cyllideb gyfreithiol sy'n cadw cydbwysedd rhwng codi'r Dreth Gyngor a diogelu'r gwasanaethau hanfodol y mae ein trigolion yn dibynnu arnynt.  

Wedi'i osod yn erbyn cyllid annigonol a'r gost ychwanegol o ran Yswiriant Gwladol, yw'r galw cynyddol am wasanaethau. Er gwaethaf y pwysau presennol, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhoi £11m yn ychwanegol i ofal cymdeithasol oedolion a phlant, lle mae'r pwysau'n aruthrol. Rydym yn benderfynol o ddarparu ar gyfer lles cenedlaethau'r dyfodol yn Sir Gaerfyrddin trwy hefyd ddiogelu cyllid ar gyfer ysgolion.   

Ar nodyn cadarnhaol, mae gostyngiad mewn costau tanwydd, yn dilyn cynnydd enfawr ddwy flynedd yn ôl oherwydd y rhyfel yn yr Wcrain, wedi arbed £2.1m ychwanegol i'r Cyngor ar ben y £1m a ragwelwyd. Mae hyn wedi ein galluogi i ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus drwy waredu’r ddau gynnig mwyaf amhoblogaidd, sef cau toiledau cyhoeddus os na throsglwyddir yr asedau, a chynnydd o 10% mewn taliadau parcio.   

  

Gwasanaethau Ariannol  

  • Casglwyd 96.41% o'r Dreth Gyngor yn ystod 2024/25, sydd ychydig yn llai na'r flwyddyn gynt (97.01%). Fodd bynnag, gyda ni mae'r ganran bumed uchaf yng Nghymru ac mae'n uwch na chyfradd Cymru gyfan o 95.97%. Rydym yn cymryd ymagwedd ragweithiol tuag at adennill ac wedi darparu cefnogaeth a chyngor perthnasol i'r rheiny sy'n mynd i ôl-ddyledion er mwyn sicrhau'r ffordd orau bosibl ymlaen o ran trefniadau ad-dalu.  
  • Casglwyd 97.95% o'r ardrethi annomestig oedd yn ddyledus ar gyfer 2024/25 gan y Cyngor, sef y gyfradd chweched uchaf yng Nghymru. Mae'n llai na chyfradd gasglu ragorol y flwyddyn flaenorol o 99.24%, sef y gyfradd gasglu uchaf yng Nghymru.  
  • Talwyd 95.6% o'r anfonebau o fewn 30 diwrnod yn ystod 2024/25, sef gwelliant ar y flwyddyn flaenorol (94.9%).  Mae hyn er gwaethaf cynnydd o 7% yn nifer yr anfonebau ddaeth i law, o 311,466 i 333,272.  
  • Mae mwy o fynediad at wasanaethau ar-lein wedi creu newid tuag at daliadau ar-lein gyda llawer o gwsmeriaid yn cysylltu â ni, yn cyflwyno ffurflenni a dogfennau, ac yn talu am ein gwasanaethau'n electronig. Mae wedi codi o 63,427 o drafodion yn 2023/24 i 144,570 o drafodion yn ystod 2024/25 gyda gwerth o £17,098,947. Mae taliadau'r Dreth Gyngor, taliadau rhent tai, talu anfonebau ac incwm amrywiol ymhlith y gwasanaethau a ddefnyddir fwyaf.   

  

Canlyniad: Ymgorffori'r egwyddor datblygu cynaliadwy ym mhopeth a wna'r Cyngor.  

Mae egwyddorion a gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ategu popeth a wnawn fel sefydliad, ac mae hyn yn sicrhau bod yr egwyddor datblygu cynaliadwy wrth wraidd datblygu a gweithredu strategaethau. Mae'r egwyddor yn sail i'n hymagwedd at hunanasesu blynyddol, ac mae gofynion y Ddeddf yn atgyfnerthu'r ymagwedd at ddatblygiad a gweithrediad dilynol y Rhaglen Drawsnewid.   

  

Trawsnewid   

Rydym wedi ceisio moderneiddio fflyd cerbydau'r Cyngor, sydd wedi arwain at arbedion cost sylweddol, ac wedi dangos ymrwymiad i wneud y mwyaf o bob adnodd. Yn yr un modd, mae'r defnydd o offer rheoli gweithfannau wedi darparu data hollbwysig sy'n cefnogi penderfyniadau gwybodus ynghylch rhesymoli portffolio eiddo, gan sicrhau y defnydd mwyaf effeithiol posibl o adnoddau.  

