Cwrdd â’r tîm Herio
Diweddarwyd y dudalen ar: 10/07/2024
Diweddarwyd y dudalen ar: 10/07/2024
Dechreuodd Tina ei gyrfa ym Malta, gan ddysgu Saesneg fel iaith dramor, daearyddiaeth ysgol uwchradd a Throseddeg ym Mhrifysgol Malta. Mae hi wedi gweithio yn y gwasanaeth cyfiawnder troseddol, ac yna wedi gweithio ar nifer o brosiectau a ariannwyd yn allanol ar gyfer adran addysg Cyngor Sir Caerfyrddin, gan gefnogi grwpiau ymylol. Mae Tina yn ddysgwr gydol oes ymroddedig; yn credu bod gan bob un ohonom sgiliau a thalentau a bod pawb yn haeddu ail gyfle. Mae Tina hefyd wrth ei bodd yn beicio, coginio a bwyta, gwnïo a mynd â'i chi defaid Frodo am dro.
Tiwtor Sgiliau Hanfodol / Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd eraill (ESOL)
Mae Annette yn diwtor SSIE profiadol a gefnogodd ddysgwyr Syria gyda'u Saesneg yn ddiweddar, gan helpu'r rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant i ail-ymgysylltu. Yn ogystal â chyflwyno SSIE, a sesiynau cyllidebu, mae hi'n awyddus i ddangos i bobl fod ganddynt eisoes y sgiliau hyn a'u bod yn eu defnyddio mewn bywyd bob dydd. Mae hi'n edrych ymlaen at ddatblygu sesiynau sy'n helpu pobl i deimlo'n fwy hyderus am weithio gyda rhifau.
Arweinydd cyfeirio
Mae Beth yn rheolwr tir profiadol ac yn hwylusydd addysg awyr agored gyda chefndir mewn Parciau a Gerddi, a chyrsiau ar y tir. Bydd hi'n helpu i gyfeirio pobl a sefydliadau at gyfleoedd gwych ym mhrosiect Herio. Bydd Beth yn gynnig gweithdai llythrennedd digidol a chyflwyno rhifedd drwy weithgareddau awyr agored.
Swyddog Cyllid, Ansawdd a Pherfformiad
Helo, fy enw i yw Carwyn ac rwy'n Swyddog Cyllid, Ansawdd a Pherfformiad ar y prosiect Herio. Rwy'n gyfrifol am hawliadau, gan sicrhau bod y prosiect yn cyrraedd y nod o ran y gyllideb a nifer y cyfranogwyr. Y tu allan i'r gwaith rwy'n dad i ddwy ferch, mae gen i cocker spaniel gwyllt o'r enw Twm, ac rwy'n mwynhau'r rhan fwyaf o chwaraeon, yn enwedig rygbi a dartiau.
Tiwtor Sgiliau Sylfaenol
Yn arbenigo yn y sector cynradd, mae Caroline yn dysgu mathemateg i rieni er mwyn rhoi'r gallu a'r hyder iddynt gefnogi datblygiad rhifedd eu plentyn yn yr ysgol. Mae hi'n mwynhau'r her o newid barn oedolion sydd wedi meddwl am fathemateg mewn ffordd negyddol ers amser maith, gan alluogi llawer i fynd ymlaen i gymwysterau ffurfiol, gan gynnwys TGAU.
Arweinydd Cyfeirio
Mae Jenny yn diwtor profiadol gyda dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad yn y sector gofal. Mae ganddi brofiad ymgysylltu â dysgwyr a helpu pobl i lwyddo mewn AON, Llythrennedd Digidol trwy weithdai. Mae gweld pobl yn cyflawni yn un o'i hoff bethau i'w wneud ac mae'n edrych ymlaen at helpu mwy o bobl i ddatblygu eu galluoedd drwy lawer o weithgareddau hwyliog o fewn prosiect Herio. Mae Jenny yn credu bod gan bawb ddoniau, cryfderau a diddordebau cudd sy'n aros i gael eu darganfod, a gall archwilio gwahanol weithgareddau ddatgloi a harneisio y galluoedd hyn.
Tiwtor Sgiliau Sylfaenol
Mae Julie yn diwtor profiadol, gyda chefndir addysgu Cynradd. Mae hi wedi gweithio o fewn y sector Dysgu fel Teulu; gan gyflwyno amrywiaeth o weithdai Rhifedd i helpu rhieni i wella eu hyder a'u sgiliau; er mwyn eu galluogi i gefnogi eu plant gartref. Mae hi'n mwynhau rhannu syniadau am sut y gellir cynnwys Mathemateg mewn arferion bob dydd a chynnwys y teulu cyfan. Mae hi'n cael boddhad arbennig ofod yn rhan o'r sgwrs archwiliol sy'n datblygu rhwng rhiant a phlentyn, sy'n annog ac yn cyfeirio dysgu.
