Canolfan Iaith
Diweddarwyd y dudalen ar: 05/03/2025

Yn unol â chynllun Strategol yr Iaith Gymraeg Sir Gaerfyrddin, mae ysgolion yr ardal yn addysgu yn ddwyieithog. Er mwyn sicrhau bod eich plentyn yn integreiddio’n llawn i fywyd ysgol a'r gymuned leol, mae cyfle arbennig i'ch plentyn fynychu cwrs dwys mewn Canolfan Iaith.
Ein prif ganolfan yw Canolfan Iaith Gwên, Maes y Gwendraeth. Adeilad newydd yw’r Ganolfan hon sydd yn annibynnol o’r ysgol uwchradd. Mae newydd-ddyfodiaid Blwyddyn 3 i 6 yn mynychu’r Ganolfan yn gyson dros ddeg wythnos o’r tymor. Yn ddibynnol ar y galw, mae’r plant yn mynychu Canolfannau Iaith yn ysgolion Llangadog a Griffith Jones hefyd.
Bydd athrawon y Canolfannau yn ymweld â’r plant newydd yn eu hysgolion cyn iddynt ddechrau yn y Ganolfan. Bydd cyfle hefyd i’r rhieni ymweld â’r Ganolfan yn ystod y tymor.
Ffordd o ddysgu iaith ychwanegol. Yr iaith darged newydd yw cyfrwng addysg y dosbarth. Y nod yw datblygu safon uchel o gymhwysedd yn yr iaith o fewn amser cyfyngedig.
Mae ymchwil yn dangos bod disgyblion sy’n profi addysg drochi yn;
- Rhagori yn academaidd
- Yn dysgu trydydd a phedwaredd iaith yn haws
- Deall a chofleidio diwylliannau eraill
- Meddu ar well ymwybyddiaeth o hunaniaeth, diwylliant a theimlad ogymdeithas
- Magu mwy o hunan barch
- Datblygu gwell sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol.
O fewn Cynllun Gwaith tynn a datblygiadol mae’r athrawon yn sicrhau boddysgu Cymraeg yn llawn sbri. Cyflwynir Y Gymraeg ar draws y Meysydd Dysgu aphrofiad trwy gyfrwng amrywiaeth eang o brofiadau, gweithgareddau agemau hwyliog.
Pwyslais yr addysgu yw i gyfathrebu yn y Gymraeg; siarad, darllen ac ysgrifennu. Cyflwynir agweddau eraill o’r cwricwlwm newydd ar draws yr addysgu gyda gweithgareddau Mathemateg a Rhifedd yn cael sylw rheolaidd. Bydd gweithgareddau creadigol TGCh, gemau a gemau buarth yn atgyfnerthu'r iaith a datblygu sgiliau ehangach.
Ar hyn o bryd mae’r plant yn mynychu am ddeuddydd neu dridiau yr wythnosam ddau dymor.
Bydd y plant yn mynychu'r Ganolfan Iaith am gyfnod dysgu dwys, tri diwrnod yr wythnos am ddeg wythnos. Cynigir lle i ddisgyblion 7-11 oed i fynychu'r Ganolfan.
Dim mwy nag 16
Dysgir y disgyblion gan athrawon profiadol sy'n arbenigwyr yn y maes dysgu iaith. Bydd athrawon y Ganolfan hefyd yn mynd allan i'r ysgolion i gwrdd â'r plant newydd cyn iddynt ddechrau yn y Ganolfan. Cyflwynir gweithgareddau hwylus ac amrywiol mewn awyrgylch gartrefol a gofalgar.
Trefnir cludiant i'r Ganolfan Iaith yn rhad ac am ddim mewn tacsi a drefnir gan y sir. Bydd pob plentyn yn cael eu casglu o'r ysgol gynradd yn y bore gan ddychwelyd yn ôl i'r ysgol gynradd yn y prynhawn.
Bydd rhaid i'r plant ddod â phecyn bwyd i'r Ganolfan. Bydd yr ysgol yn trefnu pecyn bwyd i'r plant hynny sy'n derbyn cinio rhad ac am ddim.
Byddwn yn asesu y disgyblion bob hanner tymor ac yn cofnodi a thracioeu cynnyddSut
Gallwch helpu drwy bod yn bositif ac yn gefnogol. Cofiwch annog eich plentyn i siarad Cymraeg gyda ffrindiau. Ymunwch gyda unrhyw weithgareddau Cymraeg yn en eich ardal.
Byddwn yn ymweld â’r ysgol yn wythnosol, yn anfon cylchlythr ynrheolaidd ac yn trefnu diwrnodau agored i rieni ac athrawon.