Enghraifft allweddol o ddatblygu cynaliadwy ar waith yw ein rhaglen ddatgarboneiddio, sydd wedi cyflawni gostyngiad o 37% mewn allyriadau carbon o gymharu â'r flwyddyn sylfaen. Mae'r garreg filltir hon yn adlewyrchu perfformiad cadarn yn unol â thargedau hinsawdd ehangach ac yn tanlinellu ymroddiad y Cyngor i weithredu ar newid hinsawdd. Yn ogystal, mae mentrau fel datblygu modiwlau hyfforddi e-ddysgu ar weithredu ar newid hinsawdd ar gyfer staff a phartneriaethau gyda sefydliadau lleol yn tynnu sylw at ein hymagwedd ragweithiol at addysg ac ymwybyddiaeth amgylcheddol.  

Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i feithrin diwylliant o welliant parhaus. Mae cyflwyno system gymorth dogfennaeth ariannol wedi galluogi ysgolion i nodi a gweithredu mesurau arbed costau, a thrwy hynny gyfrannu at gyllidebau ysgol mwy cynaliadwy. Trwy'r fenter hon, mae ysgolion gyda'i gilydd wedi gwneud arbedion sylweddol, gan ddangos newid tuag at reolaeth ariannol fwy darbodus.  

  

Oes unrhyw un ar ei ennill?   

 

Llwyddiannau Prosiect Peilot Tîm Adnoddau'r Gweithlu   

Mae prosiect peilot Tîm Adnoddau'r Gweithlu yn y gwasanaeth gofal preswyl wedi bod yn llwyddiannus iawn ac mae bellach yn bwriadu ehangu.  

 

Nodau’r Prosiect   

  • Lleihau'r ddibyniaeth ar weithwyr asiantaeth.  
  • Lleihau'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â gweithwyr asiantaeth.  
  • Cynyddu cyfleoedd i staff presennol weithio oriau ychwanegol y tu allan i'w lle gwaith presennol.  

Canlyniadau'r Prosiect  

  • Mae preswylwyr cartrefi gofal yn dweud eu bod yn fwy bodlon ar eu gofal oherwydd bod staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn eu cefnogi sy'n rhoi mwy o hyder a chysondeb iddyn nhw.  
  • Mae rheolwyr cartrefi gofal yn dweud bod ansawdd y gwaith wedi gwella.  
  • Mae staff yn dweud bod gwell cydlyniant tîm a bod ymdeimlad o gael eu gwerthfawrogi.  
  • Cafodd dros 2,000 o oriau eu darparu'n fewnol ym mis Rhagfyr 2024, sef cynnydd o 312% o gymharu â'r oriau a gafodd eu darparu ym mis Mai 2024.  
  • Ym mis Rhagfyr 2024 cafodd dros £6,000 o gostau eu hosgoi ar draws y pedwar cartref gofal drwy ddefnyddio staff Tîm Adnoddau'r Gweithlu yn hytrach na staff asiantaeth.  

Adborth gan Reolwyr Cartrefi Gofal: Mae Tîm Adnoddau'r Gweithlu wedi bod yn ased amhrisiadwy i'n gwasanaeth.  Rydyn ni wedi llwyddo i symud i ffwrdd o ddefnyddio staff asiantaeth ac rydyn ni bellach yn elwa ar dîm cyson o staff sydd wedi'u hyfforddi'n dda sy'n gyfarwydd â'r unigolion rydyn ni'n eu cefnogi.  

Adborth gan Alison, Aelod o'r Tîm: Ers ymuno â Thîm Adnoddau'r Gweithlu fis Mai diwethaf rwy'n teimlo fy mod i'n fwy hyderus i ddarparu gofal o'r ansawdd gorau. Mae rheolwyr y tîm yn fy helpu ac yn fy nghefnogi gydag unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gen i. Ers i fi weithio gyda'r tîm rwyf wedi dangos fy mhrofiad o weithio mewn gofal o'r blaen ac rwyf hefyd wedi dysgu gwybodaeth a sgiliau newydd i ddarparu'r gofal gorau posibl i'r holl breswylwyr rwy'n eu helpu.  