Mae Lorna yn athrawes uwchradd brofiadol ac wedi dysgu pob oed mewn gwahanol feysydd pwnc gan gynnwys Gwyddoniaeth a Mathemateg. Mae gan Lorna brofiad o weithio gyda dysgwyr ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol ac mae wedi gweld sut mae dysgu yn yr awyr agored o fudd i lesiant a hunanhyder dysgwyr. Mae hi'n mwynhau gweithio gyda dysgwyr ac yn gobeithio y gallant fagu hyder ac ailddarganfod cariad at ddysgu drwy ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol â nhw.
Cynorthwyydd Gweinyddol
Lynda yw cynorthwyydd gweinyddol Herio, ac mae'n helpu i gadw trefn ar y prosiect yn y cefndir. Mae'n cydlynu cyflenwadau a gwasanaethau, yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'n gwaith cadw cofnodion, ac yn helpu i ateb ymholiadau gan bobl a busnesau. Mae gan Lynda hanes hir o gefnogi prosiectau trwy ddyletswyddau gweinyddol ar ôl gweithio i'r GIG yn flaenorol. Mae hi bob amser yn cynnig cymorth ac ysbrydoliaeth, gan helpu i ddod o hyd i ffyrdd unigryw o oresgyn heriau a chefnogi'r tîm cyflawni.
Tiwtor Sgiliau Sylfaenol
Mae Michele yn addysgwr mewn Mathemateg, TG, Saesneg, Ffotograffiaeth a Nofio. Ar hyn o bryd mae hi'n gweithio gyda dysgwyr sy'n oedolion i'w helpu i ennill TGAU Mathemateg i'w galluogi i symud ymlaen gyda'u gyrfaoedd; mae’r gwaith hwn wedi rhoi boddhad arbennig iddi hi. Mae Michele yn gweld ei hun fel galluogwr ac mae hi'n gweithio'n galed i helpu myfyrwyr i ddysgu a datrys problemau eu hunain a thrwy hynny feithrin hyder a hunan-barch.
Athro Ymgynghorol Rhifedd i Oedolion
Mae Nick yn athro mathemateg ysgol uwchradd brofiadol iawn, yn uchel ei barch mewn fel ymgynghorydd Rhifedd a Mathemateg. Mae llawer o ddysgwyr TGAU a Safon Uwch ar draws Cymru yn parhau i elwa o gymorth ar-lein trwy ei wefan 'Jones the Sums' a'i sianeli YouTube. Yn ei rôl newydd gyda Herio, mae Nick yn edrych ymlaen at ymgysylltu ag oedolion ledled Sir Gaerfyrddin, gan eu helpu i ddarganfod nad yw rhifedd yn rhywbeth i'w osgoi, ond gall fod yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol i lawer o agweddau ar fywyd bob dydd.
Athro Ymgynghorol Rhifedd
Mae Owain yn athro mathemateg ysgol uwchradd profiadol a bu'n Bennaeth Mathemateg am 26 mlynedd mewn ysgol yng Ngorllewin Cymru a 4 blynedd mewn ysgol yn Jersey (Ynysoedd y Sianel). Drwy ddefnyddio'i wybodaeth helaeth o dechnegau modern o addysgu mathemateg mewn ysgolion, bydd yn gweithio gydag athrawon ymgynghorol eraill y prosiect, i gefnogi cynorthwywyr addysgu a rhieni mewn ysgolion ledled y sir, ynghyd â chyflwyno sesiynau difyr yn y gymuned.
Cydgysylltydd Cyflawni
Mae Sue yn Diwtor Mathemateg profiadol, yn Asesydd Prentisiaethau Uwch L4, yn Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol ac yn Arweinydd Tîm Prosiect, ac mae hi wedi gweithio yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Castell-nedd, Carchar Ei Fawrhydi Abertawe ac yn fwyaf diweddar yn Dysgu Oedolion yn y Gymuned, gan weithio gydag oedolion yn y gymuned i wella eu sgiliau mathemateg. Mae hi'n defnyddio ei sgiliau amrywiol o ran rhifedd a therapi celf i helpu oedolion i oresgyn pryder am fathemateg sy'n caniatáu i bobl gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd, neu hyd yn oed dim ond o ran mwynhau helpu eu plant â'u gwaith cartref.