Canolfannau Trochi Iaith
Diweddarwyd y dudalen ar: 24/11/2025
Gwasanaeth Trochi Iaith Gymraeg
Yn unol â Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin, mae ysgolion yr ardal yn addysgu yn ddwyieithog. Er mwyn sicrhau bod eich plentyn yn integreiddio’n llawn i fywyd ysgol a'r gymuned leol, mae cyfle arbennig i'ch plentyn fynychu cwrs dwys mewn Canolfan Drochi Iaith.
Trefnadiaeth Canolfannau Trochi Iaith Sir Gaerfyrddin
Ar hyn o bryd mae dwy ganolfan Drochi Iaith yn Sir Gaerfyrddin. Canolfan Gwên yn Ysgol Gymraeg Maes y Gwendraeth a Chanolfan Brianne yn Ysgol Bro Dinefwr.
Agorwyd Canolfan Gwên yn Ysgol Gymraeg Maes y Gwendraeth yn 2022. Mae tair ystafell ar y safle -ystafell uwchradd, ystafell gynradd ac ystafell dawel. Adeilad newydd yw’r Ganolfan hon sydd yn annibynnol o’r ysgol uwchradd.
Agorwyd Canolfan Brianne yn Ysgol Bo Dinefwr yn Nhachwedd 2025. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn ystafell ddosbarth sydd wedi eu haddasu ar gyfer cefnogaeth newydd ddyfodiaid oed cynradd.
Mae trefniadau yn eu lle I adeiladu Canolfan Drochi Iaith ar gyfer ardal Llanelli ar dir Ysgol Gyfun y Strade. Mi fydd y Ganolfan yn barod i dderbyn dysgwyr yn 2027.
Mae newydd-ddyfodiaid Blwyddyn 2 i 6 yn mynychu’r Canolfannau Trochi Iaith am ddeg wythnos o’r tymor am 4 diwrnod yr wythnos.
Bydd athrawon y Canolfannau Trochi Iaith yn ymweld â’r disgyblion newydd, eu hathrawon a’r rhieni / gwarchodwyr yn eu hysgolion cyn iddynt ddechrau. Bydd cyfle hefyd i’r rhieni / gwarchodwyr ymweld â’r Ganolfan yn ystod y tymor
Trefniadaeth Canolfan Trochi Iaith tu hwnt i Sir Gâr
Gall newydd ddyfodiad Ysgol Llanllwni, Ysgol Llanybydder ac Ysgol Carrreg Hirfaen gael mynediad I Ganolfan Drochi y Felin, Ysgol Dyffryn Aeron, Felinfach drwy drefniadaeth draws sirol.
Ffordd o ddysgu iaith ychwanegol yw addysg drochi. Yr iaith darged newydd yw cyfrwng addysg y dosbarth. Y nod yw datblygu safon uchel o gymhwysedd yn yr iaith o fewn amser cyfyngedig.Mae’n ddull sy’n hanesyddol lwyddiannus o gyflwyno iaith I’r blynyddoedd cynnar ac mewn cylchoedd Meithrin ar draws Cymru. Yn ogystal, mae wedi bod yn ddull effeithiol o ddysgu iaith mewn Canolfannau Trochi Iaith ers yr 1980au.
Mae ymchwil yn dangos bod disgyblion sy’n profi addysg drochi yn;
Rhagori yn academaidd
Yn dysgu trydydd a phedwaredd iaith yn haws
Deall a chofleidio diwylliannau eraill
Meddu ar well ymwybyddiaeth o hunaniaeth, diwylliant a theimlad o gymdeithas
Magu mwy o hunan barch
Datblygu gwell sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol.
O fewn Cynllun Gwaith tynn a datblygiadol mae’r athrawon yn sicrhau bod dysgu Cymraeg yn llawn sbri. Cyflwynir y Gymraeg ar draws y Meysydd Dysgu a phrofiad trwy gyfrwng amrywiaeth eang o brofiadau, ymweliadau, gweithgareddau strwythuredig a gemau hwyliog.
Mi fydd yr athrawon yn:
- cyflwyno gwersi bywiog ar draws y Meusydd Dysgu a phrofiad gan roi sylw i batrymau iaith penodol
- yn gosod ffocws ar siarad a gwrando,
- dysgu geirfa drwy gemau, caneuon a rhigymau.
- cyflwyno gweithgareddau chwarae rôl a drama er mwyn ymarfer sgyrsiau bob dydd,
- cynnal gweithgareddau creadigol
- cynnal gweithgareddau corfforol a chymdeithasol,
- chwarae gemau tu fewn a thu allan I’r dosbarth
- coginio a chynnal arbrofion gwyddonol
yn ogystal â dathlu diwylliant a diwrnodau Cymreig yn dymhorol.
Ar hyn o bryd mae’r disgyblion yn mynychu am 4 diwrnod yr wythnos am 10 wythnos.
Bydd y disgyblion yn mynychu'r Ganolfan Iaith am gyfnod dysgu dwys- am 4 diwrnod yr wythnos am ddeg wythnos. Cynigir lle i ddisgyblion 6-11 oed.
Bydd cyfnod o ôl ofalaeth yn dilyn. Er enghraifft
- ymweliadau ysgol,
- cyrsiau ychwanegol yn y Ganolfan
Dim mwy nag 16
Addysgir y disgyblion gan athrawon profiadol sy'n arbenigwyr yn y maes dysgu iaith. Bydd yr athrawon yn ymweld â'r ysgolion a'r disgyblion newydd cyn iddynt ddechrau yn y Ganolfan Iaith. Cyflwynir gweithgareddau hwylus ac amrywiol mewn awyrgylch gartrefol a gofalgar. Bydd cynorthwyydd dosbarth yn cefnogi ymhob Canolfan.
Trefnir cludiant i'r Ganolfan Iaith yn rhad ac am ddim mewn tacsi a drefnir gan y Sir. Bydd pob plentyn yn cael eu casglu o'r ysgol gynradd yn y bore gan ddychwelyd yn ôl i'r ysgol gynradd yn y prynhawn. Os dymunir, gall rhiant neu warchodwr gludo ei plentyn. Bydd cyllid ar gael i gefnogi hyn.
Bydd cinio ysgol ar gael am ddim i bob plentyn yn ffreutur yr Ysgol Uwchradd.