  

Llwyddiant Gradd-brentisiaethau TG  

Llongyfarchiadau i dri aelod o staff TGCh, sef y garfan gyntaf i ymgymryd â'u Gradd-brentisiaethau ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.  

Dros y pedair blynedd diwethaf, gwnaeth John Williams, Julian Milligan ac Emma Williams radd-brentisiaeth, a bu i hyn eu galluogi i ennill gradd is-raddedig wedi'i hariannu'n llawn wrth weithio.  

Cafodd John Williams (Rheolwr Gweithrediadau a Llywodraethu TGCh) BSc gydag Anrhydedd mewn Cyfrifiadureg (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch). Mae John wedi gwneud prentisiaeth ochr yn ochr â chyflawni ei gyfrifoldebau yn ei rôl uwch yn yr Adran TG. Dros y blynyddoedd, mae ei rôl wedi datblygu oherwydd y galw cynyddol ar y gwasanaethau. Mae'r rhaglen radd wedi ei alluogi i ddiweddaru ei gymhwyster presennol, mireinio ei sgiliau o ran rheoli prosiectau, llywodraethu gwybodaeth ac ysgrifennu adroddiadau, ynghyd â darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am agweddau technegol ei rôl. Ychwanegodd: "Rwy'n falch iawn o'r hyn rydw i ac Emma a Julian wedi'i gyflawni. Heb os, mae cael cydbwysedd rhwng gwaith amser llawn ac astudiaethau academaidd yn dasg aruthrol, yn enwedig gyda'r heriau ychwanegol a ddaeth yn sgil y cyfyngiadau symud yn 2020. Bydd y sgiliau a'r wybodaeth a gafwyd drwy ein rhaglen radd yn amhrisiadwy yn ein rolau wrth ddarparu gwasanaethau digidol i'r Cyngor yn y dyfodol.”  

Yn ogystal, cafodd y swyddog technegol, Emma Williams, radd BSc gydag Anrhydedd mewn Cyfrifiadureg (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch). Dechreuodd Emma ei gyrfa yn gweithio fel cynorthwyydd gweinyddol cyn dringo gam wrth gam yn yr adran TG o fod yn Swyddog Monitro TG i swydd yn y tîm Cyflawni Gwasanaethau fel Peiriannydd Cymorth Digidol. Yn 2020 llwyddodd i symud i rôl Swyddog Technegol TGCh yn y Tîm Cyflawni Technegol, ac mae'n diolch i'w hastudiaethau am roi'r hwb i'w hyder, ynghyd â'r wybodaeth a'r sgiliau roedd eu hangen arni i ymgeisio am y rôl. Ers mis Medi 2022 mae hi wedi gweithio yn y tîm Seiberddiogelwch, mewn rôl sy'n ei hysbrydoli ac yn ei galluogi i barhau i dyfu a datblygu. Oherwydd llwyddiant Emma, mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn gofyn yn aml iddi fynd i gyfarfodydd dros frecwast gyda chyflogwyr ac i sgyrsiau gyda myfyrwyr i roi cipolwg o'i gwaith mewn maes STEM a gweithio yn y sector TG. Nid yw'n teimlo y byddai wedi bod ganddi'r hyder i wneud hyn cyn astudio'r cwrs. 2 Ychwanegodd Emma: "Mae'r Cyngor yn gyflogwr sy’n annog ac yn cefnogi yn helaeth. Gallwn gymryd yr amser i astudio ac i ddatblygu'n bersonol ac yn broffesiynol, gan gynnig yr hyn rydym yn ei ddysgu a'n profiadau i'r gweithle a'r gwasanaeth.”   

Enillodd Julian Milligan, Uwch-ddatblygwr Cymwysiadau, BSc gydag anrhydedd mewn Cyfrifiadureg (Peirianneg Meddalwedd). Dywedodd Julian ei fod o'r farn, o ddiwrnod cyntaf y darlithoedd, fod gwybod sut i ddrafftio adroddiadau a phapurau ymchwil wedi ei helpu gyda phrosiectau cyfredol y mae'n gweithio arnynt. Mae'n gallu addasu ei sgiliau ac mae hyn wedi caniatáu iddo ddatblygu yn ei rôl newydd. Mae'n credu iddo gael y rôl oherwydd y wybodaeth a'r sgiliau newydd sydd ganddo yn sgil dilyn y cwrs hwn. Ychwanegodd: "Ar ddechrau fy ngyrfa, roedd popeth a ddysgais yn hunan-ddysgedig. Felly, mae gwneud y radd wedi dangos arfer gorau i mi, a'r ffordd orau o raglennu ac adeiladu cronfeydd data SQL. Rwyf bellach yn defnyddio'r dulliau hyn mewn unrhyw brosiectau newydd ac rwy'n teimlo bod ansawdd fy ngwaith wedi datblygu a gwella. “  

