Buddsoddi mewn tai o safon, gan roi hwb cynaliadwy i dwf economaidd a chefnogi'r egwyddor y dylai pawb allu byw a gweithio yn y cymunedau y cawsant eu magu ynddynt.
Darparu cartrefi deiliadaeth gymysg, sy'n cynnwys tai ar gyfer rhent cymdeithasol, perchentyaeth cost isel a gwerthiannau ar y farchnad agored, gan greu cymunedau cytbwys, cryf a gwydn.
Cydnabod anghenion ein cymunedau amrywiol, gan sicrhau bod y cartrefi cywir yn cael eu hadeiladu yn y mannau cywir. Bydd y rhain yn cynnwys llety i un person, tai o faint teuluol, byngalos a fflatiau.
Darparu tai fforddiadwy i bobl ifanc a phobl oedran gweithio i'w helpu i aros yn y sir ac elwa ar y swyddi ychwanegol sydd wedi'u creu. Bydd hyn yn helpu i gynnal diwylliant a hunaniaeth, yn enwedig mewn trefi a phentrefi gwledig.
Helpu i adfywio canol trefi trwy ddarparu tai deiliadaeth gymysg yng nghanol ein trefi.
Canolbwyntio ar ddatblygu tai sy'n gynyddol gynaliadwy ac effeithlon gyda stoc yn cael ei diogelu a'i hôl-ffitio yn y dyfodol i fynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd a chostau ynni cynyddol.
Lobïo Llywodraeth Cymru am ateb i reoliadau ffosffad sydd ar hyn o bryd yn rhwystro cartrefi fforddiadwy a thai ar y farchnad agored rhag cael eu hadeiladu.
Ystyried mwy o ddefnydd o'r pwerau ychwanegol a roddir gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng ail gartrefi.
Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu system o renti teg gyda'r bwriad o wneud y farchnad rhentu preifat yn fforddiadwy i bobl leol ar incwm lleol a dulliau newydd o wneud cartrefi'n fforddiadwy.
Parhau i weithio gyda phartneriaid allweddol i roi terfyn ar ddigartrefedd.
Lleihau nifer y tai cyngor gwag ac eiddo gwag ar draws y sir gan greu mwy o gartrefi i bobl leol.