Gwneud ein cymunedau a'n hamgylchedd yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus
Parhau â chynlluniau adfywio i ddiogelu a chefnogi dros 1,400 o fusnesau. Yn y tymor byrrach byddwn yn darparu cymorth cyflogaeth i ryw 3,000 o bobl, gan helpu 850 arall i gael gwaith llawn amser. Bydd buddsoddiad a datblygiadau mawr yn helpu'r economi leol i adfer ar ôl Covid.
Yn Llanelli byddwn yn darparu nifer o safleoedd adwerthu yng nghanol y dref, sydd eisoes wedi cael caniatâd cynllunio. Byddwn yn manteisio i'r eithaf ar y manteision cymunedol sy'n deillio o'r cynllun Pentre Awel gwerth miliynau o bunnoedd yn Llanelli, y datblygiad cyntaf o'r maint a'r cwmpas hwn yng Nghymru, a fydd yn creu 1,800 o swyddi sy'n talu'n dda.
Byddwn yn cynorthwyo ac yn annog pobl i fyw bywydau egnïol ac iach, yn sicrhau cyfleoedd cadwyn gyflenwi i fusnesau lleol, ac yn recriwtio'n lleol.
Yng Nghaerfyrddin, ar ôl i'r Cyngor Sir brynu'r hen adeilad Debenhams, bydd gwaith yn dechrau'n fuan ar drawsnewid yr adeilad yn hwb cymunedol sy'n cynnwys gweithgareddau iechyd, hamdden, addysg a diwylliannol ynghyd â gwasanaethau gwybodaeth a chyngor ynghylch y sector cyhoeddus, busnesau a thwristiaeth. Bydd busnesau bach ac annibynnol yn cael eu hannog i ddatblygu, tyfu ac ehangu yng nghanol y dref, gan gefnogi cyfleusterau lletygarwch a gwella'r economi gyda'r nos.
Bydd y Prif Gynllun ar gyfer Rhydaman yn cael ei weithredu i ddod â bywyd newydd yn ôl i dref sydd wedi dioddef dirywiad graddol a gofidus ers i'r pyllau glo lleol gau. Bydd rhannau digyswllt canol y dref yn cael eu huno drwy ddyluniad priffyrdd o ansawdd gwell, cysylltiadau i gerddwyr ac ailgynllunio mannau agored allweddol. Bydd y farchnad wythnosol yn cael ei thyfu i gynnwys mwy o stondinau. Cynnal astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer canolfan hamdden yng nghanol y dref.
Parhau i lobïo Llywodraeth Cymru i ailagor rheilffordd Dyffryn Aman i deithwyr fel rhan o Fetro Bae Abertawe.
Deg Tref - Parhau i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ein 10 tref wledig a'n hardaloedd cyfagos: Llandeilo, Llanymddyfri, Llanybydder, Castellnewydd Emlyn, Cross Hands, Cwmaman, Cydweli, Talacharn, Sanclêr a Hendy-gwyn ar Daf. Nod y cynlluniau hyn yw sicrhau cynaliadwyedd economaidd, diwylliannol, cymdeithasol ac amgylcheddol.
Gweithio gyda phartneriaid i greu ail gam ARFOR er mwyn manteisio i'r eithaf ar y manteision economaidd i Sir Gaerfyrddin.
Parhau i gyflwyno ceisiadau cadarn er mwyn denu cyllid ar draws y sir, gan gynnwys Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a'r Gronfa Ffyniant Bro, gan ddisodli hen ffynonellau cyllid yr UE.
Parhau i ddenu mewnfuddsoddiad lle gellir cyflawni lefelau uchel o gynhyrchiant, cystadleugarwch a chyflog.
Byddwn yn hyrwyddo'r dull 'Meddwl am Sir Gaerfyrddin yn Gyntaf' yn eang ar draws yr Awdurdod, gan annog swyddogion i ofyn am ddyfynbrisiau gan gyflenwyr lleol. Byddwn yn parhau i gynorthwyo busnesau lleol i wneud cynigion am waith trwy dargedu cyfleoedd tendro penodol ledled y sir a hyrwyddo ein blaenraglen waith ymlaen llaw.
Gwneud popeth o fewn ein gallu i gynyddu ein gwariant caffael lleol a symud i fyny'r raddfa uwchlaw'r 53% presennol.