Yn dilyn llwyddiant rhyfeddol John, Emma, a Julian mae gennym bellach y garfan nesaf o fewn yr adran TG yn ymgymryd â'r BSc gydag Anrhydedd - Prentisiaeth Gradd Cyfrifiadureg. 


Galluogwyr Busnes Craidd

Yn ogystal â'r blaenoriaethau thematig a'r blaenoriaethau gwasanaeth a nodwyd, ceir amrywiaeth o alluogwyr busnes craidd sy'n sail i swyddogaethau dyddiol y Cyngor a'n gwasanaethau. Nodir sawl un yn yr adran hon; fodd bynnag mae TGCh, Marchnata a'r Cyfryngau, Cyllid, Rheoli Pobl, Polisi a Pherfformiad, Ystadau a Rheoli Asedau a Chymorth Busnes wedi'u plethu o fewn y cynnwys yn Amcanion Llesiant 1-4 uchod.  

  

Cyfreithiol  

  • Rydym wedi sicrhau cyfreithlondeb a chywirdeb wrth wneud penderfyniadau'r Cyngor.  
  • Rydym yn gweithio o fewn fframwaith statudol sy'n llywodraethu pethau megis sut y cynhelir cyfarfodydd, sut y gwneir penderfyniadau a'r ddeddfwriaeth y tu ôl i bob penderfyniad sydd angen ei wneud.  
  • Agorwyd 1,936 o ffeiliau yn 2024/25.  
  • Rydym yn ceisio gwneud cymaint ag y gallwn o'r gwaith cyfreithiol sydd ei angen gan y Cyngor yn fewnol, er y bydd yna adegau pryd y bydd angen i ni anfon gwaith at gyfreithwyr allanol.  
  • Mae'r ystod o waith cyfreithiol a wneir nid yn unig yn cynnwys achosion llys a thribiwnlysoedd, ond hefyd cynghori pwyllgorau'r Cyngor, drafftio dogfennaeth gyfreithiol a rhoi cyngor cyfreithiol.   
  •  Mae'r Tîm Trawsnewid wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaeth. Sefydlwyd grŵp Rheoli Prosiectau er mwyn goruchwylio a llywodraethu'n effeithiol gynllun gwella y Gwasanaethau Cyfreithiol. Mae'r grŵp hwn yn gyfrifol am flaenoriaethu mentrau, monitro eu gweithrediad, nodi rhwystrau, a mesur llwyddiant ar ôl gweithredu.   
  • Mae sawl mesur i wneud arbedion effeithlonrwydd wedi'u clustnodi eisoes, gan gynnwys:   
  • Creu ardal gyfathrebu bwrpasol ar y fewnrwyd i ddarparu gwybodaeth hanfodol am y gwasanaethau cyfreithiol  
  • Cyflwyno e-ffurflen newydd i ddefnyddwyr gwasanaeth ei llenwi wrth geisio cyngor cyfreithiol allanol  
  • Defnyddio 'Magic Notes' i gynorthwyo i gwblhau datganiadau  
  • Bydd gwaith y grŵp yn parhau i sicrhau bod y mentrau hyn wedi'u cynllunio i symleiddio prosesau, gwella hygyrchedd, a chefnogi gwella gwasanaethau'n barhaus i dîm y Gwasanaethau Cyfreithiol.   

  

Cynllunio  

  • Cafodd 91.6% (1,224 / 1,336) o'r ceisiadau cynllunio eu penderfynu ar amser yn ystod 2024/25. Mae hwn yn welliant da iawn ar 87.5% y llynedd ac ychydig yn uwch na chyfartaledd Cymru o 90.5%.  
  • O'r 32 o apeliadau cynllunio a gafwyd yn ystod 2024/25, cafodd 25 eu diystyru (78.1%). Mae hwn yn welliant ar ffigur y flwyddyn flaenorol (70.4%), ac yn uwch na Fframwaith Perfformiad Llywodraeth Cymru ar gyfer 'Da' sef 66%.  
  • Cwblhawyd 19 o'r 22 o geisiadau cynllunio mawr a bennwyd yn y flwyddyn o fewn yr amser gofynnol, i roi canlyniad o 86.4%. Mae hwn yn welliant da ar y llynedd (69.7%).   
  • Mae nifer cyfartalog y diwrnodau a gymerwyd i gymryd camau gorfodi cynllunio cadarnhaol yn ystod 2024/25 yn dal i fod yn uchel sef 360 o ddiwrnodau (306 diwrnod y flwyddyn flaenorol). Mae nifer sylweddol o achosion yn destun erlyniad. Mae'r ffigurau'n cynrychioli'r amser mae'n cymryd i erlyn achos, sydd ag oedi sylweddol, ac nid oes gennym unrhyw reolaeth. Mae adolygiad o'r modd y darperir y swyddogaeth orfodi yn barhaus.   
  • Ymchwiliwyd i 81.6% o'r achosion gorfodi cynllunio o fewn 84 diwrnod. Mae hyn ychydig yn is na'r flwyddyn flaenorol ar 84.3, ond mae'n dal i fod yn uchel o gymharu â blynyddoedd cynt.   
  • Derbyniwyd Sgôr Sicrwydd o 'Rhesymol' yn ystod arolygiadau Archwilio Mewnol i sicrhau bod systemau a gweithdrefnau cadarn ar waith ar gyfer ceisiadau cynllunio - Estyniad Amser a gweinyddu 'Adran 106 - Tai Fforddiadwy’.   

  

Caffael

Gwnaethom wario mwy na £443 miliwn y flwyddyn ar nwyddau, gwaith a gwasanaethau yn 2024/25. Mae hyn yn cael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd ar gyfer y gymuned. Mae'n hanfodol bod gennym ymagwedd strategol at gaffael er mwyn sicrhau bod nwyddau, gwaith, a gwasanaethau yn cael eu caffael mor effeithlon ac effeithiol â phosibl.  

  • Roedd 42% o'n gwariant gyda chyflenwyr yn Sir Gaerfyrddin, sy'n uwch na'r gyfradd ar gyfer Cymru gyfan sef 30%.  
  • Arweiniodd yr Uned Caffael Gorfforaethol y gwaith o gyflwyno 47 o dendrau gyda gwerth bras o £1.2bn.  
  • Daeth Deddf Caffael newydd 2023 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 i rym ym mis Chwefror 2025 (gohiriwyd o'r dyddiad gwreiddiol o Hydref 2024). Mae hyn yn newid mawr i gyfraith caffael cyhoeddus yng Nghymru a gweddill y DU, gan gymryd lle rheolau'r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.  
  • Er mwyn bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y Ddeddf, mae'n ofynnol i ni gyhoeddi cyfres o dendrau arfaethedig sydd dros £2m a fydd yn cael eu cyhoeddi yn y 18 mis nesaf erbyn diwedd mis Mai 2025. Mae'r Uned Caffael Corfforaethol wedi cysylltu ag adrannau i gael yr holl dendrau sydd dros y gwerth hwn ac sydd ar darged o ran cyhoeddi'r hysbysiadau erbyn y dyddiad cau.   
  • Bellach mae Rheoliadau'r Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025 ar waith. Mae hon yn drefn newydd, ar wahân sydd wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer caffael gwasanaethau gofal iechyd gan y GIG a chyrff cyhoeddus cysylltiedig yng Nghymru.   
  • Rydym yn aros i Lywodraeth Cymru weithredu darpariaethau caffael Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 drwy is-ddeddfwriaeth (gorchmynion cychwyn), ond nid oes dyddiad penodol wedi'i gyhoeddi eto. Diweddarwyd y Rheolau Gweithdrefnau Contractau ym mis Mawrth 2025 i gyd-fynd â'r Ddeddf newydd.   
  • Cynhaliwyd amrywiaeth o fentrau a digwyddiadau ymgysylltu â chyflenwyr yn 2024/25 i ddarparu ar gyfer ein rhaglen o ymarferion tendro. Un enghraifft o hyn oedd digwyddiad a gynhaliwyd ym Mehefin 2024 ar gyfer Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru gyda chyfanswm gwerth o £800 miliwn.  Mae Caffael, ochr yn ochr â chydweithwyr mewn Dylunio Eiddo, wedi mabwysiadu amrywiaeth o fentrau ymgysylltu â chyflenwyr i ddenu contractwyr lleol i dendro, i hyrwyddo'r gofynion tendro ac i wella'r tendrau a gyflwynir drwy gynnig cymorth. Yn dilyn gweminar 'Bod yn Barod i Dendro' yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, cynhaliom Sesiwn Friffio ar gyfer y tendr hwn ym Mharc y Scarlets, Llanelli ym mis Ebrill 2024, pryd daeth 186 o gontractwyr.   

  

Archwilio Mewnol  

  • Mae Archwilio Mewnol yn weithgaredd sicrwydd ac ymgynghori annibynnol a gwrthrychol, sydd â'r nod o ychwanegu gwerth a gwella gweithrediadau sefydliad.   
  • Mae Archwilio Mewnol wedi ymrwymo i weithio i'r safonau proffesiynol uchaf, ac i ddarparu gwasanaethau o safon sy'n ychwanegu gwerth i'r Awdurdod. Mae Rhaglen Sicrhau a Gwella Ansawdd (QAIP) ar waith, wedi'i chynllunio i gyflawni perfformiad proffesiynol uchel sy'n gweithredu yn unol â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) a'r Cod Moeseg.   
  • Cwblhawyd 85% o'r adolygiadau yng Nghynllun Archwilio 2024/25 erbyn diwedd mis Mawrth 2025, a oedd ychydig yn is na 89% y flwyddyn flaenorol. Roedd yr holl aseiniadau archwilio ar y cynllun wedi cychwyn ac ar waith erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.   
  • Mae Archwilio Mewnol yn adrodd i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r Cyngor, gan ddarparu diweddariadau rheolaidd ar gynnydd. Darperir pob Adroddiad Archwilio Mewnol i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor.   

  

Gwasanaethau Democrataidd  

  • Mae'r Gwasanaethau Democrataidd yn rheoli proses gwneud penderfyniadau'r Cyngor. Mae Cyfansoddiad y Cyngor yn cyflwyno sut mae’r Cyngor yn gweithredu, sut y gwneir penderfyniadau, a’r gweithdrefnau a ddilynir i sicrhau bod y rhain yn effeithlon, yn dryloyw ac yn atebol i bobl leol. Mae rhai o’r prosesau hyn yn gyfreithiol ofynnol, tra bo eraill yn fater o ddewis i’r Cyngor.  
  • Mae nifer yr Ymholiadau Cynghorwyr wedi cynyddu ychydig i 2,780 ar gyfer 2024/25, gan ymateb i 72.05% ohonynt o fewn 7 diwrnod gwaith. Cafodd 1,208 o geisiadau am wasanaeth eu prosesu gan yr uned drwy'r porth i Aelodau yn hytrach na Chynghorwyr yn uniongyrchol. Mae'r porth yn darparu llwyfan i aelodau gofnodi a monitro ceisiadau ac ymholiadau Gwasanaeth Cynghorwyr.   
  • Mae'r gwasanaeth yn parhau i weinyddu trefniadau cydweithio ar gyfer Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru, Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, a Phartneriaeth (daeth Partneriaeth i ben ar 31 Mawrth 2025 a throsglwyddwyd ei swyddogaethau i gytundeb cydweithio ar 1 Ebrill 2025).  Mae'r gwasanaeth hefyd yn gyfrifol am weinyddu Grŵp Llywodraethu Llesiant Delta, Bwrdd Cyfranddalwyr CWM, a'r broses apeliadau o ran Mynediad i Addysg ac Eithriadau.    

  

Y Gwasanaethau Etholiadol a Chofrestru Sifil

  • Mae'r gwasanaethau etholiadol yn seiliedig ar fframwaith cyfreithiol sy'n pennu sut y caiff etholiadau eu cynnal. Mae'n pennu pwy sy'n cael pleidleisio a'r gwahanol ffyrdd y gallant fwrw eu pleidlais i ddweud eu dweud. Mae gan y gwasanaeth Dîm Prosiect Etholiadau cryf sy'n helpu'r prif dîm i ddarparu etholiadau diogel, tryloyw ac agored. 
  • Mae'r gwasanaeth yn gweinyddu pob math o etholiadau (rhai wedi'u hen drefnu neu rai byr rybudd), a thrwy gyflwyno'r ap Modern Democracy mae'n sicrhau cywirdeb o ran cyfrifon y papurau pleidleisio. Yn ystod 2024/2025, cynhaliwyd un is-etholiad sirol, 15 is-etholiad Cyngor Tref a Chymuned (cafodd pump ohonynt eu galw ond nid eu hymladd), a chafwyd pleidlais Ardal Gwella Busnes. 
  • Rydym yn parhau i weithio i baru data ein cofnodion â chofnodion y Dreth Gyngor, Budd-daliadau Tai, y Gyflogres ac Addysg i sicrhau bod y Gofrestr Etholiadol yn gyfredol. Ni fydd un o'r ychydig Awdurdodau yng Nghymru a fydd yn cymryd rhan mewn Peilot Cofrestru Awtomatig gyda pharu data yn digwydd yn haf 2025. 
  • Gan Wasanaeth Cofrestru Sifil y Cyngor y mae'r swyddogaeth statudol o ddarparu gwasanaeth statudol i'r cyhoedd ar gyfer cofrestru genedigaethau, marw-enedigaethau, marwolaethau, a thystysgrifau dilynol; hysbysiadau priodas a phartneriaeth sifil a seremonïau a thystysgrifau dilynol; cynhyrchu dogfennaeth gyfreithiol a chymeradwyo eiddo ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil; ac mae hefyd yn gyfrifol am gynnal seremonïau dinasyddiaeth ar ran Llywodraeth EF.
  • Mae'r gwasanaeth yn cynnig amrywiaeth o seremonïau dathlu anstatudol, gan gynnwys seremonïau cysylltiedig â phrofedigaeth fel angladdau a gwasanaethau dathlu bywyd. Mae'r gwasanaeth 'Dywedwch wrthym unwaith' yn cael ei ddarparu ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae galw cynyddol am ddigwyddiadau dathlu fel cadarnhau addunedau priodas.
  • Rydym hefyd yn gyffrous am ein menter ar y cyd newydd â Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin i gynnig cyfle i rieni sy'n cofrestru eu babi hefyd gofrestru'r plentyn ar gyfer cerdyn Llyfrgell Sir Gaerfyrddin. Gobeithio y bydd hyn yn annog darllenwyr gydol oes.
  • Cynhaliwyd 21 o seremonïau dinasyddiaeth yn ystod 2024/25, pob un wedi'i gwblhau o fewn 60 diwrnod i wahoddiad y Swyddfa Gartref. Roedd y rhain yn cynnwys 90 o oedolion ac wyth o blant, o gymharu â 76 o oedolion a naw o blant yn ystod 2023/24.
  • Cofrestrwyd 2,334 o enedigaethau yn ystod 2024/25, sy'n ostyngiad bach ar 2,461 yn ystod 2023/24. Fodd bynnag, bu cynnydd yn y marwolaethau a gofrestrwyd gyda 2,627 yn ystod 2024/25 o gymharu â 2,447 yn 2023/24.
  • Gostyngodd nifer y priodasau a'r partneriaethau sifil ymhellach yn ystod 2024/25 i 638 o 706 yn 2023/24 ac 800 yn 2022/23.

 

Rheoli Risg  

  • Yn 2024/25, cwblhawyd 94% o'r ymatebion i lythyrau hawlio o fewn chwe diwrnod gwaith i'w cael yn yr Adain Rheoli Risg. Roedd hyn yn cwmpasu rhoi llythyr o gydnabyddiaeth i'r hawlydd neu gynrychiolydd cyfreithiol yr hawlydd a chyfeirio'r hawliad i yswiriwr priodol.   
  • Yn ystod y flwyddyn buddsoddodd y Grŵp Llywio Rheoli Risg dros £260,000 mewn meysydd i leihau'r perygl o hawliadau neu achosion cyfreithiol drud. Roedd ceisiadau llwyddiannus yn cynnwys hyfforddiant i yrwyr, teledu cylch cyfyng ar gyfer cludiant o'r cartref i'r ysgol a'r coleg, darparu hyfforddiant ar gyfer rheoli aflonyddu rhywiol yn y gweithle, a ffensys diogelwch yn rhai o'n hysgolion.  
  • Adroddir y Gofrestr Risg Gorfforaethol i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio bob chwe mis, yn dilyn adolygiad chwarterol ac asesiad beirniadol o’r risgiau gan y Tîm Rheoli Corfforaethol.